Skip to main content
Hide Articles List

3 articles on this Page

Y GWRTHWYNEBYDD CYD| WYBODOL.…

Advertising

Safle Gweiaidogion Wesleaidd…

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

hynny mewn canlyniad i waith y Gymdeithas honno yn trefnu y Ddirprwyaeth Gymreig o blaid Pryniant a gyferfu ym Mai di- weddaf yn nhy Mr Lloyd George, yr un adeg a Dirprwyaeth Eglwysi Rhyddion Cymru ymhlaid Gwa harddiad dros dymor y Rhyfel. Ym gymerodd Principal Rees a gwneud y trefniadau rhagbarotoawl er cynnal Cynhadledd, ac, yn y modd eang ac agored y cyfeiriais ato, y llwyddwyd i gael tyrfa o bleidwyr Pryniant ynghyd i Landrindod. Ond mae gan Mr Roberts gwest- iwn arall, sef, 3. Pwy oedd yn talu y costau? Fy ateb yw—Mr John Hinds, A.S, a Mr Dan Thomas, Abertawe-y ddau foneddwr a etholwyd gan y Gynhadledd i ofaiu am ammunition ariannol yr ymgyrch. Atgofia hyn fi fod Mr Roberts ymhob un o'i lythyrau yn ysgrifennu fel un wedi ei arswydo oherwydd i'r Gynhad ledd benderfynu ffurfio cronfa gref i amcanion propoganda, a gosod £ 5,000 yn nod i gyrchu ato. Amser a ddengys a lwyddir i sicrhau hynny, ond yr oedd yn amlwg i'r Gynhadledd fod angen trysorfa gref oblegid y defnyddid adnoddau diderfyn bron ers misoedd cyn y Gynhadledd, yng Nghymru fel yn Lloegr, i geisio torfynyglu Pryn- iant. Gwyr rhai o'ch darllenwyr am y lenyddiaeth helaeth a wasg- erir yn barhaus ac yn rhad yng Nghymru ers oddeutu dwy flynedd i wrthwynebu Pryniant gan Gym- deithasau ariannog fel yr United Kingdom Alliance," sydd (yn ol Dr Dawson Burns) ers ymhell dres hanner can mlynedd yn gwario miioedd o bunnau bob bl wyddyn- rhywie rhwng £ 6,000 ac £ 20,000—i gynnal Swyddfeydd ac Agents yn Lloegr a Chymru i hyrwyddo po isi Gwaharddiad, ac wedi i ddwy genhedlaetb fynd heibio yn aflwyddiannus. Yng Nghymanfa Gwynedd clywodd Mr Roberts, fel finnau, y Parch Lewis Edwards, Bangor, yn sicrhau na fyddai prin- der adnoddau ariannol i ymladd yn erbyn Pryniant, ac yn y Gol- euad y dydd o'r blaen dywedai Mr Williams fod yr arian yn dod i mewn fesur y can punt a'r deu can punt Nid wyf yn cwyno oherwydd hynny, oblegid priodol ydyw i bawb ddefnyddio yr arfau goreu sy'n bosibl i ymladd dros eu har- gyhoeddiadau. Ond os caniateir i'r Gwrth brynwyr wneud hynny, yn sicr ddigon ni ddylai Mr Rob erts warafun i'r Prynwyr hwythau wneud yr un peth. but bynnag. dyna fi wedi ateb tri gofyniad fy Inquisitor General, a thybed, Mr Gol., nad wyf yn haeddu tipyn o gredyd am feddu digon o amynedd i ysgrifennu atebion i gwestiynau gwirion ffol o'r fath. Ond mae diweddglo llythyr Mr Roberts cyn ryfedded a'i gwestiyn. au. Caraswn fanylu arno, ond boddlonaf ar un sylw yn un- ig gan fy mod (ö'm hanfodd) eisoes wedi gorfod tresmasu ar eich gofod. Ni wn ddim mwy am helynt Datgys. ylltiad na'r hyn agyhoeddiryn y papyrau. Ond gyda golwg ar y Cynadleddau llechwraidd" a briodolir ganddo i Mr Lloyd George, mae gennyf resymau da dros wrthod ei stori, a hawdd ydyw i mi ac yntau ddwyn y mater hwn o leiaf i bwynt a'i setlo, oblegid tystia Mr Roberts fod y Cynhad leddau llechwraidd" hyn yn cael eu holrain"' i Mr Lloyd George. Cymeraf ef ar ei air, a gofynnaf iddo am ateb unionsyth i un cwest- iwn—dim ond un-cwestiwn teg a phwysig, sef Ym mha le a thua pha .bryd y cynhaliwyd y Cynhadleddau llechwraidd" ymhlaid Pryniant sydd wedi eu "holrain" i Mr Lloyd George? Ac os na all ateb, gofynnaf iddo arba awdur. dod y taena ef stori o'r fath ? "One good turn deserves another." Atebais dri cwestiwn o'i eiddo ef. Dlsgwyliaf y ceir I ganddo yntau ateb dealladwy i un o'm heiddo innau. j Port Dinorwic. THOS. HUGHES. I