Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

COLWYN BAY.

I COLWYN.

News
Cite
Share

I COLWYN. Prydnawn Sabbofch, y Nadolig, bu farw yr hen frawd William Jones, Pre- gethwr. Ni fu yn nychu ond prin bymthegnos, ac nid oedd neb yn disgwyl y diwedd mor sydyn. Bu farw fel y bu fyw, yn bur dawel a pharod. Yr ydym eisioes yn teimlo chwithdod mawr ar ei ol yn y cyfarfod gweddi a'r seiat. Eithriad fyddai i'w le fod yn wag, a phob amser yn barod gyda gair pwrpasol, a byddai ei weddiau bob amser yn amlygiad byw o feddylgarwch ysbrydol, ac amgyffrediad clir o sefyllfa ac angen byd ac eglwys. Bu ein diweddar frawd yn rhagorol mewn cyfeiriad. Clywais iddo bregethu am dros ddeugain mlynedd heb dorri ei Blan ond dwywaitb, a hynny o dan amgylchiadau nas gallai ei helpu,— recfJrd go dda onido. Yr oedd yn bregtthw-r cymeradwy iawn, yn neilltuol o wreiddiol yn ei S'ordd o ddod a gwers adref i'w wrandawvr. Brodor ydoedd o Gwernaffield Sir Fflint, ond yr oedd yn byw yn y gymydogaeth yma ers dros ugain mlynedd. Claddwyd ef dydd Iau, y 27ain o Rhagfyr. Wrth y ty darllenwyd gan y Parch R. Moreton Roberts, a gweddiwyd gan y Parch Moses Roberts. Yn v capel darllenwyd gan y Parch D. Angel Richards; a siaradwyd gan y Parch Thos. Charles Roberts yn cyfleu gwerfcb- fawrogiad o wasanaeth gymeradwy, ac yn cydymdeimlo a'r teulu yn eu trallod. Gweddiwyd gan y Parch Hugh Hbghes, ac ar lan y bedd darllenwyd gan y Parch R. M. Roberts, a gweddiwyd gan y Parch E. Arthur Morris. Daeth tyrfa fawr i dalu y gymwynas olaf 1 n hannwyl frawd. Yr un noson cafwyd seiat gotfa, a chafwyd cyfoiriadau tyner iawn gan ein parcbus weinidog y Sabboth diwedd- af. Y mae ein cydymdeimlad llwyraf gyda'r ddwy ferch, a'r wyr, a adewir yn amddifad. Y Duw mawr a/u diddano I yn eu hiraeth i'w dymuniad ein calon. BERA. I

TREGARON. I

[No title]

Advertising