Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

CYNHEBRWNG Y PASCF. T. J.…

News
Cite
Share

CYNHEBRWNG Y PASCF. T. J. PRITCH- ARD, CADEIRYDJ TALoAITH Y DE. Dydd Gwener, Ionawr 25ain, cyrchai i Gaerdydd rai o'r nifer fawr alarant golli y gwr da uchod er bod yn bresennol yn ei gyn- hebrwng, 'Roedd y rhai hyn yn Ilawer yn cynwys y rhan fwyaf o weinidogion y dalaith, amryw Jeygwyr, brodyr o'r cylch Seisnig cyfagos, ac o enwadau eraill, ynghyda cyfeillion y Gylchdaith. Ond rhan fechan oen't o'r rhai adaabu y Parch T. J. Pritchard, a chredwn fod pawb a'i hadnabu yn gaiaru ei ymadawiad. Oblegid gwr a berchid ac a anwylid yn fawr oedd efe. Hawdd dyfod i'r casgliad yna pe bae genym ddim ond ei gladdedigaeth i farnu wrtho. Y Parch T. Rowlands a fu'n cyd-lafurio ag ef mewn pethau taleithol oedd yn arwain y gweith- rediadau. Gwasanaethwyd yn y cartref trwy ddarllen rhan o'r Ysgrythyr gan y Parch T. Oliver, Brynmawr, ac mewn gweddi gan y Parch H. Jones-Davies, Pontar- dawe Yna cyrchwyd i Gapel y Wesleaid Seisnig#Crwys Road ar y ffordd i Gladdfa'r dref. Dechreu- wyd y gwasanaeth yno trwy ganu Emyn 737. Yna arweiniwyd trwy ddarllen rhan o'r Ysgrythyr gan y Parch E. Tegwyd Davies, Ysgrifennydd y Gymanfa, ac arweiniwyd mewn gweddi gan y Parch John Davies, Aberdar. Yna canwyd yr emyn adnabyddus- lesu cyfaill f'enaid cu." Yna siaradodd y Parch T. Row- lands. Hysbysodd fod llythyrau o gydymdeimlad wedi eu derbyn oddiwrth y Parchn T. Hughes a John Felix, Cadeirwyr yTaleithau Gogleddol, ac oddiwith weinidog- ion drwy'r Taleithiau, y rhai ynt rhy luosog i'w henwi. Dywedodd Mr Rowlands ei fod yng nghwmni Mr Pritchard y dydd Gwener cyn iddo huno, a bu'r amser a fu yn ei gwmni yr adeg honno yn fendithiol iddo; tangnefedd yn ffynnu ac yn teyrnasu. Ni welodd neb erioed yn wynebu marw yn fwy tawel ei feddwl a'i ysbryd. Oblegid yr oedd yn sicr fod Mr Pritchard yn ymwybodol fod y diwedd yn agos hau. Amlygai ei ddiddordeb mewn trefniadau ynglyn a'r gwaith 'Roedd yn nodedig am ei dyner wch a'i garedigrwydd; a'i ffydd- londeb i'w frodyr yn ddifwlch. Er iddo ddnngo i swydd a safle uchel yn ei enwad, ni ddifethodd swydd na safle 'mo'i ddynoliaeth. Yna siaradwyd gan y Parch Evan Isaac, Llywydd y Gymanfa. Ebai Mr Isaac: Nid yw yn hawdd siarad. 'Roedd Mr Pritchard yn ddyn da, o feddwl pur. Nid dyn cyffredin mohonno. 'Roedd yn perchen doniau anghyffredin. Pro ffWydai ei gyhoedd pan yn ieuanc bethau da am dano. 'Roedd yti ddyn diwylliedig. Ni wyddai am neb mwy diwylliedig yu esgyn i bwlpud Cymru. 'Roedd yn ddi- winydd cryf, yn gyfarwydd a'r maes; ac yn fardd a'i awen yn hoew. Mae rhai o'i emynau a fyddant byw tra bo Cymro i'w canu. Er wedi marw mae yn llefaru eto yn ei emynau, 'Roedd yn ddy* gwerthfawr ar lawer cyfrif: yn naturiol dyner. Ac yr I oedd ei wendidau-os yn wendid- au-yn rhai naturiol ac nid yn rhai moesol. Dyn tyner, llednais oedd. Ac nid oes neb ar ei ol hyd y gwyddai yn gwbl yr un fath ag ef. Cafodd ei gydnabod a'i anrhyd- eddu gan ei enwad; elholwyd ef yn Llywydd y Gymanfaj a rhodd odd yntau urddas i'w swydd. .Gwnaed efyn Gadeiryddr-Talaith y De, ac fe arweiniodd ei gyd weinidogion yn dyner. Un o'r cymhwysterau oedd ynddo ydoedd ei fod yn hollol ddifalais. Nid amlygodd surni erioed yn y rhed- egfa, ac nid oedd dialedd yn >. 2 perthyn iddo. 'Roedd yn Gristion annwyl. Meddyliai y byd o'i deulu. Duw fyddo gyda hwy yn eu hiraeth, a chyda'r wlad. Yna siaradwyd gan y Parch Rd. Morgan, Abertawe: Adwaenai Mr Pritchard er yn foreu iawn. Clybu am dano gyntaf fel adnoddwr gwych ynghyda'r Band of Hope. A phan aeth i'w wrando argraffwyd arno yn fawr gan ei gallineb. Magwyd ef ar aelwyd ysbrydol iawn ni freintiwyd neb ac awyr- gylch mwy manteisiol i ddatblygu yr ysbrydol. A derbyniodd yntau (Mr Morgan) rai o fendithion mwy- af ei fywyd trwy gyfarfod ar yr aelwyd yma ynghyd a'i frawd y Parch D. Morgan, gyda Mr Pritch- ard a'i frawd yntau, y diweddar Barch Jacob Pritchard a Mr Price Powell. Cafodd yno weledigaeth ddwyfol ac ysorydol. Cyfranodd T J. (fel y'i gelwid) megis Paul, o'i enaid yn ei weinid- ogaeth. Ei nodweddion oedd- cyfdillgarwch, caredigrwydd, ac addfwynder. 'Rocdd addfwynder Crist ar ei fywyd. 0 ran ei allu— 'roedd ei alluoedd yn rhai parchus. 'Roedd yn fardd a lienor. Bydd rhai o'i emynau fyw yn hir, yn eu- wedig emyn 857, Erfyniad ar ddechrmi blwyddyn." 'Roedd yn nodedig fel cyfiethydd, ac os bydd- ai eisieu cyfieithu ato ef y byddid yn myned. 'Roedd hefyd yn breg- ethwr, ni ddigwyddodd ei glywed, ar ei uchelfannau pan oedd yn ysgubol, ond pan y'i clywodd, mwyn, melus, prydferth, tlws, oedd ei brif nodwedd fel pregethwr. Y prif beth ynglyn ag ef oedd ei ysbrydolrwydd. Diolch am dano fel yr oedd. Dygwyd tystiolaeth bellach iddo gan y Parch Thomas Jones, Fern- dale. Ebai: Hawddach wylo na, siarad. Teimlai ei fod wedi colli cyfaill. Teimlai pan y'i gweloddj gyntaf, oddeutu 42 o flwyddai yni ol, ei fod yn engraifft o'r hyn ddylai! pregethwr Wesleaidd fod. Amlyg-1 odd ei syched amddiwylliant wrthj wneud cais am gael myned i'r! Athrofa yn hytrach na chael ei or- deinio, a llwyddodd. Ac yr oedd yn ddyn diwylliedig. Yn yr Athrpfa daeth i gyffyrddiad Dr. W. B. Pope, Uwch-holwyddorydd," yr hwn a gyfieithiodd i'r Gymraeg wedi hynny: Aeth i Dalaith y Gogledd, ond dychwelodd i'r De, j lie yr oedd ei ymlyniad. Ordein" I iwyd hwy yr un pryd, a theimlai yn chwith wrth weld ei gyfeillion yr Ed 2g honno yn cael eu cymeryd ymaith o un i un. Anrhydeddwyd ef heblaw gan ei enwad. Bu yn Llywydd Eglwysi Rhyddion Cylch Aberdar, &c. Nod ei fywyd oedd esiampl Crist. Ei brofiad ar ei wely marw oedd-popeth yn dda. Wedi canu'r penill cyntaf o'r emyn Craig yr Oesoedd," arwein- iwyd i derfynu trwy weddi gan y Parch. E. D. Thomas, Treorci, a chyrchwyd i'r gladdfa. Gwasan- aethwyd ar lan y bedd trwy ddar- llen rhan o'r Ysgrythyr gan y Parch H. 0. Hughes, Caerdydd, ac arwein- iwyd mewn gweddi gan y Parch R Emrys Jones, Porth, a chanwyd Bydd myrdd o ryfeddodau" i derfynu. Mae xnan fecfian ei fedd mewn llanerch ddymunol i deim- lad y byw. A sicr yw ei fod yng nghynteddau ty ei Dad. Ygobaith sydd yng Nghrist fyddo'n gysur i'r teulu a'r perthynasau yn eu galar, a nawdd y nef fyddo dros holl i gylchoedd ei lafur. GeR. G@H. CYDNABOD GYDYMDEIMLAD. I Dymuna Mrs Pritchard a'r teulu gydnabod yn ddiolchgar y llythyr- au a anfonwyd atynt i gydym deimlo a hwy yn eu profedigaeth chwerw a'u colled ym marwolaeth y Parch T. J. Pritchard. Da fuasai eu hateb yn bersonol, ond mae y nifer yn lliosog. Yr Eiddoch. T. W. DAVIBS. j

CORRIS nCHAF. !

IPONTERWYD.I

[No title]

Advertising