Skip to main content
Hide Articles List

5 articles on this Page

[No title]

Y Diweddar Blrcb. T. J. Pritchard…

News
Cite
Share

Y Diweddar Blrcb. T. J. Pritchard Xfilandjfi), Cadeirjdd Talaith y De. Pan y clywais, ac y gwelais ei 4U ddarlun byw yn y South Wales Daily News," dydd Mawrth, cod- odd hiraeth calon, ac aeth deigryn dros fy ngrudd, a saeth i'm bron, ac aeth fy meddwl yn chwim yn ol dros ddeugain mlynedd i Bethel," Capel y Wesleaid, Rhigos, pan y :safai yn y pulpud yn llanc ieuanc, Uwydlas ei wedd, yn rhoi Emyn allan i ddechreu y cwrdd. O! y thrill deimlais; yr oedd ganddo lais swynol, a gallai bwysleisio yr adeg honno, ond nid oedd wedi ei Verffeitlqio, na'i gaboli ond ychydig i'w gymharu a'r hyn ddaeth ar ol llyn. Yr oedd y pryd hwnnvv gar- 'tref gyda'i rieni yn Ferndale. Cydiodd fy serch ynddo, ac er iddo .grwydro, am ysbaid i'r Coleg a -mannau eraill, parheais i'w garu a'i edmygu am ei ddawn, a'i ath- rylith, a'i foneddigeiddrwydd. Yr oedd yn dywysog ymhlith ei frodyr fel boneddwr yr oedd yn debyg i -4' Cynfaen yn y gras hwn, a'r ddau yn debyg i'r Iesu. Y tro diweddai i mi ei weld, a -chael gair ganddo, oedd yng onghapel Eglwysbach, Pontypridd, yn y Convention alwyd oddeutu blwyddyn yn ol i geisio deffroi ein gilydd i ymgysegriad 1 waith yr Arglwydd. Canfyddwn fod rhyw 44 bryfyn wedi cydio gafael ynddo, ac oedd yn dechreu bwy to. ei nerth. Yr oedd y goler wen oedd am ei wddf yn dechreu llacio, dywedais wrthyf fy hun, ac wrth fy meddyg niwyn, Mr Arthur Jones, y mae arnaf ofn fod yna elyn ynglyn ac ef sydd yn mynd i'w dynnu i'r Byd a ddaw:" ac celiddo ym ladd yn galed i'w orchfygu, a chael help meddyg- ol goraf tref Caerdydd, awelon mor Porthcawl, a thynerwch priod, brawd, a chyfeillion hoff, angau a -orfu, ac aeth i mewn i'r Orffwysfa dragwyddol, mewn "cariad a hedd," dydd Llun, lonawr 21ain, yn -65 mlwydd oed. Cefais lawer o'i gwmni yma a thraw. oblegid yr oedd yn breg- .ethwr cyrddau mawr," ac yn ystod yr ugain mlynedd diweddaf yr wyf wedi erwydro tipyn fy hun clyw- ais ef yn pregethu yn Llansamlet, Port Talbot, a Chwm Nedd, ac mewn lleoedd eraill nad oes gen- Bym ni achosion ynddynt. Nid wyf yn meddwl nad oes capel yn «in Talaith fach ni, nad oedd Glandyfi wedi bod yn pregethu, darlithio, neu areithio ynddo; ac ambell dro yr oedd yn feistr ar y -gynulleidfa, a byddai y dylanwad- au dwyfol yn rymus. Pregethai yn fynych yn Seisnig, yr oedd ganddo svocabulary eang, a da: ni fu yn ddiffygiol mewn iaith. Tra yn byw yn Aberdar, cefais lawer o'i gymdeithas yn y capel, ac yn y ty. Yr oedd yma yn an- terth ei nerth: pregethai yn ddwys, ac ambell foreu Sabboth yr oedd yn hedfan yn uchel i'r uchel derau, a byddai y gwlith yn disgyn "yn drwm, nes ireiddio'r prennau, v planhigion, a'r egin grawn. Elai i mewn drwy ddrws y cynt .,edd i Babell y Cyfarfpd fel aich- offeiriad i ddal cymundeb a Duw ac Q.! fel y gweddiau am fendith- ion i'r praidd, a thros y byd yn ei dlodi a'i wasgfa oedd yn ceisio byw tu allan i fendithion gras. Clywais y diweddar Mr Watkins yn dweyd lawer gwaith: Gresyn ilia fyddai Mr Pritchard yn St.Paul's Cathedral y boreu yma." Ac 0 'r perarogl hyfryd godai o'i ymad- roddion mwyn, a synwyrol yn y gyfeillach nos Iau. Er blinder y dydd a'i helyntion,—-melus a chwerw,-teinilem yn y seiat lawer noson fod "palmwydden a ffyn- non"wedi ei chael, ac adnewydd iad nerth wedi ei dderbyn. Ac ar ol y seiat trown i mewn i'w dy am fygyn a mygom": nid oedd yn gartrefol gydag helyntion y byd, a manion bethau y Gylchdaith, ond Oh! yr oedd yn gartrefol gyda phethau mawr yr efengyl a'r byd ysbrydol: yr oedd yn athraw mewn diwinyddiaeth, athroniaeth, gwy ddoniaeth, a barddoniaeth. Llawer tro y teimlais fod yr amser a dreul- iais yn ei gwmni wedi bod yn ennill dirfawr, ac wedi fy symud r tywyliwch i'r goleuni. Nid oedd surni yn ei natur, a gallech fynd ato fel at blentyn, a gofyn unrhyw beth iddo. Yr oedd mor llawn o wybodaeth a'r Encyclopedia goreu, ac eto heb ymgais i ddangos ei fod yn gwybod dim. Pan yn troi at y bwrdd am damaid ei ymadrodd mynych oedd-" Plain living, high thinking," sydd yma. Siarad yn uchel yr oedd ef bob amser am ei frodyr, ac am bawb pan y tuedd- w'b; pan y tuedd- ai i feirniadu ambell dro, yr oedd ganddo ef ffordd arall i weld y gwrthrych, ac yr oedd honno yn fwy ysblenydd o lawer. Yr oedd yn cael ei ddal, fel pawb, gan ddi- galondid ar rai adegau, ac edrych ai yn ddu a digalon wrth weld ein safle ni fel enwad yn y De, ac yr oedd yn gwbl argyhoeddedig ers blynyddau mai ein hunig iachaw- dwriaeth fel Talaith oedd cael mwy o gyd ddeall rhyngom a'r Dataith agosaf atom. Ond yr oedd yn Gymro i'r earn, ac yn caru ei iaith a'i genedl: wedi y deffroad diweddaf yn yr iaith Gymraeg, Hwyrach y daw yn well eto," meddai. ac y gwelir y Dalaith yn blodeuo fel gardd yr Arglwydd." Pan y dadleuech ag ef ar unrhyw fater, yr oeddych yn rhwym o gan- fod y boneddwr uchel yn dod i'r golwg fel gweithien o aur pur. Yn ol fy marn onest, yr wyf yn medd- wl mae efe oedd un o'r gweinidog- ion mwyaf diwylliedig yn ein Talaith, a'i gymeryd drwodd a thro. Dywed rhywun, o bosibl, fod yna lawer o fan golliadau ynddo, dichon fod. Nid oedd yn Ddeddf Rhoddwr," nag yn "Consrcript"; ac hwyrach ei fod yn wan fel ar- weinydd, gyda rhy ychydig o'r initiative,-o'r mentro i linell y tAn. Ond yr oedd yn arweinydd praidd Duw at y "dyfroedd gris- ial'' a'r borfa werddlas." Gwr tangnefeddus, a'i enaid wedi ei lanw a chariad, a brwdfrydedd yn llifo drosodd i gadw y colledig, ac i amddiffyn muriau y Jerusalem nefol. Cafodd ei fanteisio ac addysg tuhwnt i'w gyfoedion, diau y ceir rhywun mwy ei ddawn na mi i ddadlenu y pethau byn. Nid oedd yn dal ei gorff, ond yn fawr mewn meddwl-" Mind is the standard of man." Rhoddodd yr oil o honno ar allor ei Dduw a'i Eglwys, a bu yn llosgi ac yn goleuo am dros ddeugain mlynedd. Melus fydd dy hunell; cawn gwrdd eto tu draw i'r afon," ac yno ni ddywed neb claf ydwyf." Mountain Ash. HYWELNEDD.

TRYSORFA'R " GWYLIEDYDD NEWYDD."

[No title]

Deddf yr Eglwys Gymreig.