Skip to main content
Hide Articles List

3 articles on this Page

[No title]

Heddwch-A Beth Wedyn?

News
Cite
Share

Heddwch-A Beth Wedyn? Gair siriola galon dynoliaeth ydyw Heddwch, pan y daw grym ynddo. A thra heb feddu haw! i broffwydo, credaf ei fed yn ymyl. Mac cri gweriniaeth Europe hedd- yw am dano. Heddwch ar seiliau sicr na thorrir ef mwyach gan u-nrhyw wlad na theyrn-heddwch a grym gweriniaeth ddeffroedig y tu cefn iddo, i sylweddoli mai yn ei Haw hi y mae heddwch dyfodol y byd yn bosibl. Gwir yw fod y doll ar ddynoliaeth ar faes y frwydr yn fawr, nid yn unig mewn bywydau, ond mewn cymeriadau a thalentau nad all yr un wlad eu hebgor—yn gerddorion, beirdd, pregethwyr a gwyliedyddion moes a chrefydd y dyfodol. Yn ei dolur a'i chur credaf yr ymysgwyd gwer iniaeth yr amwisg i ffwrdd, gan benderfynu cael meddyginiaeth i'w hesgyrn. Y mae gweriniaeth yn dod i fewn i'w hawliau, a Duw o'r tu ol iddi. "A phwy asaif?" Yng ngoleuni y gosodiad carwn wr-eud ychydig o sylwadau Fod y gwahanol genhedloedd wedi diystyru i raddau helaeth €gwyddorion moes a dysgeidiaeth crefydd ar allorau y rhyfel presen- nol nes y maent mewn dyryswch sut i ddod yn ol at y gwirioneddau hynny. Faint bynnag aberthwyd gan gyfoethogion y wiad, nid ab- erthodd yr un dosbarth yn fyw na'f gweithwyr. Meddylier am fyd Ilafur. Mae yr boll freintiau enill wyd ynglyn a safon cyflog a'r moddion i benderfynu cwerylon fhwng y meistri a'r gweithwyr wedi eu habet thu ar allor y rhyfel bresennol. Erbyn heddyw nid ydyw y pethau hyn yn hawlfreintiau byd Ilafur. Poltonir heddyw ar roi rhyw concessions ail raddol. Breint- iau enillwyd drwy lafur meddyliau goleuedig byd Ilafur a moes ydynt heddyw wedi eu taflu yn aberth ar atlor gorfodaeth nlwrol. Breintiau neu Hawliau Byd Moes. Y mae hawliau cydwybod yn un a egwyddorion mawr y byd moesol. Y dyn nad ydyw yn ffyddlon i'w argyhoeddiadau, troseddwr ydyw yn y byd yma. Byd nas cyfrilir dim ynddo ond ffeithiau dyfnaf bodolaeth yn ei pherthynas a Duw. Beth bynnag yw safle y gwrthwyn- ebwyr cydwybodol, ac nid ydym am foment yn coleddu y syniad eu bod yn Gristionogion gwell na'r rhai sydd yn marw ar faes y frwydr, oblegid fe fernir pob gweithred o eiddo dyn yn ol y cymhellydd. Cenedlgarwch gymhellodd filoedd o'n bechgyn glan a phur eu cym- eriadau i fentro yr ofnadwy a'i ganlyniadau erchyll, angau a thra- gwyddoldeb cyn eu hamser, cyn rhoi o feluster eu bywyd mewn can a mawl, cyn rhoi ofarddoniaethna phregethiad eu bywyd yn gynysg- aeth gyfoethog i'r oes a ddel. Aberthu bywyd wnaethant yn ol y goleuni oedd ganddynt er mwyn hawliau cynhenid cenhedloedd bychain i fyw, ac er amddiffyn eg wyddorion mawr Rhyddid. Yn awr pa safle bynnag gymerwyd gennym, y mae un peth yn amiwg, fod y wladwriaeth yn hawlio sane'r Barnwr iddi ei hunan. Nid llais cydwybod sydd yn cyfrif, ond yn hytrach llais o'r maes yn ei chyn- ddaredd am waed ydyw seiliau y tarn wladwriaethol. Byd Crejydd a Dysgeidiaeth. "Ein Tad yr hwn wyt yn y nefoedd." Perygl mawr y wlad heddyw ydyw gwneud Duw yn Dduw cenedl, fel plant Israel gynt. Anghofir i raddau heddyw mai Tad dynol- ryw ac nid cenedl ydyw Duw. Pwy heddyw sydd yn gweddio dros eu gelynion, gan eu hystyried yn blant i'rTad. Dysgeidiaeth jawr Cristionogaeth ydyw brawdoliaeth dyn —Perygl arati pob gwlad heddyw o dan deimladdu gelyniaethus a chyn ddaredd cenhedlaethol wedi ei ysu gan siomiant a soriant y rhyferth- wy ofnadwy presennol ydyw angh ofio dysgeidiaeth fawr y Crist croehoeliedig ddaeth yma trwy ei ymgnawdoliaeth i ddatguddio meddyliau anfeidrol Duw ei Dad mat" Duw cariad yw." Gwaith yr Efengyl ydyw gwneuthur dyn a dyn yn frawd. Cerwch eich gelyn- ion. Galluoedd dihysbydd yr EgZwys. —Y mae y nerthoedd tragwyddol yn ffynhonell ei bywyd (Esaiah, pen. xxvi. 1-4 adn). "lachawdwr- iaeth Duw yn gaerau ac yn furiau o'i hamgylch." Sefydlogrwydd yr Arglwydd yn sail ei hymddiried. aeth. Yn yr Arglwydd Dduw y mae cadernid tragwyddol. "Diau fod yr Eglwys wedi anghofio ei nherth, ac wedi gwyro i rhyw raddau o'r hen lwybrau. Ond y mae argodi heddyw ei bod yn barod i ddod yn ol at Grist. Yn ol yr argoelion; sisial mae yr awel fod Heddwchyh dod, ac hyd y canfyddir gan feddwl gwan, credaf y daw yn Haw gwer- iniaeth ddenroedig. Dyma fydd gwaith yr Eglwys'-dod yn ol at wirioneddau mawr moes a chref ydd. Gwaith Eglwys Dduw fydd cymwyso ei nerth at y cyfnod yma. Rhaid iddi fod yn fyw i hawliau dynoliaeth—hawliau dynion i gael byw uwchlaw angen—cynogau teg am lafur, amddiffyn y breintiau aberthwyd gan y werin, a chymer yd ei sane ar Iwyfannau fydd a u hymgais at wneud i ffwrdd a phob arlliw o nlitariaeth. Cri y ddynoliaeth adewir o'r rhyferthwy ofnadwy fydd am wyb od pwy a beth ydyw Duw. Beth ydyw gwerth dyn ? Beth ydyw perthynas Duw a dyn, a dynion a'u gilydd ? Gwaith yr Eglwys fydd cyhoeddi y Dadolaeth dragwyddol a brawdoliaeth gyffredinol dynion, gan ddysgu y byd y gwirionedd sydd yn llinellau y bardd Seisnig: For all the blessed soul in heaven Are both forgivers and forgiven Bedyddied Duw yr Eglwys a'r Ysbryd Glan i'w chymhwyso ar gyfer y gwaith sydd o'i blaen. I Ffrainc. T. J. PRYTHERCH. I

Saf!e GweinidogioQ Wesleaidd…