Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

[No title]

APELIO AT Y

Safle Gweinidogion - Wesleaidd…

News
Cite
Share

Safle Gweinidogion Wesleaidd Cymreig ynglyn a Phryniant y Fasnach Feddwol. Mr Gol.,— Yn fy Ilythyr olaf dan y pennawd uehod, gofynnais gwestiwn hollol syml i'r Pareh W. R. Roberts-cwestiwn y buasai ateb dealladwy iddo yn gynhorth- wy sylweddol, mi gredaf, i "setlo" o leiaf un pwynt yr anghytuna ef a min nau yn ei gylch. Ond yn anffodus mae Mr Roberts yn yr hyn a gynhygia fel! ateb yn eich rhifyn diweddaf yn osgoi fy ngofyniad, a hynny yng nghysgod syl- wadau all ymddangos i'r anghyfarwydd yn ateb iddo. Gofynnais i Mr Roberts brofi ei gyhuddiad difrifol yn erbyn Mr Lloyd George fod "Cynhadleddau lleQhwraidd" ym mblaid Pryniant wedi eu holrain i'r Prif Weinidog. 1. I ddechreu gesyd uwchben ei bara- graff cyntaf "Perthynas Mr Lloyd George a'r mudiad." Ond nid perthyn- as y Prif Weinidog a'r mudiad ydyw'r pwnc mewn dadl, oblegid mfie pob plaid yncytuno ynghylch y berthynas honno, gan mai efe (Mr George) a'i cychwyn- noild. Fel polisi Mr Lloyd George yr adwaenir y mudiad ym mhob cwr o'r deyrnas. Y pwnc y ceisir gan Mr R. ein goleuo yn ei gylch ydyw perthynas Mr George, nid a'r mudiad, ond a'r Cynhadleddau llechwraidd y soniodd am danynt yn ei lythyr blaenorol. 2. Yna dywed Mr R., Yn ei enw ef (Mr. George) y galwyd Cynhadledd Llandrindod." Dyma gamgymeriad dybryd, Cynhalivsyd y Gynhadledd i hyrwyddo polisi Mr Lloyd George, fel pob Cynhadledd o blaid Pryniant, ond nid oedd gan Mr George ran o gwbl mewn galw'r Gynhadledd ynghyd. Mae'r cylchlythyr cynnull eto ar gael, ac yn derfynol ar y mater hwn. 3. Yna dyfynna Mr Roberts o'r Monthly Notes," ac ysgrifenna fel pe wedi cael ysglyfaeth lawer" yn y cyhoeddiad hwnnw. Ond dywedaf yn bendant fod y defnydd wneir o'r dyfyn- iad yn hollol gamarweiniol. Dylasai yn un peth ar bob cyfrif egluro beth sy'n blaenori y dyfyniad. Cyfeirio y mae'r nodion at apel effeithiol a wnaed gan Mr George am i'r dirprwyaethau Cymreig a ymwelodd ag ef yn Downing Street gefnogi ei bolisi, heb son dim am gynhadleddau e unrhyw fath,a'r cwbl a olyga Golygydd y Monthly Notes'' yn y dyfyniad dan sylw ydyw fod cynnal Cynhadledd o blaid Pryniant yn Llan- drindod yn "step towards the fulfilment of the Prime Minister's desire," yn yr un ystyr ag y mae pob cyfarfod o blaid Pryniant yn step yn yr un cyfeiriad. Nid oes yn y Monthly Notes'' gym- ainn a brawddeg i ategu haeriad Mr Roberts fod y Gynhadledd wedi ei' galw yn enw Mr George." j 4. Nid yw y difyniad o lythyr yr Athro lievi yn piofi dim ond yr hyn a ddywedais vn fy liythyr blaenorol, sef fod Cyohadladd Llandrindod wedi ei cbyfyngu i bleidwyr Pryniant., am y rheswm mai ei hamcan ydoedd trefnu ymgyrch Cenedlaethol ym mhlaid Pryniant. Heb drefniant o'r fath hawdd fuasai i amser pria y Gynhadledd gael ei dreulio mewn ateb gwrthwynebwyr Pryniant, ae i'r Gynhadledd derfynu heb i amcan ei chynnull gael ei gyr- raedd. Ac hyd yn oed petasai Cynhad- ledd Llandrindod yn ateb i'r disgrifiad o fod yn "Gynhadledd llechwraidd," ni fuasai hynny'n helpu Mr Roberts i'r mesur lleiaf i brofi ei gyhuddiad yn erbyn y Prif Weinidog, oblegid nid Mr George oedd yn gyfrifol am ei chynnull. Dyna'n fyr fy rhesvmau dros ddweyd yn bendant iawn nad yw Mr Roberts o gwbl wedi ateb fy nghwestiwc. Gof- ynnaf iddo unwaith eto i brofi fod gwir yn y stori ryfedd a ledaenir ganddo ynghylch Mr Lloyd George a chyn- adleddau llechwraidd." Methiant hollol fu ei ymgais cyntaf. Ond na ddigalon ned. Cofied gyngor yr hen rigwm— If at first you don't succeed, Try, try, try again." Port Dinorwic THOS HUGHES. O.Y.—Gwelaf fod Mr Roberts mewn ol- ysgrif yn dweyd nad oes unrhyw Gymdeithas yn talu iddo am ei lyth- yra.u. Gallaf finnau ddweyd yr un peth. Ond chwanegaf na ddisgwyl iais i am i neb fy nhalu.-T.IEI.

IY GWRTHWYNEBYDD CYD-I i WYBODOL.…

"Y DYDDIADUR All BENSIL."