Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
17 articles on this Page
CORRH.
CORRH. Y Nadolig bu Mr Caenog Jones yma yo pregethu. Cawsom wyl ardderchog; cynulliadau da, a graen ac eneiniad ar yr Efeogyl. i Nos Iau, yn Rehoboth, cynhaliwyd cyfarfod dathliad dau canmlwyddiant Williams, Pantycelyn, o dan lywydd iaeth y Parch. R. Evans (A.), Aberlle foni, ac o dan nawdd Pwyllgor yr Eglwysi Rhyddion. Dechreuwyd trwy ganu un o emynau Williams, darllenwyd rhan o Air yr Arglwydd gan y Parch J. C. Lloyd (M.C.), a gweddiwyd gan y Parch R. T. Owen, Aberllefeni. Anerch- wyd y cyfarfotl gan y Llywydd, ac yna gan y Parch J. Pugh Jones ar Williams a'i gyfnod, a chan y Parch H. R Williams (B.), Llwydrudd, ar Ddinydd- iaeth yr emynau hefyd gan Mr D. Ifor Jones, Y.H., ar Williams fel emynydd. Canwyd amryw emynau yn ystod y cyfarfod.
TYCERRIG.
TYCERRIG. Sul y Nadolig, cawsom ein breintlo a I gwasanaeth y Patch T. Gwilym Roberts, Towyn. Yr oedd y weinidogaeth yn afaelgar iawn, ar cyBwyniad yn llawn gwreiddioldeb a gwahanfodedd.
PENEGOES
PENEGOES Cynhaliwyd eiri gwyl bregethu flyn- yddol y Nadolig. Gwyl undebol ydyw, ac yn cael ei chynnal ers pymtheg mlynedd ar hugain. Gwasanaethwyd eleni gan y Parchn Christmas Lloyd (M.C.), Corris, a Gwynfryn- Jones (W.), Fflint. Yr oedd y cynhulliadau yn lliosog iawn, a'r weinidogaeth yn nerthol ac amserol. # Nos Fercher, yr oedd y Parch Gwynfryn Jones yn traddodi ei ddarlith Trannoeth y Rhyfel." Yr oedd y ddarlith yn gref iawn ac yn Ilawn o wybodaeth a chymheUion y mae gwir angen am danynt.
MORIAH, CYLCHDAITH WYDDGRUG.
MORIAH, CYLCHDAITH WYDDGRUG. Cynhaliwyd Cyfarfod Ysgol Moriah Rhagfyr 16eg. Dechreuwyd cyfarfod y prydnawn trwy ganu Emyn, a gwedd- iwyd gan Mr T. Jones, Nercwys. Yna arholwyd y plant yn y pum wers gyntaf o Safon II, gan T. Jones, Nercwys; hefyd yn y 39ain bennod o'r Holwydd- orydd Diwinyddol gan E. Jones, Treu- ddyn. Canwyd unawd gan Harri Hughes. Yna cafwyd adroddiad o'r Deg Gorchymyn. Hefyd arholwyd pennod o'r Aiweinydi gan Mr Jones, Coedllai; hefyd y 13 bennod o'r Arwein- ydd gan y Parch R. T. Roberts, Llan- armon. Canwyd Emyn a therfynwyd trwy weddi gan J. E. Williams, Treu- ddyn. Yng nghyfarfod yr hwyr cafwyd So'o gan M. J. Kendrick. Cafwyd anerch- iad gan y Parch R T. Robsits. Yna cafwyd adroddiad o'r Epistol at Philem- on gan T. a D. G. Hughes yna arhol- wyd yr Ysgol yn y Maes LIafur gan y Parch R. T. Roberts cafwyd atebion paroda phwrpasol Terfynwyd trwy weddi gan E. Jones, Tieuddyu. Mae'r Ysgol Sul ym Moriah yn lewyrchus iawn. Yr oedd nifer dda wedi dod ynghyd er fod y tywydd yn oer ac afrywiog. Yr oedd y llafur yn dWYD tystiolaeth- fod Ysgol Sul Moriah ymhlith y rhai blaenaf yn yr undeb. Pasiwyd yn y pwyllgor fod W. C. Roberts, Coedllai, i roi anerchiad i'r bobl ieuainc yng Nghyfarfod Ysgol Siiiem, Chwef. 17eg, 1918. Fod Jerem iah Hughes, Moriah, i roi anerehiad yn yr hwyr. Fod W. D. Jones, Coedllai, i arboli'r plant, Dos. II. yn y Gwyrthiau. Fod T. Jones, Nercvsfys, i arholi 8fed bennod o'r Arweinydd. Ysg..1
L.QUEEN STREET, CAERLLEON.…
QUEEN STREET, CAERLLEON. Yn canlyn ymdrech neilituol codwyd £ 21 yn glir tuag at Elusennau Rhyfel, ac anrhegion i'n milwyr a'n morwyr dawr. Gweithiodd ein Pwyllwor yn rhagorol ac fel ffrwyth eu gwaith rhedd- wyd symau anrhydeddus i amcanion dyngarol ynglyn a'r rhyfel, a rhodd deil wng i bob un o'n bechgyn—30 ohonynt i Antcnodd ein gweinidog—y Parch John Kcliy-lythyr personol at bob un. Amheuwu a oes un eglwys yng Nghym- ru, o'i maint, wedi gwneud yn rhagorach na hyn. I GOR.
I FFYNNONGROYW.
I FFYNNONGROYW. Rhagfyr 9fed, cynhaliwyd Cyfarfod Ysgolion, o dan lywyddiaeth Mr Thos. Owens, Penyffordd, Llywydd yr Undeb. Yn y prydnawn cymerwyd rhan gan y plant. Holwyd y 4ydd bennod o'r Hy fjiorddydd, penned o'r AUwedd, pennod o'r Arweinydd, gyda'r 9fed Wyrth, yn cael eu holi gan y brodyr Rufus Roberts, David Thos. Evans, a'r Llywydd. Cafwyd atebion gwir dda ar y cyfan. Cafwyd unawd gan Bessie Williams, a canodd y plant dair ton o dan arweiniad y brawd John Hughes. Digon yw dweyd Wel done, plant Ffynnongroyw- Yn yr hwyr, adroddwyd y 3ydd bennod o'r Diarhebion gan Heber Williams, ac yr oedd yn worth bod yno yn gwrando arno yn adrodd mor gywir, pob gair yn cael sylw arbennig; camp- us yn wir. Holwyd pennod o'r Arwein- ydd, a pennod o'r Holwyddorydd Diwin- yddol; atebion rhagorol. Cafwyd araith dda iawn gan y brawd H. T. Williams, Mostyn. Holwyd y bennod gyffredinol gan y Llywydd. 1- Ysg
I LLANFAIRYNGHORNWY.
I LLANFAIRYNGHORNWY. Nos Iau, Rhagfyr 27ain, bu cwmni Gobeithlu Bethel, capel y Wesleaid, Amlwch, yn perfformio Drama, Moses a'r Cawell a'r Mor Coch." Y mae tua 25ain neu ragcr yn y cwmni. Y cadeir- ydd oedd R. Ellis, Ysw., Broncastell. Mae y boneddwr hwn yn barod bob amser i'n cynorthwyo gyda phob achos yn Llanfair drwy y blynyddau. Yr oedd y cwmni yn edrych yn hardd iawn yng ngwisgoedd y Dwyrain, a phob un yn gwneud ei ran yn ardderchog, a phawb wrth eu bodd yn gwrando arnynt, yn enwedig ar Glyndwr," bachgen bach ein parchus weinidog—y Parch D. Roberts, Amlwch, gwnaeth ei ran fel Moses yn hynod o dda. Gofalwyd am y gwisgoedd a'r trefniadau gan y Parch D. a Mrs Roberts. Chwareuwyd y Violin gan Mrs Brindle. Mae clod mawr yn ddyledus i'r rhai canlynol am eu hymdrechion ynglyn a'r Ddrama, sef, Parch D. a Mrs Roberts, Mrs Clinton Jones, Mrs Brindle, Mrs Jones, Eleth Cottage, acj eraill. Mae y cwrnni hwn yn wir deilwng ac yn liaeddu pob cefnogaeth. Cafwyd cynulliad rbagorol a noswaith braf a dymunol, a'r elw at yr achos yn Llanfair. Diolchwyd yn gynnes ir cyfeillion yn Llanfair am eu I cynorthwy a'u caredigrwvdd. Teimlad pawb ydoedd am i'r cwmni frysio yma eto. I Y. Z. 11 Y. Z.
I HANLEY.'i
I HANLEY. Cynhaliwyd Sale of Work gan ein heglwys yma, dydd Iau, Rhag. 20fed Mawr oedd ein pryder ynglyn a hi, ond da gennym iddi droi allan yn llwyddiant perffaith. Gwnaethom y swm teilwng o £18. Pan gofir mai decbreu Hydref y darfu i'r chwiorydd ddechreu ar eu gwaith gwnio, credwn i ni wneud yn ganmoladwy iawn. Buom yn ffodus i gael yr Alderman J. H. Ball, U.H. (yr hwn, gyda Haw, sydd yn frawd-yng- nghyfraith i'r efengylydd poblogaidd Gipsy Smith) i agor y Sale of Woy k, a Uywyddwyd y fcweithrediadau ganf Mr Edward Roberts (un o flaenonaid ffyddlon ein heglwys). Cofiodd yr Alderman a Mr Roberts am y drysorfa mewn modd haelionus. Dioichwyd iddynt ar ran yr eglwys gan Mr Thomas Griffiths, yn cael ei ategu gan Mr J. D. Conway. Cafodd y chwiorydd fu yn gweithio, a hynny gyda diwydrwydd mawr, gefnogaeth llu o gyteillion. Cor- onwyd eu gwaith xtu hwnt i'w disgwyl- iaJau, yn .enwedig pan gofir yr amser byr y buont wrthi. Derbynied yr oil ein diolch. Deallwn i Mr Roberts (ein gweinidog) gael amser da yn Birmingham y Sul, Rhag. 16. Llanwyd ein pwlpud' yma gan Mr Wm. Richards o'r ddinas honno. GOR. j
!
I Yngnghapel Bryn Menai, cynhaliwyd J cyfarfod er dathlu dau gan mlwyddiant Williams y Per Ganiedydd o Bantycel- yn, a Ilywyddwyd gan y Parch Thomas Hughes (W.), Elim. Dechreuwyd y cyfarfod trwy ddarilen a gweddio gan Mr Robert H. Williams, Siloh, ac wediychydigoeiriau gaD y Llywydd, galwyd ar y Parch Griffith G. Owen, y Llythyrdy, i holi y plant yn hanes bywyd Williams, a rhoddodd y Parch Thomas Hughes ( W.) hanes ei droedig- aeth, a chafwyd sylwadau arno fal Efeng- ylydd a diwinyddgan y Parch Edward Griffith, B.A., Bethania, ac fel Emyn- ydd gan y Parch J. E. Hughes, BA., B.D., Bryn Menai. Canwyd amryw o'i emynau yn ystod y cyfarfod arweinydd y canu ydoedd Mr John Owen, Carreg- lwyd, a chyfeiliwyd gan Mr R. H. Williams, Salim. Cafwyd anerchiadau rhagorol, a mwynbawyd y cyfarfod yn fawr gan y cynulliad a ddaeth ynghyd.
IGWRECSAM
I GWRECSAM Nos Fawrth, dathlodd Cymry'r dref dau gan' mlwyddiant Williams, Panty- celyn," yng nghapel Seion (M.C.), Regent Street. Anerchwyd ar fywyd a gweithiau'r Emynydd gan y Parch. D. Tecwyn Evans, B.A, Birkenhead. Llywyddwyd gan y Parch. J. Edwards.
I COEDLLAI.
I COEDLLAI. Noson gydag Emynau Hen a Diwedùar J, oedd testun y Parch. Vaughan Owen yng nghymdeithas lenyddol Eglwysi Rhyddion, yng ughapel y Bedyddwyr, Mr T. G. Jones yn llywyddu. Yr oedd Mr Owen yn llawdrwm ar newidwyr emynau, a dang- osodd yr afreoleidd-dra o bynny mewn ami i emyn. Difyr ac adeiliadol iawn oedd y dull a'r naws ym mha un yr eglurai y darlithydd amryw o hen em- ynau cysegredig, ac, hefyd, meluster ami i emyn diweddar.
I BLAENAU FFESTINIOG.
I BLAENAU FFESTINIOG. Arholiad Ccrddorol.— 0 dan Arholiad yr Incorporated Society of Musicians, a gynhaliwyd yn Colwyn Bay, Rhag- fyr lOfed, llwyddodd Miss Eluned Humphreys Williams, Brynystyr, i ennill Certificate with Distinction yn Grade II. Ei hathrawes ydyw Miss N. Florence Davies, A.T.S.C., organyddes y Tabernacl.
I LLANRHAEADR-YM-MOCHNANT.
I LLANRHAEADR-YM-MOCHNANT. Yng nghapel Seion, Tach. 30, cafwyd cyfarfod arbennig i ddathlu dau gan' mlwyddiant Williams Pantycelyn. Ychydig cyn saith yr oedd y capel, wedi ei orlenwi. Llywyddwyd y cyfarfod gan y Parch H. G. Roberts (M.O ) Cafwyd anerchiadau ardderch- og gan Proff. T. Gwynne Jones,, M.A., Aberystwyth, Parchn. Evan Roberts, H. G. Roberts a Tegla Davies. Hawdd gweld fod y gynulleidfa fawr yn mwynhau y cyfarfod yn rhagorol, gan eu bod yn rhoddi gwrandawiad mor astud. Mae rhaglen gyfoethog y Gym- deithas Ddiwylliadol wedi ei pharatoi ar gyfer tymor y gaeaf. Rhagfyr 5ed, traddododd y Parch Tegla Davies y gyntaf o'r gyfres anerchiadau y bwr- iada roi yn ystod y tymor ar "Drefn yr lachawdwriaeth," ac os yw hon yn ernes o'r rhai sydd i ddilyn, yn sicr fe gawn dymor llwyddiannus. Rhagfyr 12fed, cawsom Ryddymddiddan ar yr anerch- iad gyntaf, Trefn yr Iachawdwriaeth." Agorwyd yr ymddiddan gan Mr D. F. Jones, School House, a siaradwyd ym- hellach gan Mri. W. H. Jones, Arllyn, Richard Davies, Bryn Mair, Edward Jones, Church Street, J. T. Lewis, Ty'n- yoae, a Miss Hiida Jones, Rock House. Is lywydd y Gvmdeithas ydyw Mr D. F. Jones, School House. Llawenydd mawr oedd gennym weled Privates D. E. Rowlands, Willie Edwards, a Thos. Lewis, gartref am ychydig ddyddiau o'r Fyddin. Mae Pte. Willie Ed,wards, Rhydycul, erbyn hyn wedi cyrraodd Ffrainc Nawdd y Nef a a fyddo dros y bechgyn oil. I Cynhaliwyd gwyl bregethu f l,ynydcl'el?. Seion, nos Lun, Rhag. 24ain, ac ar hyd Dydd Nadolig. Gwasanaethwyd y Parchn D. R. Thomas, a J. Roger Jones, B.A. Cafwyd cvnulleidfaoedd rha,gorol a phregethau grymus iawn. BERWYNFERCH.
PORTHMADOG.
PORTHMADOG. Nos Wener, Rhagfyr 28ain, cafwyd cyfarfod amrywiaethol rhagorol gan blant y Gobeithlu, y cyntaf o gyfres fwriedir eu cynnal yn ystod y tymor. Llywyddwyd gan y gweinidog (Parch. W. Q. Evans), a gwasanaethwyd fel cyfoilwyr gan Mrs D. Roberts, Misses Jennie Jones, Gladys Evans, Jennie H. Roberts, a Mr R. E. Jones. Gwnaeth y plant eu gwaith yn rhagorol, a hawdd gweled fod ymdrech fawr wedi bod i'w dysgu. Heblaw y plant, bu eraill yn cynorthwyo. Cafwyd detholiad ar y Concertina gan Mr John Owen,.ac un- awdau ac adroddiadau gan Misses Gladys Evans, Jennie Rees, Jennie Hugheston Roberts, Olwen Roberts, a Mri W. O. Jones, a Teddy Hughes. Canwyd Carolau gan y Cor, ac emyn o waith Mr Tom Lloyd, Penrhyn, o dan arweiniad Mr W. 0. Jones. Bu amryw o'n brodyr ieuainc sydd yn y fyddin gartref yn ystod y gwyliau, yn eu plith Sergt. W. Thorpe, Corpl. Ellis Jones, Corpi. Jack Lloyd, Privates Ed- ward Parry, Bobby Williams, Tom Evans, ao Evan Evans. Llawenychai pawb eu gweled. Da oedd gennym am Iwyddiant Norah E. Jones, geneth fach Mrs Jones, Eryri Terrace, ac wyres i Mrs Thorpe. Enill- odd am ganu, allan o nifer fawr o eneth- od-lawer hynach na hi, yng nghylchwyl y Tabernacl nos Nadolig. I Gou.
IRHIWLAS.
I RHIWLAS. Nos Nadolig, cynhaliwyd cyfarfod adloniadol yn y lie uchod, dan lywydd- iaeth Mr W. J. Thomas. Cymerwyd rhan mewn canu, adrodd a dadieu gan blant y Gobeithlu. Cafwyd can gan Mr W. Thos. Jones. Canodd y cor amryw weithiau, dan arweiniad Miss L. Hughes. Gofalwyd am y rhaglen gan y Parch W. R. Jones, Misses L. Hughes, M. Pretoria Hughes, a J. Frances Jones. « Bu amryw o ffyddloniaii yr eglwys gartref dros y Gwyliau. Da oedd gen- nym pael eu croesawu:—Mri W. J. Thomas o Lerpwl, H. R. Thomas o Gaer, O. Griffiths o'r Deheudir, W. T. Jones o Drefriw, J. T. Jones o Gaerbybi, J. 0. Griffiths o Suffolk, Sergt. a Mrs Hall, y naill o Ffrainc a'r Hall o War- rington, H. Lewis o'r Canadian School, Llundain, G. J. Davies o Whitchurch, erbyn hyn mae yr olaf wedi cyrraedd tir Ffrainc. Nid oes gennym ond dym- uno iddo bob rhwyddineb. Bu yr eglwys yn ddiweddar yn dewis rhai swyddogion newydd—Mr John J. Jones yn arweinydd y canu; Miss L. Hughes yn is arweinydd Mr A. White- side Jones yn Arolygwr yr Ysgol Sul; Mr John Moses yn parhau yn y swydd o Arolygwr y Plant. Sul, Rhagfyr 23, pregethwyd gan Mr Huws, efrydwr o Goleg Bala-Bangor. Sul, Rhagfyr 30, gan Mr H. Parry, Salem. Da oedd gennym ei weid a'i glywed unwaith yn rhagor. Liongyf- archwn ef fel bachgen ieuanc addawol iawn, a dymunwn bob Uwyddiant iddo ar ei waith. GOH.
I LLWYNYRONEN.,
LLWYNYRONEN. Sul, wythnos i'r diweddaf, cynhaliwyd Cyfarfod YSQOI yn y capel uchod, ac yn Ysgoldy y Trapp-yn yr Ysgoldy yn y prydnawn a'r capel yn yr hwyr. Cafwyd canu ac adroddiadau ardderchog. Y capel yn-orlawn. Llywyddwyd gan y Parch D. Corris Davies.
LLANEGRYN.
LLANEGRYN. Dydd Nadolig, cynhaliwyd cyfarfod pregethu uodebol. Y Parchedlgion fu yn gwasanaethu ydoedd J. Pugh Jones, Corris, a John Hughes (A.), Bleenau- Ffestiniog. Caed pregetbau gwir amser- ol anhawdd ydyw peidio canmol I W. J.