Skip to main content
Hide Articles List

5 articles on this Page

[No title]

Y Diweddar Blrcb. T. J. Pritchard…

TRYSORFA'R " GWYLIEDYDD NEWYDD."

[No title]

Deddf yr Eglwys Gymreig.

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

Deddf yr Eglwys Gymreig. I (Gan Mr HAYDN JON-ES, A.S.). Galwyd fy sylw at lythyr gan Esgob Ty Ddewi a gyhoeddwyd yn y 'South Wales Daily News' am y 5ed o'r mis hwn. Ymddeng- ys i mi ei fod yn bennaf yn atebiad i sylwadau a wnaed gan fy nghyf- aill a'm cyd-aelod, Mr Llewelyn Williams. Mae'm cyfaill yn hollol abl i ateb drosto ei hun, ac am sylw'r Esgob ar yr hyn a ddywedoddefe nid oes angen i mi ddweyd dim. Sut bynnag, wrth basio mae'r Esgob yn cyfeirio at lythyr o'm heiddo a gyhoeddwyd drwy'r wasg. Ya y llythyr hwnnw gwnaethum osodiadau penodol ynghylch effaith gohirio dyddiad dadwaddoliad ar gyllid yr Eglwys Gymreig yn y dyfodol, sef 1. Mai yr unig golled a achosir drwy'r gohiriad ydyw yr hyn' gymer le ynglyn a bywiolaethau a ddaw'n wag cyn dyddiau dad- waddoliad." Mae pob bywwiol- 'aethau ddaw'n wag, wrth gwrs, yn rhoi diwedd ar bob budd personol A chymryd yn ganiataol y bydd 150 o fywiolaethau yn dyfod yn wag, bydd y golled flynyddol yn £ "17,550. A phrisio hyn yn ol pryniant 13eg mlynedd, mae'r golled mewn cyfalaf yn £ "228,150. 2. Mae yna enillion drwy'r gohirad sydd yri gosod yr Eglwys mewn safle ariannol gryfach nag a fuasai pe rhoddasid y Ddeddf mewn gweithrediad ar unwaith. Dyma y rhai hyn:- (a) Drwy gynnydd yng ngwerth y Degwm,—a amcan gyfrifir yn £ 46,000 yn 1918, yr hyn sydd yn gyfartal i gyfalaf o £ 598,000. (b) Drwy'r ennill yn y blwydd- daliadau a delir yn lIe Degwm allan o'r Commutation Fund. 0 dan y Ddeddf mae blwydd-dal i'w dalu i bob un sy'n dal byw ioliaeth blwyfol yn lie Uegwm Mae pob gohiriad o flwyddyn gan hynny yn golygu arbediad o un flwyddyn o Flwydd dal. Effaith y tair blynedd o ohiriad sydd eisoes wedi myned heibio ydyw arbed o leiaf £ "220,000. (c) Byddai yr ychwanegiadau hyn at y Commutation Fund, ynghyd a'r cynnydd yn y llogau ar ba rai y buddsoddir y Drysor- fa,—o 3-1 y cant,—yn golygu cyn- nydd yn nerbyuiadau yr Eglwys (ar ol tynnu allan y golled a nodir uchod yn paragrafi 1) o 67,550 y flwyddyn, ac yn gwneud y derbyniadau yn ddigon i gyfar- fod cyflog y clerigwyr fel y safent yn 1916, gan adael gweddill o cl6,212 hob ddefynddio ceiniog o gyfalaf aruthrol y Commu- tation Fund o tua 21 o filiynau o bunaau. Yr unig bwynt ar ba un y mae'r Esgob yn gwrthwynebu ydyw fy ngosodiad yn paragraff 2 (a) fod y £ 46,000 o gynnydd blynyddol yn y Degwm-yr hyn sy'n gyfartal i gynnydd o E598,000 mewn cyfalaf, -yn ennill parhaol i'r Eglwys. Ei ddadl ef ydyw fod y swm hwn yn cael ei gyflwyno drosodd i'r rhai fydd yn dal y bywiolaethau, ac felly nad yw yn ddim ond budd personol i'r rhai fydd yn dal byw- iolaethau yn awr. Nid oes amheuaeth nad yw y clerigwyr ar hyn o bryd yn derbyn llawn fudd y cynnydd yng ngwerth y Degwm, and mae haeriad yr Esgob fod Corff Cynrychioliadol yr Eglwys yn gyfreithiol gyfrifol i barhau i'w dalu ar ol dyddiad datgysylltiadyn hollol anghywir. Oblegid tra y mae'r Ddeddf yn gosod i lawr yn fanwl fod yn rhaid i'r Degwm gael ei brynu rhwng y Genedl a Chorff Cynrychioliadol yr Eglwys yn ol y cyfartaledd saith mlynyddol fydd at y pryd mewn grym, mae y Ddeddf yr un' mor bendant yn ymgadw rhag rhwymo Corff Cyn- rychioliadol yr Eglwys i bender- fynu yn ol yr un cyfartaledd, swm y blwydd-daliadau a delir i r rhai fydd yn dal bywiolaethau. Mae y Ddeddf yn darpar fod y blwydd- daliadau a delir i'r rhai fydd yn dal bywiolaethau yn lie Degwm i fod yn ddarostyndeig i unrhyw drefn- iant a wneir rhyngddynt a'r Corff Cynrychioliadol.' A ydyw yr Esgob yn ddifrifol yn disgwyl i'r cyhoedd gredu y bydd y blwydd- daliadau yn cael eu penderfynu yn ol gwerth eithriadol o uchel y Degwm fel y digwyddo fod ar ddyddiad dadwaddoliad,' ac nid yn hytrach yn ol y gwerth fydd yn cynrychioli cyfartaledd teg? A yw yr Esgob yn awgrymu fod y clerigwyr i fwynhau Elw Rhyfel yn adeg Heddwch ? Ac os yw yn golygu hyn, a ydyw efe yn meddwl v bydd i unrhyw Gorff Cynrychiol- iadol roi ei gefnogaeth i'r fath syniad ? Oherwydd fod: gennyf fwy o ffydd na hynyna yn noethin- eb a deheurwydd rrfasnachol y Corff Cynrychioliadoly darfui mi haeru yn fy llythyr blaenorol, a daliai i haeru eto fod y cynnydd hwn yng ngwerth y Degwm yn golygu cynnydd parhaol yng nghyllid yr Eglwys wedi ei Datgysylltu. Gyda golwg ar paragraff yn lythyr yr Esgob ymha un y cyfeiria at y swm o £ 31,000 sydd fel yr haera efe yn ymddangos ar un ochr i'r fantolen ac nid ar yr ochr arall, dymunaf ei atgofio fod y Papur Seneddol am Mawrth 20fed, 1913, ar ba un y mae efe yn seilio ei ddadl, yn cynnwys hefyd atebiad yr Ysgrifennydd Cartrefol i'r haeriad yna. Mae'r Esgob yn an- wybyddu yr atebiad hwn. Ond hyd yn oed pe byddai y golled a achosir gan doadwaddoliad £ 31,000 yn fwy na'r amcangyfrif cyntaf,—yr hyn yr wyf yn ei wadu,—ni byddai hynny yn effei thiodim ar fy nadl fod y gohiriad oherwydd y rhyfel nidi wcdi achosi colled, fel y ceisia yr Esgob gael gan bobl gredu, ond wedi sicrhau ennill sylweddol i'r Eglwys. 0 berthynas i eiriau terfynol yr Esgob yng nghylch yr anhawster arswydus a achosir i'r Corff Cyn- rychioliadol drwy ddihysbyddiad ariannol y wlad gan y Rhyfel mewnpodi cyfraniada U gwirfoddol y cyfalaf mawr fydd yn angen- rheidiol er gwneud i fyny yr hyn,a gollir o'r hen Waddoliadau; yr wyf yn dadleu eto na bydd angen am godi cyfalaf o'r fath. Ac a gaf fi atgofio'r Esgob fod yna Eglwysi eraill, yn cynrychioli y mwyafrif aruthrol o drigolion Cymru, gan nad pa ddiffyg ariannol fydd yn ystod y rhyfel ac wedi iddo fyned heibio, yn gorfod casglu bob cein- iog fydd yn eisiau at cyfalaf ac at gostauary pryddrwy ymdrech wirfoddol Awgryma'r Esgob nad yw Mr Llewelyn Williams a minnau yn cynrychioli teimlad Anghydffurf- wyr Cymru. Yr wyf yn hollol fodIon i adael.hyn i'w benderfynu gan fy nghydwladwyr. Mae'r icwestiwn yn fwy na chwestiwn ariannol. Cwestiwn ydyw o beth yw y gwir, yr holl wir, a dim ond y gwir. Os oes rhyw Anghyd- ffurfwyr wedi eu harwain i ddym- uno newid y Ddeddf, yr achos o hynny yw yr haeriadau unorchrog a chamarweiniol a wneir gan foneddigion fel yr Esgob, y rhai nid ydynt byth yn colli cyfle i siarad am y golled,—sydd yn fychan,-a byth yn dweyd am yr ennill,—sydd yn llawer mwy, Wrth siarad ac ysgrifennu am y Ddeddf, yr unig beth ag yr wyf yn awyddus am dano ydyw am i'r union wir gael ei wneud yn hys. bys. Pan y dealla fy nghyd-wlad- wYr beth yw y gwir, byddant yn edrych ar > Ddeddf nid yn unig fel un sydd yn cyfiawn, ond hefyd fel un sydd yn neilltuol ohael tuag at yr Eglwys sydd wedi ei datgys- sylltu. <