Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

LLYTEYRAU Y MILWYK*I

News
Cite
Share

LLYTEYRAU Y MILWYK* I I LLITH Y CAPLAN A. W. I DAVIES. Annwyl Gwynfryn, Hyd yn hyn ni welais fawr o'r hen Ddinas gysegredig, gwelais rhyw lain ohon-i y Sadwrn, a bum hyd rhai o'i hystrydoedd culion, a thrwy rai o'i phyrth, nad elai camel drwyddynt ,Ar un olwg, lied tlawd yw, a'r trigolion heb fod yn lan iawn eu harferion, ag yn ddiameu y mae'n ddinas ar ei phen ei hun. Nid oes swn na dwndwr llaw- weithfeydd o'i mewn, mae yna ddigon o siopau, ychydig yn drefnus, ond y llu yn. fler ac anel- wig yr olwg arnynt. <' Dinas crefydd yw, er fod digon o grafangu am bres o'i mewn, a budrelwa, ond y mae hyn hefyd ar linellau crefydd. Ni welais erioed y fath gasgliad o bobi, amrywiol ac od eu diwyg, a'r fath amrywiaeth wynebau, a'r cyfan yn edrych yn henafol, hyd yn oed y bechgyn, fel pe yn perthyh i'r oesau gynt. Awgryma popeth y lie, a'r trigol ion, eu bod fel pe yn perthyn i'r oesau gynt, at hynny awgryma yr olwg ar y trigolion, nad oes y fath beth ag unoliaeth o'i mewn. Nid cenedl welir, ond cynrychiolaeth o lu o wahanol genedloedd-rhyw museum dynol o'r gorllewin a'r dwyrain. A gwelir hefyd gynrychiolwyr gwabanol ganghennau Cristionog- aeth, yn yr offeiriaid lu sydd yma, yn Roegiaid, Russiaid, Armeniaid, Aiphtiaid, Abbysiniaid, Syriaid, a Rhufain Pabyddol; a Phrotestan- iaeth, at hynny, gwahanol gang. hennau o'r Eglwys Fohametanaidd. Mae y lie yn dryfrith o Eglwysi bach a mawr, a'r gystadleuaeth yn "llym rhwng yr Eglwys Rufeinig a Groegaidd. Mae rhai eglwysi hardd iawn, ac y Mae yma un o. demlau mwyaf godidog Mohamet Mae y He yn fyw o draddodiadau a ffurf- iau, ac ofergoeliaeth, a llu o'r Eglwysi yn fudr dywyll, fel gwyll yr hwyr yn glos i anadl dyn gan y Ilu Ilusernau losgir; ac addoliad ym mynd ymlaen bob awr o'r dydd. Y mae llawer o chantio ym rnhob gwasanaeth, yn y cywair lleddf. Roeddwn ar neges fach o linell blaen y rhyfel yng nghyfeiriad Jericho, aethum i odre y ddinas, i'vv chwr dwyreiniol, mae hen eglwys yno, a chati fod gennyf hamdden bach, troais i mewn, canys dywed traddodiad mai yno claddwyd "Mair màm yr lesu," a gwelais fan tybiedig ei bedd. Gwasanaeth Arminaidd elai ym- laen, a phe deallwn yr iaith, prin gaHwn addoli gan lu y seremoniau rhyfedd. Dinas henaint crefydd yw, a'r pwys pennaf ar yr allannol;ar aral I fyd. Mae yma luoedd lawer o fynachod a mynachesau, a'u myn- achdai; crefydd awgrymir i ddyn ymhob man, a phob man cysegredig sydd yma, a phob colofn neu adeilad bron godwyd, oherwydd crefydd codwyd y cyfan. Er hynny, teimla dyn rhyw asbri rhyfedd yn ei feddiannu. Lie bynnag y mae Gethsemane, a'r man y bu'r lesu yn yr awr gyfyng honno yn gweddio y weddi ddy- falaf"; Me bynnag y mae Calfaria a man ei fedd a'i adgyfodiad, os nad ellir nodi yn bendantfy llecyn, y mae Jaynyn cyffroi yspryd dyn yn rhyfedd mai yma y bu Efe yn dysgu dioddef a marw, a byw er ein mwy n. Gellwch feddwl mae rhyw deim- ladau go rnyfedd feddiannai dyn yn rhyfela tua Bethlehem. Daeth un ataf, swyddog gwrol, ac ni honna dduwioldeb, er yn swyddog a dynoliaeth rhagorol-" Padre!' imeddai, nid wyf yn hoffi y drych- feddwl o ymladd ym Methlehem." Buom yn, ymladd yn galed rhwng I HebrQnaBethlehem, ond gweith- iwyd allan gynllun y rhyfel, fel na fu angen rhyfela ym Methlehem. Aeth llu o ergydion ein gynnau drosti, ond heb gyffwrdd a charieg o'i rnewn, ac wedi i ni unwaith symud y gelyn, dilynasom mor gyflym ar ei wartha, fel na chafodd amser i ymladd rhwng Bethlehem a Jerusalem. Aetiiom ar ei ol, a daethom i darawiad ag ef yng ngwaelod y mur dw/reiniol o'r ddinas. Yr oedd wedi cymeryd ei safle ar Fynydd yr Olewydd, a ninnau ar gopa twr, dan gysgod y mur. Deuai yr ergydion mdn yn gawod dros ein pennau, gan daro yn erbyn hen fur Tiberias, a dis- gynilawrheb ddimniwed. 'Roedd tftn eul- gynau peiriannol yma yn erchyll. Borea drannoeth, y Llun, gyda'r gvYyil, symudasom hwy i'r bryniais a'r mynyddoedd rhwng yr Olewydd a Jericho. Bu hefyd ysgarmes tua Bethphage a Bethania. Teimlwn yn ysgarmes yr Olewydd ein bod mewn Gethse- mane fach, oherwydd uoledd a drwg calan y byd. Y bore Liar hwn o flaen yr Ol- ewydd, wrth jrYCh tr y ddinas, gwelwn enfys yn fwa euraidd, ac ymyl arian yn pontio drosti, un pen i gyfeiriad Bethlehem a'r Hall i gyfeiriad Bethel. Er gwaethaf y rhyfel hon, a'i dig a annwn, eto mae gobaith "cymod byd ynddo Ef." Am ysbald wedyn ar yr Olew- ydd, ac o gyfeiriad Bethphage a Bethania yr ymladdem, fel mae dyn yn cono taith olaf yr lesu drwy y lleoedd bach yma, a'i eiriau pan welodd Efe y ddinas: Efe a wyl- odd drosti, a phe gwybuaset tithau, ie, yn y dydd hwn, y pethau a berthynent i'th heddwch, eithr yn awr maent yn guddiedig oddiwrth dy lygaid." A golygfa fawreddog sydd ar y ddinas o ben yr Olewydd ei mur iau, a'i thyrrau, a'i heglwysi a'i thai, nid yr un adeiladau, eto rhoddant i ddyn, argraff byw o ddylanwad yr olygfa ar feddwt yr lesu, a thynged dyfodol y ddinas. Ac o'r He yr wyf yn awr gwelaf y pentref feach tawel, cysglyd, ar fryncyn bach, lie 'roedd y teulu hoff caredig Lazarus, a'i ddwy chwaer He enciliedig, a thynfa naturiol i'r lesu, o ragrith a ffurfioldeb y dydd blinai ysbryd, a thwrf y bobl. Yn y pellter gwelaf o ben y mynydd Jericho, lie 'rhoes olwg i'r dall, Bartimeus, ithaid tewi yn awr, yn y rhyfel yr ym, yn swn ergydion, ac ym- drech galed, ond o drugaredd bach yw ein colledion. Yr ym wedi ennill y Haw uwchaf ar y gelyn, ac ym meddu y safleoedd goreu, ac yn raddol ei wthio ymhella^h o'r ddinas, lie mae llaw trwm ei orthrwm a'i greulonder wedi bod yn fawr a thost iawn. Mae y bechgyn hoff yn hynod o hyderus a goddefgar yn eu cystudd, a'r cyfan yn hiraethu am wawr heddwch. Y mae y croeso gawsom wedi bod yn hynod, tynnai ddwfr o lygaid dyn: rhai mewn Seisnig sathredig, God wae you lluch- ient flodau a dail olewydd atom, rhai a dagrau yn dylifo fel defnyn- nau gwlith i lawr eu gruddiau. Dyddiau rhyfedd yw rhain, ac mae meddwl dyn mewn pair heb wybod beth i'w ddweyd, ond ymddiried yn Nuw fel rhai y dyddiau gynt. Cohon serchog, A. W. DAVIES, C.F., Att. 175 Welsh Regt. 159 Infantry Brigade, 53 Division, E.E.F.

Advertising

Y GWRTHWYNEBYDD CYDWYBODOL.