Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
LLYTHYRAU Y MILWYR.
LLYTHYRAU Y MILWYR. GAIR 0 GANAAN. (Gan y Caplan A. W. DAVIES). Annwyl u\yynrryn,— Gair bach eto o'r Hen, Hen Wlad. Myfyrdod min yr hwyr. Yn fy mhabell len deneu, eyfyng, a hi 'Yn nosi, fe orwedd ar ael mynydd bach moeliog, islaw, ceunant ddofn, luniwyd gan lifogydd yr oesau. Yr ym ynghan- mol bryniau, neu fan fynyddau, ymweu- ant i gysgod eu gilydd, gan fifurfio Dent ydd troeiliog i bob cyfeiriad. Gaeaf yw hi, a'r wlad yn hollol Iwm o bob math o wyrddlesni-, ond yn disgwyl cawodau 4rwm y gaeaf. Cawsom un noson o wlaw trwm, a daeth cyfnewidiad buan :45welid y brysg goed man yn dechreu bwrw allan eu saefchaa tyner gweiw-las, a blodau bach tyner yn dechreu gwenu. iMae gwres y dydd yn cilio i ganlyn yr fhaul, sudda i'w orwel draw; mae y wybren yn Iliw yr aurafal ffres o'r winllan, neu y dernyn aur o'r bathdy, yma ac acw y mae llafnau gleision tlws o gymylau fel gwawl y saffir. Mae y .mynyddoedd moelion welir, a'u hesgyrn •earegog yn ymwthio o'u mynwes, wedi ,eu gwisgo a'u tlysu agwa wI glasaidd dlos. Erbyn hyn mae y lleaad wen gannaid wedi llanw y ffurfafen a'i dis .gleirdeb arianaidd, a'r ser yn llosgi fel ilusernau gloyw gwelir liineliau tlws y :mynyddoedd gleision a'u copaau yn ymffurfio yn erbyn y wybren loyw ,ond o'm blaen mae un myoydd a'i gopa yn uwcb na'i gyfoedion, ac ar ei ben y garnedd groes i ddynodi man un o'r brwydrau colyd fu ychydig ddyddiau yn ■ol. Ar gefnen fach ar y mynydd hwn, ychydig o latheni islaw y garnedd, gor- wedd gvveddillion y bechgyn annwyl, a rhai swyddogion, syrthiasant yn y frwydr. Chwaer fyddin Seisnig wersyll- ant gerllaw a godasent y garnedd. Mor ryfedd anian yn ei gogoniant, ag eto mor dawel, yr hen fynyddoedd y bu brwydro celyd arnynt fel yn cysgu, er fod creith- iau arnynt hwythau ar ol ffrwydriadau ergydion y magnelau mawr. Yma yr cedd un o amddiffynfeydd cadarnaf y ,gelyn-amddiffynfa naturiol; yma bu brw) dr den, y naiil ochr a'r llall dros dridiau a'u tynged yn y glorian ond ar yr wythfed cyfisol, gwthiwyd y gelyn o'i :Ioches gadarn, ac ar ffo yr aeth, ag ar ffo y bu am. ddyddiau lawer, yn methu icasglu eu hunain at eu gilydd. Ond mae'm meddwl yn y fynwent fach gor- wedd llu yno, yn bennaf bechgyn an- nwyl ogatrawd y seithfed R.W.F., ym- 4addasant mor ddewr, a syrthiasant yn arwyr. Y Sadwrn aethum i a'r meddyg i'r fan, buom yn crwydro dros faes y frwydr, yn dilyn olion yr ymdrech, gan olrhain safie y gelyn a ninnau. Ac yna i'r fsnwent: mynwent fach dlos ar gefnau gwastad yn ymyl copa y myn ydd, lleeyn wedi ei gau i mewn gan fur bach o gerrig gwenithfaen gwyn, a'r beddau wedi eu nodi a'r un math o feini, a chroesau bach o bren yn nodi enw a chatrawd y milwr syrthiedig. YD y canol yr oedd croes fawr o bren praff wedi ei addurno er cof am danynt. -Pradd oedd yr olygfa, canys yma gor- wedd ambell i un a adwaenwn, ag y bum yn eu hannerch, ac y buom yn .gwrando arnynt lawer tro ar ol odfa nos Sal yn canu hen donnau ac emynau Sion Cymru. Ond heddyw yn fud gof- ynnem, i ba beth y bu y golled hob, a beth bynnag all syniad dyn fod am y rhyfel hou, yma ynghannol man eu gorff. ,w>s olaf dywedwn y gorweddant yng ngogoniant dawel eu haberth mawr. Ac i mi yr oedd prudd-der arall, yn un o bump o swyddogion a adwaenwn yn dda, ac a gladdwyd yn gyfochrog yn yr un bedd, y mae cyfaill annwyl, un o fechgyn fy eglwys ym Methesda, set yr Js swyddog W. H. Williams, mab i Mr Williams, y Bank, Bethesda. Llawer awr ddifyr gawsom a'n gilydd: gwr ieuanc caredig, craff, a doniol, llawn ynni; bu farw fel glew yn y frwydr. Cysgod ei aden Ef fo dros man ei fedd, a thodded i'w berthynasau y nerth a'r -cysur hwnnw, a'r tangnefedd nas gwyr y byd am dano. Ni fum gyda hwy yn y frwydr, gan mae gydag adran arall yr oeddwn mewn -ewr arall, lie cefais weini ar y clwyfed- igiou, a chludo rhai clwyiedig o'r maes i fan o ddiddosrwydd, a He befyd y cleddais yr arwyr syrthiasant. Prudd, ie, prudd, syrthiodd lu o Gymry y trid- iau hyn. Eto, teimlaf yn falch ohon ynt, cymysgir fy nagrau a diolch am eu dynoldeb a'u gwroldeb yn y dyddiau garw hyn. Bydded i'w haberth ddwyn gwawr newydd i meWD, a diwedd ar ryfel. Tua dydd Mawrth symudasom i fyny y wlad, ymdeithiem rhwng ystlysau mynyddau y wlad ihwng Beersbeba ac Hebron. A gwersyliwn dros dro mewn llannerch bur ddymunol rhwng y bryn iau a'r mynyddoedd moel, ac eto oddi- yma gwelaf y garnedd yn y pellter tawel-nod man y cwympodd y cedyrn. Y mae dau bentref bach gerllaw, y naill a'r llall ar gopa y bryn, a'r olygfa yn ein cludo yn ol i hen ddyddiau y patriarchiaid. Gwelaf y merched a'r llestri dwfr ar eu peonau yn dychwelyd i'r pentref gerllaw, a'r un diwyg o lian main amryliw, a'r gwyr a't bechgyn a'r geifr a gyrr o ddefaid man ac ychydig asynod yn eu dilyn i'w pentrel i lochesu dros y nos, canys min yr hwyr yw. Daeth toriad gwawr, a'r Bedouin ar lasiad dydd, yn ei Arabaeg, yn galw y praidd i'w dilyn i borri o'r bryslwyni man a'r twmpathau ar y man fryniau gerllaw, bwy yn amaethwyr ac yn fugeiliaid mewn modd tawel, amrwd, mor henafol eu dull ag oeddynt yn nyddiau Jacob, heb eu deffro na'u cyn- hyrfu gan y byd mawr o'u deutu, a'r trachwant am foethau ac am arian heb losgi i'w cnawd mor dawel, a ninnau yn gwersyllu gerllaw yn un o stormydd chwerwaf, creulonaf, ac ynfytaf y byd oherwydd ffoledd dyn. Cwr tawel yw hwn o Ganaan, prin y bu rhyfel yma, gyda mor i'r cwr ogledd- ol, yr oil ffordd beibio i Gaza, Ra-ff a, Romani, i'r Aiffb. Yma y mae hen Iwybrau rhyfelwyr yr hen oesau. Er! y dywedir fod y cwr bwn wedi ei thram- wyo gan lysgenbadwyr gyda negesau dros eu gwlodydd—gwaith cyfriniol gwleidyddol, bro dawel yw. Buom yn tramwy ar yr hen ffordd o Jerusalem i Beersbeba, ac o bosibl yr hen ffordd y tramwyodd y Frenhines Sbeba, Dafydd, brenin Israel, a rhai o'r hen batriarch- iaid. Mae olion hen oesau ac ben gyfnodau o wareiddiad, ac ol traed llawer i hen genedl aeth ar ddifancoll ym t. Mae gerllaw, ar gopa bryn, hen dwr adfeil-, iedig a godwyd yng nghyfnod y Groeg iaid. Rhyw bentrefi bach henafol sydd yma, isel, ysgwar, a'r nenfwd y tai yn wastad, er y trig llawer mewn ystafell- oedd gloddiwyd yn y creigiau calchog. Mae swyn yn nhawelwch y fro, a phrydferthwch y lliwiau, er yn wlad lorn yn awr, eto edrychai y bryuiau a'r gwastad bach yma yn ogoneddus o dlws gan li-wiatt gwawl toriad dydd. Ymae swyn yr ennyd dawel yn eli i galon fu yn rhyferthwy ofnadwy rhyfel erch, a'i drwst enfawr y dyddiau diweddaf; ond mor alaethus, Did yw y diwedd eto. Ein gweddi yw am i Dduw o'i drugaredd ddwyn tangnefedd i ni. Rhyfedd, onide, cwrs dyn-rhyfel, dioddef, syrthio yn y gad, yng ngwlad yr Iesu. A thrwy'r mwg a'r dwndwr erch, o ganol y dolef, ato Ef y rhedwn, ac ynddo El mae ein hymddiried am fyd na bo rhyfel mwy o'i mewn. Cofion serchog, A. W. DAVIES, C.F., Att. 1/5 Welsh Regt. 1 159 Infantry Brigade, I 53 Division, E.E.F. I
[No title]
Yn Aberdyfi ymddengys fod rhyw wr bonheddig wedi cynnyg tir i'r dref yn rhad i wneud mynwent ar I yr amo.d fod un darn vn cael ei I gysegru at: wasanaeth Eglwys Loegr. Golygai hynny nad ellid ciaddu neb yn y rhan honno heb ganiatadypersor). Y maetrefwyr Aberdyfi, mewn Festri gyhoeddus, wedi gwrthod y rhodd os na cheir y tir yn ddiamodol. Dywedir fod Eglwyswyr ac Ymneilltuwyr ya uno a'i gilydd i wrthod y telerau. Wel. pam y dylidgwneudgwahan- iaeth ymhlith y meirw ?
Y GWRTHWYNESYDD CYD. WYBODOL.
Y GWRTHWYNESYDD CYD. WYBODOL. At y Parch. Rhys Jones. Mr Golygydd,— Yr wyf wedi darllen eich nodiad- au, Syr, ar benderfymad y Senedd yn pasio i ddifreinio Bechgyn y Gydwybod, fel y gelwir hwy, a thrwy hynny ymyrryd a rhyddid personol ei aeiliaid, a peryglu rai o egwyddorion hanfodol a sylfaen. 01 Protestaniaeth. Darllennais hefyd lythyr y Parch. Rhys Jones yn galw ar Lywydd y Gymanfa i anfon at bob Arolygwr trwy Gymru am iddynt, trwy y Cyfarfodydd Chwarterol, anfon at Aelodau Seneddol ein gwlad yn erbyn y fath anghyfiawnder. Cyn rhoddi y fath orchymyn awdurdodol i'r Llywydd, fe ddylai Mr Jones yn gyntaf oil wybod a ydyw ef a'r. Llywydd o'r un farn ar y mater. Os ydyw, bydd yn ofyn- ol drachefn i'r Llywydd wybod beth yw barn yr 'Arolygwyr. Os yn cytuno a'u gilydd, bydd yn ofynol drachefn i'r Arolygwyr: wybod barn ei gydlafurwr yn yj weinidogaeth, a'r llevgwyr sydd yn mynychu y Cyfarfodydd Chwarter-! ol. Wedi hynny eistedd mewn barn, am tua hanner awr, ar fater y cymerwyd llawer iawn o amser i'w drafod gan ddynion sydd mewn. gwell mantais i wybod pa un ai teg ai anheg oedd difreinio bech | gyn y gydwybod. j Yr ydych chwi, Mr. Goiygydd, yn eich nodiadau yn dyweyd, fod y j mater wedi ei benderfynu "on Party lines." Os felly, mae yn Anghyfundebol i'w dm fod fel j mater politicaidd yn y Cwrddj Chwarter; a phe bae o fewn ter fynau cyfreithlon i'w drafod, l meiddiaf ddyweyd na byddai i bedwar o bob dwsin o'n cyfarfod 'II ydd bleidleisio o'i blaid, gan fod gan ugeiniau o aelodau ein Cyfar- I fodydd Chwarterol fechgyn sydd yn y ffosydd a chystal cydwybod ¡ ganddynt a'r bechgyn sydd yn y carchar. T. f T uywea y t-arcn ixnys jone^ ei iod yn Awst, 1914, yn credu fod gwaithPrydain yn cymeryd ei safle i amddiffyn y Deyrnas Fach yn gyiiawn, ond ar ol dyfod i ddeall tynged Bechgyn y Gydwybod, ei fod wedi newid ei farn. Yn enw pob rheswm pa gysylltiad sydd rhwng penderfynu amddiffyn y Deyrnas Fach a difreinio y bech gyn hyn. Rhoddaf i'r Parch Rhys Jones yr anrhydedd ei fod yn deall Deddf Gwasanaeth Filwrol, 1915- 16, yn drwyadl, ac fod gan y Gwrthwynebydd Cydwybodo gys- tal hawl i apelio i'r Tribunlys ac sydd gan ddyn arall am ei fod' yn amaethwr. Ac ymhellach, nid oes dim yn y Ddeddf sydd yn gwa hardd i feistr apelio dros ei was, am fod y gwas hwnn'w o gydwybod yn wrthwynebol i ryfela, mwy na phe bae yn apelio dros was arall am fod ei alwedigaeth yn gyfryw y byddai yn golled cenedlaethol pe gelwid arno i'r Fyddin. A glyw- odd Mr Jones son am unrhyw feistr yn apelio dros rhyw ddyn mewn unrhyw gylch o wasanaeth am ei fod o gydwybod yn wrthwynebol i fod yn filwr. Meiddiaf ddyweyd na, chlywodd am un engraifft o hynny. A hyn ymhell i brofi beth ydyw syniad y rhai ddylent wybod am gydwybod y bechgyn hyn. Os ydyw un yn gallu argyhoeddi y Tribunlys fod y gwasanaeth y mae yn ei wneud ar y fferm yn hanfodol i gynhyrchu bwyd i'r wlad, a'r Hail ym methu eu hargyhoeddi fod ei gydwybod yn ei ddysgu i beidio bod yn filwr, ar y Tribunlys mae y cyfrifoldeb am hynny, gan fod y Llywodraeth wedi darparu mae y ) Llys hwnnw sydd i weinyddu V Li,, l\rlY.V sy'u'd 1. 't,1,iU Y | ddeddf. ) Dymunwn wybod gan Mr Jones I pahdm mae cymaint o'i frodyr yn | y weinidogaeth yn gwahaniaethu mewn barn ag ef. Sicr gennym | fod pob brawd sydd wedi myned yn Gaplan yn credu yn wahanol j iddo. Nid myned allan ddarfu h wy i geisio argyhoeddi y bechgyn fod y rhyfel yn un anghyfiawn, ac am iddynt roddi eu harfau i lawr, a dyweyd wrthynt rhai mor ddi- fudd ydynt i'r wlad ac i gymdeith- as, ac fod bechgyn goreu y wlad heddyw yn y carchar, ac y byddai yn well iddynt hwythau fod yno yn lie sarnu eu cydwybod 1 aberthu eu j bywyd drosachos mor anghyfiawn. j Os ydyw y rhyfel yn anghyfiawn, paham y rhoddir cymaint o sylw gan Eglwys Crist'i'r rhai sydd o'i jgwirfodd yn cymeryd eu rhan ynddi. Paham y gwedaiir trost- ynt (a glywodd y Parch Rhys i Jones rhyw un erioed yn gweddio I dros y Gwrthwynebwr Cydwybod- ol, chlywais i neb). Paham yr Janfonirgan yr eglwysi anrhegion iddynt ? Paham. y pregethir preg- j ethau angladdol iddynt ? Os nad I ydynt yn ymladd dros achos cyf- yn enw pob rheswm paham y cedwir eu haelodaeth yn yr eg- llwysi? Os yn anghyfiawn, dylai y rhai sydd yn cymeryd rhan ynddi gael eu diarddel o'r eglwysi. Teb- ygol fod yn eglwysi Mr Jones liaws o fechgyn sydd wedi ymuno a'r fyddin. A ydyw yn barod i ddweyd ar goedd yng nghlywedigaeth eu rhieni, a'u brodyr a'u chwiorydd, eu bod wedi ymgymeryd a gorch- wyl na ddylent o gwbl fod wedi ei wneud, ac fod Bechgyn y Gydwyb- od sydd yn y carchar yn rhagori llawer arnynt ymhob rhyw fodd. Os ydyw, fe ddymunwn wybod ei dynged. Gwn beth fyddai pe- meiddia yn yr eglwys yr wyf fi yn aelod ohoni, lie mae nifer o fech- gyn glan eu moes wedi cefnu ar gartrefi clyd, am y credant mai gwell yw marw yn fechgyn dewr yn y ffosydd na byw yn fechgyn llwfr yn y carchar dan gysgod cyd wybod. Felinheli. RICHARD HUGHES. Nadolig, 1917.
[No title]
Nid llawer o addoldai trwy Dde a Gogledd allant roddi "blwyddyn y tair caib" (1777) ar eu ffrynt fel blwydd sefydliad yr achos yn y lie. Llai fyth yn ddiau eill ymffrostio fod enw "William i Williams, Pantycelyn" i'w gaelyn rhestr eu hymddiriedolwyr cyntaf, IOnd gall capel Bethesda, M.C., Amwlch, hen eglwys yr envvog I Williams Roberts, ymffrostio yn y inaill a'r llall. Mewn cyfarfod yn y De, dywed odd Miss Agnes Slack Lie byn- nag y mae'r Wladwraeth wedi prynu'r Fasnach methiant fu'r an- turiaeth." Mae y Gwir Anrhydeddus Wm. Abraham (Mabon), AS., wedi ei adferu i'r fath raddau nes gallu dychwelyd o Gaerdydd, o gartref ei fab, i'w dy ei hun yn y Rhondda. Y mae y Parch 0 G. Pritchard, „ ficer Oapel Garmon, Llanrwst, wedi ei benodi i fywoliaeth Nannerch, sir Fflint. Mae awdurdodau y Coleg Nor- malaidd, Bangor, wedi cyflwyno cerflun o'r diwedar Barch John Phillips i'r coleg, a dadorchuddir ef ymhen pythefnos. Mr Phillips oedd sefydlydd y coleg, a chasglodd dros un mil ar ddeg tuag at y sef- ydliad. Efe oedd y prifathravv cyntaf. Cynhaliwyd cyfarfod sefydlu y Parch W. Evans (Wil Ifan), fel gweinidog eglwys yr Annibynwyr, Richmond Road, Caerdydd, dydd Mercher.