Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
3 articles on this Page
"-';BYD CREFYDDOL. ,I
BYD CREFYDDOL. I JJY;, -————- lewn, cyfarfod lliosog o gyn- rychiolwyr Eglwvsi Rhyddion Bethesda (Arfon), a'r Cylch (yr oedd yno 13 o eglwysi yn cael eu cynrychioli), cafwyd yno drafod- aeth ar hawliau cydwybod, a chyda'iMinfrydedd mwyaf pasiwyd y penderfyniad canlynol:— Fod Cvngor Eglwysi Rhydd ion Bethesda a'r Cylch, wrth ys- tyried hawliau cydwybod ar ddyn ac yn wyneb yr adran yn y Ddeddf Seneddol sydd yn eu an rhydeddu, yn protestio yn gryf yn erbyn yr anghyfiawnder o ddi- freinio y g wrth wyneb vvyr cyd- wybodol hyd yn oed am dymor." ( il Gwelsom fod cyfeillion yn bwr- iadu rhoi carreg ar fedd y diwedd ar Barch. D. Rhagfyr Jones. Brodor o Ddolgellau oedd Mr Jones, a gweinidog gyda'r Anni bynyr yn y De. Rhyfeddem na buasai ychwaneg o son am dano, canys yr oedd yn ysgrifennwr rhag- orol. Y mae'n debyg mai ei lyfr- au adnabyddus oedd I'r Aifft ac yn ol," a'r "Llofft Fach, ond nid ellir dyweyd eu bod hwythhu'n adnabyddus iawn Yr ydym yn rhy fynych yn anwybyddu ein llenorion goreu ac yn moli rhai digon symol. Dywed adroddiadau Cenhadol Cyfundeb y Bedyddwyr y cafwyd blwyddyn eithriadol Iwyddiannus. Ni bu o'r blaen mo'i chyffelyb. Er amlhau o'r rhwystrau a phrin- hau o'r gweithwyr, mewn llawer gorsaf, eto bedyddiwyd 3,050 o droedigion yn ystod y deuddeng mis,—'y nifer lluosocaf mewn unrhyw flwyddyn yn hanes y G/mdeithas.' Trwy hyn, dyblir y cyfartaledd am y deng mlynedd diweddaf. Achos arall o lawen- ydd yw cyfraniadau haelionus a ffyddlonyr egl wysi mewn cyfnod cyntaf ers blynvddoedd, caewyd y cyfrifon heb ddyled Eleni, ymron ar derfyn y flwyddyn, yr oedd saith mil o bunnau yn brin i gyfarfod y gofynion. Hysbyswyd y ffaith hon, a chliriwyd y swm yn gyfangwbl cyn pen tair wythnos Pasiodd Cymanfa hanner blyn- yddol Bedyddwyr Flint, Dinbych, I a Meirion y penderfyniadau hyn:— (1) :_H Fod y Gynhadleddhon yn edrych gyda galar dwys ar y difrod presennol ar egwyddorion, bywydau ac eiddo, yn dymuno erfyn ar y Llywodraeth i fanteisio ar y cyfle cyntaf posibl i ddyfod i heddwch terfynol a pharhaol, a'r heddwch hwnnw i fod yn amddifad o'r hyn all brofi yn seiliau rhyfel- cedd yn y dyfodol. (2). Gweinidogion Ordeiniedig Ein bod yn apelio at y Llywod raeth ar iddi gydnabod bob un a ordeinir gan yr eglwysi: yn weinidogion fel rhai i'w rhyddhau o ofynion Deddf Gorfodaeth Filwr- ol. (3). Gwrthwynebwyr- Cydwyb- odol Ein bod yn apelio at y Llywod- raeth ar iddi dalu sylw buan a theil- wag i achos y Gwrthwynebwyr Cydwybodol, ac ar iddi roi terfyn buan ar y dull o ymddwyn tuag ato, ac yn arbennig at y cynllnn o gosp- edigaethau ami a pharhaol am yr hyn nad yw ond un trosedd. (4). Purdeb. (a) Ein bod yn datgan ein Haw. enydd fod y Cynghorau Sirol yng Ngogledd Cymru yn talu sylw mor helaeth i ffyniant ac effeithiau an- dwyol amhurdeb cymdeithasol yn ein plith, ac yn dymuno iddynt bob llwyddiant yn yr ymdr.ech i wrth- wynebu y drwg peryglus hwn. (b) Ein bod yn dymuno ar i'r eglwysi roddi eu hystyriaeth mwy. af difrifol a gweddigar i'r mater hwn, ac i wylio ac annog y bobl ieuainc i fod yn wyliadwrus ac i rodio llwybrau purdeb a sancteidd. rwydd." I
COLOFN Y LLENOR.
COLOFN Y LLENOR. Cawsom y garr hwn gan gyfaill. Annwyl a Pharchedig Gyfaill,— Yn union wedi'ch ymadawiad ddoe, gwelsom Mr R. Roberts (mab Dewi Hafesp). Daeth o hyd i'r penillion canlynol o waith ei dad ychydig fisoedd yn ol wrth chwil- ota yn y ty. Gan wybod eich dyddordeb yn y pethau hyn 'rwyf yn ei hanfon gyda caniatad y mab. Yr eiddoch yn ffyddlon, J. H. OWEN. Y Bwthyn Gwyn lle'm Ganwyd." Ar lawes perth fodrwyog Yng nghesail llwyn o goed, 'Roedd bwthyn del gwyngalchog Lie gwenais gynta Irioed; 'Roedd briwddail man gwauedig Yn dringo'i fur i'w nen, A simdde wellt blethedig Mewn gwerddwisg dros ei phen. 0 flaen-ei borth fel nodded 'Roedd hen gelynen dlws, A llinyndrwy dwll gwimbled I ddatod cloig y drws Ac uwch fan honno hefyd, 0 hyd o ach i ach, 'Roedd anedd gron fwysoglyd Drwy'i byw:yd i'r driw bach. 'Roedd holl ogoniant Eden Tuallan iddo'i gyd, A Gwynfa i'r llythyren 0 fewn i'w fynwes glyd I dynu darlun gonest O'm hannwyl fwthyn gwyn, Mudandod fu'n y goncwest Ar f'awen yn fan hyn. Mae'r bwthyn eto'n aros, Ond nid mor wyn ei wedd, Ei wyndra droed yn ddunos A'i gynnwys fynnai'r bedd; Ond pwyntel anfarwoldeb Fu'n llunio'i ardeb o I ddal am dragwyddoldeb Yn ddisglair ar fy nghot. .—— I Mae holl weithiau Hedd Wyn, oedd ar gael erbyn hyn yn nwy law y golygydd, y Parch. J. J. Williams, a broffwvdodd flwydd ynyn ol am ddyfodol disglair i'r bugail-fardd. Cywirir y proflenni gan Mri Silyn Roberts, M.A., Caerdydd, a J. Lloyd, M.A., Abermaw. Bydd awdl anfarwol yr "Arwr" yn y llyfr, trwy ganiatad parod y gym- deithas, a darluniau o'r bardd a'r wahanol gyfnodau o'i fywyd, ei gadair, hefyd, a'i gartref. Os am y gyfrol rhaid anfon yr er wau i Mr J. R. Jones, Ty'r Ysgol, Trawsfynydd. Hysbysir ei phris pan orffenniry gwaith golygyddol. Amcenir ei chael i'r tanysgrifwyr am tua hanner coron. Y mae gan Mr. Birrell syniadau pendant iawn am y diafol. Mewn araeth a draddododd y dydd o'r blaen, soniodd am "Goll Gwynfa" Milton, a dywedodd mai gwir arwr y gerdd yw'r Diafol, y cyntaf o bob gwrthryfelwyr, a'r mwyaf llwyddiannus, canys onid yw hariner-y cenhedloedd y funud hon dan ei lywodraeth ef, a'r rhan fwyaf o ddynion yn gaethion ei ewylfys ?" Ac am hyn dywed un gohebydd Cymreig—" Y mae'n well gennyf syniad Mr Birrell na syniad ambell un, sef mai ffordd Duw o gosbi'r byd am chwareu pel droed a myned i weled darlun iau byw ydyw'r rhyfel. Credaf hefyd fod ambell i berson yn par- hau i gredu fod miliynau o fywyd- au yn cael eu haberthu am fod Eglwys Loegr yng Nghymru wedi ei datgysylltu!" Dyma fel y dywed Syr O. M. Edwards ar fater yr Ysgol Sul:— "Nid oes gennyf fawr gred yn y trefnu sydd ar yr Ysgol Sul yn y dyddiau hyn, nag yn y bwriad i hyfforddi athrawon, Ni adewir digon o ryddid i'r ysgolion i gyf- addasu en gwersi i'w disgyblion, ac ni adewir digon o ryddid i'r athraw ac i'r disgyblion ddatblygu eu dulliau eu hunain.
Advertising
I sSS ??? '?F"  ? ? 1? F ?  ? ?   11 Y LLYFRFA. || "YR EURGRAWN" AM 1918. Pris 4 Ceiniog y mis. Dan olyglaetb y Parch Thos. Hughes. "Y WINLLAN' AM 1918. Pris Ceiniog a Dimau y mis. Dan olygiaeth y Parch D. Gwyn- fryn Jones. "Y DYDDIADUR AM 1918. Pocket Book 2/6 yr un. Dyddiadur Llian 9c yr un. Dan olygiaeth y Parch W. R. Roberts. Archeber ar unwaith. Y Maes Llafur. YN AWR YN BAROD. j Esboniad y Parch. T. Isfryn i Hughes ar "j Epistolau Paul at y I PHILIPIAID, a PHILEMON. Pris: DAU SWLLT. Pan yr ymuna Dosbarth neu yr Ysgol yn gyffredinol i archebu dwsin, ac anfon blaendal, rhoddir hwy yn ol 1/6 yr un. =-c-¡ Gwyrthiau yr Arglwydd lesu Grist, Gan y Parch. J Maelor Hughes. Pris PEDAIR CEINIOG. Os archebir dwsin o'r uchod, gyda blaendal, rhoddir hwy am 4/ Gofyniadau y Maes Llafur Yn cynnwys y Safonau a threfn yr Arholiadau. Pris: CEINIOG. Rhoddir 100 "am 5/ a 50 am 3/- ond anfon tAl gyda'r archeb. Anfoner yr Archebion a'r Taliadau i'r BOOKROOM, BANGOR. .4 .t1II.10ttõ.8.J/ttU'.I1ICI'JIIU1-¡¡JI\;}1.AV- DETHOLIAD 0 EMYNAU. I YN AWR YN BAROD. Cynwysa dros 200 0 Emynau Ii Detholedig, ac adranau ar gyfor y Cynhauaf, yr Ysgol Sul, Bedydd Planfe; Dirwest, ac ychydig Emynau Saesneg, CASGLIAD DIGURO. Pris, Pedair Ceiniog, mewn Ilian ys- I twyth. Trwy y Post, 5 ceiniog. Dwsin am 4/ post free. r Haner cant am 15/ carriage paid. r Cant am 30/ carriage paid.  • I Testamentau i'r | Milwyr. t Testament mewn llian Khaki, Ceiniog yr un, post free am ddwy geiniog. Dwsin am 1/6. Testament bach hardd, gilt edges, mewn llian Khaki prydferth. Aiff i boced y wasgod. Prisiaiip 10c yr un.; Dwsin am 9/6. Gwna y rhai hyn anrheg ddymunol i'r Milwyr Cymreig. • Rheolau y Trefn- yddion Wesleyaldd J Argraffiad Newydd, yn lIyfryn debtlus, o'r Rheolau ddylai fod yn Haw pob aelod Wesleyaidd. Mae'r Rheolau hyd Gynhadledd 1913 oil yn yr argraffiad hwn. Pris, Ceiniog a dimai y copi; 100 am 6/6; 50 am 3/3 post free. Cases at Rwymo. ,:J ;_1 U Ceir Cases llian hardd at rwymo "Hanes Wesleyaeth Gymreig am swilt. Cases llian destlus at rwymo Yi ¡ Eurgrawn" a'r "Winllan" Fj Ceir y cyfan drwy ein Dosharthviyr Lleol g. M YN DDIDRAUL. I I Hyderwn gael Catalogue newydd ar ol y Rhyfel. II Pob Archebion a Thaliadau i'w hanfon i:— B I Parch. O. MADOC ROBERTS, H8 Bookroom, Bangor. s Agraffwyd dros y Cyhoeddwyr gan L. Davies, Swyddfa'r Gwyliedydd New» ydd, Blaenau Ffestiniog.