Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

LLYTHYRAU Y MILWYRr

News
Cite
Share

LLYTHYRAU Y MILWYRr GAIR 0 GANAAN. (Gan y Caplan A. W. DAVIES). AnnWYl uwynrryn,— Gair bach eto tra mae cyfle ag hamdden; y mae gennym ham- dden fach heddyw ar ol Sul rhyf eddaf fy oes. Cefais odfa fendith- iol boreu ddoe, a llu yn bresennol, a chawsom y Sacrament ar ol yr odfa. Golwg ryfedd yw hwn ar faes y frwydr dwy gist wag oedd y pyst, a'r llusern dwfr ar eu pen- nau yn ffurfio pwlpud a bwrdd, mewn congl i wely y llifogydd rhwng tri o fryniau Judea ar y ffordd i Hebron, neu rhwng Beer- sheba a Hebron. 'Roedd yna ddwyster mawr yn y cymundeb, a'r bechgyn yn eisteda ar gerrig ffurf- ient esgynfa 1 ael bryn gerllaw, yno buom yn "cafio am angau y groes." Pregethais ar y testun o lVlarc-" N is gellid ei guddio, angen y byd am yr Iesu, gallu yr Iesu yn unig i gwrdd angen y byd yn peri nas gellir ei guddio. O'i ffoiedd a'i drueni daw'r byd ato fel yr unig Waredwr iddi. Yn wir cawsoiii fendith, teimlem oil fod rhywle i droi am obaith o'r trueni mawr hwn. Odfa ryfedd yw odfa ar ol brwydr, lie mae y rhengoedd wedi eu bylchu, a llu yn teimlo fel pe byddai un ochr i'w natur yn oer o golli cyfaill hoff. Ar ol y wasan- aeth, aethum a tri pioneer," ys gelwir hwynt—gwyr medrus eu' dwylaw-am daith fawr i gyfeiriad Beersheba, i dacluso a threfnu beddau y rhai gleddais ym moeth- der y rhyfel o dan y gawod tan. Taith ar draws bryniau ac ysgeir- iau noeth mynyddau y wlad yma, ar draws gwahanol wersyllfaoedd cadarn y gelyn, ac yna ar draws maes ein brwydr ni, lie yr ym- drechem a'r gelyn. 'Roedd y gelyn wedi dewis yr uchelfeydd, ac wedi cloddio cysgod cadarn, bron diddos, iddo ei hun gallem gasglu oddiwrth faint a nifer eu gwer- syllfaoedd eu bod yn lliosog eu nifer, ac ar ol brwydro caled idd- ynt orfod ffoi ar frys, gan fel yr oedd y lleoedd yn orchuddedig gan eu deunydd i ryfela. Nid rhyfedd fod eu tan mor ddifaol oherwydd y safle ddewisent, prin y gwelem wyneb un gelyn yn ystod yr ym- gyrch waedlyd i gyd. Ond erbyn hyn arychwith, gyda glannau y mor o Gaza, y mae y gelyn, edi ei ymlid i fyny hyd at yr Hen Ddinas Sanctaidd. Dwfr yw y peth mawr yma, rhyfedd clywed y trochir chwi a gwlaw, tra ni yn yfed dwfr wrth fesur. Mae'r wlad yma yn llom odiaeth o eisiau dwfr. Mynydd oedd a bryniau moelion, creigiog a charegog, sydd yma, yn ym- wed i'w gilydd. Ond y mae ynddynt, ac ar waelod y dyffryn- oedd ddigon o bridd da ac yn ddiameu petae trigolion y wlad wedi bod mor feddylgar a'r hen Gymry, y buasai yma lawer llecyn cynhyrchiol iawn daw cof i mi am ambell i fryn creigiog, caregog, yn yr Hen Wlad sydd yn dyddyn gias cynhyrchiol heddyw. Yn ddiameu maent yn ddiwyd, ond hen ffasiwn eu dull, hen aradr faeh bren, gellir dychmygu mae ei fath oedd ar waith yn nyddiau y patriarchiaid: trigent a gweithiant yn fan lwythau, neu ddiadellau, a lie mae ambell i deulu yn rhy dlawd i gadw par o ychain gwelir ych a mul wedi eu bachu wrth yr un aradr i droi wyneb y tir. Nid oes tir a chroen iddo o gwbl, y mae yr oil fel ag y mae o dan yr aradr. Gwlad di-goed iawn yw hon o Beersheba i fyny, er y mae argoel. ion coedydd i gyfeiriad Hebron, o edrych drwy y pellddrych. Y mae hi yn wlad ami ei phyd- ewau, ond fod y nifer liosocaf wedi eu cae i fyny a llaid o ddiffyg eu cadw yn agored. Y mae rhai o'r pydewau yn ddyfnion iawn, gwaith maen rhagorol, a sicrwydd o edrych ar y draul sydd ar y meini eu bod yn hen iawn. Mae un hen bydew a phedair bwa pontiog wedi ei weithio mewn i'r gwaith maen i'w addurno, ac yn sicr o fod yn hen iawn oddi- wrth y draul welir ar y meini, a'r arloesi dyfnion llyfn welir yn y maen caled, luniwyd wrth ostwng a chodiy llestri dwfr, a chofier mai nid trwm y lestri, oblegid mae o bridd y llunnir hwynt. Yng ngwaelod y bryniau y mae y pyd- ewau, er y mae un pydew a chryn gynnwys o ddwfr ar ael y bryn. Prysur soddi a threfnu y.pydew- au yr ym yn awr er diogelu digon- edd o ddwfr. Nid dwfr croyw, clir yw, ond bias henaint arno, er y dylifa i mewn i'r pydew rhywle o grombil y ddaear. Gallwn ddweyd nad ydym eto yng Nghanaan," ac hwyrach na fyddwn, pe elem i ddyffrynoedd yr Iorddonen ag i Jerusalem, nid gwlad llif o laeth o mel yw," er yn ddiameu bu ynfwy cynhyrchiol a thecach a 11. wuàch ei choedydd teg, ffrwythlon, nag yn awr. Mae teyrnasiad gorthrymus, dinistriol, y Twrc, wedi lladd pob ysbryd an. turiaethus-difrod sydd yn ol eu traed hwy ble bynnag yr ant. Eto hawdd gweld mai delfrydol yw yr hen wlad, arwain at y tragwyddol: er o'r ochr arall yn ddiameu gall fod dyfodol i'r wlad o heipu, cyfar- wyddo, a rhoi chwarae teg i'w thrigolion. Ar ein holl daith o Gamlas y Suez, ychydig mewn cymhariaeth o dir llafurol ac aniteiliaid welid, mae'r wlad wedi ei llwyr ddifa o honynt Gwelsom rhai ddiadell oedd o ddefaid, ychydig ogamel- od yn dod i mewn a theulu y Bedouin tlawd, wedi bod yn ym. guddio yr oeddynt yng nghilfachau y mynyddoedd. Mae'r elfen grwydrol hefyd yn y bobl. Byd bach iawn yw eu byd—bwyta, trin dipyn ar y tir, a byw yn dyrrau bach, yn ddynion ac anifeiliaid, gyda'u gilydd. Y mae hen ogofeyd mawr  rigai lu calchog gerllaw yma, lie trigai lu o deuluoedd, y cafnau cerrig yn un pen i'r ogof a'r gwellt man, a'r lie tan y pen arall yn awgrymu mai byw gyda'u gilydd yr oeddynt Y maetat yn syn yr olwg arnynt, ond yn syth cic yn chwim, ysgafn o gorff, a r olwg digon graenus arn- ynt, a'r cyfan yn droednoeth, oddi. gerth ambell i hen Sheik, a golwg awdurdodol arno yn ei wisg a'i wrthban arnryliw, a'i lofrynnau o ledr melyn, a'i farch bach chwim, teneu, ysgafn, a'i fwn. Y dynion o hyd yn marchog, a'r merched yn cerdded, weithiau o dan bynnau, neu yn cario y baban yn fforchog ar eu hysgwyddau. Digwyddodd i fintai ddod drwy'n gwersyll un dydd, y dynion ar gefsau eu mulod, a'r merched yn cerdded. Yn y fintai yr oedd hen wraig fethiantus, grynedig, a ar- weinid gan eneth fach, o bosibl ei hwyres Gafaelodd y bechgyn ym mhen y mul, a thynasant y Bedouin talgryf i lawr, a chodasant yr hen wraig yn dyner ar gefn y mul. Edrychai'r hen Fedouin yn wirion. Nid oes'd'r ferch ei lie na'i pharch priodol eto yn y Dwyrain, yn en wedig yng nghyrion y wlad. Gwasanaethyddes yw a chludydd beichiau. Prudd fum y dyddiau hyn, canys cwympodd lawer, a gorweddant yn awr yn fud mewn gwlad ddieithr, er mae. rhai pethau yn ysgafnhau tipyn bach ar fy nghal- on. Gallasom gladdu bron yr oil a thalu y gymwynas olaf iddynt, a gwneud yn drefnus" eu beddau, gorchwyl prudd, yn llewys ein crys o dan gawod o dan. Llawenych- wn hefyd feddwl am eu dewrder a'u dynoldeb dynbldeb, meddwn, oblegid nid ymlidia rhyfel allan o'r bechgyn ysbryd cymwynas a charedigrwydd. Syrthiodd rhai bechgyn gloyw eu meddwl, uchel eu dysg, ac mae angen am danynt, ond dyma hanes rhyfel-difrod erchyll yw. Nis gallwn ond gweddio y bydd yr aberth mawr hwn yn dwyn y byd i'w synwyr, a chyfiawnder a hedd- wch tragwyddol i deyrnasu. Der- bynied pawb sydd yn eu trallod ac o dan eu dolur fy nghydymdeimlad cywiraf. Duw a drugarhao wrth- ych, ac a'ch nertho yn y cystudd mawr" hwn. Cofion serchog, A. W. DAVIES, C.F., Att. 1/5 Welsh Regt. 159 Infantry Brigade, 53 Division, E.E.F. O.Y.—Cefais bapur ysgrifennu, ac ambell i barsel i'r bechgyn oddi- wrth ffrindiau caredig, Diolch i chwi. Cymwynas yw i b.1ant y cystudd yn y wlad lie codwyd yr Iesu.

I LLITH O'R LLAID. I

[No title]