Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
5 articles on this Page
[No title]
Wyliedydd Newydd, arcs ar y mur, Ac edrych allan am yr iawn a'rpur, Gwas'naetha grefydd,—seinia arin clyw Os gelyn feiddia gyffwrdd Ddinas Duw. TALFARDD.
APELIO AT Y
APELIO AT Y CLEDD. Dengys yr adroddiad swyddogol fod y Cyngor Rhyfel a gyfarfu yn Versailles ,wedi rhoddi ystyriaeth i fynegiadau rhyfel Germanaidd yn ddiweddar, ac yn canfod nad ydynt yn nesu at y telerau heddwch a oscdwyd i lawr gan y Cyng- rheiriaid. Yn wyneb hyn, penderfynwyd cario'r rhyfel ymlaen gyda'r egni mwyaf a'r cydweitbrediad mwyaf effeithiol, hyd nes y gwelir cyfnewidiad yn nhymeredd Llywodraethau y gelyn. Dywedir y deuwyd i gytundeb llwyr ac unol ar bob cwestiwn ynglyn a pholisi milwrol, a'r modd i weithredu, a bod cyleh gweithrediad y CyDgor i gael ei eangu. Yo flaenorol i byn, wrth ateb cwest- iwn yn Nhy y Cyffredin, dywedodd Mr Bonar Law, nad oedd y Cyngor yn eistedd o gwbl i ystyried y priodoldeb o gyhoeddi eyi-ddatganiad ynglyn a/u hameanion yn y Rhyfel. Teinalwa yn Biomedig ynglyn a'r ddau beth. Tybed na ddylid cael ryw gyd- ddatganiad gan y Cycgrheiriaid yng nghyleh eu hameanion, a hynny ar linellau areithiau Mr Lloyd George a'r Llywydd Wilson ? Y mae mwy na blwyddyn bellach er pan wnaed unrhyw fynegiad felly, ae ynghorff y deuddeg mis y mae agwedd a chysylltiadau patbau wedi newid vn arswydus. Y mae ben 'oligarchy' lygredig Rwsia wedi ei luchio i'r llwch, a'r cytundebauj cudd, ymherodrel, a wnaed cydrhyngddi a'r Cynghreiririd wedi ea cyhoeddi, a'u gwneud, tybed, yn ddiwerth. Er hynny befyd y mae yr America, nad oedd a Haw o gwbl ya y cytundebau cudd, ymherodrol, rhwng JTfrainc, Rusia, Prydain ac Itali, wedi dod i mewn. Nid oes odid ddim heddyw fel yr oedd yn Ionawr 1917; a ebredwn ei fod cyn eglured a haul y dylid eael datganiad croyw o feddwl y Cynghreiriaid yng nghyleh em bwriadau yn wyneb y sefyllfa newydd a gwahanol. Beth am Alsaee Lorraime ? Beth am Trieste a Treotino? A ellir bwrw y materion hyn i farn eyflafareddwvr, ac i farn y bobl eu hunain, neu a raid colli gwaed Prydeinig ac Americanaidd i roi y Daill i'Ffraino a'r Hall i'r Eidal ? Sibrydir mai yr achos na cheir dat- ganiad unol gan y Cynghreiriaid ydyw y ffaith syml nad oes undeb yn eu plith. Gwyddis fod y cynrychiolwyr gwleid- yddol o Ffrainc a'r Eidal, ar y Cynghor, a'u barnu wrth eu datganiadau eyhoedd- us, yn bobl sy'n berwi o uchelgais tirol ac ymheredrol-.M. Pichon, M. Clcmen- ceau, dros Ffrainc, Signor Orlando a'r Barwn Sonnino tros Itali. Dywedir, y cyhoeddir o Ffrainc, ac ar awdurdod dda, fod M. Clemenceau, serch iddo anfon pellebyr croesawol, wedi eondemnio yn chwerw araitb Mr Lloyd George (blaid Lafur) ar y Man-Power Bill." Hefyd ar yr 28ain o'r mis diyveddaf rhoddodd Prif Weinidog Itali i lawr amcanion'' y wlad honno, a hynny mewn modd pur wahanol i Mr L!oyd George a'r Llywydd Wilson. Nid oedd y Gynghor, meddir, yn canfod osgo at Heddwch yn areithiau y Countiaid Hertling a Czernin. We! hwyrach fod mwy o osgo at. Heddwch yn y naill a'r Hall nag y myn rhai i ni gradu. Beth bynnag, rhaid cofio nad yw y Cynghreiriaid eto wedi diarddel yr hen gytundebau ymherodrol ac anheilwng a wnaed gyda Rusia, ac hyd nes y diarddalir hwy fod gan y Gallu oedd Canolog, serch areithiau mwy rhagorol unigolion fel Mr Lloyd George a'r Llywydd Wilson,, hawl i edrych arnynt fel yr unig fynegiad swyddogol, safadwy, o amcanion a phwrpas y Cynghreiriaid. Y mae datganiad y Gynhadledd yn Versailles, am y presennol, yn mynd a ni yn ol at y Knock Out Blow, ac i'r I tir diobaitb yr oeddem ynddo bymtbeg I mis yn ol. Ond y mae gennym ffydd yn y bobl-y mae yr argoelion yn glir, ymbob gwlad, y cyfyd y bobl, gan ysgubo yr ymherodwyr o'r neilltu, a threfnu heddwch eu hunain ar liuellau parhaol a gwir ddemocrataidd. Y mae arwyddion o hyn yn Germani hyd yn oed peth mawr a gogoneddus oedd y streic a fu yno y dyddiau di- weddaf. Gall y Junkeriaid ei rhoi i lawr, efallai, am dro; a bydd datganiad cynbadledd Versailles yn achles, a cbymortb mawr iddynt, gyda'u mesurau llethol a darostyngol. Pan dorrodd gwerin Germani allan yn erbyn y Junkeriaid, sy'n eu gyrru fel defaid i'r lladdfa; dewisodd Junkeriaid y Cynghreiriaid yr awr honno i amlygu > eu bwriad i roi teriyn ar y siarad am beddwch, ac i apelio, beb seibiant, at y cledd. Yr eglurhad syml ar bynyna ydyw nad oes gas yr ymherodwyr gydym- deimlad a democratiaeth, gan nad lie y bo-ai yn Rwsia, Germani, neu rywle arall- Ond, wedi ycbydig ddioddef eto. by3d petbau gwell, ceir Stockholm yn lie Versailles—y mae i wsrin a'i hwyneb at y goleu.
Safle Gweinidogion - Wesleaidd…
Safle Gweinidogion Wesleaidd Cymreig ynglyn a Phryniant y Fasnach Feddwol. Mr Gol.,— Yn fy Ilythyr olaf dan y pennawd uehod, gofynnais gwestiwn hollol syml i'r Pareh W. R. Roberts-cwestiwn y buasai ateb dealladwy iddo yn gynhorth- wy sylweddol, mi gredaf, i "setlo" o leiaf un pwynt yr anghytuna ef a min nau yn ei gylch. Ond yn anffodus mae Mr Roberts yn yr hyn a gynhygia fel! ateb yn eich rhifyn diweddaf yn osgoi fy ngofyniad, a hynny yng nghysgod syl- wadau all ymddangos i'r anghyfarwydd yn ateb iddo. Gofynnais i Mr Roberts brofi ei gyhuddiad difrifol yn erbyn Mr Lloyd George fod "Cynhadleddau lleQhwraidd" ym mblaid Pryniant wedi eu holrain i'r Prif Weinidog. 1. I ddechreu gesyd uwchben ei bara- graff cyntaf "Perthynas Mr Lloyd George a'r mudiad." Ond nid perthyn- as y Prif Weinidog a'r mudiad ydyw'r pwnc mewn dadl, oblegid mfie pob plaid yncytuno ynghylch y berthynas honno, gan mai efe (Mr George) a'i cychwyn- noild. Fel polisi Mr Lloyd George yr adwaenir y mudiad ym mhob cwr o'r deyrnas. Y pwnc y ceisir gan Mr R. ein goleuo yn ei gylch ydyw perthynas Mr George, nid a'r mudiad, ond a'r Cynhadleddau llechwraidd y soniodd am danynt yn ei lythyr blaenorol. 2. Yna dywed Mr R., Yn ei enw ef (Mr. George) y galwyd Cynhadledd Llandrindod." Dyma gamgymeriad dybryd, Cynhalivsyd y Gynhadledd i hyrwyddo polisi Mr Lloyd George, fel pob Cynhadledd o blaid Pryniant, ond nid oedd gan Mr George ran o gwbl mewn galw'r Gynhadledd ynghyd. Mae'r cylchlythyr cynnull eto ar gael, ac yn derfynol ar y mater hwn. 3. Yna dyfynna Mr Roberts o'r Monthly Notes," ac ysgrifenna fel pe wedi cael ysglyfaeth lawer" yn y cyhoeddiad hwnnw. Ond dywedaf yn bendant fod y defnydd wneir o'r dyfyn- iad yn hollol gamarweiniol. Dylasai yn un peth ar bob cyfrif egluro beth sy'n blaenori y dyfyniad. Cyfeirio y mae'r nodion at apel effeithiol a wnaed gan Mr George am i'r dirprwyaethau Cymreig a ymwelodd ag ef yn Downing Street gefnogi ei bolisi, heb son dim am gynhadleddau e unrhyw fath,a'r cwbl a olyga Golygydd y Monthly Notes'' yn y dyfyniad dan sylw ydyw fod cynnal Cynhadledd o blaid Pryniant yn Llan- drindod yn "step towards the fulfilment of the Prime Minister's desire," yn yr un ystyr ag y mae pob cyfarfod o blaid Pryniant yn step yn yr un cyfeiriad. Nid oes yn y Monthly Notes'' gym- ainn a brawddeg i ategu haeriad Mr Roberts fod y Gynhadledd wedi ei' galw yn enw Mr George." j 4. Nid yw y difyniad o lythyr yr Athro lievi yn piofi dim ond yr hyn a ddywedais vn fy liythyr blaenorol, sef fod Cyohadladd Llandrindod wedi ei cbyfyngu i bleidwyr Pryniant., am y rheswm mai ei hamcan ydoedd trefnu ymgyrch Cenedlaethol ym mhlaid Pryniant. Heb drefniant o'r fath hawdd fuasai i amser pria y Gynhadledd gael ei dreulio mewn ateb gwrthwynebwyr Pryniant, ae i'r Gynhadledd derfynu heb i amcan ei chynnull gael ei gyr- raedd. Ac hyd yn oed petasai Cynhad- ledd Llandrindod yn ateb i'r disgrifiad o fod yn "Gynhadledd llechwraidd," ni fuasai hynny'n helpu Mr Roberts i'r mesur lleiaf i brofi ei gyhuddiad yn erbyn y Prif Weinidog, oblegid nid Mr George oedd yn gyfrifol am ei chynnull. Dyna'n fyr fy rhesvmau dros ddweyd yn bendant iawn nad yw Mr Roberts o gwbl wedi ateb fy nghwestiwc. Gof- ynnaf iddo unwaith eto i brofi fod gwir yn y stori ryfedd a ledaenir ganddo ynghylch Mr Lloyd George a chyn- adleddau llechwraidd." Methiant hollol fu ei ymgais cyntaf. Ond na ddigalon ned. Cofied gyngor yr hen rigwm— If at first you don't succeed, Try, try, try again." Port Dinorwic THOS HUGHES. O.Y.—Gwelaf fod Mr Roberts mewn ol- ysgrif yn dweyd nad oes unrhyw Gymdeithas yn talu iddo am ei lyth- yra.u. Gallaf finnau ddweyd yr un peth. Ond chwanegaf na ddisgwyl iais i am i neb fy nhalu.-T.IEI.
IY GWRTHWYNEBYDD CYD-I i WYBODOL.…
I Y GWRTHWYNEBYDD CYD- I i WYBODOL. Annwyl Mr. Gol. Hoffwn drethu ar ofod eich papur i ddweyd gair bach mewn perthyn- as i lythyr C. Roberts, Bryn Goleu, yn y G.N., Chwefror 5ed. Y mae C. Roberts mewn modd hyodl a di- seremoni yn difreinio'r gwrthwyn ebydd cydwybodol. Da gennyf fod C. Roberts yn barod i gydnab- od fod nifer o'r dynion hyn yn onest a ch> wir yn eu hargyhoeddiad, o leiaf cydnebydd y posiblrwydd fod rhyw nifer, fach felly ymhlith y miloedd gwrthwynebwyr cydwyb- odol. Wel, Mr Golygydd, y mae'r gydnabyddiaeth yna yn werthfawr oddiwrth rai o gyffelyb feddwl i wr Bryn Goleu. Y maeswm a sylwedd dadi y gwr hyodi yn troi o gwmpas haeriad amwys iawn—fod hawl- iau'r wladwriaeth ar ei deiliaid yn rhai cwbl ddiamodol. Eulun air eich gohebydd yw "polisi" Nid oes neb amheua nad polisi'r wlad- wriaeth ar hyn o bryd yw rhyfel, ac y mae C. Roberts yn awgrymu fod y rhyfel presennol yn un nas gellid dianc rhagddi a bod yn anrhydedd- us Meiddiaf ddweyd fod pobl gall-a llawer ohonynt—yn ein gwlad, sydd heb fod yn wrthwyn- ebwyr cydwybodol gredant yn wahanol iddo. Dechreuodd y rhyf el, mae'n wir (o'n tu ni, bid siwr), mewn proffes o ffyddlondeb i ddel frydau cyfiawnder a rhyddid, ond pe digwyddai un fod yn gwbl an wvbodus ynghylch hanes ei dech reuad, byddai angen dychymyg anghyffredin i gredu fod delfrydau mor aruchel wedi bod erioed ger- bron llygaid y weinyddiaeth bres- ennol. Rhywbeth cyfleus yn hanes gvviadweinwyr pob gwlad ydyw son am gyfiawnder a rhyddid ar adeg o ryfel. Hwyrach mai polisi ydyw Cyfatebiaeth od dynn C.R. cyd- rhwng yr Wyddfa a'r Rhyfel. Y mae'r mynydd a'r rhyfel yn ffeith- iau wrth gwrs, ond dyna'r cwbl o gyfaddaster sydd yn y gyfatebiaeth. Ffaith anianyddol yw'r naill, a ff aith foesol yw'r Ilall. Nid oes neb, hyd y gwn i, yn gyfrifol am yr VVyddfa fel ffaith ond y'Creawdwr, ond, atolwg C.R., a oes modd egluro'r rhyfel ar yr un llinellau ? Fodd bynnag, y mae gan C.R. un heresi y dvmunwn bwysleisio ei geudeb, sef yr heresi fod hol! ddeiI, iaid y wladwriaeth i gefnogi polisi'r wladwriaeth boed a fyddo. Dyma athrawiaeth Germanaidd ddigyrnysg. Ond y mae'r wladwr- iaeth yn Germani wedi gweithredu yn gyson a'i hathroniaeth ac wedi darostwng cydwybod a phob peth arall i fod yn is-wasanaethgar i • bolisi'r wladwriaeth. Ond y mae gwaith ein gwladwriaeth ni yn deddfu ar gyfer y gwrthwynebwyr cydwybodol" yn profi nad oedd y wladwriaeth Brydeinig ar y pryd ddim yn honni hawl mor un-ben- aethol ag a briodola C.R. iddi. Gwir y teimla llawer fod y wlad wriaeth wedi newid ei pholisi a'i delfrydau pan yn gwneud ymgais i ddifreinio'r gwrthwynebwyr cyd- wybodol. Pan yn llunio mesur gwasanaeth milwrol" y mae'n amlwg fod y wladwriaeth y pryd hwnnw yn parchu cydwybod, ond wedi i'r wladwriaeth fod am ysbaid byr tan lywodraeth militar- iaeth newidiodd ei pholisi. Cytun- af a C.R pan y dywed fod "gwyr y gydwybod" yn wyr o flaen eu hoes, ond gresynaf drosto pan yr awgryma mai anffawd yw hynny. Gwell, ei hynny, yw meddwl am wyr anesid allan o amser, na bod ymhlith y dosbarth hynny y gellir dweyd am danynt yng ngeiriau'r Iesu mai da fyddai v iddynt pe nas ganesid hwy o gwbl." Digon gwir mai plant y milflwydd- iant yw'r gwrthwynebwyr cydwyb- -01, ac y maent mewn olyniaeth ddwyfol yn hyn o beth. Pobl sydd yn gwrthod cydymffurfio a dull eu hoes ydyw'r unig rai a wasanaethaht eu hoes yn y pethau uchaf. Byddai'n ddrwg iawn gennyf fi fod i unrhyw fesur yn gyf- rifol am wladwriaeth allai ffurfio deddf i ddifreinio'r gwrthwyneb- wyr cydwybodol. Ymddengys rhyw wrthuni rhyf- edd i mi yn y syniad y gall gwyr y gydwybod" fod yn ddeiliaid breiniol yn nheyrnas y milflwydd- lant, ac eto i fod yn anheilwng o'r un fraint yn Nheyrnas Prydain yr hon sydd yn ol tyb rhai sydd yn am- ddiffyn egwyddorion Teyrnas Nef oedd ar y ddaear. Yr Eiddoch yn bur, R. C. PRITCHARD
"Y DYDDIADUR All BENSIL."
"Y DYDDIADUR All BENSIL." A mi yn eistedd ger y t", a'r dwyreinwynt yn rhuo yn nwll y clo, wele'r Dosbarthwr yn galw heibio gan ofyn yn ei ddull ham- ddenol, A ydych am Ddyddiadur .eleni, Mr ——?" "Faint yw ei bris ?" Nawceiniog, a banner coron," ebai yntau, a chryndod yn ei lais. Meddyliais gan fod fy am- gylchiadau wedi gwella drwy y Rhyfel, y buaswn yn cymeryd un banner coron, a bod ei bris yn sicr- wydd o berffeithrwydd dyddiadur- ol. Yng nghyflawnder yr amser, wele y Dosbarthwr yn estyn imi y Winllan, yr Eurgrawn. a'r Dydd- iadur, Cefais fargen dda yn y Winllan; a'r Eurgrawn, ond am y Dyddiadur hanner coron rhaid oedd cymeryd ptvyll cyn rhoi barn. Y petlTcyntaf ddigwyddodd ar ol imi ei agor ydoedd y bensil yn dis- gyn am fod yr amlen a'i phen i lawr. Codais y pensil oddiar lawr, ac, y mae yn edifar gennyf byth, oherwydj i lawr y mae ei lie. Yr unig arbenigrwydd a berthym i'r bensil yw ei bod up to date," gan wai ffurf capsen (cartridge) yw ei phen Fel y mae militariaeth hyd yn oed wedi cyffwrdd pensil Dydd, iadur, a theimlais awydd gan hyn- ny 1 roddi salute iddi. Mae un cys- ur mawr yn wuneb hyn sef, os yw y bensil yn cynrychioli militariaeth, fod militariaeth yn tueddu i fynd o dan daed. Oherwydd, disgyn a wna'r bensil bob tro yr agorrir V Dyddiadur. Yn ol fy arfer rhoddais destnn y pregethwr y Sul cyntaf o'r flwydd-