Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

[No title]

BWYD Y BOBL.

News
Cite
Share

BWYD Y BOBL. Cwestiwn sydd yn dechreu gwasgu fwy fwy o'r naill 8nos i'r llall ar bob penteulu ystyriol yw- Pa beth a ellir ei gael ar Fwrdd y Teulu o hyn allan ? Mae prinder defnyddiau ymborth dyn yn cyn hyddu; mae'r galw hefyd yn cynhyddu am ein bod wedi ym- rwymo i rannu ein bara beunyddiol rhyngom ni, a Ffrainc, a'r Eidai sydd megys ymron ar eu cythlwng. Yn y trefi mawr peth cyffredin yw gweld rhesi hir o ferched yn aros yn amyneddgar am oriau wrth ddrysau'r siopau i aros eu tro i gael eu neges-bara, ymenyn, margarin, siwgr, cig moch, ac yn ami yn ddiolchgar os, ar ol sefyll felly am awrneuddvvy y llwyddant i gael hanner yr hyn y daethant allari i'w geisio. Amlwg yw na ellir caniatau i beth fel hyn fyned ymlaen yn ddi- ddiwedd. Dair tlynedd yn ol dywedai Mr Lloyd George mair "fwled arian" fuasai yn pender fynu y Rhyfel. Dywed Arglwydd Rl-,ondda heddyw, mai'r sach flawd a'i penderfyna. Cynhilo! Cyn hilo!' yw'r cri cyffredinol, ac edrychir ar y neb a afradlono ddefnyddiau ymboith, neu a'u camddefnyçldia, fel bradwr sv'n cynorthwyo'r Caisar i ennill budd ugoliaeth arnom yn y Rhyfel. Mae Rheolwr y Bwyd wedi am- lygu yn bendant ei fwriad i osod terfyn ar yr angenrheidrwydd i gwsmeriaid aros yn hir, ac yn am) yn ofer, wrrh ddiws y stop am i gyfle i brynu nwyddau rheidiol i'r bwrdd. Birmingham sydd wedi darganfod y feddygmiaeth. Yno mae'r Pwyllgor Bwyd wedi trefnu y rhaid i bob cwsmer ddewis ymha siop y pryn efe ei fara, ei ymenyn, ei garcs, ei gig, fel y dewisodd eisoes pa le y pryn efe ei siwgr Ni raid iddo brynu pob nwydd yn yr un siop-ond wedi dewis ohono ei siop fara, rhaid iddo brynu ei fara yno, wedi dewis ohono ei siop ymenyn rhaid iddo fyned yno i geisio'r ymenyn, ac felly yn y blaen gyda'r nwyddau rheidiol eraill. Cedwir rhestr gan bob siopwr o'i gwsuueriaid am bob nwydd ar wahan. Gofala'r Pwyllgor Bwyd fod cyfienwad o'r nwyddau i bob siop yn ciel ei rannu yn ol cyfar taledd nifer y cwsmeriald cofrestr- edig,—i bob siop yn ol ei hawl a'i haeddiant. Yna rhaid i'r siopwi ymddwyn yn deg tuag at ei gws meriaid, gan rannu o'r hyn fydd ganddo yn y siop yn ol nifer aelodau teulu y cwsmer fo'n ceisio r nwydd. Ceidw'r Pwyllgor Bwyd restr o'r siopwyr-a rhaid fydd i'r siopwr gael trwydded y Pwyllgor Bwyd cyn y catfo efe gyflenwad o'r nwyddau. Yna, gellir gwneud a'r siopwr fo'n torri Cyfraith y Bwyd fel ag a wneir a'r tafarnwr fo'n torri Cyfraith y Ddiod,-sef atal ei drwydded. Pan gyll ei drwydded, goreu po gyntaf iddo gau drws ei siop, canys ni cha efe wei thu yno heb ei drwydded. Dyna ran o'r cynllun y mae ym mryd Arglwydd Rhondda i'w osod mewn gweithrediad drwy'r holl wlad. Delir y Pwyllgor Bwyd ymhob ardal yn gyfrifol am wein- yddiad Cyfraith y Bwyd yn ei ardal ei hun. Gelwir ar bob Pwy'lgor Bwyd igofio mai ym ddiriedolwyr ydynt dros y cyhoedd, ac mai lies y cyhoedd ac nid gwneud ffafr a'r masnachwrsydd i fod yn nod ac amcan eu bodol- aeth.

AMODAU EEDBWGI GB'dM . j IAM.?i?AU…

[No title]

f'i ,JJl ('i ,'. '...1 ..r…