Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

9 articles on this Page

MYNYDD SEION, LERPWL.

- BAGILLT.

I ,PWUHEU AR CYLCH. I

News
Cite
Share

PWUHEU AR CYLCH. Sabboth y Nadolig bu y Parch Gwynfryn Jones yn pregethu ym I Mhwllheli a Nefyn. Cafwyd odfacn grymus a. meSus. Bu yn annerch ar gau y tafarnau, yn Neuadd y Dre y noson fiaenorol yng nghwmni gwr llithrig a hyawdl ei ddawn-gwr c Amerig. « Bu y Parch W. P. Roberts, Aberdyfi, yn pregethu yn Tyddyn a Rhiw yr un i Sabboth, a phregethodd bore dydd Nadolig, o dan nawdd Cynghor yr Eglwyei Rhyddion, yn nghapel Seisnig Ala Road—pregeth Gymraeg. Bu y darlithydd a'r pregetbwr enwog, Mr W. O. Jones, Aber, yii traddodi I cyfres o ddarlithiau yn niwedd y flwydd- yn. Yn Abersoch gyda'r Methodistiaid pregethodd ar y Sul, a'r nos flaenorol dygodd "Comon Sens" i'r ardal drwy ei ddarlith boblogaidd. Yn Carmel, Myriytho (W):dysgodd "Ddistawrwydd'' iddynt, a chafodd y ddarlith y fath effaith ar y cadeirydd, W. W. Griffith, Ysw., Castellmarch, nes peri iddo yn ddistaw roddi rhodd anrhydeddus o ddwy bunt at yr achos. Gwr trugarog at y tlawd a hael at achosion crefyddol yw y bonwr a'r teulu. Y. n Seion, Pwllheli, nos ola'r fiwydd-1 yn, bu yn traethn mewn hwyl i dyrfa fawr a'r LwJrdra a Gwirionedd," Hugh Pritchard, Ysw., Cyfeithiwr, Cynghorydd Trefol a Sirol, yn llywyddu. Rhoddodd y bdneddwr hael, Mr. Richard Roberts, Hope House, a'r llywydd roddion teilwng at y drysorfa. I hebrwng yr ben flwyddyn a chroes- awu y newydd i mewn, pregethodd W.O." i gynulleidfa barchus. Aufonodd eglwysi y Gylchdaith Qerdyn Nadolig, ynghyda rhoddion sylweddol, i'w bechgyn sydd yn gwas- anaethu eu gwlad yng ngwahanol rannau o'r byd. Bu Plant Seion, o dan arweiniad Mr T. J. Roberts, a Miss Griffith, Hirwaen, yn cyfeilio, yn cynorthwyo cyfeillion Carmel i gynnal Gwylnos. Cafwyd canu swynol ae elw sylweddol. Yr oedd ymddygiad y gynulleidfa fawr yn deilwng iawn o efelychiad. Capt. Jones, Brynbugail, yn arwain, a Mr Thomas Williams yn llywyddu. Bu y Dr Gwenogfryn Evans-gwr o ddysg, yn trigo yn y fro-yn llanw pwlpud Rehoboth, Llanbedrog, rai dyddiau yn ol. >!< ¡ Daeth gair o Swyddfa Rhyfel fod Willie Green, un o blant Seion, ynghyda I Robert Hughes, mab Mrs Catherine Hughes, North Street, wedi syrthio yn aberth i gynddaredd y Rhyfel yn yr ym- gyrch yn ymyl Jerusalem. Hefyd Wm. Pratt, un on plant, wedi ei glwyfo yn dost. Yehydig ddyddiau yn ol derbyn- iwyd y. newydd fd yr olaf wedi ennill y Fathodyn Eilwrol. Mae galar a gofidiau yn dygyfor yn yr ardaloedd hyn o herwydd fod gobeithion y dyfodol yn cael eu tony, i lawr. Brysied Hedd- wch i deyrnasu dros y byd. GWALIA.

i I LLYSFAEN.

CORRIS UCHAF.

[No title]

ABERMAW.

I :NODION 0 1DDOLGELLAU.1

Advertising