Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

rAMLWCH. t

I CORWEN.I

News
Cite
Share

I CORWEN. Cynhaliwyd cyfarfod chwarterol y Gylehdaith yn Corwen, Ionawr 3ydd, o dan lywyddiaeth medrus yr Arolygwr, Parch' A. Lloyd Hughes, pryd yr oedd yn bresennol gynrychiolaeth o bob lie yn y Gylehdaith. Darllenwyd rhan o'r Ysgrythyr gan yr Arolygwr, a gweddiwyd yn hynod o effeithiol gan y Parch Owen Hughes. Daeth y cyfraniadau yn cynnwys y War Bonus i'r gweinidogion i law yn Ilawn o bob Ile, ac yr oedd hynny yn achos o sirioldeb mawr i'r ddau Oruch wyliwr. Diolchwyd i'r swyddogion canlynol am eu gwasanaeth y flwyddyn ddiwedd- af, ac ail-etholwyd hwy am flwyddyn arall i. wneud yr un gwait.ti -Goruch, wylwyr y Gylchdaith, Dr. Edwards, a Mr Ernest Hughes; Y sgrifennydd Addysg, Mr Ernest Hughes Ysgrifen nydd y Capelau, Mr E. Bowon Jones Ysgrifennydd Cyfarfod Chwarterol, Mr H. H. Evans. Penodwyd Dr. Edwards a Mr Lemuel Williams yn Oruchwyl- wyr y Genhadaeth Dramor. Darllenwyd llythyr Syr R. Perks ynglyn a chynllun y cyfundeb, ar ol y rhyfel. Penodwyd aelodau y cyfarfod chwarterol yn bwyllgor i gario y cynllun allan gyda Mr J. T. Garner yn ysgrifen- nydd, ac hefyd penodwyd ysgrifennydd Ileol ymhob lie drwy Cynygiwyd gan Mr H. H. Evans, ac eiliwyd gan y Parch 0. Hughes, a phasiwyd yn unfrydol ein bod fel cyfar- fod yn dymuno protestio yn erbyn gwaith y Llywodraeth yn difreinio y Gwrthwynebwyr Cydwybodol o'r pleid lais, ac fod y penderfyniad i'w anfon i'r Prifweinidog a Mr Haydn Jones, A. S. Penderfynwyd nad oes Adroddiad Cylchdeithiol rwargraffu elenni, ond argymhellwyd yn niffyg hynny fod adroddiad ariannol o sefyllfa pob eglwys i'w gael ei ddarllen yn gyhoeddus ymhob eglwys y nos Sul cyntaf ar ol cynhaliad y cyfarfod chwarterol, ac hefyd fod adroddiad blynyddol yn cael ei roddi. Pasiwyd i'r ysgrifennydd anfon cofion y cyfarfod at Mr Davies, Wernddu, fel yr aelod hynaf, ac i ddymuno iddo ,flwyddyn newydd dda ymhob ystyr. Cadarnhawyd y gwahoddiad a roddwyd i'r Parch W. O. Evans i ddod i'r gylchdaith i olynnu yr Arolygwr presennol. Cafwyd cyfarfod gwir dda a diwedd- wyd ef gan ein Harolygwr.

CYLCHDAITH MERTHYR TYDFIL.

CYLCHDAITH ABERGELE.

CYLCHDAITH MYNYDD SEION, LERPWL.

j CYLCHDAITH BEAUMARIS.

I CYLCHDAITH PORTHMADOG.