Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

GYLCBDAILH -LLANRWST.I

News
Cite
Share

GYLCBDAILH LLANRWST. Cynhaliwyd y cyfarfod ohwarterol yn Horeb, Llanrwst, Ionawr 5ed, pryd yr oedd yn bresennol gynrychiolaeth gweddol lawn o'r eglwysi, ynghyd a'r Gweinidogion—y Parchn Owen Evans, ac Elfyn I. Humphreys, a'r Goruchwyl- iwr-Mr E Mills. Yr oedd Mr T. R. Jones, Moss Hill, yn analluog i fod yn bresennol. Darllenwyd cofnodion y cyfarfod di weddaf, a phasiwyd hwy. Cydymdeimlad. -Pasi wyd pleidlais o gydymdeimlad a Mr D. Roberts, Pen machuo, yr hwn sydd wedi cyfarfod a damwain. Yr oedd yn Ilawen gan y brodyr ddeall ei fod yn gwella. Penderfynwyd hefyd anfon llythyr i'r Parch J. Parry Brooks i'w galonogi yn ei waith ar faes y frwydr ar ddechreu blwyddyn. Croesaw—Croesawyd i'r cyfarfod Mri Jones, Ienmachro, ac R. J. Roberts. Deallwn fod yr olaf wedi dychwelyd adref o'r De. Archwilwyr.—Penodwyd Mri Jonath- an Jones, a Caradog Mills, Llanrwst, yn unfrydol i archwitio cyfrifon y Genhad- aeth Dramor. Rhodd.-Hysbyso dd y Parch Owen Evans fod brodyr Eglwysbach wedi dod a rhodd o CI3 i'r Gylchdaith. Diolch- wyd yn galonnog iawn iddynb, a gwnaed sylwadau o werthfawrogiad y cyfarfod o'r rhodd gan Mri G. Owen., Capel Gar- 'mon, ac E. Mills, Llanrwst. Ysgrifennydd Capeli.-Gan fod Mr J. W. Lloyd, Ysgrifennydd Capeli y Gylch- daitb, yn y fyddin, cynhygiodd y Parch Owen Evans, yn garedig iawn, ofalu am, y Schedules yn ei absenuldeb. Awgrymwyd fod i'r eglwysi gynnal cyfarfodydd y Trustees yn ystod y mis hwn a dechreu Chwefror Y Genhadaeth Gartrefol.—Darllen- wyd llythyr oddiwrth y Parch Thomas Hughes yn hjsbysu mai £.250 oedd cyfraniad y Gerhadaeth Gartrefol i'r Dalaith i gyfarfod a'r ddyled oedd-ar eglwysi oherwydd y dirwasgiad yn y -ehwareli. Y mae y ddyled i gyd yn £ 800. Gwneir cynnyg i'r Gylchdaith o rodd o P,30 os gallwn gasglu L70 yn ystod y flwyddyn. Teimlai amryw o'r brodyr awydd i wneud ymdrech er sicrhau y rhodd, a deuwyd i'r penderfyniad o benodi brawd neu chwaer ymhob eglwys i dderbyn rhoddion mewn symiau by chain. Ethol- wyd y brodyr a'r chwiorydd canlynol: —Penmachno: Miss Jones, Moss Hill, Capel Garmon Mrs C. E. Andrew, Ty Newydd, a Miss Ellen Jones, Glaneu- artb. Llanrwst; Mrs Hughes, Garth Celyn, a. Miss Parry. Soar: Miss C. M. Williams. Eglwysbach: Miss Jones a Miss Roberts. Disgwylir fod yr oglwysi eraill wedi trefnu casglyddion erbyn hyn. Dolwyddelen.—Gofynwyd i Mri Mills ac Evaus ymweled a'r eiddo yn Dol- wyddelen, ac i drefnu am of at y capel. Y Gymanfa.-Argymhellwyd yt eg lwysi i ifurfio Cymanfaoedd lleol i'r plant, gan nad yw y Gylchdaith yn dy- muno cynnal y Gymanfa arferol dan yr amgylehiadau preseanol. Pregethwyr Cynorthwyol.—Pasiwyd pleidlais o ddiolcbgarwch i bregethwyr cynorthwyol y Gylchdaith am eu gwas' anaeth ffyddlon y flwyddyn ddiweddaf. Gwerthfawrogir eu llaiur yn fawr, ac y mae yr eglwysi yn ddyledus iddynt am foddiannau bendithiol iawn. Ein Gweinidogion. Penderfynwyd yn unfrydol ein bod yn rhoddi War Bonus o ddeg punt yr un i'r ddau wein idog i gyfarfod i fesur bychan a gofynion y dyddiau hyn. Circuit Stewards.—Ail-etholwyd Mri Ed. Mills a T. R. Jones yn Oruehwyl." wyr am y flwyddyn hon eto. Talwyd -diolchgarweh gwresog iddynt am eu llatfur diflino yn y gorffennol. Pwyllgor Wedi Rhyfei."—Etholwyd y brodyr canlynol i ffurfio Pwyllgor i ofalu am fuddiannau milwyr a morwyr yr eglwysi-Dr. W. G. Owen, Mri J. R. Jones, Albert Jones, W. Williams, W. Fielding, Isaac Roberts, ac A. J. Roberts. Wedi'r cyfarfod cafwyd te arddercbog iawn, rhoddedig gan Mrs Jones, Y Bull. Yr oedd yn ofidus gan y brodyr nas gallai Mrs Jones fod yn bresennol oher wydd afiechyd. Tra yn diolch iddi am ei haelioni, dymunai y brodyr iddi adfer- iad buan. Diolchwyd befyd i Mrs Smith Williams, Mrs H. Hughes, a Mrs Evans am eu cynorthwy.

I- CAERGYBI.I

|CYLCHDAITH WYDDGRUG. I

ICYLCHDAITH LLANASA, -j

Advertising