Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

[No title]

Telerau Heddwcii. .t elerliu…

News
Cite
Share

Telerau Heddwcii. .t elerliu Heddweh. (Gan Mr E. T. JOHN, AS.). Gwahoddwyd Mr. Edw. T. John, A S., i ddatgan ei farn ar y telerau heJdvvch a gynygir gan y Count Czernin yn Brest Litovsk ar ran yr.! Almaen a'i Chyngrheiriaid. Dywed Mr John eu bod yn dat- guddio yn noliol ddiymwad feth- iant llwyr amcanion arweinwyr milwrol Prwsia. Er gwaethaf ei haberth a'i dioddefaint difesur, gwel yr Almaen y bydd rhaid iddi ymfodloni ar sicrhau heddwch heb estyn cortynau ei phabell un tipyn. Y mae hyn yn hynod darawiadol pan y sylweddolir sefyllfa neilltuol o ffafriol ei byddinoedd yn bresen nol, ac y mae i'w briodoli yn ddi- amheuol i weithrediad nerthoedd trefnidol a moesol. Tra y mae'n eitha sicr fod gwlad- weinwyr yrAlmaen yn sylweddoli yn Hawn arwyddocad cyfranogiad yr Unol Daleithiau yn y rhyfel, y maent heddyw yn fwy anesmwyth ynghylch ymdaeniad ysbryd chwyl- droad ymhlith eu bobl, yn cyd- redeg a chynnydd cynni ac angen octyd a dwfn ymdeimlad o'u hirfaith ddioddefaint. Ni feidd iant am hynny droi dust fyddar at gynhygion beiddgar gwerinwyr Rwsia. Er fod cynhygion Count Czernin yn annigonol fel trefniant terfynol, y maent yn sail sylwedd i ymdrin iaeth pellach, a gosodant ieid- rwydd ar i Brydain a'i chyngrheir- iaid hithau hefyd gynnyg telerau fyddont yn cyfarfod a thelerau yr Almaen hyd y gellir heb beryglu dyfodol y cenedloedd. Yn ddoeth, rhoddodd yr Ardalydd Lansdowne y flaenoriaeth i'r ystyriaeth o ddio- gelwch—yr hyn a sicrheir yn unig drwy ddiarfogiad cyffredinol-i ddechreu yn ddiatreg ac i barhau hyd nes y byddo yn gyflawn, a hynny yn gyfunedig ag ataliad llwyr ar wneuthuriad cad ddarpar o bob math, milwrol, morawl, ac awyrol, ac yn cynnwys cread trefn iant awdurdodol ac effeithiol o gyflafareddiad cydwladol drwy offerynoliaeth Cyngrhair y Cenhed- loedd, o angenrheidrwydd yn seil iedig ar ryddid masnach cyflawn, a hawl cenhedloedd mawr a man i hunan-ddatblygiad dilestair I Dyma elfennau pwysicaf a mwyaf sylfaenol heddwch parhaol, ac os derbynir hwynt gan bawb symlheir yn ddirfawr rai o gwes- tynau mwyaf anhydrin tiriogaeth- au. Ynglyn a chwestiwn anodd Al sace Lorraine, ni cheir diangfa foddhaol drwy bleidlais amheus ond drwy wneuthur y ddwy dal, aith yn annibynnol ar Ffrainc a'r Almaen, gan o leiaf eu gwneud hwy, Luxemburg, Belgium, Holland, a Switzerland, yn wled ydd amhleidiol, heb fyddinoedd ac heb dollau masnachol o unrhyw fath. Y mae yn eilhaf tebyg fod Awstria bron mor avyddus i fabwysiadu diarfogiad cyffred- inol ag ydyw Rwsia ei hun, a chyda diflaniad bygythiad gallu- oedd unedig Rwsia a Ffrainc, ni adewir i'r Almaen un esgusawd golygus dros gadw 1 fyny ei bydd- inoedd enfawr. Llawenydd digymysg i'w phobl fydd gwared igaeth o iau annioddefol zel milwiol a rhaib Diffyndollaeth, cyfrin ormes ei harweinwyr milwrol, ei thirarglwyddi trahaus, a'i mawrion manachol. (Dan amgylchiadau felly byddai ail drefnu safle Finland, Poland, Taliethiau'r Baltic, gwiedydd y Balkans ac Ymherodaeth Awstria Hungary, gyda gwahanol raddau o hunanlywodraeth ac annibyn iaeth yn dibynou i raddau helaeti-i ar ddewisiad y gwahanol genedl- loedd yn Ilawer llai nag o dan amgylchiadau fyddai yn galw yn barhaus am ystyriaeth o fanteision ac anfauteision milwrol a mas- nachol. Yn eitha tebyg, bydda.i yn bosibl drwy drefniadau ariannol ddwyn Twrci i ddygymod a rhydd- had y tiriogaethau a oresgynwyd gan y Cynrheiriaid Gydagolwg ar Drefedigaethau yr- Almaen, dylid eu hunG hwy a'r Belgian-Congo yn un Wladwr- iaeti- Cyd-wladoi, a dylid sefydlu masnach rydd gyfiawn ymhob Trefedigaeth. Dylai Belgium yn ddiamheuol dderbyn iawn tra sylweddol am eu rnerthyrdod yn ol pob tebyg bydd i yr Almaen yn fodlon i gyfrannu yn haelionnus—dylai Ffrainc a Phryd ain hefyd (lofio- en methiant trych. 1 neb us hwythau i gadw eu hadd ewid i amddiffyn yn effeithiol an-- nioyniaeth Belgium—mor wahanol i ffyddlondeb a medr Mr Gladstone yn 1870. Y mae y sefyllfa erbyn hyn y fath agi wneud parhad y rhyfel yn drosedd anesgusodol yn erbyn y ddynoliaeth. Y mae y cri am "Heddwch drwy fuddugoliaeth milwrol gan bwy bynnag y'i cod- ir yn baganiaeth noethlymun, yn llwyr unol ag ysbryd Prwsia, yn seiliedig ar athroniaeth fas arwyn- ebol a chamddealltwriaeth sylfaen- 01 o'r natur ddynol.

I —,—■—■tp w —■—-—■—•I MAWRHYDI…

Y LLYWODKAETH A RHYDDID CYDWYBOD.