Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

17 articles on this Page

CORRH.

TYCERRIG.

PENEGOES

MORIAH, CYLCHDAITH WYDDGRUG.

L.QUEEN STREET, CAERLLEON.…

I FFYNNONGROYW.

I LLANFAIRYNGHORNWY.

I HANLEY.'i

!

IGWRECSAM

I COEDLLAI.

I BLAENAU FFESTINIOG.

I LLANRHAEADR-YM-MOCHNANT.

News
Cite
Share

I LLANRHAEADR-YM-MOCHNANT. Yng nghapel Seion, Tach. 30, cafwyd cyfarfod arbennig i ddathlu dau gan' mlwyddiant Williams Pantycelyn. Ychydig cyn saith yr oedd y capel, wedi ei orlenwi. Llywyddwyd y cyfarfod gan y Parch H. G. Roberts (M.O ) Cafwyd anerchiadau ardderch- og gan Proff. T. Gwynne Jones,, M.A., Aberystwyth, Parchn. Evan Roberts, H. G. Roberts a Tegla Davies. Hawdd gweld fod y gynulleidfa fawr yn mwynhau y cyfarfod yn rhagorol, gan eu bod yn rhoddi gwrandawiad mor astud. Mae rhaglen gyfoethog y Gym- deithas Ddiwylliadol wedi ei pharatoi ar gyfer tymor y gaeaf. Rhagfyr 5ed, traddododd y Parch Tegla Davies y gyntaf o'r gyfres anerchiadau y bwr- iada roi yn ystod y tymor ar "Drefn yr lachawdwriaeth," ac os yw hon yn ernes o'r rhai sydd i ddilyn, yn sicr fe gawn dymor llwyddiannus. Rhagfyr 12fed, cawsom Ryddymddiddan ar yr anerch- iad gyntaf, Trefn yr Iachawdwriaeth." Agorwyd yr ymddiddan gan Mr D. F. Jones, School House, a siaradwyd ym- hellach gan Mri. W. H. Jones, Arllyn, Richard Davies, Bryn Mair, Edward Jones, Church Street, J. T. Lewis, Ty'n- yoae, a Miss Hiida Jones, Rock House. Is lywydd y Gvmdeithas ydyw Mr D. F. Jones, School House. Llawenydd mawr oedd gennym weled Privates D. E. Rowlands, Willie Edwards, a Thos. Lewis, gartref am ychydig ddyddiau o'r Fyddin. Mae Pte. Willie Ed,wards, Rhydycul, erbyn hyn wedi cyrraodd Ffrainc Nawdd y Nef a a fyddo dros y bechgyn oil. I Cynhaliwyd gwyl bregethu f l,ynydcl'el?. Seion, nos Lun, Rhag. 24ain, ac ar hyd Dydd Nadolig. Gwasanaethwyd y Parchn D. R. Thomas, a J. Roger Jones, B.A. Cafwyd cvnulleidfaoedd rha,gorol a phregethau grymus iawn. BERWYNFERCH.

PORTHMADOG.

IRHIWLAS.

I LLWYNYRONEN.,

LLANEGRYN.