Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

11 articles on this Page

MAENTWROG.

-NEFYN.■'I

..CLOCAENOG. I

I 'LLANBEDR PONT STEPHAN.

I DYFFRYN ARDUDWY.

CYLCHDAITH PONTYPRIDD. I

I. : .-I::. WEASTE.I

EGREMONT. -j

.MALDWYN-LLEYN.1I

News
Cite
Share

MALDWYN-LLEYN.1 I Nidoes modd dyfod a Maldwyn a Lleyn at ei gilydd, mewn ystyr ddaear-- yddol, am fod Meirion yn gorwedd rhyngddynt, ond eto y mae'n booibl dyfod a phersonau o'r ddwy wlad i undeb priodasol a'i gilydd, ac i Meirion weithredu fel maes yr amod a'r cytundeb Felly y bu ynglyn a'r hanes diddorol sydd gennym i'w gofcodi yn bresennol. j Yn nhref heBafol Dolgellau, ar y 30aia j o Ionawr, 1918, yr unwyd mewn glAa briodas Mr John Hughes, Veterinary Surgeon, LlaDfaireaereiD ion,- braw d y Parch Thos. Hughes, Portdinorwic,a Miss Owen, Waterloo House Sarn, Pwllheli. Mae Dolgellau rhywle yn agos i banner y ffordd rhwng Llanfair, a Sarn, Fillteyrn, ac yn yr amgylchiad presennol fe ddaeth y briodasferch hanner y ffordd i gyfarfod a'r priodfab. Yr hen arfer, ac nis gwn pam, ydyw i'r gwr ieuanc fyn'd i gartref y ferch ieuane i'w mhofyn, ond y tro yma fe gydsyn- iodd y ddau i gyfarfod a'i gilydd hanner y ffordd. Dichon y bydi hyn yn gych- wyniad arferiad newydd ym myd y priodasau, end dewisiwyd Dolgellau yn bennaf ar gyfrif y ffaith fod Mr a Mrs E. D. Jonas, Tanygader, Postfeistr y dref, yn berthynasau agos i Mrs Hughes, ac o'u ty hwy y cychwynodd y briodas tua'r capel, Cymerodd y sere- moni le ynghapel Salem drwy weinydd- iad y Parch Thos Hughes, Parch D. Thomas, a'r Parch Mordaf Pierce. Yr oedd cymdogaeth y pulpud wedi ei addurno a blodau prydfertb, ac fe chwareuodd Miss Eira James ddarnau detboledig ar yr Organ. Yr oedd y wasanaeth drwyddo yn ddwys ac effeith- iol. Y gwas priodas ydoadd Mr W. Owen, Manager; N.P.Bank, Caernarfon, brawd y briodasferch, a'r forwyn briodas ydoedd Miss Hughes, M.A., Towyn, merch y Parch Thos. Hughes. Wedi y wasanaeth yn y capel fe aed i brif Westy y dref i gael y bereu-bryd, ac yr oodd yr arlwy yn dejlwng o briodas tywysog. Derbyniwyd o ddeg i bym- theg o bellebrau gyda dymuniadau da i'r ptr ieuane, a thraddodwyd anerchiad llongyfarchiadol doniol gan y gweinid- ogion mehod, ynghyd a Mr Edward Griffith, U.H., a Mr E. D. Jones, Post- feistr, ao atebwyd y llongyfaichiadau gan y priodfab yn fwy cymwys ac effeithiol na dim a glywsom er's gryn dro ar fyd. Yr oedd yn bresennol hefyd Mrs Owen, Bronala, Caernarfon, a Mrs E. D Jones, Tanygader. Yr oedd y tywydd yn nod- edig o braf Nid oes neb yn cofio diwr- nod mwy hafaidd ynghanol y gaeaf er's blynyddoedd, ae os ydyw cael yr haul yn ei nerth i dywynu ar y fodrwy yn broffwydoliaeth gywir am heulwen yn y dyfodol, fe ddaw gryn lawer o heulwen i ran Mr a Mrs Hughes. Bwriadant ym- gartrefu:yn Tanyrallt, Welshpool. Pe buasai Wesleaid Cymraeg yn yr ardal buasai Mr a Mr buasai Mr a Mrs Hughes yn gaffaelia.d mawr i'r cyfryw. Pwy a wyr na bydd i Wesleaid caredig Llanfair welod Mr a Mrs Hughes yn eu plith yn fynyph. Mae y ddau yn caru'r achos yn fawr. Gyda channoedd ojgyfeillion ym Mald- wyn a Lleyn y dymunwn iddynt oes oleu, lwyddianus a dedwydd. D.T.

PWLLHELI.

[No title]