Skip to main content
Hide Articles List

3 articles on this Page

"-';BYD CREFYDDOL. ,I

COLOFN Y LLENOR.

News
Cite
Share

COLOFN Y LLENOR. Cawsom y garr hwn gan gyfaill. Annwyl a Pharchedig Gyfaill,— Yn union wedi'ch ymadawiad ddoe, gwelsom Mr R. Roberts (mab Dewi Hafesp). Daeth o hyd i'r penillion canlynol o waith ei dad ychydig fisoedd yn ol wrth chwil- ota yn y ty. Gan wybod eich dyddordeb yn y pethau hyn 'rwyf yn ei hanfon gyda caniatad y mab. Yr eiddoch yn ffyddlon, J. H. OWEN. Y Bwthyn Gwyn lle'm Ganwyd." Ar lawes perth fodrwyog Yng nghesail llwyn o goed, 'Roedd bwthyn del gwyngalchog Lie gwenais gynta Irioed; 'Roedd briwddail man gwauedig Yn dringo'i fur i'w nen, A simdde wellt blethedig Mewn gwerddwisg dros ei phen. 0 flaen-ei borth fel nodded 'Roedd hen gelynen dlws, A llinyndrwy dwll gwimbled I ddatod cloig y drws Ac uwch fan honno hefyd, 0 hyd o ach i ach, 'Roedd anedd gron fwysoglyd Drwy'i byw:yd i'r driw bach. 'Roedd holl ogoniant Eden Tuallan iddo'i gyd, A Gwynfa i'r llythyren 0 fewn i'w fynwes glyd I dynu darlun gonest O'm hannwyl fwthyn gwyn, Mudandod fu'n y goncwest Ar f'awen yn fan hyn. Mae'r bwthyn eto'n aros, Ond nid mor wyn ei wedd, Ei wyndra droed yn ddunos A'i gynnwys fynnai'r bedd; Ond pwyntel anfarwoldeb Fu'n llunio'i ardeb o I ddal am dragwyddoldeb Yn ddisglair ar fy nghot. .—— I Mae holl weithiau Hedd Wyn, oedd ar gael erbyn hyn yn nwy law y golygydd, y Parch. J. J. Williams, a broffwvdodd flwydd ynyn ol am ddyfodol disglair i'r bugail-fardd. Cywirir y proflenni gan Mri Silyn Roberts, M.A., Caerdydd, a J. Lloyd, M.A., Abermaw. Bydd awdl anfarwol yr "Arwr" yn y llyfr, trwy ganiatad parod y gym- deithas, a darluniau o'r bardd a'r wahanol gyfnodau o'i fywyd, ei gadair, hefyd, a'i gartref. Os am y gyfrol rhaid anfon yr er wau i Mr J. R. Jones, Ty'r Ysgol, Trawsfynydd. Hysbysir ei phris pan orffenniry gwaith golygyddol. Amcenir ei chael i'r tanysgrifwyr am tua hanner coron. Y mae gan Mr. Birrell syniadau pendant iawn am y diafol. Mewn araeth a draddododd y dydd o'r blaen, soniodd am "Goll Gwynfa" Milton, a dywedodd mai gwir arwr y gerdd yw'r Diafol, y cyntaf o bob gwrthryfelwyr, a'r mwyaf llwyddiannus, canys onid yw hariner-y cenhedloedd y funud hon dan ei lywodraeth ef, a'r rhan fwyaf o ddynion yn gaethion ei ewylfys ?" Ac am hyn dywed un gohebydd Cymreig—" Y mae'n well gennyf syniad Mr Birrell na syniad ambell un, sef mai ffordd Duw o gosbi'r byd am chwareu pel droed a myned i weled darlun iau byw ydyw'r rhyfel. Credaf hefyd fod ambell i berson yn par- hau i gredu fod miliynau o fywyd- au yn cael eu haberthu am fod Eglwys Loegr yng Nghymru wedi ei datgysylltu!" Dyma fel y dywed Syr O. M. Edwards ar fater yr Ysgol Sul:— "Nid oes gennyf fawr gred yn y trefnu sydd ar yr Ysgol Sul yn y dyddiau hyn, nag yn y bwriad i hyfforddi athrawon, Ni adewir digon o ryddid i'r ysgolion i gyf- addasu en gwersi i'w disgyblion, ac ni adewir digon o ryddid i'r athraw ac i'r disgyblion ddatblygu eu dulliau eu hunain.

Advertising