Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

GYLCBDAILH -LLANRWST.I

I- CAERGYBI.I

News
Cite
Share

CAERGYBI. Cynhaliwyd cyfarfod chwarterol y Gylchdaith uchod ym Maelog, Ionawr 2fed, dan lywyddiaeth y Parch E. Mostyn Jones. Hefyd yroedd yn bres- ennol yr oil o'r Gweinidogion, ynghyda'r GoruchwyIwyr-Mri Richard Beard, a E. D. Williams. Darllenwyd rhan o'r Ysgrythyr gan yr Arolygwr, a gweddiwyd yn ddoeth ac effeithiol gan Mr John Board. Darllenwyd y cofnodion gan Mr Llew Jones, a chadarnhawyd hwy fel rhai oywir. Derbyniwyd y cyfrifon yn llawn o bob eglwys, a llawenychai y cyfarfod fod sefyllfa ariannol y Gylchdaith mor fodd- haol. Gofynwyd i'r gweinidogion beidio rhoi addewid i'r un gylchdaith arall hyd cyf- arfod chwarterol Mawrth, ac addawodd yr oil. Yn unol a chais y Gynhadledd, dewis" wyd pwyllgor, sef un o bob eglwys yn y Gylchdaith, i wylicd buddiannau y mil- wyr, y sydd neu eto ddaw gartre o'r rhyfel, adewiswyd Mr Lake Jones yn ysgrifennydd. Ar gynygiad y Parch Daniel Williams, pasiwyd penderfyniad unfrydol ein bod feI cyfarfod yn gwrthwynebu gwaith y Llywodraeth yn difreinio y gwrthwyn- ebwyr cydwybodol 0 lpleIdlals, ac fod y penderfyniad i'w anfon i'r Prif Weinid- og Pasiwyd pleidlais o gydymdeimlad dwfn ac amryw o deuluoedd gyfarfydd- odd a phrofedigaetliàuyn ystod y chwarter. Diolchwyd yn gynnes i'r ddau Oruch- wyliwr am eugwasanaeth werthfawr am y flwyddyn, ac ail etholwyd hwy, ac addawodd y ddau. Hefyd diolchwyd yn wresog i ysgrifennydd y cyfarfod, ac ail- etholwyd ef am tiwyddyn arall. Yr un modd ysgrifennydd Dirwestol. Llawenydd nid bychan oedd gan- y cyf- arfod ddeall am yr anrhydedd a osodwyd ar briod Mr Richard Beard, Goruchwyl iwr y Gylchdaith, trwy iddi gael ei dewis yn unfrydol yn Lady Guardian. Pas- iwyd i anfon Uongyfarchiadau y cyfar- fod i Mrs Beard, gan ctdymuno hir aros- fa yn ei newydd swydd, ac arweiniad y nef i wylio buddiannau y tlodion. Cafwyd trafodaeth fuddiol ar agwedd ysbrydol yr achos, pryd agorwyd yr ym- ddiddan yn rymus gan y Parch David Jones, a dilynwyd ef gan amryw o'r brodyr. Pasiwyd i argymeU yr eglwysi i estyn ?-mwy 0 gydnabyddiaeth i'r Pregethwyr Cynorthwyol am eu gwasanaeth werth- fawr a chymeradwy i'r Gylchdaith. Ar y terfyn mwynhawyd caredig- rwydd diflino Miss Owen, Ty Hen, a diolchwyd yn gynnes iddi gan y Parch. David Jones, a Mr Richard Beard.

|CYLCHDAITH WYDDGRUG. I

ICYLCHDAITH LLANASA, -j

Advertising