Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

CYNHEBRWNG Y PASCF. T. J.…

CORRIS nCHAF. !

IPONTERWYD.I

News
Cite
Share

PONTERWYD. I Un o'r Gwroniaid-—T&enwyd prudd- der mawr tros yr ardal hon pan dder- byniwyd y newydd fod y brawd ieuanc I hawddgar, addawol, Gunner Emlyn M. Jones, R.G.A mab Mr a Mrs Edward Jones, Gwynfa, wedi syrthio yn Ffraine, dydd Sadwrn, yr 22ain o Ehagfyr. Ys grifennodd y Caplan dí Giaddasom ef ar brydnawn Sabboth, a daeth tyrfa o'i • gyd- filwyr ynghyd o barch i wron ieuanc ■ o filwr fu farw dros ei wlad wrth gyf- Iawui ei ddyledswydd yn ffyddlon hyd angau, a gosodwyd croes i ddynodi man jfechen ei fedd. Derbyniwyd llythyrau •o gydymdeimlad heblaw oddiwrth y Caplan Martin, oddiwrth Major Colman, yr hwn a ddywed: His loss to me is great, for he was one of those remaining who came out with the Battery, and who has shared all the discomforts of | the twelve months we have spent over- sea together." Lieut. Neville a ddywed: Your son was in my section for the last six months, and during the whole of that time I found him a most conseien- tious worker, a cheerful comrade, and a fine example to the other men in the Battery." Nos Fercher, Ionawr 9, cynhaliwyd cyfarfod coffa yn eglwys y Methodist- iaid, Ponterwyd, lie yr oadd yn aelod. Daeth tyrfa fawr yDghyd, a ehymerwyd rhan yn y cyfarfod ganMri William Evans, a Thomas Morgan, blaenoriaid Mr Jones, yr Ysgolfeistr; Mr Arthur Jones, pregethwr, Ystumtaen, a'r Parchn Charles Evans, Vicar, G. Bedford Rob- erts, a Thomas Morris. Yr oedd y capel wedi ei wisgo yn brudd-brydferth erbyn yr achlysnr gan Miss Hall. Dywedwyd pathau rhagorol am y brawd ieuanc gan bawb. Dygwyd tystiolaeth i'w sirioldeb a'i dynerwch ac unplygrwydd di-gwest- iwn ei fywyd. Hdffid ef gan bawb yn ddiwahaniaeth fel un o'r bechgyn an- wylaf fagwyd erioed yn yr ardal. Dis gwylid ef adref i Gwynfa oddeutu y Nadolig, ond tri diwrnod cyn hynny ehedodd ei ysbryd oaredig a gwrol i'r Wynfa fry. Ac nis gwelwydef, canys Duw a'i cymerodd ef. Cydymdeimlir yn fawr a'r teulu yn eu galar, a bydded iddynt dderbyn o'i gys- uron Ef yn eu trallod. Ysgrifennodd yn ei Ddydd-lyfr gyfrif manwl o'i symudiadau hyd Rhagfyr 3, lie yr ysgrifenna, All day off, duty in Rest Camp Ha t gorffwysa'n dawel heddyw o swn duty y rhyfel erch Ar ddiwedd y Dydd-lyfr ceir ef wedi ysgrif- ennu y ddau bennill a ganlyn :— Craig yr Oeaoedd. Rhof fy nhroed y fan a fynnwyf Ar sigledig bethau'r byd, Ysgwyd mae y tir 0 danaf, Darnau'n cwympo i lawr o hyd. Ond os caf fy nhraed i sengu Yn y storom fawr a'i ohwyth, Ar dragwyddol Graig yr Oesoedd, Dyma fan na syfla byth. Pwyso'r bore ar fy nheulu, Colli rheiny y prydnawn, Pwyso eilwaith ar gyfeillion, Hwythau'n colli'n fuan iawn. Pwyso ar hawddfyd, hwnnw'n siglo, Profi'n fuan newid byd, Pwyso ar Iesu-dyma gryfder Sydd yn dal y pwysau i gyd. Ac erbyn hyn y mae Emlyn wedi profi fod yr Iesa'n dal. Teimlir chwithdod mawr ar ei ol gan bawb. j GeR. I -1

[No title]

Advertising