Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
7 articles on this Page
Y Rhyfel o Ddydd i Ddydd.
Y Rhyfel o Ddydd i Ddydd. I Dydd Lion, Rhagfyr 31 Aeth' tair o'r 'destroyers' yn erbyn mine neu fe'ij tarawyd gan torpedo mewn tywydd niwlog ger glannau Holland yn ystod y nos, Rhagfyr 22-23. Collwyd tri ar ddeg o swyddogion a 180 o ddyn- ion. Y mae cyflegrau y gelyn yn brysur i'r gogledd-ddwyrain o Ypres, ac mewn canlyniad gwn- aethant ymosodiad yn erbyn ein safleoedd yng nghyffiniau ffordd haearn Ypres Staden. Curwyd yr ymosodiad yn ol yn llwyr. Yn ol yr adroddiad Frengig cur- wyd ymosodiad o eiddo'r gelyn yn erbyn man safleoedd i'r de o St. Quentin, ac yng nghyffiniau Bezo- nvaux, a Vangrois. Cymerodd y Ffrancod amryw garcharorion. Dydd Mawrth. Y mae'r ymladd, yn parhau i I. fyned ymlaen ar ffrynt Cambria ar y Welsh Ridge. Adenillodd ein milwyr y rhan bwysicaf o'r safle- I' oedd a gymerwyd gan y Germ- aniaid ddydd Sul ar ffrynt o ddwy filltir mewn gwrthymosodiad. Ddoe adnewyddodd y gelyn yi vmosodiad ar ffrynt o tua 1,260 o latheni gan ddefnyddio nylif tanllyd. Llwyddasat i ymwthio i warchffos mewn un Ile, ond bwriwyd hwy oddiyno mewn gwrthymosodiad. Ar y gweddill o'r ffrynt curwyd yr ymosodiad yn ol yn llwyr. Hawlir yn yr adroddiadau a gyhoeddwyd yn Berlin eu bod wedi cymeryd 375 o garcharorion. Edrydd y Cadfridog Allenby fod ei filwyr ddydd Sul wedi symud ymlaen ymhellach i'r gogledd a'r gogledd-orllewin o Jerusalem. Ymddengys fod yr ymosodiad a wnaed gan y Tyrciad ddydd lau, ac a barhawyd ym chwe ,awr ar hugain wedi ei gynllunio i adfedd- iannu Jerusalem. Gwnaed yr ymosodiad pender- fynol hwn gyda chymorth y Ger maniaid, gyda'r canlyniad iddynt gael eu trechu'n llwyr; enillodd ein milwyr saith milltir o dir, gan gymeryd 600 o garcharorion, ac achoi colledigion mawr. Yr oedd tua mil o gyrff y Tyrciaid ar y maes. Dydd Mercher Y mae'r Italiaid wedi bwrw ymaith y gelyn o'u safleoedd ar yr ochr dde i'r aton Piave, yr hon a enillwyd ganddynt yn ystod y y dyddiau cyntaf wrth ymladd ar hyd y ffrynt dan sylw. Y mae'r drofa yn Zenson yn cael ei dal yn awr gan yr Italiaid. Y mae'r gelyn wedi boinbio pedair o drefi agored ereill ar y gwastadedd. Fel arfer yr oedd pethau ar hyd y ffrynt Brydeinig, ac ar ol i'r Ger- maniaid gael eu trechu yn yr ail ymosodiad y mae'r brwydro ar hyd y Welsh Ridge wedi tawelu. Yn ystod Rhagfyr, cymerodd ein milwyi 1,018 o garcharorion a 103 o wn beiriannau. Y mae'r Cadfridog Allenby wedi v ■■ I symud ymlaen ymhellach ar hyd ei linell i'r gogledd o Jerusalem, ac y mae nifer y carcharorion a gymerwyd wedi cynhyddu i 750. Erbyn hyn y mae'r tywydd oer, gwlyb, a gwyntog a gaed dros y Nadolig, wedi gwella. Y mae teiigram diwifrau yr America wedi codi i fyny genhadwri'r Bolsheviks at y Cynghreiriaid. Cynhwysa delerau heddwch Brest Litovsk, ac yn y rhai hyn gofyna i'r Cynghreiriaid gyd synio. Penderfynwyd ar hyn yn y gyn hadledd a gynhaliwyd Rhagfyr 22. Y ffifle'r genhadwri yn dangos I awydd am ddod i ddealltwriaeth 1 "gynted agy mae'n bosibl ar hedd- wch cyffredinol, cyfiawn, a derbyn- iol i bawb." Dydd Iau. Dywedir fod un o'r cynrychiolwyr Rwsiaidd yng Nghynhadledd Brest- Litovsk wedi gwneud rhai datgudd iadau parthed agwedd Germani ynglyn a'r- heddwch. Ystyria fod telerau Germani yn gwbl anerbyn- iol gan Rwsia. Dywed fod Ger mani yn barod i adael Belgium a'r tir sydd wedi ei feddianu ganddynt yn Ffrainc, ar yr amod fod Mesopotamia ac Arabia i gael eu rhoddi i fyny. Gwrthodasant roddi unrhyw diriogaeth sydd yn eu meddiant i fyny hyd nes y cwbl- heid heddyvch cyffredinol. Nid oes gadarnhad i'r mynegiad fod y Bolsheviks wedi torri ymaith y drafodaeth gyda Geruiani. Yn ol yr adroddiad Ffrengig y mae'r cyflegrau wedi bod yn brysur iawn i'r dwyrain o'r Meuse. Y mae ymgais y gelyn i geisio croesi'r Piave yn Intestadun wedi cael ei ddyrysu, a gwasgarwyd deg llong yn Ilawn olfilwyr gan ynnau'r Italiaid. Ymosododd patrol Prydeinig ar safleoedd blaen y gelyn, gan achosi colledigion mawr arnynt a chymer- wyd carcharorion. Dygwyd pump o longau-awyr y gelyn gan ynnau a llongau awyr y Cyngrheiriad. Eglurhad y gelyn ar golli Zenson, ar Ian orllewinol y Piave, yw fod y lie wedi cael ei adael yn wirfoddol Rhagfyr 26, ac na chanfu'r Italiaid hyn hyd Rhagfyr 31. Yr wythuos hon cyhoeddir fod 18 o longau uwchlaw 1,600 wedi eu suddo, a 3 o rai islaw hynny.
TRYSORFA'R "GWYLIEDYDD NEWYDD."
TRYSORFA'R "GWYLIEDYDD NEWYDD." Derbynied y cyfeillion canlynol ein diolch am eu rhoddion i gyn I orthwyo y G.N. yn yr argyfwng S a Dr. Hugh Jones, Bangor 10 0 Cylchdaith'Towyn 10 0 Mr Evan Jones, Cotris 2 6 Mr W. J. Lewis 1 0 Mr R. Morgan 1 0 Mr J. Fielding 1 6
I -G- O-L. I BWRDD Y GOL.…
I G- O-L. I BWRDD Y GOL. Allan o Ddiffyg Gofod.-Oakfield, Lerpwl; Trydydd Nadolig yn Ffrainc. Rhy Hwyr y tro yma.—Tregarth, Rhuthyn, Cefn Mawr, Rhyl; Safle Gweinidogion Wesleaidd ynglyn a Phryniant y Fasnach Feddwol.
At Ein DarSlenwyr a'nI I .DosbArthwyr.I
At Ein DarSlenwyr a'n I I DosbArthwyr. I Oherwydd i ryw anghafiael ddig- wydd i'n peiriannau, methasom yr wythnos hon a chael y G.N. allan yn ei amser arferol..Parodd hyn oediad o ddiwrnod. Drwg gen- nym am hyn.
[No title]
Yn Rhosllanerchrugog caed pre- geth gan Mr Peter Price, o dan nawdd Brawdoliaeth y Cymod ar Heddwch, a'i fater ydoedd, "Budd ugoliaeth Gethsemane." Cafwyd pregeth ysgubol, ag y bydd cofio am dani. Yr oedd y capel yn or- lawn, Ío:
Advertising
Llyfrau Ail Law. i. i ———— BARGEINION. i Rhodder A ar yr a mien oddi- allan, a chyfeirier yr Archebion i- Rheolwr, "Y Gwyliedydd Newydd," "Flint Mountain, I- Flint. Kocliadats Herlser Sef Detholion o'r Nodiadau Misol byw, craff, ar wahanol bynciau i'r Dysgedydd gan y diweddar Barch Herber Evans, D.D. Addefir fod y Nodiadau hyn ymhlith y pethau goreu a ddaeth o law Herber erioed Y gyfrol cystal a newydd. Pris cyhoeddedig 3/6 trwy'r Post 21- Peihaw Newydd a Hen Gan Mr Delta Evans (Dewi Hir- addug), Llundain: cyfrol werth- fawr iawn o draethodau, Moes- egol, Llenyddol, a Beirniadol. Cystal a newydd. Pris cyhoedd- edig 2/6; trwy'r Post 1/8. Holwyddorydd Diwinyddot Dr. Pope Cyfeithedig gan y Parch T. J. Pritchard. Cyfrol ddestlus o 494 o dudalennau, ac yn newydd Z-hollol. Pris cyhoeddedig, 10/6 trwy'r Post, 4/6. Yr oedd Dr. Pope yn un oddiwinyddiongall- uocaf y wlad, ac mai cyfeithiad Mr Pritchard yn feistrolgar a chlir. Cyfamod Heddwch Cyfrol wych iawn o bregethau gan hyodl a chryf Dr. Marvin R. Vincent. Pris cyhoeddedig 5/ cystal a newydd; trwy'r Post 2/4. Mae'r gyfrol hon yn awr yn brin. Gnosticiaeth a Agnosticiaeth Cyfrol wir alluog o Bregethau gan Dr George Salmon. Mae yn y gyfrol 18 o bregethau gwir uchraddol. Cystal a newydd. Pris cyhoeddedig 5/6; trwy'r Post 3/3. Hwfa Mon Dan olygiaeth Mr W. J. Parry, Bethesda Cyfrol Goffa am yr hen wron" Eisteddfodol. Ceir ysgrifau ynddi fel y canlyn Hwfa fel Cymeriad J 111 Parch Rhys J. Huws Fel Bardd ym Mesurau y Cyng- hanedd-Elfed Barddoniaeth Rydd H wfa- J. T. Job; Fel Eisteddfodwr—Gwylfa. Ceir yn y gyfrol bigion o gyn- hyrchion y Prif Fardd enwog Pris cyhoeddedig 3/6; trwy'r Post 2/3. By the River Chebar Myfyrdodau ar Lyfr Ezeciel gaa. y Parch Elfed Lewis. Y mae gwelediad cyfriniol a barddonol Elfed ar ei oreu yn y gyfrol hon. Mewn cyflwr da. Pris cyhoedd- ig 3/6 trwy'r Post 2/3. The Ideal Life Bywyd, ynghyda detholiad o Bregethau neu Areithiau y di- weddar Proff. Driimond, wedi eu hysgrifennu a'u golygu gan Mr Robertson Nicoll. Mewn cyflwr da. Pris cyhoeddedig 6/- trwylr Post 3/3. Christ in the. Wilderness Tair ar ddeg o benodau yn ym- drin yn feistrolgar a diddorol gyda x herntiad yr Arglwydd lesu yn yr Anialwdh," gan y Parch. L. H. Wiseman. MewA cyflwr da. Trwy'r post, 1/10. Christ and the Times Cyfrol o Bregethau gan yr Arck- ddiacon Sinclair. Pris cyhoedd- edig 3/6; trwy'r Post 2/ Cys- tal a newydd.
[No title]
Y Parch. John Felix a Chyngor Cenedlaethol Eglwysi Rhydd- ion Cymru. Syr, Blin iawn gennyf oedd deall oddiwrth y Gwyliedydd Newydd fod y Cyngor hwn wedi peri cywil- ydd i'r Parch John Filix. Trodd fy ngofid yn syndod pan ddeallais achos y cywilydd. Dywed Mr Felix ei fod wedi gweled na sopiwyd am y mater (Difreinio Gwrthwynebwyr Cydwybodol) ym Mhwyllgor Gweithiol Cyngor. Eglwysi Rhydd- ion Cymru, a gynhaliwyd yn Aber- ystwyth beth amser yn ol. Carwn yn fawr iawn gael gwybod ym mha le y gwelodd Mr Felix hyn. Y mae dau newyddiadur o fy mlaen yn awr-y Cambrian News am Rhag. 7, a'r Cymro am Rhagfyr 12. Yn y naill darllenaf fel hyn The Exe- cutive Committee.—A resolution was passed protesting against the resolution of the House of Com- mons to disenfranchise Conscien- tious Objectors," ac yn y llall fel hyn Y Pwyllgor Gweithiol.— Pasiwyd penderfyniad cryf o wrth- dystiad yn erbyn ymddygiad an- heilwng Ty y Cyffredin ynglyn a'r Gwrthwynebwr Cyd wybodol-sef eu difreinio." Ymhellach ymlaen yn y ddau adroddiad darllenaf a ganlyn Y Cynhadledd.—Y Parch J. Lewis Williams a brotestiodd yn erbyn difreinio y Gwrthwynebwr Cyd wybodol. Dymar penderfyniad basiwyd yn y Pwyllgor Gweithiol, ac ar awgrym y Parch J. Lewis Williams a basiwyd eilwaith yn y Gynhad- ledd y prydnawn, "That this meeting of the National Free Church Council of Wales recognis- ing the supreme right of concience, deeply regrets that the House of Commons should have by a major- ity, resolved to deprive Conscient- ious Objectors of their Civil Rights." Yn awr, yngwyneb y ffeithiau hyn byddai i Gadeirydd Talaith ddweyd mewn cyfarchiad cy- hoeddus, ag awdurdod ei swydd y tu cefn iddo, nad oedd wedi gweled fod y Cyngor Cenedlaethol wedi son am y mater yn ddigon drwg, ,ond y mae dweyd ei fod wedi gweled na soniwyd am y mater yng' ngwyneb y ffeithiau nodir uchod, ac ar sail hynny proffwydo heb lawer o arwyddion galar yn y broffwydoliaeth, ddydd tranc y Cyngor, yn gam sy'n galw am es- boniad ae ymddiheurad. Yr eiddoch yn gyv. ir, JOHN ROBERTS, Ysgrifennydd y Cyngor Cenedl- aethol. r •—— Cyngor Cenedlaethol Eglwysi Rhyddion Cymru a Rhyddid Cydwybod. Ar ol i mi anfon fy nodyn I Ol- ygydd y Gwyliedydd Newydd" yr wythnos ddiweddaf, cefais ar ddeall fod Pwyllgor Gweithiol | Cyngor Cenedlaethol Egiwysi Rhyddion Cymru wedi pasio pen- derfyniad yn gwrthdystio yn erbyn gwaith y Llywodraeth yn ymyrryd a rhyddid cydwybod. Da iawn gennyf ddeall hyn. Gresyn na fuasai'r ffaith wedi ei gwneud yn llawer mwy cyhoeddus. Ym. ddanghosodd adroddiad yn y 1,1 Manchester Guardian." Cyfeir- iwyd at benderfyniadau a basiwyd ynghylch Datgysylltiad, Heddwch, Entertainments' Tax, &c., ond nid oes air am y mater dan sylw. Cyf- eiriwyd ddwy waith yn y Gwyl- iedydd Newydd," gan rai oedd yn I bresennolyn y Pwyllgor, at benderfyniadau a basiwyd, ond ni soniwyd dim am y mater hwn; ac ar lawer cyfrif, hwn oedd y pwys, icaf o'r cwbl. Ac i chwanegu at y cwbl, mewn llythyr a ddeibyniais oddiwrth aelod pwysig o'r Cyngor, dywed, Our efforts are greatly impeded by the appeal of the Gov- ernment that we should not raise contentious questions at a time when every energy should be strained to win the war." Rhaid nad oedd y cyfaill hwn yn bresen- nol yn Aberystwyth, ac na chlyw • odd am benderfyniad y Pwyllgor. Modd bynnag, llawenydd i mi ydyw deall na esgeuluswyd y j. mater: ac yr wyf yn prysuro i hysbysu'r ffaith. i ddarllenwyr y j Gwyliedydd Newydd." Drwg ) gennyf i mi gael fy nhamarwain. I JOHN FELIX, I -=x_