Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

TANYFSON, Vv SEX HAM

News
Cite
Share

TANYFSON, Vv SEX HAM Bu Mr Caenog Jones vma yn traddodi ei ddarlith ar "Wil Bryan." Daeth cynulleidfa dda, a chafodd y darlithydd hwyl. Y mae'r Gymdeithas wedi ei sefydlu am dymor y gaeaf hefyd, o dan lywyddiaeth y Parch R. G. Huws, ein gweinidog, ac y mae yn dda gennym ddweyd fod Mr Huws yn ddyn ieuanc sydd wedi myned yn ddwfn i serch pawb. Y mae'r Gymdeithas wedi treulio ami i noswaith ddifyr ac adeiladol, Tachwedd 5, cafwsd darlith ddyddorol ac adeiladol ar "Gamrau'r Gwerinwr, gan Mr Huws, a profodd ei fod nid yn unig yn bregathwr da, ond yn ddarlithydd a rhagolygon iddo: y mae ganddo allu i fod yn ddyddorol ac yn adeiladol. Tachwedd 20, Dosbarth Darllen. Matt. v bennod, yn cael ei holi gan y brawd Llew. Halliwell. Noscn dda iawn. Tach. 27, cyfarfod amrywiaethol dan ofal y brodyr J. L. Jackson a J. H. Roberts. Egwyl odifyr ac adloniadol. Rhag. 4, darlith ar/' John Penri" gan Mr D. Thomas, Higher Berse, Glan- rafon, ac fe fwynbawyd ei wasanaeth yn ardderchog, yn traethu ar hanes y gwron a'r Cymro dewr. Rhag. 11, darllenwyd papurau ardd- erchog, ar Morgan Lloyd," a "Mary Jones a'i Beibl, y naill gan y brawd ieuanc T. C. Downing, a'r llall gan y chwaer ieuanc Cissie Dowell. ] Rhag. 18, Dosbarth Darlten. Y* arholwr y noson yma oedd y brawd J. i T. Jackson. Y wers oedd Math. v. ben. eto; noson ddb, mewn holi ac ateb, ac o dan lywyddiaeth Mr Huws. Bu y brawd ieuano Phe. W. W. Rogers, adref am seibiant yr wythnos diweddaf o faes y Rhyfel, a da oedd ei weld, ac yn edrych mor dda. Y mae y brawd bwn ar faes y frwydr ers dech- reu y Rhyfel. Wrth wmndo arno yn dweyd yr hanes mae'n syndod meddwl sutymae wedi dod mor ddiangol. Goh.

NODION 0 DDOLGELLAU. I

I Ii Rhyfel o Ddydd i Ddydd.

Advertising

[No title]

Advertising