Skip to main content
Hide Articles List

5 articles on this Page

COLWYN BAY.

News
Cite
Share

COLWYN BAY. Chwitb i ni yma fydd colli yr hen dad ffyddlon, hynaws, a medrus, Jonathan Roberts. Yr oedd yn 84 mlwydd oed, ac yn gwaelu ers peth amser: Treuliodd y misoedd olaf o'r daith yn Llysfaen, lie y gofalwyd yn dirion iawn am dano gan Mrs Owens, un o hen aelodau ffyddlon ei restr yn yr Ysgol Sul; ni fu pall ar ofal Mrs Owens. Nid oes gofod i roddi ond yn unig fraslinelliad o'i hanes, onide gellid ysgrifennu ystori faith a rhamantus. Ganwyd ein gwrthrycli yng Ngbefn Mawr, yn y flwyddyn 1834. Yr oedd ei ii3ni yn Wesleaid selog a ffyddlon, a dygwvd y bachgen i fyny i feddwl yn ucbel o'i enwad ac i barcbu ei draddod- iadau. Meddai atgofion byw o fywyd eelwysig y cvlch ac o'r cewri fuont yn Efengylu ynfhen gapel y Cefn o dro i dro; yn eu plith Rowland Hughes, Dafydd Williams (" Yr hen frenin "), Richard Bonner (yr hwn a'i bedyddiodd;, Lot Hughes, Methusaleh Thomas, a Thomas Aubrey. Derbyniodd ei addysg foreuol yn Ysgol Genedlaethol yr ardal, ond daoghosodd ei argyhoeddiadau Ymneilltuol yn gynnar, drwy wrthod uno yn yr orymdaith wythnosol i Eglwys y Llan, am yr hyn y gwrthod- odd y Person ganiatau iddo aros yn hwy yn yr ysPol Achlysurodd hyn iddo orfod dechreu gweitbio yn ieuanc. Er hynny, manteisiai ar bob cyfleus- tra i ddiwyllio ei feddwl, ac edrychid arno fel un. yn meddu ar wybodaeth I cytfredicol tubwnt i'r cyffredin. Ymadawodd ag ardal ei enedigaetb, yn wr ieuanc oddeutu deunaw oed, am Boiton, yn Swydd Lancaster. Ond dyebwe'odd i ardal Cefn Mawr pan yr cedd cynhwfr y Bwrdd Y sgel yn dech- reu ennili sylw y trigolion. Cymerodd ran amlwg yn yr ysgarmes frwd yn y flwyddyn 1871, a gweithiodd yn galed dreg yr ymgeisydd Rbyddfrydol (y- diweddar Ddr. Llugwy Owen, M.A.), )r hwn a ddychwelwyd gyda mwafrif mawr, ac yn erbyn arolygydd y gwaith yn yr hwn y dilynai ofe ei alwedigaeth, yr byn sydd brawf o'i ffyddlondeb i gydwybod a'r syniad o iawnder. Sym udodd oddiyno i Frymbo, lie y bu yn trigo am 12 mlynedd, ac o fawr wasan- aeth i'r achos, fel Ymddiriedolwyr ac Arolygwr yr Ysgof Sabothol. Yn 1886, daeth i fyw i Golwyn Bay. Ymdaflodd i'r gwaith yn ebrwydd, a buan y gwel- wyd ei gymhwyster arbennig i ofalu am yr ieuainc, oblegyd gwnaed ef yn Arol- ygwr yr Ysgol Sul cyn pen tri mis wedi ei ddyfodia'd i'r dref. Y mae vieli lIen wi y swydd gyfrifol bon amrai weithiau ers hynny Etholwyd ef yn Ymddiriedolwr i'r cpel newydd yn Greenfield Road, ac wedi hynny i'r un cyfrifoldeb ynglyn a chapel newydd Bronynant. Gwrthododd droion gym- eryd ei wneud yn flaenor, ond ar ymadawiad Mr T. Charles Lewis o Golwyn Bay, gwasgwyd arno i lenwi'r bwlch, a chydsyniodd, ac ni fu ei well na'i ffyddlooach yn yr holl eglwysi. Etholwyd ef yn Oruchwyliwr y Gylch- daith yn 1906 o'r hon swydd yr ymddi- swyddodd, yn ol y rheol, gydag anrhyd- edd, ddiwedd y flwyddyn 1909. Yr oedd yn foreddwr o ysbryd caredig a siriol, yn wrthrych parch ac ymddiried- aeth pawb a'i hadwaena, ac yn dra pboblogaidd gyda phobl ieuainc a phlant eglwys Horeb. Mewn cyfarfod i'r plant, a gynbaliwyd yn Horeb, Colwyn Bay, gofynnodd y Ilywydd i'r rhai bychain: Pa berthynas ydyw Mr Jonathan Roberts i chwi ?" Daeth yr atebiad yn ebrwydd o enau degau o'r plant: "Taid! Anwylid ef ganddynt oil, a chan eraill heblaw hwynthwy. Bu farw y Sadwrn olaf o'r hen flwyddyn, a chladdwyd ef ym Mynwent Rhos, Llandrillo, gerllaw Colwyn Bay, dydd Mercher, Ionawr 2ail, 1917. Cafodd gladdedigaeth barcbus iawn. Gweddiwyd wrth y ty gan y Parch R. Moreton Roberts, a chan Ficer Llysfaen; yr oedd y Ficer yn fynycb, yn galw i edrych am dano yn ei waeledd, ac yn hoff iawn o'i gymdeithas. Cynhaliwyd gwasanaeth yng Nghapel Horeb, Colwyn Bay, am un o'r gloch. ¡ Gwelsom yn bresennol y Parchn. D. A. Richards, Moreton Roberts, Hugh Hughes, D. Darley Davies, D. Gwyufryn Jones, A. Lloyd Hughes, Madoc Roberts, R. Roberts (M.C.), H. Williams (A). Derbyniwyd a darllenwyd amryw lythyrau, ac yn eu plith y Parchn. Hugh Jones, D.D Rhys Jones, a Syr J. Herbert Roberts, A.S. Wele gopi o lythyr Syr J. Herbert Roberts :— "Bryngwenallt, Abergele. Dear Mr Dowell, I have heard with great regret of the death of my old friend, Mr Jonathan Roberts Ever since, nearly 25 years ago, I became the Parlia- mentary representative of West Denbighshire, I had the pleasure and the privibge of his friendship. He was indeed a notable example of a fine Christian in character and life, absolutley sincere, in wavering in his devotion to principle in politics and everything else,—a hard, honest, conscientious worker, and an ever loyal friend. I cannot forget the efficient and faithful service which be rendered throughout my political career in the responsible office which he held in connection with the Colwyn Bay Liberal Association. He there displayed qualities of thorough- ness and constant regard for the interests of the cause, which he served, which should be an example to us all. But the life and character of our lost friend, won the respect of all, who knew him, irrespective of political considerations And I feel sure that in relation to the highest things, the Church of which he was a member, will bear full testimony to his work, and example us a true disciple of Jesus Christ. I remain, Yours faithfully, J. HERBERT ROBERTS." Arweiniwyd y moddion yn y Capel gan y Parch D. A. Richards. Darllen- wyd rhan o'r Ysorythyr- gan y Parch Moses Roberts, a gweddiwyd gan y Parch Hugh Hughes. Siaradwyd gan y Parch 0. Madoc Roberts. Oyfeiriodd at wasanaeth Mr Jonathan Roberts ynglyn a'r achos yn Horeb. Anodd, meddai, ydyw meddwl am eglwys Horeb beb ei diweddar frawd gan mor eang a phwysig oedd y cylch lenwid ganddo ynddi. Yr oedd ei synwyr, ei gymeriad, a'i ysbrydol- rwydd yn hawlio iddo le fel an.oinydd, ae yn ddios y mae Mr J.R. yn "dis- tinguished saint" yn y nefoedd. Bu yn foddion i arwain llawer i ymuno a'r achos yn Horeb. Sylwodd ar Mr J.R. fel gwrandawr astud, a'r cynorthwy a fyddai i'r pregethwr. Ni cheid neb a mwy o barch i'r weinidogaeth na Mr J.R. Cyfeiriodd at iouangrwydd ysbryd Mr Roberts. Ni theimlai neb yng nghwmni Mr J.R. ei fod yng nghwmni hen wr. Teimlai ddiddqydeb dwfn yn y bobl ieuainc, a thieuliai lawer o'i amser yn eu cwmni. Yr oedd yn wr eang ei syniadau, ac er nad allai neb efallai newid ei syniadau diwinyddol. Yr oedd ei galon a'i ysbryd yn mynd yn lletach o hyd. Cyfeiriodd Mr Madoc Roberts at y caredigrwydd mawr ddangoswyd i'r brawd gan Eglwys Horeb. Siaradwyd yn nesaf gan y Parch T C. Roberts. Sylwodd fod Mr J.R. yn gymeriad ar ben ei hun. Nodweddid ef gan wreiddiolder. Ar gyfrif ei synwyr cryf, a'i welediad clir, cariai y frawdol iaeth yn wastad gydag ef. Teimlai pawb yn wastad fod Mr Roberts ar ganol llwybr barn. Cymerai i mewn deimlad a barn yr eglwys ar unwaith. Meddai ar ewyllus gref, ond yn eang iawn ei ysbryd. Gwyliai symudiadau y byd yn fanwl, yn wleidyddol a chref- yddol. Sylwodd ar y wasanaeth amhrisiadwy gyflawnodd ynglyn a'r Ysgol Sul. Siaradodd Mr Dowell fel cynrychiol- ydd y Gymdeithas Ryddfrydol, a thalodd deyrnged uchel iddo fel gwladweinydd goleuedig,- cydwybodol, ac ymdrechgar. Terfynwyd-trwy weddi gan y Parch D. Gwynfryn Jones. Gwasanaethwyd wrth y bedd gan y Parch D. A. Richards. Rhoddodd yr eglwys dorch o flodeu ar ei fedd yn arwydd o'i pbarch mawr i'w goffadwr- iaeth.

I COLWYN.

TREGARON. I

[No title]

Advertising