Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

13 articles on this Page

INODION 0 DDOLGELLAU.

CYLCHDAITH TREORCI.j

ILLANDUDNO.I

BRUNSWICK, LLUNDAIN. I

ILLANDILO.

ICORWEN.

COLWYN BAY.I

MOUNTAIN ASH II

I iiLLAN FFESTINIOG.

News
Cite
Share

I LLAN FFESTINIOG. Marwolaeth a Chladdedigaeth Mrs Jones, Capel Gwyn.—Drwg gennym orfod cofnodi marwolaeth Mrs Ellen Jones, annwyl briod Mr E. R. Jones, Capel Gwyn. Cymerodd yr amgylchiad trist le, a hi ond 49 mlwydd oed, dydd Mawrth, Rhagfyr 11, 1917, a chladd wyd hi y dydd Gwener canlynol yn Nghladdfa St. Michael, yng ngwydd torf alarus. Gwasanaethwyd wrth y ty ac ar lan y bedd gan y Parchn R. T. Phillips (A.), J. E. Roberts, D. Williams (A.), Maentwrog, a R Jones Williams, RI. Ffestiniog. Gadawodd briod a phump o blant i alaru eu colled ar ei hoi, o ba rai y mae dau o'r meibion gyda"r fyddin, y naill wedi bod fisoedd yn Ffrainc a'r Hall yn India. Merch hynaf y diweddar Mr a Mrs William Roberts, y pregethwr Wesleaidd poblog- aidd, ydoedd- yr ymadawedig ac y mae ei brodyr a'i chwiorydd, sef, y Parchn T. Gwilym Roberts, Towyn; Evan Rob- erts, Croesoswallt; R. W. Roberts, Fronfair, Maentwrog; W. W. Roberts, The Square, Bl. Ffestiniog Miss Maggie Roberts, Tunbridge Wells Miss K. Roberts, Oswestry Miss J. G. Rob- erts a G. E. Roberts, Bronywern, Maen- twrog, yn eu galar ar ei hoi. Yr oedd yr ymadawedig yn wraig garedig, a darbodus, a siriol, ac yn fam dyner a gofalus. Yn ei hesiampl a'i bywyd cafodd y plant etifeddiaeth rag- orol. Bu yn aelod ffyddlon a dichlyn- aidd yn Shiloh, ac yr oedd yn mwyuhau moddionau y cysegr, yn arbennig yr Ysgol Sul. Ei hiraeth parhaus ydoedd am "gynteddau ty yr Arglwydd." Bu yn wael yn hir ond yr oedd yn berffaith dawel ac ymostyngol i'w ewyllys Ef. Gellir dweyd am dani, "Yr hyn a allodd hon, hi a'i gwnaeth." Mae y llinellau canlynol o eiddo Gerallt, Maentwrog, yn bortread cywir ohoni. Un dda'i gweithredoedd ydoedd, darbod- ol, I'w gwr yn addurn, un gu rinweddol; Gyrfa o garu yr lesu grasol Oadd gyrfa'i heinioes, hardd, gywir fanol, Ow rhy gynnar, o ganol Ei bywyd- Gwywo i'r gweryd wnai'r wraig ragorol. Dyddaned yr Arglwydd y teulu oil yn eu galar a'u hiraeth. 1- n. -1

ITANYGRISIAU, BL. FFESTINIOG.-…

I GLASINFRYN. BANGOR.

LLANDEBIE

[No title]