Skip to main content
Hide Articles List

2 articles on this Page

,LLITH Y C \PLAN A. W. ■ DAVIES.…

News
Cite
Share

LLITH Y C \PLAN A. W. DAVIES. "1 ,¡ -J r, :=- I J _I LJ.LiJii- Annwyl Gwynfryn,— Dylai hon fod yn bennod mwyaf dyddorol fy oes, gan i ni dramwy drwy, ac ymladd ein ffordd ar hyd y Ilwybrau a thrwy y lleoedd mwyaf cysegredig mewn hanes ac un peth a'm cysura yw mai ychydig iawn yw ein colledion: yr ym wedi llwyddo i wthio y gelyn o'n blaenau ar draws y man fryniau, a thrwy y pentrefi, gan arbed bywyd- au ac arbed dinistrio lleoedd sydd yn gysegredig, i'r miliynau, ac mae'r Ddinas Sanctaidd yn ddianaf a diogel yn awr. Cawsom dywydd enbyd, apheth brofiad o'r hyn yr a y bechgyn an- nwyl drwyddo yn Ffrainc: gwlaw, llaid ac oerni,profiad rhyfedd ar ol gwres a thywod, a sychter mawr, a'r cyfryw wedi ein ang hymwyso i ddal y tywydd garw; heb na tho, na chaban, na thy; croesi hen fryniau esgyrniog, yn wlyb domen am ddyddiau, a dim dillad i newid, na than i'w sychu, dim ond aros am ddiwrnod teg i'w sychu, ac fe ddaeth o drugaredd. Ymdeithiasom un diwrnod tua un milltir ar bymtheg, a dyna sy'n syn, cwynwyd llai, a svrthiodd llai allano'r rhengau ary daith hon na bron yr un arall, a'r rheswm am hynny oedd fod y wlad ^yn fwy dyddorol, a ninnau bob cam yn tynnu'n nes tua lleoedd, yn enwed- ig i- Gymro hyddysg yn ei Feibl, sydd yn ddyddorol. Wedi ymdeithio i fyny ag i lawr dros ffordd y bryniau, dyma ni yn fore iawn, yn sydyn o ben bryn, yn dod i olwgyr hen Hebron, sydd mor ddyddorol ei hanes yn oes Abraham a Dafydd. A dyma olygfa, a dyma daith odidog, dychlamai ein calon o'n mewn, anghofiodd bob un ei faich a'i daith. Mae ffurf yr Hebron sydd yn awr yn debyg i ffurf pedol fawr, a'r tai yn rhengau cylchog, neu ris- iaog uwch ben eu gilydd, a rhyng- ddynt erddi hirgul ysgwar o win- wydd, coed olewydd, a ffigys. Y tai o adeiladwaith dda, glari yx olwg, a'r wlad oddeutu yn dangos dygnwch, darbodaeth, a llafur y trigolion. Cynhwysa y trigolion yn bennaf Iddewon, a Mahometan- iaid, a'r ddau ddosbarth neu genedl yn canoli eu dyddordeb crefyddol yn Hebron, fel man gysegrwyd gan Abraham, eu patriarch hwy. Wedi mynd trwy Hebron, a chael croesaw mawr, rhyw ychydig filltiroedd, troisom i'r bryniau di- lwybr: Erbyn hyn yr oeddym mewn gafael a'r gelyn, yr hwn oedd yn dal yn dyn ei afael ym Metlalehem. Ac yno y buom yng ngolwg Bethlehem gogoneddus: saif ar fryn o'n blaenau, a-golwg glan, hardd, ami,—ei thyrau teg, a'i choedydd gleision lu, a thai gwynion dwyreinig. Clywem swn gloch yr addoldai ar fin yr hwyr yn galw i'r wasanaeth hwyrol, ond a ni yn y rhyfel. 'Roedd y bechgyn, er eu lludded a'u rhyndod, yn gywreinrwydd i gyd. 0 deimladai rhyfedd dylifai drwy galon dyn fel fflachiad y pellebr. Safwn ar fryn tu ol i glawdd cerrig, gan edrych ar Beth- lehem. Ie," mddwn," acw gan wyd yr Iesu, yr 'Iesu,' Tywysog tangnefedd." Daeth i'm meddwl y geiriau gogoneddus hynny: Gogoniant i Dduw yn y goruch- af, ar y ddaear tangnefedd i ddyn- ion, ewyllys da"; a ni mewn rhyfel erchyll, a'r ergydion yn gwibio erbyn hyn yn ol a blaen dros Bethlehem. Buom ychydig ddyddiau yn ei gwydd, a'r frwydr yn boeth. Ond dyma orchymyn i symud, a symud wnaem, ond trwy anhawsterau, canys yr oeddynt wedi codrmuriau cerrig ar draws y ffordd, ac wedi chwythu adran arall i fyny waeth pa'r un, nid oedd dim i'n rhwystro heddyw, teimlai pawb fod ei wyneb tua Bethlehena a Jerusalem. Cyrhaeddasom Bethlehem. \tVel, dyma groeso, tyrfa ar dyrfa wedi; dod ynghyd, hen bobl fusgrell! wedi eu cludo o'u tai, dagrau-yn,, dylifo i lawr eu gruddiau, ambell I i un a'i ddwylaw ymhleth a'i wyneb tua'r nef yn diolch mewn j gweddi. 0 mae'n gas gennyf rhyfel, ffoledd yw ond rhywfodd yn yr olygfa 'roedd pawb yn gyff- rous ac yn teimlo yr awr yma ei bod yn gysegredig,—awr y wared- igaeth i'r bobl ydoedd. A'r truein- iaid yn ceisio diolch mewn iaith estron, ond gellid ei darllen yn eu dagrau, ac yn nhonau gwenau eu hwyneb. Nid oedd dim oedi na amser i rQi cyfle i'r gelyn yn Jeru- I salem i ddifrodu- a lladrata fel y f gwnaeth ym Methlehem: o Beth- lehem cludodd gydag ef o'r cysegr- I faoedd yr addurniadau o arian a phres, a llestri cymun. O'r diwedd, daethom i olwg Jerusalem, a chan fod un ffordd o dan ddn y gelyn, gweithiasom ein ffordd o'r tu cefn, a thrwy gannol yr hen ddinas ben- digedig. A dyma dyrfa, o bob lliw, iaith, a chenedl, o bob math o ddillad. Y cyntaf torrais air gydag ef, dywedodd Me Japan- ese Khaid oedd mynd trwodd yn drefnus, a chan mai march gwyn, claerwyn, sydd gennyf pen- derfynais ei farchog, gan weddio y byddai yn arwydd fach o ddyfodiad Tywysog. Tangnefedd i'r orsedd. Ac O 'r glygfa! Id<jewon gwirion I eddol yn eu hen wiSgôëddJ fembell un a golwg tywysogaidd arno— gwyneb cryf, trwyn lluniaidd, gwallt du, llaes, heb ei gyffwrdd a siswrn erioed, a barf heb ei heillio erioed, dygai i feddwl dyn y geir- iau hynny, "Nazaread o'r groth." Eglwysi ymhob man, lliw crefydd I ymhob man, offeiriaid lu o bob I dosbarth neu ganghen o Eglwys,— cöptaid, Abysiidd, Groegaidd, Rhufain, Rwsiaid, Lutheraidd. Ond rhaid oedd mynd ymlaen: daethom at borth Damascus, al Golgotha, a "man Ei fedd/ y I man lie bu Efe." Yn wir, fedr dyn ddim rhoi ar bapur ei feddyliau. At hyn yr oeddym mewn gafael a'r ¡ gelyn yn ymyt Golgotha, ac o dan ei dAn deifiol. Ymwthiwyd ym- laen, a thu isa i furiau yr Hen Ddinas, ac yn ei chysgod yr oedd ein brwydr neeaf. Bu yn galed yma, yng ngolwg Gardd Gethse- mane, a Mynydd yr Olewydd: yr oeddym i gymeryd y mynydd hwn, ond nid allem ddefnyddio ein gyn- nau mawr, gan na fynnai ein Cadfridog dynnu tan y gelyn ar y Ddinas. Drannoeth, yn fore, dyma ni yn sgubo Mynydd yr Olewydd, gan glirio y gelyn o'n blaenau, ag i'r pentref ar ein pen. A thran- noeth i Bethphage, lie yr arhosem, yng ngolwg hen bentref bach Bethania atgofion rhyfedd am deulu bach Bethania, a thaith olaf yr Iesu i Jerusalem. Fisiau odfa Gymreig sydd ar y bechgyn yn Jerusalem, nis gwn sut y bydd, gan fod yn rhaid gwthio y gelyn ymhellach er diogelwch y trigolion a'r Hen Ddinas. Meddwl treulio y Nadolig ym Methlehem yr oedd y bechgyn, a chael gwas- anaeth yno, ond nid felly y bydd. Wel, un gair bach eto cyn tewi: I cefais brofiad rhyfeddaf fy oes ar dorriad gwawr, yn swn yr ergyd- ion. Mewn llecyn bach ar godiad tir, cyferbyn a chongl gogiedd- ddwyreiniol muriau y ddinas, yr ochr draw i'r ffordd o'r ddinas i Damascus, cleddais wr ieuanc syrthiodd yn y frwydr yn ymyl muriau y ddinas, a'm cefn ar fan i dybiedig croeshoeliad Crist a'i ad gyfodiad. 'Roeddym fel mintai fach a'n henaid yn llawn, a'r Iesu, I y Gwr fu farw trosom," ond sy'n fyw," yn llond ein henaid. Cledd- ais ddau. drachefn yng nghysgod coed olewydd rhwng Bethphage a Bethania. Dyma brofiad rhyfedd. Rhywfodd Iesu Grist a'i hanes sydd ar ein tafod o hyd heddyw. I Cofion'serchog, A. W. DAVIES, C.F.,

Advertising