Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

LLYTHYRAU Y MILWYR.

News
Cite
Share

LLYTHYRAU Y MILWYR. :0-. 1. GAIR 0 GANAAN. (Gan y Caplan A. W. DAVIES). Annwyl Gwynfryn,— Yng nghanol mynyddoedd a bryniau Judea yr ym yn awr, y llinell y meddianwn yn awr ar yr ochr orllewinol ydyw o Jaffa i Ramleh (Arimathea). Mae y wlad o Jaffa i Waddy Sarah yn enwog, am mae yma y gorwedd Dyffryn Sharon, lie yr oedd meysydd cnyd- iog gwenith y'Philistiaid. Ystyr yr enw Sharon yw tir esmwyth, golyga tir heb feini o'i mewn; rhennir ef i ddwy ran, y rhan dywodlyd, a'r rhan gynhyrchiol, gelwir y cyntaf yn Rhamleh, a'r ail yn Khassah; ystyr y gair Khassah yw corsennau, a hynny o herwydd y corsennau uchel dyf ar lan rhai o'r man frydiau. Y mae y tir cynhyrchiol rhwng y mein- lenni corsennog. Ceir yma hefyd ychydig o goed, a llawer o fonwn eoed praff-pra wi y bu yno hen goedwig, a dybir oedd yn ei gogon- iant tua'r ail ganrif. Mae'r daith o Jaffa i Jerusalem gyda'r gledrffordd rhywle tua pum deg a thair o filltiroedd. Cyn y rhyfel rhedai dwy gerbydres yn y dydd i'r Ddinas Sanctaidd. Gan belled a Lydda rhed y gledrffordd far hyd wastatir, ac ymhen saith milltir arall croesa y ffordd fawr i'r Ddinas, a throa i gyfeiriad y de- ddwyrain ar draws dyffryn Sharon, ac ymhen ychydig eiliadau ar y daith deuir i olwg yr hen dref fach henafol Ebron, lie dygwyd yr arch o Ashdod, lie sydd yn ddymunol gynhyrchiol, a'i safle ynghanol coed, ac sydd yn awr yn drefedig-j aeth Iuddewig ac yna ymlaen i'r' bryniau mån i le o'r enw Deir-el- Hawa, He yr oedd hen wersyllfa llwyth Dan. Yna deuir at Waddy Surar, ac y rhedwn o'r gwastatir i ucheldiroedd Judea. Aiff y rhyd wely sych yma o dan yr enw1 dyffryn Soreck yn yr ysgrythyrau, cyrion y wlad lie digwyddodd rhamant garwriaethol anffodus Samson a Delilah, un o ferched Philistia. Dipyn i'r gogledd y mae mynydd Jearim, un o derfynnau llwyth Judah yn ol trefniant Jos. uah, ac ar ben y mynydd mae dreflan fach yn aros hyd heddyw. j Y waith hon nid af ymhellach, i bydd gennyf ychwaneg yn y man.: Yn awr yn y cwr arall o'r wlad yr ym-y cwr dwyreiniol. Ond lie; bynnag yr af, nid yn unig o saf- bwynt hanesyddol mewn hanes' hen genhedloedd a gwareiddiad feron hynctf y byd, yr hyn a'n synna mwy na dim yw, mae enwog am grefydd ac ymrysonau gwahanol grefyddau, a'u hymdrech am or- oesiad welir. Dyma'r fan lie 'rym i yn awr ym mherfeddion bryniau j moel, a mynyddoedd gleision yn y pellter, lie nad oes ond ychydig o beritrefi bach, a chlystyrau o ogof eydd yma ac acw, lie gallai dynj deimlo mor unig a Robinson Crusoe. Eto, mae yma nifer o eglwysi, oeddynt yn eu cyfnod, ac ystyried yr amgylchiadau, yn gyw-! rain a chelfydd, a llawer harddach na llu o eglwysi welir hyd yn oed heddyw yng Nghymru. Gerllaw, ar ael y mynydd, mae gweddillion hen' gastell cyfnod y Groegiaid, hefyd hen eglwys ac adran i'r gyn ulleidfa, a chwr neilltuedig i'r, gweinidog i gyflawni ei wasanaeth I yn yr addoliad Awgryma yn ei: flurf hen eglwys Coptaidd, godwyd gan y Cristionogion Aifftaidd, gellir casglu hyn oddiwrth ei ffurf, j y mae yno ymdrochle tanddaearol, I a ffynnon fach gerllaw, a grisiau o wenithfaen yn arwain iddo—aw gryma i mi fedyddle. Yn sicr nid man addoli y Mahometan ydoedd. 0 Gaza i Beersheba, ac o Gaza i Ishmaelia, y mae llu o adfeilion yn profi y gafael oedd ganddynt ar y wlad mewn un cyfnod. Y mae ychydig o olion, ond prin o ddyl- anwad canghennau eraill o'r Egl- wys Gristionogol, yn enwcdig yng nghyrion uchaf y wlad, megis y ganghen Syriaidd, ac Abysiniaidd. I fyny o'r Aifft i'r Ddinas Sanctaidd ol yr Eglwys Gristionogol Copt aidd welir, wedi ei liwio gan gredo y Groegiaid, neu o bosibl yr Eglwys fawr Bazantaidd er hefyd rnai arliw hen grefyddau yr Aifft yn rhai o'i ff urfiau. Mae dyn yn byw mewn lie rhyf- edd, mae cysgodion rhyfedd yr hen oesau dros ysbryd dyn, hen frwydr- au y terfynau, ys dywed Syr O. M. Edwards, brwydrau y terfynau yn wleidyddol a chrefyddol. Ond Ali y Mahomed deyrnasa heddyw; collodd yr Eglwys foreuol ei gog- oniant a'i gafael ar y wlad. t Y dref fach mw yaf Cristionogol yw Bethlehem, ychydig iawn sydd yno o ddilynwyr Mahomed. Ond y mae Hebron yn gryf Fahometan- aidd, oherwydd ei hen gysylltiad traddodiadol ac Abraham, a maes Macphelah, a hen Dderw Mamre, sydd yn fannau cysegredig gan Mahomed, gan y cyfrifent Abra- ham yn un o'r tadau. Yn y cyrion uwchaf yma y mae y Mahomed yn addolgar, yn ddef- odol a seremoniol. Golygfa brudd, ag eto llawn swyn, yw gweld y brodorion, a'r haul ar fachlud, yn taenu eu gwrthban ar y ddaear, yn gadael popeth i gymeryd ei, siawns, i benlinio ac ymgrymu tro,, ar ol tro hyd nes cilia yr haul i'w orwel. Gwlad crefydd, bro cred yw: deuthum ar draws! droion yn y ffosydd ar ol ym lid ymaith y Twrc ambell ddalen o'r Koran, a deuthum hefyd chwar- ae teg ar draws lawer i Destament a dalen ohonno yn y ffosydd, ag ar y maes, ar ol ein bechgyn hoff ni: ac ambell i un Cymraeg hefyd. Mae swyn anrhaethol i'r bechgyn yn y wlad, hiraethant am weled y lleoedd cysegredig dywedodd ambell i un wrthyf y buasai'n ogoneddus cael odfa y Nadolig ym Methlehem, ac mi fuasai y man a'r lie yn ysprydoli dyn yn fwy nag erioed i sylweddoli y Gvr anwyd ynddi." Wn i ddim ai felly y bydd-yn y rhyfel yr ym. Os na ddigwydd hynny bydd em llygaid arno Ef a'n gobaith ynddo Ef yn aros am dangnefedd dwfn, gwir- ioneddol i'r bvd. Pe na buasai rhyfel buasai dyn yn hapus iawn, ac yn foddion gras teithio drwy y wlad; ond mae cysgod du y gyflafanyn peri i ddyn deimlo pe nas gwelai y Ddinas Sanctaidd byth y carai weld y diwedd. Rhwygir calon dyn gan rai peth- au: aethum gyda'm gorchwyl i dacluso mynwent fach yng nghes- ail y bryniau gerllaw. Ar y ffordd yr oedd mynwent fach, ac un bedd- rod a'm tarawai yn syn, ar groes fach dodwyd wrth ben y bedd yr oedd y geiriau, Er cof am fy an- wyl frawd." Yn gyfochrog yr oedd bedd arall diweddarach, ac ar hwnnw groes fach a'r geiriau syml, byw, tarawiadol: "Yma y gor wedd y brawd Bychan y credai y buasai yntau yn gorwedd yn ochr ei frawd, ond dyma'r hanes du o hyd. -Er diffygion y bechgyn, ant drwy eu blin gystuddiau mewn ysbryd hynod o eddef ar a lion. Bu llawer ohonynt ym mrwydfau a chyflafan Suvla a Gallipoli, rhai wedi bod allan o'r dechreu, prin yr edwyn eu plant hwynt gan feith- der amser, pe'r elent gartref. Ym- daith drwy dir eras a sychedig, prinder dwfr, pecynnau trwm, brwydrau niferus, eto yn gallu ymgodi uwchlaw y cyfan mewn hunanlywodraeth. Yng ngwlad "yOr Iesu yr ym, a'r Nadolig geillaw, 0 na chlywid drwy y broydd, Gog- oniant i Dduw yn y goruchafion, ar y ddaear tangnefedd i ddynion, o'i ewyllys da. Fe ddaw ymwar. ed, mae Duw wrth y llyw." Cofion serchog, A. W. DAVIES, C.F., Att. 1/5 Welsh Regt. I 159 Infantry Brigade, 53, Division, E.E.F.

Advertising