Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
5 articles on this Page
GYLCBDAILH -LLANRWST.I
GYLCBDAILH LLANRWST. Cynhaliwyd y cyfarfod ohwarterol yn Horeb, Llanrwst, Ionawr 5ed, pryd yr oedd yn bresennol gynrychiolaeth gweddol lawn o'r eglwysi, ynghyd a'r Gweinidogion—y Parchn Owen Evans, ac Elfyn I. Humphreys, a'r Goruchwyl- iwr-Mr E Mills. Yr oedd Mr T. R. Jones, Moss Hill, yn analluog i fod yn bresennol. Darllenwyd cofnodion y cyfarfod di weddaf, a phasiwyd hwy. Cydymdeimlad. -Pasi wyd pleidlais o gydymdeimlad a Mr D. Roberts, Pen machuo, yr hwn sydd wedi cyfarfod a damwain. Yr oedd yn Ilawen gan y brodyr ddeall ei fod yn gwella. Penderfynwyd hefyd anfon llythyr i'r Parch J. Parry Brooks i'w galonogi yn ei waith ar faes y frwydr ar ddechreu blwyddyn. Croesaw—Croesawyd i'r cyfarfod Mri Jones, Ienmachro, ac R. J. Roberts. Deallwn fod yr olaf wedi dychwelyd adref o'r De. Archwilwyr.—Penodwyd Mri Jonath- an Jones, a Caradog Mills, Llanrwst, yn unfrydol i archwitio cyfrifon y Genhad- aeth Dramor. Rhodd.-Hysbyso dd y Parch Owen Evans fod brodyr Eglwysbach wedi dod a rhodd o CI3 i'r Gylchdaith. Diolch- wyd yn galonnog iawn iddynb, a gwnaed sylwadau o werthfawrogiad y cyfarfod o'r rhodd gan Mri G. Owen., Capel Gar- 'mon, ac E. Mills, Llanrwst. Ysgrifennydd Capeli.-Gan fod Mr J. W. Lloyd, Ysgrifennydd Capeli y Gylch- daitb, yn y fyddin, cynhygiodd y Parch Owen Evans, yn garedig iawn, ofalu am, y Schedules yn ei absenuldeb. Awgrymwyd fod i'r eglwysi gynnal cyfarfodydd y Trustees yn ystod y mis hwn a dechreu Chwefror Y Genhadaeth Gartrefol.—Darllen- wyd llythyr oddiwrth y Parch Thomas Hughes yn hjsbysu mai £.250 oedd cyfraniad y Gerhadaeth Gartrefol i'r Dalaith i gyfarfod a'r ddyled oedd-ar eglwysi oherwydd y dirwasgiad yn y -ehwareli. Y mae y ddyled i gyd yn £ 800. Gwneir cynnyg i'r Gylchdaith o rodd o P,30 os gallwn gasglu L70 yn ystod y flwyddyn. Teimlai amryw o'r brodyr awydd i wneud ymdrech er sicrhau y rhodd, a deuwyd i'r penderfyniad o benodi brawd neu chwaer ymhob eglwys i dderbyn rhoddion mewn symiau by chain. Ethol- wyd y brodyr a'r chwiorydd canlynol: —Penmachno: Miss Jones, Moss Hill, Capel Garmon Mrs C. E. Andrew, Ty Newydd, a Miss Ellen Jones, Glaneu- artb. Llanrwst; Mrs Hughes, Garth Celyn, a. Miss Parry. Soar: Miss C. M. Williams. Eglwysbach: Miss Jones a Miss Roberts. Disgwylir fod yr oglwysi eraill wedi trefnu casglyddion erbyn hyn. Dolwyddelen.—Gofynwyd i Mri Mills ac Evaus ymweled a'r eiddo yn Dol- wyddelen, ac i drefnu am of at y capel. Y Gymanfa.-Argymhellwyd yt eg lwysi i ifurfio Cymanfaoedd lleol i'r plant, gan nad yw y Gylchdaith yn dy- muno cynnal y Gymanfa arferol dan yr amgylehiadau preseanol. Pregethwyr Cynorthwyol.—Pasiwyd pleidlais o ddiolcbgarwch i bregethwyr cynorthwyol y Gylchdaith am eu gwas' anaeth ffyddlon y flwyddyn ddiweddaf. Gwerthfawrogir eu llaiur yn fawr, ac y mae yr eglwysi yn ddyledus iddynt am foddiannau bendithiol iawn. Ein Gweinidogion. Penderfynwyd yn unfrydol ein bod yn rhoddi War Bonus o ddeg punt yr un i'r ddau wein idog i gyfarfod i fesur bychan a gofynion y dyddiau hyn. Circuit Stewards.—Ail-etholwyd Mri Ed. Mills a T. R. Jones yn Oruehwyl." wyr am y flwyddyn hon eto. Talwyd -diolchgarweh gwresog iddynt am eu llatfur diflino yn y gorffennol. Pwyllgor Wedi Rhyfei."—Etholwyd y brodyr canlynol i ffurfio Pwyllgor i ofalu am fuddiannau milwyr a morwyr yr eglwysi-Dr. W. G. Owen, Mri J. R. Jones, Albert Jones, W. Williams, W. Fielding, Isaac Roberts, ac A. J. Roberts. Wedi'r cyfarfod cafwyd te arddercbog iawn, rhoddedig gan Mrs Jones, Y Bull. Yr oedd yn ofidus gan y brodyr nas gallai Mrs Jones fod yn bresennol oher wydd afiechyd. Tra yn diolch iddi am ei haelioni, dymunai y brodyr iddi adfer- iad buan. Diolchwyd befyd i Mrs Smith Williams, Mrs H. Hughes, a Mrs Evans am eu cynorthwy.
I- CAERGYBI.I
CAERGYBI. Cynhaliwyd cyfarfod chwarterol y Gylchdaith uchod ym Maelog, Ionawr 2fed, dan lywyddiaeth y Parch E. Mostyn Jones. Hefyd yroedd yn bres- ennol yr oil o'r Gweinidogion, ynghyda'r GoruchwyIwyr-Mri Richard Beard, a E. D. Williams. Darllenwyd rhan o'r Ysgrythyr gan yr Arolygwr, a gweddiwyd yn ddoeth ac effeithiol gan Mr John Board. Darllenwyd y cofnodion gan Mr Llew Jones, a chadarnhawyd hwy fel rhai oywir. Derbyniwyd y cyfrifon yn llawn o bob eglwys, a llawenychai y cyfarfod fod sefyllfa ariannol y Gylchdaith mor fodd- haol. Gofynwyd i'r gweinidogion beidio rhoi addewid i'r un gylchdaith arall hyd cyf- arfod chwarterol Mawrth, ac addawodd yr oil. Yn unol a chais y Gynhadledd, dewis" wyd pwyllgor, sef un o bob eglwys yn y Gylchdaith, i wylicd buddiannau y mil- wyr, y sydd neu eto ddaw gartre o'r rhyfel, adewiswyd Mr Lake Jones yn ysgrifennydd. Ar gynygiad y Parch Daniel Williams, pasiwyd penderfyniad unfrydol ein bod feI cyfarfod yn gwrthwynebu gwaith y Llywodraeth yn difreinio y gwrthwyn- ebwyr cydwybodol 0 lpleIdlals, ac fod y penderfyniad i'w anfon i'r Prif Weinid- og Pasiwyd pleidlais o gydymdeimlad dwfn ac amryw o deuluoedd gyfarfydd- odd a phrofedigaetliàuyn ystod y chwarter. Diolchwyd yn gynnes i'r ddau Oruch- wyliwr am eugwasanaeth werthfawr am y flwyddyn, ac ail etholwyd hwy, ac addawodd y ddau. Hefyd diolchwyd yn wresog i ysgrifennydd y cyfarfod, ac ail- etholwyd ef am tiwyddyn arall. Yr un modd ysgrifennydd Dirwestol. Llawenydd nid bychan oedd gan- y cyf- arfod ddeall am yr anrhydedd a osodwyd ar briod Mr Richard Beard, Goruchwyl iwr y Gylchdaith, trwy iddi gael ei dewis yn unfrydol yn Lady Guardian. Pas- iwyd i anfon Uongyfarchiadau y cyfar- fod i Mrs Beard, gan ctdymuno hir aros- fa yn ei newydd swydd, ac arweiniad y nef i wylio buddiannau y tlodion. Cafwyd trafodaeth fuddiol ar agwedd ysbrydol yr achos, pryd agorwyd yr ym- ddiddan yn rymus gan y Parch David Jones, a dilynwyd ef gan amryw o'r brodyr. Pasiwyd i argymeU yr eglwysi i estyn ?-mwy 0 gydnabyddiaeth i'r Pregethwyr Cynorthwyol am eu gwasanaeth werth- fawr a chymeradwy i'r Gylchdaith. Ar y terfyn mwynhawyd caredig- rwydd diflino Miss Owen, Ty Hen, a diolchwyd yn gynnes iddi gan y Parch. David Jones, a Mr Richard Beard.
|CYLCHDAITH WYDDGRUG. I
CYLCHDAITH WYDDGRUG. I Cynhaliwyd cyfarfod chwarterol y Gylchdaith yn Pendref, dydd Mercher, Ionawr 2fed, o dan lywyddiaeth y Parch Wm. Morris Jones, B A. Yroedd hefyd yn bresennol y Parch R. T. Rob- erts, Mri Henry R. Williams, a William Thomas, Goruchwylwyr, ynghyda chyn. rychiolaeth o'r eglwysi. Derbyniwyd cyfrifon a chyfraniadau yr eglwysi. Diolchwyd ac ail-etholwyd y swydd- ogion canlynol :-Mr Thos. Hopwood, Ysgrifennydd Addysg; Mr Charles Pownall, Ysgiifennydd y Capeli; Mr Thos. Hughes, Ysgrifennydd y Cyfarfod Chwarterol; a Mr Frederick G. Evans, Trysorydd Trysorfa Ymgeiswyr am y Weinidogaeth. Pasiwyd pleidlais o gydymdeimlad a'r rhai canlynol yn eu profedigaeth i—-Mr John Davies, Cemetery Lodge, Wydd- grug, yn colli ei annwyl briod teulu Mr J. R. Roberts, Victoria Terrace, Wydd- grug; Mr Joseph Bartley a'r teulu, Gwernymynydd Mrs Barlow, Wydd- grug, a Mr Robert Williams, Pantdu. Hefyd a'r Parch R. Vaughan Owen yn ei afiechyd, ac yn hyderu am adferiad buan iddo. Ar cais yr Arolygwr, etholwyd un aelod o bob eglwys ar yr "After the War Committee, ac ysgrifennydd y cyfarfod yn ysgriiennydd i'r pwyllgor. Daeth y Parch R T. Roberts a mater Dirwest o flaen y cyfarfod, yn erfyn am gael mwy o sylw i'r mater, a chael cyfrif manwl o'r holl ddirwestwyr yn y Gylchdaith. Yna cafwyd trafodaeth ynglyn a'r Genhadaeth Dramor. Pasiwyd i wobr- wyo y plant yn gynt eleni, a bod Mr W. Garston i ofalu am y bathodau. Yna cafwyd ymddiddan ar agwedd ysbrydol yr achos. Siaradwyd gan yr Arolygwr, a Mr Alun Jones, Nercwys, ac ar ol canu emyn gweddiwyd gan am- ryw o'r brodyr, a'n profiad yw ein bod wedi cael cyfarfod da iawn. Cafwyd trafodaeth ynglyn a'r Trem- ydd," a phasiwyd fod Pendref i gael llai c ddeuddeg o'r Tremydd, a Bethesda a-Nercwys i gael chwech yn ychwaneg- ol. Darparwyd yn garedig ar gyfer y frawdoliaeth gan gyfeillion Pendref, a gwasanaethwyd wrhhy byrddau gan Mrs Charles Pownall, a Mrs Henry R. Wil- liams. Diolchwyd yn wresog iddynt am eu caredigrwydd. T. H., Ysg.
ICYLCHDAITH LLANASA, -j
I CYLCHDAITH LLANASA, j Cynhaliwyd cyfarfod chwaiterol y Gylchdaith uchod yn y Groes, prydnawn Sadwrn, Rhagfyr 29ain, o dan lywydd iaeth y Parch. Wm. Owen, yn cael ei gynorthwyo gan y Parch W. G. Y/il- liams. Yn bresennol, y ddau Oruch- wyliwr, y Mri E. E. Davies a Thomas Williams, ynghyd a chynrychiolaeth o bob eglwys. Darllenwyd cofnodion y cyfarfod blaonorol, a chadarnhawyd y cyfryw. Pasiwyd pleidlais o gydymdeimlad gyda'r rhai canlynol-Priod a mab y diweadar Edward McDonald; Joseph T. Luke, Mostyn, ar ol colli ei briod; Isaac Jones, Mostyn, wedi' colli mab yn y frwydr; Joseph Edwards, Ffynnon- groyw, yntau wedi colli mab ar faes y frwydr: y Parch Richard Hopwood, Wrexham, tIhb yr hwn a laddwydd ar faes y gwaed. Cynhygiodd y Parch W. G. Williams anfon llythyrau cydymdeimlad a'r rhai canlynol yn eu gwaeledd iechyd :—John Sauvage, Arthur Williams, John Price, Edward Williams, Wm. A. Jones, a John Hughes. Dywedodd y Llywydd y disgwylir i gasgiiadau y Genbadaeth Dramor fod mewn llaw erbyn Ionawr 17eg. Diolchwyd i'r Goruchwylwyr am eu gwasanaeth yn ystod y flwyddyn, ac ail- etholwyd hwy yn unfrydol. Diolchwyd i Mr John Parry am ei wasanaeth gwerthfawr yntau ynglyn a Thaflenni yr Ymddiriedolwyr, a phas- iwyd ofyn iddo barhau am flwyddyn arall. Galwodd y Llywydd sylwatySaboth cyntaf o'r flwyddyn, ac awgrymodd y priodoldeb o gynnal cyfarfodydd gweddio ar hyd y dydd. Penderfynwyd After the War Com- mittee'' i gael ei ffurfio o'r gwahanol eglwysi ar gais y Gynhadledd. Fod pob eglwys i ethol dau o leiaf ar y Pwyllgor, a bod Mr Wm. Parry, Picton, i fad yn ysgrifennydd. Cynhygiodd Mr W. Roberts, Mostyn, ar ran y frawdoliaeth, fod enw Mr J. R. Williams i fod pr y Plan nesaf fel un ar brawl. Cafwyd ymdrafosiaeth o berthynas i'r Assessment sydd ar y Gylchdaith, a phenderfynwyd derbyn ychwanegiad, oddeutu 4fc. yr aelod yn flynyddol. Penderfynwyd fod Pwyllgor yr Ysgol Sul, sydd i gyfarfod yn nechreu Ionawr, yn trefnu ar gyfer yr Arholiad ym mis Mawrth. Darllenwyd cyfrifon y chwarter blaenorol, a chafwyd fod yea ddiffyg o P,2 10s. Terfynwyd yn brydlon, wedi cael cyfarfod da ar y cyfan. i
Advertising
University College of Wales, ABERYSTWYTH (One of the Constituent Colleges of the University of Wales). OPENED 1872. President:—Sir JOHN WILLIAMS, Bart., M.D., D.Sc, G.C.V.O. Principal: T. F. ROBERTS, M.A. (Oxon), Ll.D. (Vict.)J THE Session begins in September. JL Lectures commence early in October. Entrance Scholarships and Exhibitions, open to both male and female candidates above the age of 16, are offered for Com- petition at the commencement of the Ses- sion. Students are prepared for Degrees in Arts, Science (including the Applied Science of Agriculture), Law and Music. Sessional Composition Fee-in Arts [12, in Science [16. Sessional Registration Fee, £ 1. Men Students reside in Registered Lodgings in the town, or at the Men's Hostel-Warden: Mr H. H. Paine, M.A., B.Sc. Women Students reside in the Alexandra Hall of Residence for Women Warden Miss C. P. Tremain, B.A. For full particulars respecting the General Arts and Science Departments, the Law De- partment, the Agricultural Department, the Departments for the Training of Ele- mentary and Secondary School Teachers, and the Hostels, apply to- J. H. DAVIES, M.A., Registrar. M „ RHiWNSATIC — ANHWYLDEB Y KIDNEY. Y mae rhiwmatic yn ganlyniad uric acid crystals yn y llywethau a'r cymmalau, effaith gormod o uric acid yn y cyfansodd- iad y methodd yr elwlod (kidneys) ei symud fel y bwriadodd natur; gyda hyn y cytuna pob meddyg graddedig. A'r acid hwn yw'r achos o boen yn y cefn, lumbago, sciatica, gout, anhwyldeb y dwr, carreg grafel, a dropsy. I' Mae llwyddiant Tabledi Estora at drfÐ Rhiwmatie a ffurfiau eraill o anhwyldeb yr elwlod i'w briodoli i'r ffaith eu bod vn adferu'r elwlod i weithredu'n naturiol, a a thrwy hynny o angenrheidrwydd a symuda'r effeithiau drwg a ddeillia o hono ac mae wedi iachau achosion dirif- edi gwedi methiant meddyginiaethau eraill, yr hyn sy'n cyfrif am danynt yn prysur gymeryd lle'r meddyginiaethau hen ffasiwn a werthir am brisiau sydd allan d gyrraedd pawb ond y cyfoethog. Mae Tabledi Estora yn llawn deil- yngu y desgrifiad ohonynt—meddygin- iaeth onest am bris gonest—1/3 y blwch o 40 dabledi, neu chwe blychiad am 6/9. Ar werth gan Fferyllwyr ymhobman, neu'n rhad trwy'r post, amy prisiau hyn oddi- wrth Estora Co., 132, Charing Cross Road, London, W.C. ME ROH ED. Dioddefa Merched yn fynych eddiwrth saldra, cur a phoen, o dan yr argraff eubod yn ebyrth i afiechydon sy'n gyffredin i'r ystlen deg, ond yn amlach nag i'r gwrth- wyneb y mae i'w briodoli i'r elwod (kid- neys), ac mewn achosion o'r fath fe fydd i flychaid neu ddau o ESTORA TABLETS eu llwyr adferu 0 leiaf, mae'r prawf yn werth ei wneud, gan fod dedwyddwch a llwyddiant merch ar hyd ei hoes yn dibyn- nu yn hollol ar ei hiechyd. Fflint Agent, Walter Topping, Pharma- cist. Blaenau Festiniog Agent-Hugh Jones Medical Hall. ^———————~ < < Yr Epistol at y Philipiaid. ESBONIAD DIGURO. "UJSBONIAD diguro ar yr Epistol at y Philipiaid gan y Parch. B. Humphreys, Felinfoel. Pris gostyngol, 1/ drwy'r post, 1/3. Y mae wedi ei rwymo mewn llian, ac y mae ynddo 146 o du- dalennau. Rhoddir saith am bris chwech. Anfoner yr achebion i' Parch. EDWIN JONES, Barmouth. INDIVIDUAL COMMUNION CUPS i .J J. FOR LISTS OF Patent" Ideal" Outfits, AND Samples on Approval, Carriage Paid, write to the Makers- Townshends, Ltd., Birmingham