Skip to main content
Hide Articles List

3 articles on this Page

[No title]

Heddwch yn Nes.

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

Heddwch yn Nes. Yn niwedd ei araith i Gynghres yr Unol Daleithiau mynegodd y Llywydd Wilson beth, yn ol ei farn ef, a'i gynghorwyr, a ddylai y tel- erau fod, ar y rhai y gellir siarad ar heddwch; a hon yn sicr yw yr araith, a'r mynegiad cliriaf, mwyaf rhesymol a wnaed ar bwnc hedd wch er dechreu y rhyfel. Nid oes gennym ofod i fanylu ar yr araith, ond rhoddwn yma grynodeb o'r telerau heddwch." 1, Rhaid i'r drafodaeth yn ei gylch fod yn gwbl agored—dim byd cudd. A rhagllaw rhaid i bob diplomatiaeth a chytundeb rhyngw ladwriaethol fod yn agored a hysbys i'r holl fyd. 2. Rhaid i'r moroedd, mewn hedd- wch a rhyfel, fod yn hollol agored i fasnach pob gwlad, oddigerth ar arfordiroedd, a lie, a phan fod angen en cau i gosbi unrhyw wlad a fo yn an- ffyddlon i gytundeb Cyngrhair y Cenedloedd. 3. Rhaid dileu pob tramgwydd masnachol, a sefydlu telerau masnachol unffurf ymysg yr holl genedloedd a arwyddant y cytundeb, ac a fyddant yn fod- Ion i'w cadw. 4. Rhaid trefnu i leihau arfog- aeth, a chyfarpar rhyfel pob gwlad i'r man iselaf a fO'n gyson a'i diogelwch cartrefol. 5. Atdrefniad agored, teg, cwbl di- duedd o bob cwestiwn trefed igaethol; y trefniad i orffwys ar ewyllys y bobl ymhob rhan dir, yn ogystal ag ar hawl y teyrnasoedd. 6. Holl diriogaethau Rwsia a or esgynwyd 1 gael eu dychwelyd; pob hawl i gael ei roi iddi i drefnu ei llywodraeth ei hun, ac i drefnu ei pherthynasau masnachol gyda gwledydd er aill, ac i ymuno a Chyngrhair y Cenedloedd Rhaid i Rwsia gael pob croesaw a chymorth i ddod i blith y Cenedloedd Rhydd. 7. Rhaid adfer Belgium yn ol. diogelu ei hannibyniaeth, a threfnu ei bod i ymuno yn ddi- rwystr, a llawn, yn Nghyng- rhair y Cenedloedd Rhydd. Hefyd Thaid adfer pob colled a dinistr a wnaed heb ofalu am Belgium yn y dull hwn y mae pob diogelwch i wledydd bych- an, a phob parch i gytundebau rhyngwladwriaetnol wedi eu colli am byth. 8. Rhaid rhyddhau pob tiiiogaeth Ffrengig a bresgynwyd, a rhaid unioni; y cam a wnaed a Ffrainc yn 1871 ynglyn a Thaleithiau Alsace-Lorraine yr hwn gam sydd wedi aflon- yddu ar heddwch y byd am agos i hanner can mlynedd. 9. Atdrefniad y terfynau .Italaidd ar linellau cenedlaetholdeb. 10. Dylid gofalu am unoliaeth a rhyddid cenedlaethol llawn pobl Awstria-Hungari. 11. Holl diroedd Serbia, Rumania, a Montenegro i gael eu dyclv welyd iddynt. Rhaid trefnu fod Serbia yn cael llwybr rhydd i'r mor. Perthynas holl Dal- eithiau y Balkans a'u gilydd i gael ei benderfynu gan gyd ymgynghoriad, a hynny ar lin- ellau gwaedoliaeth ahanes, ac yn seiliedig ar gy tundeb rhyng- wladwriaethol fod diogelwch ac annibyniaeth yr oil i gael eu hamddiffyn. 12. Yr adrannau Tyrcaidd presen- nol o'r Ymherodraeth Ottom- anaidd i barhau yn annibynnol a rhydd. Y cenedloedd eraill sydd o dan awdurdod yr Ym herodrath honno i gael gwar antu iddynt ddiogelwch i fyw heb drais nac aflonyddwch ac i ymddatblygu ar y llinellau a ddewisont. Culfor y Dardan- elles i gael ei agor, yn barhaus, ac o den warant rhyngwlad- wriaethol, i longau masnachol pob gwlad. 13. Rhandiroedd Pwyll, cyn belled ag y mae ei pobl yn Bwylliaid diamheuol, i gael ei gwneud yn dalaith unedig, rhydd ac anni. bynnol, gyda phorthladdoedd, a'i hannibyniaeth i gael ei gwarantu gan gytundebau rhyngwladwriaethol. 14. Dylid trefnu Senedd, neu Gyn- hadledd Rhyngwladwriaethol yn yr hon y gellid atolygu, a sicrhau fod y cytundebau, &c., a drefnwyd yn cael eu parchu, a'u cario allan ynglyn a phob gwlad fychan a mawr. Yn sicr y mae yr araith hon, ac yn canlyn mor fnan ar ol araith Mr Lloyd George, yng Nghyngrhair Llafur y Gweithwyr Prydeinig, yn dwyn heddwch yn nes. Yr oedd araith y Prif Weinidog o nodwedd llawer mwy cymedrol, cliriach, a mwy cyfrifol na'r un o'i areithiau blaenorol, a chyfeiriad nid at ennyn lid ond at ei ddofi. Yr oedd yn gref, ac mewn llawer o bethau y fath nad allai nifer fawr gydol ygu a hi, eto yr oedd ei chyfeiriad yn odidog a chymodlawn. Gresyn na buasai y Llywodraeth wedi medru gwneud y datganiad hwn ysbaid yn gynt; pe buasid wedi cynnwys y pethau hyn yn y Nodyn Cyngrheiriol at y Llywydd Wilson flwyddyn yn ol ni buasai Rwsia yn y cyflwr y mae ynddo yn awr; a chredwn yn sicr y buasai heddwch- wedi ei sylweddoli, a miiiwnau o fywydau gwerthfawr wedi eu hachub. Tybed mai y teulu eithafol" a drigant o gwmpas y Prif Weinidog oedd achos yr oed- iad alaethus. Y mae mynegiad Mr Lloyd George, ar y cyfan, yn rhedeg ar linellau Datganiad Plaid Llafur, a gyhoeddwyd gennym bj theinos yn ol, ac y mae hefyd yn anadlu yr un ysbryd ag eiddo Mr Wilson. Y prif wahaniaeth cydrhwng yr areithiau ydyw y cyfeiriadau ynglyn a Rwsia: nid oedd cyfeir- iad Mr Lloyd George o gwbl yn gynnes, yn wir yr oedd yn oer ac anghroesawol, ac yn tueddu at adael Rwsia i drugaredd y Gallu- oedd Canolog, ond i'r mesur y medrai ei galluoedd a'i hadnoddau hi ei hunan ei hachub. Ar y llaw arall, yr oedd araith Mr Wilson yn groesawol a chynnes tynghedau y Llywydd ei hun a'i wlad i wneud popeth i. adfer Rwsia, ae i'w hachub oddiwrth raib militaraidd Germani, a'i gosod ar ei thraed fel un o weriniaethau eangaf a mwyaf godidog yr holl fyd. Ac os mai rhyfel yw hon i werineiddio y byd, y Llywydd sydd yn ei le ofer son am barchu a chytundebu a Llyw odraeth werinol yn yr Almaen a throi cefn ar un felly yn Rwsia. Y mae y paragraff yn araith Mr Wilson, yn yr hwn y cyfeiria at Rwsia, nid yn unig yn hyodl, ond yn llawn o gariad proffwydol at y bobl, rhyddid, a chyfiawnder Y mae y byd yn- llawn lleisiau cynhyrfus a chythryblus, ond i mi y mae un o'r lleisiau yn fwy cynhyrfiol na'r cwbl-llais pobl Rwsia. Y mae eu syniad am yr hyn sy'n anrhydedd- us, ac uniawn iddynt ei dderbyn wedi ei draethu yn onest a syml, mor hael, a cbyda cymaint o ofal a chariad am eraill fel nad all lai nag ennyn edmygedd pawb sy'n caru dynoliaeth. Gan nad pa un a gred ei harweinwyr presennol hynny a'i paidio, "ein gobaitb, a dyheuad pennaf ein calon ydyw am i ryw ffordd agor fel y gallwn roi help law iddynt hwy, a'u pobl i sylweddoli eu delfryd mchel o ryddid a hedelwoh." Heblaw y cyfeiriad hwn at Rwsia, y mae yn araith Mr Wilson dri o bethau pwysig eraill na cheir cyfeiriad atynt yn natganiad Mr Lloyd George,— (1) Fod yn rhaid i ddiplomatiaeth fod yn agored (2) Fod-yn rhaid i'r moroedd fod yn agored. (3) Symudiad llwyr pob tram gwvdd masnachol. Pa bryd y ceir datganiad ar y pethau hyn gan ein Llywodraeth ni ? Y mae y tri pheth yma, yn sicr, yn mynd i lawr at y sylfeini, ar y rhai yn unig y gall heddwch y dyfodol orffwys yn ddiogel. Ynglyn ag un mater y mae dat- ganiad Mr Lloyd George, a dweyd y lleiaf, yn fwy clir nag un Mr Wilson. Nid ym yn deall yn iawn ei gyfeiriad at Alsace Lorraine a yw efe yn ystyried fod yn rhaid dychwelyd y Taleithiau hyn yn ddiamodol i Ffrainc, a bod yr America yn ymrwymo i barhau y rhyfel hyd nes y gwneir hynny ? Os felly, ofnwn ei fod yn codi tramgwydd aruthr iawn ar ffordd heddwch. Hyd y gwelwn yr oil a ddywed Mr Lloyd George ynglyn a hyn ydyw fod yn rhaid ail ystyr ied y broblem. Bid a fynno, y mae y ddwy araith yn rhwym o gryfhau a gloywi safle plaid rhyddid a heddwch yn yr Almaen, a daw hynny a heddwch ynghynt, ac yn well, nag unrhyw "great push" milwrol pe tae yn bosibl. Dylai y datganiadau lenwi ein calon ninnau ac ymroddiad ac a gobaith; y maent yn cryfhau yr ymgais am heddwch trwy gyd ddeall a gafodd y fath impetus yn llythyr rhagorol Arglwydd Lans downe. Pwysai Llafur, i fesur, a barodd i Mr Lloyd George siarad fel y gwnaeth un o amcanion yr araith oedd cael yt Undebau yn fodlon i ollwng allan o'r yerdydd a'r ffatri- oedd ychwaneg o ddynion ar gyfer y fyddin ond fe ddylai ei heffaith fod yn gwbl wahanol, oblegid dengys yn oleu fod telerau" y gwledydd yn cynnwys lawer o bethau cyffredin, ac y gellid trwy ymdrafodaeth roi pen ar yr ym- ladd. Ni ddaw y teyrnasoedd ronyn yn nes at eu gilydd trwy areithiau nag y maent heddyw, y peth y dylid ei gael bellach ydyw cynhadledd i ymdrafod wyneb yn wyneb.

Safle Gweiaidogion Wesleaidd…