Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

[No title]

Heddwch yn Nes.

Safle Gweiaidogion Wesleaidd…

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

Safle Gweiaidogion Wesleaidd Cymreig ynglyn a Phryniant y Fasnach. Feddwol. iNIr Gol. Prysuiaf i ateb y tri cwestiwn rhyfedd y barnodd y Parch W. R. Roberts yn ddoeth eu gofyn imi. Gwelir nad oes a fynnont o gwbl a phennawd ei lythyr, a drwggennyf ei fod yn gwastraffu ei amser ef i'w gofyn a fy amser innau i'w hateb pan mae llawer amgenach gwaith yn galw am ei sylw ef a minnau. Ond pe gadawn ei gwestiynau'n ddisylw ofnaf, yng ngoleu terfyn ei lythyr, y cyfnerthid ei gred mai trick "—(gair Mr Roberts)—Mr Lloyd George ydyw mudiad Pryn- iant, ac mai cynnyrch "cynhadl- eddau cyfrinachol" o drefniant y Piif Weinidog ydyw'r ymdrechion ymhlaid y mudiad. Efallai mai priodol imi cyn mynd ymhellach ydyw crybwyll gyda golwg ar yr hyn sy'n blaenori ei gwestiynau. (1) Nad yw ei fethiant i gael ei ddeiseb yn barod erbyn y dyddiad a nodasai yn cyffwrdd o gwbl a'r camgymeriad dybryd a wnaeth wrth gyhoeddi yn y,'G N." ei fwriad i anfon deiseb at y Prif Weinidog yn erbyn Pryri- 1 iant trwy law deputation Wesle- aidd"—dirprwyaeth oedu dan ofal y Parch Henry Carter, un o arwein- wyr mudiad Pryniant, a gwr na fuasai ar un cyfrif yn ymgymeryd a'r gwaith y bwriadai Mr Roberts ei roddi iddo. Dyna y blunder y gelwais sylw eich darllenwyr ato, ac yn ofer y ceisia Mr Roberts daflu hugan dyllog drosto trwy ddweyd na ddaeth yr enwau i law mewn pryd, o.blegid ni fuasai fymryn haws pe wedi eu cael yn brydlon. (2) Fod angen llawer amgenach rheswm na'r un a gynhygia efe inni dros ei haeriad beiddgar mai ar ochr y Gwrth-Brynwyr y mae'r Nefoedd. Ceisia roddi ffurfresym- egol i'w haeriad, ond petaswn yn dadlu ag ef buaswn ar y trothwy yn gwasgu arno brofi yr hyn a gymerir yn ganiataol yn ei ddadl gyda golwg ar y Wladwriaeth a'r unigol, ac i ymgadw rhag ymres- ymu mewn cylch. Ond i ddod at y cwestiynau. Gofynna Mr Roberts i ddechreu 1. Pa reswm ellir ei roddi gan y Prynwyr dros gynnal eu Cyn- hadleddau mor gyfrinachol ? Fy ateb gonest i'r gofyniad ydyw na wn i am gymaint ag un Gyn- hadledd gyfrinachol o'r fath. Bu gennyf ran mewn cynnull dwy, a gallaf ateb hyd sicrwydd am y ddwy hynny. Cynhadledd Llan- drindod oedd y gyntaf, a chredaf mai honno sy'n pwyso fwyaf ar feddwl Mr Roberts. Ond nid cyfrinachol ydoedd honno'n sicr ddigon. Cyhoeddwyd hi am vvyth- nosau trwy gyfrwng y wasg a hys. byslenni, a channoedd lawer o gylch lythyrau. Datganwyd yn y modd mwyaf eglur mai amcan ei chynnal ydoedd trefnu ymgyrch cenedlaethol ymhlaid Pryniant a Dewisiad Lleol, a chymellwyd pawb oedd yn cymeradwyo'r am. can i ddod iddi. Wedi ei chjqinull fe' cynhaliwyd, nid yn "llechwr- aidd," ond riewn neuadd gyhoedd. us liw dydd goleu. Croesawyd cynrychiolwyr y wasg, a chyhoedd- wyd adroddiadau helaeth o'r holl weithrediadau mewn amryw bap- urau. Ni chelwyd dim, am nad oedd dim i'w gelu. Acynyrhwyr cynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus i hyrwyddo'r mudiad, Cynhaliwyd y Gynhadledd arall ym Mangor i gychwyn ymgyrch yng ngogledd Arfon, a chyffelyb oedd y trefniad- au yna. Deallaf mai ar hyd yr un llinellau y gweithredwyd yng Nghynhadledd Llangefni hefyd. Beth yn y byd mawr a barodd i Mr Roberts ofyn cwestiwn o'r fath ar goedd gwlad ? Ai am mai per- sonau mewn cydymdeimlad a'r amcan a wahoddwyd i'r Cynhadl- eddau hyn ? Onid y ffordd i gych- wyn pob ymgyrch mewn byd ac eglwys ydyw galw ynghyd cared- igion y symudiad ? Tybed fod Mr Roberts yn meddwl y dylesid ei wahodd ef a gwrth brynwyr eraill i Landrindod i gychwyn ymdrech o blaid Pryniant ? Bron na ddy- wedwn fod ei ail ofyniad yn aw- grymu hyn'ny, oblegid dyma yw hwnnw- 2. Pwy oedd yn penderfynu pa Ddiwygwyr Dirwestol (?) oedd yn gymwys i'w gwahodd i Gyn- hadledd Llandrindod ? Fy ateb ydyw—Y Prif Athro Rees, Bangor, a'r personau arwydd- odd (fel finnau) y cylch-lythyr a wasgarwyd ar hyd a lied y wlad. Fy unig reswm dros beidio cy- hoeddi'r enwau, Mr Gol., ydyw awydd i beidio trethu eich gofod yn ddiachos. Ond os dymuna Mr Roberts, cyhoeddaf bob un o hon- ynt gyda- phleser, oblegid nid oes gan unrhyw un ohonom fymryn o gywilydd arddel ein gwaith. Gall- af chwanegu mai swyddogion y "National Temperance Legislation League -y Gymdeithas ragorol y mae'r Crynwr Mr Jos. Rowntree yp Llywydd iddi, a Canon Horsley yn Is-Lywydd, a Mr Alexander Guth- rie yn Drysorydd iddi-a baratodd y ffordd i gynnal y Gynhadledd, a