Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
13 articles on this Page
INODION 0 DDOLGELLAU.
NODION 0 DDOLGELLAU. Cynhaliwyd Watchnight yn Eben- ezer, nos Lun, Rhagfyr 30. Dechreu- wyd am ddeg, o dan lywyddiaeth y Parch David Thomas, ac arweiniad y Parch Wm. Parri Huwa, B.D., yr hwn sydd yn garedig yn dyfod atom ers 11a wer o flynyddoedd, Yr oedd y capel hardd yn orlawn, a'r gynulleidfa yn ymddwyn yn rhagorol. Yr oedd popeth a ganwyd ac a ddywedwyd o ansawdd uchel ac ysprydol iawn. Cymerwyd rhan gan y rhai canlynol: Misses Gertie ac Elsie Lloyd, dwy chwaer o Carno; Mr J H. Williams, Dyffryn; Misses Mair Roberts, Myfi Evans, Mr Hum- phrey Jones, Mr G. Wynne Williams; canu penhillion, Miss Dilys Wynne Jones, Aberystwyth, yn swynol iawn, a Chor o dan arweiniad Mr Rufus Rob- erts. Cyfeilwyr, Miss Eira James, a Mr John Roberts, a gofalwyd am yr Organ gan Mr D. R. Meredith. Cafwyd Watchnight neilltuol o dda, a gwnaeth pawb eu rhan yn rhagorol. Cafwyd gair pwrpasol iawn i derfynu gan y Parch David Thomas. CYMRO.
CYLCHDAITH TREORCI.j
CYLCHDAITH TREORCI. Cynhaliwyd Cyfarfod Undebol Ysgol- ion yn Saron, Treherbert, Rhag. 16. Llywydd, Mr J. Edwards, Treorci. Dechreuwyd gan Mr R. Da vies, Peny- graig yna holwyd yn y bennod gyntaf, ar unfed adnod ar hugain o Philipiaid gan Mr J. Morgan, Treorci; atebion bywiog a chyffredinol. Diweddwyd gan ein arholwr Mr J. Morgan. Prydnawn, cyfarfod y plant. Dech- reuwyd gan Mr W. Owen, Ton Pentre, ag adroddwyd Salm gan Kate' Jones; canwyd amryw donau gan y plant; holwsd gan Mr Davies a Mrs Jones; hefyd cafwyd anerchiad rhagorol gan Mr R. Jones, Clydach Vale, a diwedd- wyd y cyfarfod gan Mr R. Jones. Yn yr hwyr, cyfarfod areithio. Dech- reuwyd gan Mr R. Lloyd, Penygraig. Cawsom anerchiad gan y Llywydd, ag areithiwyd gan Mri R. Lloyd, Penygraig Glycdwr Lewis, Ton Pentre; J. Parry, Treorci; a R. Jones, Clydach Vale; diweddwyd y cyfarfod gan Mr Smith, Clydach Vale. YSG.
ILLANDUDNO.I
LLANDUDNO. Breintiwyd ni yn Ebenezer a gwasan- aeth Mr Griffith Jones, Capei Garmon, am Sabboth yn niwedd Tachwedd, a'r Parch Hugh Hughes am Sabboth yn Rhagfyr, ac yn ein cyfarfod pregethu dydd Nadolig gan y Parch 0. Madoc Roberts. Cafwyd cynhulliadau lliosog, a gwenau y Nefoedd ymhob gwasanaeth. GOH.
BRUNSWICK, LLUNDAIN. I
BRUNSWICK, LLUNDAIN. Coffee Supper ,-Eu Coffee Supper Brunswick—y cyntaf am y tymor—yn llwyddiant perffaith--mewn ansawdd ac amcan. Y bobl briod oeddynt noddwyr hwn. a chawsant hen aelod o'r eglwys i fod yn llywydd-Mr. Morgan Jones. Llawenydd i liaws oedd ei weled yn y gadair, a gobeithiwn ei we!ed yn amlach yn ein plith. Yr oedd 'mynd' ar y cyfan, a gwnawd elw o dros P,40 Caed cyngherdd rbagorol, a chymerwyd rhan gan Mrs Cowley, Miss Francis, Mr. Cowley, Dr. Pennant Evans, ac ereill o'r tu allan i'r capel- Gwnaed gwaith rhagorol mewn casglu cyn y noswaith gan Mrs. Edward Owen, Mrs. Thompson, Mr. Alfred Jones, a Mr. Richard Morgan (Kil- burn) 0 Ffrainc.— Bu Private Samuel Morton (un o oruchwylwyr y capel) ar ymweliad a Brunswick ganol mis Rhagfyr. Llawcnychai yr eglwys ei weled, ac hyderwn y bydd yn fuan yn ein plith fel mewn dyddiau fu. Cartref Oddicartref.—Cynhaliwyd yr-Wjl hon yn Brunswick y noswaith ar ol y Nadolig, ond yr oedd cryn fesur o'r gogoniant cynhenid wedi diflanu- Dechreuwyd yn gynnar yn y prydnawn er galluogi pawb fynd i'w cartrefi yn weddol gynnar er osgoi dychryn a difrod marchogion y cymyl." Cafodd y plant gyfle i adrodd a chanu; ac, er I oymamt y prindor sydd yn ein gwla<3, I digonwyd hwy a phetbau goreu y tymor. Llywyddwyd y cyfarfod gan Mr Edward Jones, Roman Road, a chyflwynodd anrheg olyfr bardd i bob un o'r plant ar ran yr Ysgol Sul.
ILLANDILO.
I LLANDILO. Cynhaliwyd Watchnight yn St. Paul y flwyddyn hon eto. Pregethwyd y tro hwn yn Saesneg gan Signaller D. Gourlay Thomas, yr hwn oedd gartref o'r mor am ychydig ddyddiau. Llawen gan bawb oedd ei weled, a chael ei was- anaeth. Cawsom odfa dda a bendithiol. Mae'r Wesley Guild a'r Gobeithlu yn llewyrchus eleni eto ac yn cael eu myn- ychu yn rhagorol. Cawsom un o'r Guild's goreu, nos Iau diweddaf. Mr Jacob T. Lewis yn llywyddu, Mr Henry Davies yn beirniadu, a Mrs. John Davies oedd yn gyfrifol am y rhaglon.
ICORWEN.
I CORWEN. Pasiodd Cyngor Eglwysi Rhydd Corwen i wrthdystio yn erbyn gwaith Ty y Cyffredin yn pasio i ddifreinio Gwrthwynebwyr Cydwybodol, ac hefyd yn erbyn yr, ymgais a wneir i gyfnewid adrannau yn Neddf DatgysyJltiad a Dadwaddoliad. Dydd Nadolig cynhaliwyd cyfarfod yng Nghorwen yng nghapel Seion, i ddathlu dau canmlwyddiant Pantycelvn. Dechreuwyd trwy weddi gan y Parch J. Williams. Galwodd y llywydd, Parch A. Lloyd Hughes, ar y rhai canlynol i annerch Mr J. P. Hughes ar Hanes Williams; Parch H Cernyw Williams ar ei Emynau a'r Parch L. Davies ar ei^Ddiwinyddiaeth Arweiniwyd y canu gan Mr W. Ellis Evans, Mr Christmas Evans wrth yr organ.
COLWYN BAY.I
COLWYN BAY. Nos Lun, Rhagfyr 17, yn Horeb, cyn- haliwyd Cyfarfod Dirwestol, o dan nawdd Cymdeithas Unedig y dref, o dan lywyddiaeth y Parch. R- Roberts. Cyn hygiwyd peuderfyniad cryf ar Lwyr ymataliad gan y Parch. H. M. Pugh, yn cael ei gefnogi gan y Parch. Thomas Parry. Siaradwyd ymhellach gan Mr. John Owens, Y.H., Caer, a'r Parch. Hugh Evans (Cynfor), Rhyl. Cafwyd anerchiadau grymus ar y cwestiwn. Diolchwyd i'r siaradwyr gan y Parch. Angel Richards a Mr. J. R Jones. Y dydd o'r blaen bu y Parch. Dr. C. M. Sheldon, Kansas, U.D.A., awdur ''In His Steps" yn aonerch cynhadledd gyhoeddus yn Ngbolwyn Bay, ar gwestiwn llwyrwaharddiad. Rhoes dyst- iolaeth o berthvnaSPi'r fantais dderbyn iodd rhai o Daleithau yr America trwy waharddiad. Lie bynnag y rhoed prawf ar wabarddiad yr oedd yn llwyddiant. Dywed mai athrod ar weithwyr Prydain ydoedd dyweyd y taflent heibio eu hoffer gweithio os na chaent ddiodydd meddwol Rhoed nifer o gwestiynau i Dr. Sheldon, ac atebodd hwy yn rhwydd a phendant. Cynhaliwyd Gwylnos y noson olaf o'r hen flwyddyn mewn ffurf o gyng- herdd, canu penhiilon, carolau, dadleu on, ac adroddiadau, &c. Cymerwyd rhan gan gyfeillion o Bronynant, a bu eu oyfran yn ychwanegiad,rhagorol i'r doniau lleol tuag at wheud rhaglen llawn. Mae nifer y rhai fu yn datganu &c. yn rhy liosog i'w henwi. Cawsom gyfarfod tra buddiol. Llywyddwyd gan Mr Morris Roberts, a phrofodd yn fedrus gyda'i waith, cyfranodd yn hel- aeth at y drysorfa. 'Roedd amcan y Watchnight yn ddeublyg-ffarwelio a'r hen flwyddyn mown sain can a nioliant- ac edrych tua'r gorwel am flwyddyn newydd dda, ynghyd a chwyddo y cyllid sydd gennym gogyfer y milwyr. Cawsom elw sylweddol.
MOUNTAIN ASH II
MOUNTAIN ASH I I Ddydd Nadolig cynhaliwyd Oymanfa Ganu Undebol o dan nawdd Cyngor Eg- lwysi Rhyddion Mountain Ash yng Nghapel y Rhos. Yr arweinydd am y dydd oedd Mr J. O. Jones, Bethlehem, a gwnaeth ei waith yn rhagorol iawn. Bu canu brwdfrydig. ar yr holl donau, ac yn arbennig ar Y Cyfaill Goreu,' Gariad Crist,' a Died Dnw.' Yr oedd cyfarfodydd y prydnawn a'r hwyr yn rhai a hir gofir. Cafwyd hwyl neilltuol ar y Cymod,' Gollilenor,' a Dewi Sant.' Yr oedd cyfarfod yr hwyr yn gyfarfod i ddathlu Dau CaD Mlwyddiant Williams, Pantycelyn. Cafwyd anerch- iadau dyddorol a chyrhaeddgar ar Ber- ganiedydd Cymru gan y Parchn. Gwrnryn Jones, Miscin, a William Davies (Soar). Llywyddwyd yn y gwa- hanol gyfarfodydd gan y Parchn W. Llewelyn Morgan, J. R. Evans B.A, B.D., a T. J. Hughes. Wrth yr organ Mri J. Griffiths a J. W. Evans.
I iiLLAN FFESTINIOG.
I LLAN FFESTINIOG. Marwolaeth a Chladdedigaeth Mrs Jones, Capel Gwyn.—Drwg gennym orfod cofnodi marwolaeth Mrs Ellen Jones, annwyl briod Mr E. R. Jones, Capel Gwyn. Cymerodd yr amgylchiad trist le, a hi ond 49 mlwydd oed, dydd Mawrth, Rhagfyr 11, 1917, a chladd wyd hi y dydd Gwener canlynol yn Nghladdfa St. Michael, yng ngwydd torf alarus. Gwasanaethwyd wrth y ty ac ar lan y bedd gan y Parchn R. T. Phillips (A.), J. E. Roberts, D. Williams (A.), Maentwrog, a R Jones Williams, RI. Ffestiniog. Gadawodd briod a phump o blant i alaru eu colled ar ei hoi, o ba rai y mae dau o'r meibion gyda"r fyddin, y naill wedi bod fisoedd yn Ffrainc a'r Hall yn India. Merch hynaf y diweddar Mr a Mrs William Roberts, y pregethwr Wesleaidd poblog- aidd, ydoedd- yr ymadawedig ac y mae ei brodyr a'i chwiorydd, sef, y Parchn T. Gwilym Roberts, Towyn; Evan Rob- erts, Croesoswallt; R. W. Roberts, Fronfair, Maentwrog; W. W. Roberts, The Square, Bl. Ffestiniog Miss Maggie Roberts, Tunbridge Wells Miss K. Roberts, Oswestry Miss J. G. Rob- erts a G. E. Roberts, Bronywern, Maen- twrog, yn eu galar ar ei hoi. Yr oedd yr ymadawedig yn wraig garedig, a darbodus, a siriol, ac yn fam dyner a gofalus. Yn ei hesiampl a'i bywyd cafodd y plant etifeddiaeth rag- orol. Bu yn aelod ffyddlon a dichlyn- aidd yn Shiloh, ac yr oedd yn mwyuhau moddionau y cysegr, yn arbennig yr Ysgol Sul. Ei hiraeth parhaus ydoedd am "gynteddau ty yr Arglwydd." Bu yn wael yn hir ond yr oedd yn berffaith dawel ac ymostyngol i'w ewyllys Ef. Gellir dweyd am dani, "Yr hyn a allodd hon, hi a'i gwnaeth." Mae y llinellau canlynol o eiddo Gerallt, Maentwrog, yn bortread cywir ohoni. Un dda'i gweithredoedd ydoedd, darbod- ol, I'w gwr yn addurn, un gu rinweddol; Gyrfa o garu yr lesu grasol Oadd gyrfa'i heinioes, hardd, gywir fanol, Ow rhy gynnar, o ganol Ei bywyd- Gwywo i'r gweryd wnai'r wraig ragorol. Dyddaned yr Arglwydd y teulu oil yn eu galar a'u hiraeth. 1- n. -1
ITANYGRISIAU, BL. FFESTINIOG.-…
TANYGRISIAU, BL. FFESTINIOG. I Y dydd o'r blaen derbyniodd Mr a Mrs Hagh Gabriel, Gwynfa, rhakp ffyddloniaid yr achos yn Tan ygrisiau, y newydd trallodus fed eu banwyl fab, Owain, wedi ei ladd ar y maes yn Ffrainc: lladdwyd ef ar yr 21ain o Dachwedd. Yr oedd Owain yn 27 mlwydd oed, ac yn un o'r bechgyn anwylaf a thirionaf. Yr oedd hefyd yn aelod ffyddlon a gweitbgar yn Eglwys lesu Grist: Yr oedd yn fachgen oedd wedi ei ddwyn, i fyny, fel Timotheus, yn addysg ac athrawiaeth yr Arglwydd, ac wedi tyfu i fyny nid ymadawoad a'r addysg ac a'r athrawiaeth honno, yn wir aeth yr oil yn ddyfnach i'w galoli Lef yr oedd yn fachgen ieuanc a, gwreiddyn y mater" mewn gwirionedd yn ei galon. Yn ei lythyrau olaf at oi rieni dywedai ei fod yn gweddio lawer, ac anogai ei dad p'i fam hefyd i weddio trosto dywedai hefyd am iddynt beidio blino am ei ddiogelwch moesol ef- "Nid yw yr addysg fore a gefais gen- nych, fy annwyl rieni, ebai, yn debyg o fod yn ofer." Tlws iawn oedd y gair a glywsom am dano. Talodd awdurdodau y fyddin gryn swm yn fwy nag oedd yn ddyledus f 11650 nnwaith, rYDnfli rhai o'r bop-hgyn iddo on eadw—y raae ein bywyd yma yn ddigon caled, a'r tal yn ddigon bychan, meddant. Na," ebai, ni allwn feddwl am eu cadw," ac acth a bwy yn ol. Wedi clywed am y tro anfonodd y Capten am dano, diolchodd iddo am ei onestrwydd, a rboddodd banner sofren yn anrbeg iddo, gan ddweyd Chwi ddylech feddwl yn uchel, fy machgen i, o'r cartref y magwyd chwi ynddo." Yr oedd ein cyfaiU ieuanc newydd gychwyn busnes fel Pobydd yn Llan Ffestiniog, a diau fod gyrfa lwyddiannus o'i flaen yn grefyddol a masnachol, ond wele yntau, fel mil- oedd o fechgyn goreu Ewrop, wedi mynd yn aberth i'r eilun meUdigedig Moloch. Diddaned Duw ei rieni, a'i frodyr a'i chwiorvdd traliodus. I CYFAILL
I GLASINFRYN. BANGOR.
I GLASINFRYN. BANGOR. Yr oedd yn ddrwg iawn gennyf glywed yma, yn yr Ysbyty yng Ngwrec- sam, He y gorweddaf, am farwolaeth y brawd Richard Wyn Pritchard o'r He uchod. Mae fy nghyfeillion goreu yn cofnu arnaf heb i mi gael y fraint o ymweled a hwy, na'u hcbrwng i dy eu hir gartref. Daw ton o hiraeth drosof wrth feddwl am farw a chladdu y cyfaill uchod. Bu farw foreu, Sul, Rhagfyr 2, braidd yn annisgwyliadwy. Yr oedd wedi gadael ei waith er's wythnosau, a bu yn gorwedd dan Bronchitis am ychydig, ond ycbydig ddyddiau cyn y diwedd cymerwyd ef yn wael iawn. Dioddefodd y cwbl yn dawel a dirwg- nach. Coliasom fel gweithwyr ynddo ef gefnogwr cryf a chyfaill ffyddlon. Ym- laddodd yn ddewr dros gyfiawnder i'r weithiwr, a hynny i'w niwed ei hun. Wrth geisio gwella amgylchiadau eraill drygodd ei eiddo ei bun. Dyddorol oedd ei glywed yn annerch cyfarfodydd o'i gydweithwyr oddiar y llwyfan. Siaradai yn ddoeth a hwyliog. Gwelsom lawer cyfarfod yn dechreu yn ddigon fflat, ond pan gyfodai ef i siarad newidiau don y cyfarfod. Bob amser anogai ni i sefyll dros gyfiawnder a rhyddid. Yr oedd yn ddarjlenwr mawr ac yn gofiwr da. Nid gorchvvyl hawdd oedd ei goncro mown dadl. Yr oedd yn Weslead selog, a glynodd wrthym yn Soar, Glasinfryn, hyd y diwedd. Claddwyd ei weddillion ddydd lau, Rhagfyr 6ed, ym Mynwent Pentir. Gwasanaethwyd yn y capel ac ar lan y bedd gan y Parch W. J. Jones, Bangor. Gweddiodd Mr Jones yn dyner a theim- ladwy iawn, a cbanwyd ar lan y bedd "Bydd myrdd o ryfeddodau." Cydymdeimlir yn fawr a'i briod. Mae iddi chwech o blant, yr oil ond un yn. America. Buont i gyd yn garedig iawn wrth eu rhieni mewn gweithred a gair, ac eiddunwnliddynt nawdd y Nef, ac i'w hannwyl fam hefyd yn ei hunigedd. x Private JOHN JONES.
LLANDEBIE
LLANDEBIE Blin gennym gofnodi marwolaeth Sig- naller R. Newton Thomas (mab y diweddar Mr John Thomas yr hwn fu yn bregethwr cynorthwyol ar y Gylch- daith hon am flynyddau lawer) a Mrs Thomas, London House, yr hyn a gym- erodd le ar faes y frwydr Tach. 29ain. Y Saboth diweddaf cynhaliwyd cyfarfod coffadwriaethol iddo. Dechreuwyd y gwasanaeth am 2 o'r gloch. pregeth- wyd gan y Parch D. Corris Davies, ar y geiriau hynny, Ei haul a fachludodd, tra yr oedd hi yn ddydd." Cafwyd gwasanaeth effeithiol. Dangoswjid cydymdeimlad mawr a'r teulu, a'r weddw ieuanc yn eu galar a'u golled. Yr oedd "y capel yn orlawn, a rhyw ddwyster neulltuol yn meddianlu y gynulleidfa. Cafwyd unawd. fendigedig gan Mr Tom Williams, Ammanford, a chwareuwyd y Dead March," a'r gynulleidfa yn sefyll, gan Mrs Shearn. Chwith gennym feddwl na chawn gwrdd a'n cyfaill ieuanc ar y ddaear mwy, ond mae gobaith cwrdd eto, tudraw i'r afon. Dyddaned yr Arglwydd y weddw, a'i fam, a'r teulu oil yn eu tristwch.
[No title]
Yn y rhestr o'r rhai a anrhydedci- wyd ddydd Calan mae y Cymry canlynol: Mr Tom Richards, A.S.. yn aelod o'r Cyfrin Gyngor; Mr Ellis Jones Griffith, A.S., yn farwn; Mr D. T. Davies, Dinbych, a'r Proff J. Morris Jones yn farchogion.