Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
GAIR 0 GANAAK. !
GAIR 0 GANAAK. (Gan y Caplan A. W. DAVIES). j Annwyl Gwynfryn, I Gair bach etc o ororau y Ddinas I Sanctaidd. Ni chefais fawr ham- dden i roi tro o amgylch Jerusal- em, a chyfrif ei thyrrau hi: yr ym o hyd ar flaen y gad, ac ni theimlaf yn rhydd i fynd ar fy hynt, er maint fy awydd, tra'r bechgyn yn llinell y tan. Hen ddinas a hen hanes rhyfedd iddi, anodd deall pam, oblegid mae ei sail ar fynyddoedd I noethlwm, a'r mynyddoedd sydd o'i chylch nid oes dim ynddynt, hyd y gwyddis yn awr, i ddenu dynion. Yn gyffredin lleoedd cynhyrchiol, neu leoedd cyfleus i fasnach, a phorthladdoedd, neu leoedd lie mae golud mwnau,—y bobl mewn ymdrech bywyd i godi eu trefi; ond mae mynyddoedd cylch Jeru- salem yn llymach nac Hebron a Bethlehem, eto ar y mynyddoedd yma y mae sail y ddinas hynotaf yn hanes holl ddinasoedd y byd; er y mae'r mynyddoedd yn Ganaan o le o'u cymharu ac anialdir cras- boeth Arabia, ar draws yr hon y teithiodd Israel a'r Mahomet, y cyntaf i chwilio am gartref, a'r olaf ar genhadaeth ei grefydd. Ceir y cyfeiriad hanesyddol cyn- taf ati mewn llythyr o eiddo ei brenin ar y pryd-Abd Khiba, at Amenophis IV., brenin yr Aifft Y cyfeiriad Beiblaidd cyntaf yn Jos- hua, y ddegfed bennod. Er hynny, drwy y fath nifer o chwyldroadau. yr aeth Dafydd a Solomon cododd y ddinas i fri, a daeth yn ganol- bwynt gogoniant Israel yn gref- yddol a chenedlaethol: suddodd yn ddyfnach ac yn ddyfnach o hyd i galon y genedl, fel man ei chyfar. Jyddiad a Duw, a man adnewydd- iad ei undod cenedlaethol o oes i oes. I Tua pedwar can' mlynedd ar ol marw Solomon dinistriwvd hi gan I Nebuchodonezzer. Yn y cyfnod yma gwaicheuwvd arni- 1. Gan Shishak, brenin yr Aifft, I yn nheyrnasiad Rehoboam. I 2. Gan y Philistiaid a'r Arabiaid yn nheyrnasiad Jehoiam. 3. Gan Jehoash, brenin yr Aifft, yn nheyrnasiad Amaziah. 4. Gan Rezin, brenin Syria, yn nheyrnasiad Ahab.' 5. Gan Senacherib, brenin Asyr- ia, yn nydddiau Hezeciah. Bu ei theml deg yn adfeilion tra yr oedd Israel yn y caethiwed, hyd nes daeth Zerubabel a Joshua i'w hadfer, gwaith y rhai a orffenwyd gan Ezra a Nehemiah o fewn y chweched ganrif cyn Grist. 0 fewn y pedwerydd ganrif cyn Crist dar- ostyngwyd hi gan Alexandria Fawr. Yn ddiweddarach daeth dan lywodraeth Plotemy Soler, brenin yr Aifft, aeth yn fethiant i Antioches, Epiphanes Syria; enill- wyd hi yn ol ar ol brwydr waedlyd y Macabeaid. Tua triugain mlyn- edd cyn Crist, syrthiodd i ddwylaw Pompey, a chwarter canrif cyn genp Crist concrwyd hi gan y Perthiaid. Tair blynedd yn ddiweddarach darfu i Herod ei meddiannu drwy gynorthwy Rhufain. Gwnaeth ef a'r Rhufeinwyr ddi wygiad mawr, a chodasant furiau ac adeiladau hardd, ac yng nghanol yr ysblander materol yma o eiddo y ddinas y ganwyd yr Iesu. Ond y Rhufein- laid, o dan deyrnasiad Titus, a'i dinistriasant hi drachefn. Codwyd hi yn 130 A.D. drachefn gan Had- rian, Ymherawdwr Rhufain, yr hwn fynnai iddi fod yn dref Rhuf- einig, gan esgymuno pob Iddew ohoni. Yn 614 A.D. ymosodwyd arni gan Khosroes yr II., y Persiad nerthol enillwyd hi yn ol i Rhufain gan Heraclius ond daeth y Moslem o Mecca a'i lu, a chodasant faner eu crefydd ar y ddinas yn 637 A.D., a galwasant y ddinas yn El Kud (Sanctaidd). Ond yn 969 A.D. daeth yn feddiant i'r Aifft drachefn, ond, yn 1244 A.D i'r Rharezmiaid, ac yn 1517 A.D. i'r Turk Selim, a daliodd Llywodraeth Twrc feddiant ohoni hyd dydd Sul, Rhagfyr 3,1917, y dydd yr aeth y Gatrawd Gymreig i mewn iddi, gan ddwyn, ni weddi- wn, rhyddid, tangnefedd. a chyf. iawnder am byth. Am ei bod yn gaerfa gadarn rhwng Asia ac Affrica, hyn yn un peth a'i gwnaeth yn fawr, ond yn bennaf am mai prif ddinas crefydd yw ers oesau iawer, ac erys felly hyd heddyw i'r Iddew a'r Cristion, ac y mae bron yn ail i Mecca gan y Mahomed. Mae gan- ddo ef o'i mewn deml orwych, ac iddi nenfwd tyrrog, sydd yn ddarn o gelfyddydwaith cywrain Cwrdd- wn ill tri-yr Iddew, y Cristion, a'r Mahomed, yn ein parch i'r pa tri- archiaid a'r proffwydi; ond ymwa- hanwn yn Iesu Grist, ond gobeith- iwn nid yn hir ac hyd yn oed yn hanes yr Iesu yr ym yn un mewn llawer o fannau, y groes a'n gwa- hana, a'i fod yn Fab Duw (Ei ddwyfoldeb). Y groes yw maen y tramgwydd, ac er i Syr Conan Doyle ddweyd yn ddiweddar ein bod yn gwneud gormod o'r groes, eto Calfaria dyn galon dyn-nid y groes bren na'r hoelion, ond marw ohonno drosom. Bum ar dro bach drwy y ddinas o borth Jaffa yn y gogledd i borth Stephan a'i wyneb i'r dwyrain, ac oddiyno allan drwy borth Damas cus. 0 ben mynydd yr Olewydd, o dan dywyniad haul y bore, neu oleu esmwyth mwynwyn y lleuad, fe edrych y ddinas ali thyrrau uchel, a'i muriau cadarn o amgylch o gylch, yn disgleirio yn wyn canaid: fe edrych yn ogoneddus. Gwelir ei miloedd tai bychain gwynion, ambell i dy yn codi ei be-n yn uwch na'r Hall, a'i nenfwd fflat. Hi or. wedd yn dawel yr olwg o'r pellter, ond o'i mewn mae ei strydoedd bach culion, tywyll, a'i thrigo ion fel afon esmwyth yn rhedeg drwy- ddi drwy gydol y dydd. A'r fath olwg, pob math ar wynebau-yr Iddew a'i wyneb llwyd, mynach aidd, weithiau pryd goleu, pryd arall tywyll fel y fran, a'i wallt wedi ei dorri yn bur llwm, ond cydyn hir yn gorwedd i lawr ar hyd ei fochgernau, bar iddo edrych yn henafol iawn. Yna daw'r Arab, a'i wyneb byw, a'i lygaid tremgar, a'i wyneb ffurfiol, a lliw yr anialwch crasboeth ar ei wedd, ei ddiwyg amryliw o bais wen, gwasgod lliw- iog, a'i got o groen gafr neu ddafad, a'i wrthban llian yn dorchau ar ei ben. Yna deuwn ar draws nifer o offeiriaid Iddewig mewn gorchudd du, prudd, a thei gwyn o amgylch yr wddf, tebyg i'r un welir yn yr hen ddarluniau ohen bregethwyr cyntaf Cymru, ac ar eu pennau het tebyg i het silc wedi torri ymaith y cantau. Yna yr Armeniaid a'i het feddal, tebyg i'r un wisgid gan yr anfarwol Daniel Owen, ond fod y cantau yn galed. Yn wir, i Or- llewinwr y mae yr olygfa yn un ddoniol. Ni chredant mewn tyw- ydd garw y mae y ffyrdd o gyich y ddinas yn arw, a'r metlin o garreg galch, a hwnnw gan drafnidiaeth yn ymwisgo yn llwch. Diwrnod gwlawog yw, canys tymor cyntaf y gwlaw yw,—a elwir yn yr Hen Air yn wlaw cynnar." Y mae yr heol yn byllau, a thwmpathau o laid a dwfr, ond lloprynnau a wisga'r bobl, y rhan fwyaf heb gefn i'r sawdl, a sannau gwynion, ac weithiau gwlawlen wen (fel parasol), purion i gadw'r haul ym- aith, ond druain ohonno ar y gwlaw hwn. Mae'r ddinas yn fyw o'r gorffen- nol, nid yw fel pe wedi deffro i ddim byd eang y Gorllewin. Yn y ddinas, oddigerth eithriad neu ddau, nid oes maelfa eang o'i mewn tyllau bach yn y muriau, heb le i sythu, a phob math o fan- ion bwyd, yn hadau, aurafalau, ffigys, cacenau dwyreinig,—prin y teimla dyn eu bwyta pe angen bwyd yn arw arno. Crydd yn trwsio esgidiau mewn twll bach yn y fan yma, teiliwr yn y fan arall, gof yn y fan arall, a than bach oer yr olwg, y buasai'n cymeiyd amser go fawr i ferwi bowliad o uwd arno. Ond, o ran hynny, nid oes neb ar frys yn y Dwyrain, mae "diwrnod ar ol yfory, meddant hwy. Eto mae swyn ynddi: Jer- usalem, y fath hen enw, swyna dynion ymhob oes, fe glyd yn eu mynwes er yr hen amser gynt dy- heuadau a delfrydau dyfnaf a goraf dynion mae y dyheuadau a'r del- frydau yn newid o oes i oesi eto yn enw Jerusalem teimlid mae y gair goreu yw i draethu hiraeth ac ym- chwil y galon ddynol am y gwell, am fodlonrwydd, ac am orffwystra enaid. "Heddwck fyddo o fewn dy ihagfur, a ffyniant yn dy balas- au." Nefoedd i filoedd. a bywyd tragwyddol i lu yw cael byw a marw yno. Ac yn y fyddin heddyw, ymysg y bechgyn, mae y syched mwyaf am wybodaetii: yn y gatrawd ag yr wyf ynglyn a hi gwnaed cais swyddogol am tua phedwar cant o Feiblau; holi am y mannau sydd gysegredig y maent, oherwydd cysylltiad yr Iesu a hwy: ac mae'r Beiblau wedi eu harchebu. Pan ar y daith i fyny cawsom wlaw trwm iawn pecynnau mawr i'w cludo, brwydro ar draws myn- yddoedd mewn dillad gwlybion am ddyddiau, a hi yn erwin oer, ar ol misoedd o wres llethol, a chennym bymtheg milltir o daith drom o'n blaen, ac i ymladd ar y diwedd; neb yn grwgnach, neb yn syrthio allan, pam? oblegid yr oeddyrn a'n wyneb ar Bethlehem a Jeru salem. Syrthiodd rhai bechgyn annwyl yn y frwydr, nifer arall anafwyd, ond rhywfodd, yn swyn awyr gwlad yr Iesu, mae ffydd dyn fel yn fwy byw, mae fel pe yn nes atom, a'n gobaith wedi ei ail ennyn yn fflam, er gwaethaf y ddrycin gerwinol ffol y daw ei ddydd Ef. A'r Iesu a deyrnasa byth. Cofion serchog, A. W. DAVIES, C.F., Att. 1/5 Welsh Regt. 159 Infantry Brigade, 53 Division, E.E.F.
BWRDD Y GOL. I
BWRDD Y GOL. I RHY HWYR Y TRO YMA.—Wrexham Llanfechain Llanfyllin; Rhyl; a Maentwrog. ALLAN o DDIFFYG GOFOD.—Trinity Road, Bootie; Nodion o Ddolgellau Gore Street, Manchester 0 Gaerwys i Ffrainc.
I LLANRHAEADR-YM-MOCHNANT.…
LLANRHAEADR-YM-MOCHNANT. I Ionawr 16eg traddododd y Parch Tegla Davies yr ail anerchiad i'r Gym- deithas Ddiwylliadol ar "Drefn yr Iachawdwrdiaeth "-Dysgeisiaeth Iesu Grist am dani, dan lywyddiaeth Mr D. F. Jones, School House. Cafwyd llawer iawn o oleuni a gwybodaeth. Ionawr 24ain, traddododd y Parch J. Roger Jones B.A., ddarlith rhagorol ar Ddyl- anwad Gwlad Groeg'ar Gristionogaeth. Yr oedd yn un o r darlithiau'mwyaf cyf oethog a glywsom erioed. Diolehwyd yn gynnes i'r Parch Roger Jones, gan y Llywydd, y Parch Tegla Davies, Mri D. F. Jones, a Harold Jones (M.C.) Yr oedd yn llawenydd gennym weled rhai o'r bechgyn eto gartref ar 'leave' o'r fyddin, sef Pte. Evan Williams o Surrey, a Corpl. Robert Williams, ei frawd, o Ffrainc. Hefyd Pte. David Griffith o Lerpwl. Mae ef wedi bod yno ers peth amser mewn ysbyty. Erbyn hyn mae'n dda gennym glywed ei fod yn gwella yn raddol ar ol cael ei glwyfo yn Ffrainc. Cawsant oil groesaw cynnes gan yr eglwys. Bydd yn dda gan gyf- eillion Pte Clement Williams, Pandy- coed, glywed ei fod yntau yn gwella yn araf yn Ysbyty Moss Lane, Manchester. Cafodd ei glwyfo yn Ffrainc beth amser yn ol. Hyderwn y cawn ei weled yntau yn ymweled a'r Llan cyn bo hir. Taened Duw ei aden dros y bechgyn oil. BERWYNFERCH. I
Advertising
Llyfrau Ail Law. BARGEINION. Rhodder A ar yr a mien oddi- illan, a chyfeirier yr Archebion i- Rheolwr, "Y Gwyliedydd Newydd," Flint Mountain, Flint. Nodiadau Herber Sef Detholion o'r Nodiadau Misol byw, craff, ar wahanol bynciau i'r Dysgedydd gan y diweddar Barch Herber Evans, D.D. Addefir fod y Nodiadau hyn ymhlith y pethau goreu a ddaeth o law Herber" erioed Y gyfrol cystal a newydd. Pris cyhoeddedig 3/6 trwy'r Post 2/- Pethau Newydd a Hen Gan Mr Delta Evans (Dewi Hir- addug), Llundain cyfrol werth- fawr iawn o draethodau, Moes- egol, Llenyddol, a Beirniadol. Cystal a newydd. Pris cyhoedd- edig 2/6; trwy'r Post 1/8. Holwyddorydd Diwinyddot Dr. Pope Cyfeithedig gan y Parch T. J. Pritchard. Cyfrol ddestlus o 494 o dudalennau, ac yn newydd hollol. Pris cyhoeddedig, 10/6 trwy'r Post, 4/6. Yr oedd Dr. Pope yn un o ddiwinyddion gall- uocaf y wlad, ac mai cyfeithiad Mr Pritchard yn feistrolgar a chlir. Cyfamod Heddwch Cyfrol wych iawn o bregethau gan hyodl a chryf Dr. Marvin R: Vincent. Pris cyhoeddedig 5/ cystal a newydd; trwy'r Post 2/4. Mae'r gyfrol hon yn awr yn brin. Gnosticiaeth a Agnosticiaeth Cyfrol wir alluog o Bregethau gan Dr George Salmon. Mae yn y gyfrol 18 o bregethau gwir uchraddol. Cystal a newydd. Pris cyhoeddedig 5/6; trwy'r Post 3/3. Hwfa Mon Dan olygiaeth Mr W. J. Parry, Bethesda Cyfrol Goffa am yr hen wron" Eisteddfodol. Ceir ysgrifau ynddi fel y canlyn Hwfa fel Cymeriad Cymreig- Parch Rhys J. Huws; Fel Bardd ym Mesurau y Cyng- hanedd—Elfed Barddoniaeth Rydd Hwfa—J. T. Job; Fel Eisteddfodwr—Gwylfa. Ceir yn y gyfrol bigion o gyn- hyrchion y Prif Fardd enwog. Pris cyhoeddedig 3/6; trwy'r Post 2/3. By the River Chebar Myfyrdodau ar Lyfr Ezeciel gan y Parch Elfed Lewis. Y mae gwelediad cyfriniol a barddonol Elfed ar ei oreu yn y gyfrol hon. Mewn cyflwr da. Pris cyhoedd- ig 3/6 trwy'r Post 2/3. The Ideal Life Bywyd, ynghyda detholiad o Bregethau neu Areithiau y di- weddar Proff. Drumond, wedi eu hysgrifennu a'u golygu gan Mr Robertson Nicoll. Mewn cyflwr da. Pris cyhoeddedig 6/- trwy'r Post 3/3. Christ in the Wilderness Tair ar ddeg o benodau yn ym- drin yn feistrolgar a diddorol gyda Themtiad yr Arglwydd lesu yn yr Anialwdh," gan y Parch. L. H. Wiseman. Mewn cyflwr da. Trwy'r post, 1/10. Christ and the Times Cyfrol o Bregethau gan yr Arch- ddiacon Sinclair. Pris cyhoedd- edig 3/6; trwy'r Post 2/. Cys. tal a newydd.