Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
6 articles on this Page
. " IGAIR O FFRAINC. I
GAIR O FFRAINC. I Annwyl Mr Gwynfryn Jones, Gair byr eto fel y gall darllen- wyr y G.N. weled sut yr ydym yn myned ymlaen yn y fangre hon. Fe ddichon y rhyfedda rai o ddar llenwyr y Gwyliedydd wrth ddeall -ein bod wedi cael y fraint o nesau at fwrdd yr Arglwydd. Nos Sul diweddaf cawsom y fraint uchel > hon DiolchiDduw. Gwemydd wyd y wasanaeth gan y Parch J. Parry Brooks. Cyfarfod i'w gofio tra y cawn fyw oedd liwn, yr oedd yno rhvw ddwysder i'w deimlo trwy y cyfarfod, Dyma y eyrie cyntaf i Mr Brooks gael gweinyddu y Sacrament yn Ffrairic. Yr oedd- em yn teimlo yn y cyfarfod fod yr Arglwydd yn ymweled a ni. Caw- som seiat heno. Ni raid gofyn am air yn y cyfarfodydd hyn, gan fod pob parodrwydd yn cae! ei ddangos. Cawn brofiadau melus, un ai trwy air, pennill, neu adnod, a theirniem ei bod yn haws byw y diwrnod can- lynol, gan fod rhy w argraff yn aros, ac yn achosi i ni feddwl am dano Ni wn yn iawn wrth ysgrifennu y llythyr yma a fydd yn rhy ddiwedd- ar iddo ymddangos yn y Gwylied- ydd cyn y Nadolig, gan na charwn i'r hen flwyddyn fyned heibio heb gael dymuno Nadotig lawen i chwi yng Nghymru annwyl. Os byddaf yn rhy hwyr i hyn gallaf o galon ddymuno i chwi "Flwyddyn Newydd IDda" pan y daw, a hynny gan ddisgwyl y cawn fod adref gyda chwi cyn yr aiff hi allan. Yr Arglwydd fyddo gyda chwi rhodded i chwi yn helaethach o'i afugareddau. Gyda cofion goreu, Pte. S. E. ROBERTS, 48569, R.A.M.C., Att 124 Field Coy., R.E., BE F., France.
Cynghrair Efengylaidd y Byd.I…
Cynghrair Efengylaidd y Byd. Y Materion awgrymir ar gyfer Gweddi Unol a .Chyffredinol. Sabbath, Ionawr 6, hyd Sadwrn, Ionawr 12, 1918. Sabbath, Ionawr 6ed, 1918. Mater i Bregethau ac Aoerchiadau :— Y Pethau Tragwyddol."—Dan. iv. 3; 2 Cor. iv. 18; Heb. xi. 10. xii. 27. Llun, Ionawr 7fed, 1918 Diolchgarwch a Cliyffesiacf- Diolchgarwch-Am gynydd parhaus y cylch o frawdoliaeth yng Nghrist. Cyfjesiad- Bod y dystiolaeth Grist- ioDogol ar ei goreu yn adlewyrchu cyn lleied o feddwl Grist. Gweddi- Am i ganlynwyr Crist, tra yn llefaru y gwirionedd mewn cariad, beidio gwneud un cyfaddawd a phechod. Am i nifer y rhai a ddisgwyliant Ei ymddangosiad Ef fynd ar gynnydd. > Rhannciu i'w Ddarllen-Act. xvii. 24-28; Matt xi. 21-30; 1 Petr ii. 21- 25 1 loan ii. 3-6 1 Thess. v' 22. Mawrth, Ionawr 8fed, 1918 "Yr Eglwys Gyffredinol-yr Un Corff i'r hwn y mae Crist yn ben. Diolchgarwch-Am gyfangorlf y dystiolaeth Gristionogol ar hyd yr oesau. Am fod un amcan, y'nghanol amryw- iaeth doniau, yn atdynnu y gwahanol enwadau ynghyd. Am yr hunanymholiad dwys sydd yn mynd ymlaen yn yr eglwysi ynglyn a'u haneffeithiolrwydd. Cyffesiad-O fod yr acbos am feth- iant yr Eglwys ynddi hi ei hun, ac Did yn ei Harglwydd. 0 fethiaDt yr Eglwys i gyrraedd bech- gyn a merched ieuaingc y byd. Erfyniadau- Am i 1918' weled ym drechion newyddion tuag at Undeb Cristionogol. Am i dystiolae,th yr Eglwys, drwy sancteiddiad yr Ysbryd, cariad y gwir- ionedd, doniau newyddion o ddoethin- eb ac ymdrech, ddyrchafu fel twr eglur i olwg yr holl fyd. I- Am i brif ddyledswydd yr Eglwys o efengyleiddio dynion gael ei lie priodol. Rhannau i'w Darllen-Eph. ii. 13-22; Heb. xi., 32-xi. 2; Eph. iv. 10 16; Mal iii. 19; Diar. xxiii. 22 26; 2 Thess. ii. 13 15; Matt. xxviii. 18-20. Mercer, Ionawr 9fed, 1918 Cenhedloedd a'u Llywodraethwyr. Gweddi-Arn i amcanion Duw yng Nghrist gael eu ceisio a'u gwybod ym mysg y cenhedloedd. Am i'r conheiHoedd ddod o byd i Grist yn uatblygiad eu dalfrydau cenedlaethol. Am i'r ymdrechiou i sefydlu heddwoh parhaol yn mysg y cenhedloedd gael eu Dwyfol gyfarwyddo. Am i bob atdrefniad go-el ei ystyried a'i gario allan yng ngoleuni Gair Duw, a'r pathau sydd dragwyddol. Am i feichiau llywodraethwyr, a chyf arwydd barn y cyhoedd, gael eu gosod ar galon Cristionogion yn mhob man. Dros y cenhedlodd bychain sydd yn dioddef mor dost o herwydd y rhyfel. Dros bawb sydd yn gwasanaethu y wladwriaeth. Rhannau i'w Darllen-Diar. xiv. 134; xxi. 1: 1 Peter iv. 19 2 Petr iii. 9; loan xii. 20-32; Esaiah ii. 2-4; 1 Cor. iv. 1-5. lau, Ionawr, lOfed, 1918 Cenhadaethau yn mysg Mahometaniaid a Phaganiaid. Diolchgarwch-Am nas gall rhyfel byd eang oedi olwynion ei gerbyd Ef. Am fod yr Eglwysi yn y Maes Cen- hadol yn ymgymeryd a'u cyfrifoldeb yn ddiofn. Am fod Rhyddid Crefyddol yn ymledu dros y byd. Gweddi- Dros eglwysi a chenadaeth- au sydd yn cael eu gwasgu o herwydd y Rhyfel. Am i ysbrydolrwydd yr Eglwys fyn'd ar gynnydd trwy ffydd a phrofiad newydd yr eglwysi ieuainc. Am i genhadon yr Arglwydd ddal gafael yn y Gwirionedd Tragwyddol ynghanol y cyfnewidiadau parhaus mewn ffurf a threfn. Rhannau i'w Dayllen--Dan. ii 34- 35, 45 iv. 1 3 Esaiah xl. 1-8; Matt. ii. 1 11 Eph. iv. 4-6. Gwener, Ionawr lleg, 1918 Teuluoedd, Ysgolion, Colegau, a'r Ieuaingc. Diolchgarwch-Am y fendith gysyll- tielig a'r bywyd teuluol. Am y diddanwch a'r sicrwydd, mewn galar, o anfarwoldeb gogoneddus. Erfyniadau-Am i'r fraint aroyfrif- oldeb o fod yn dad a mam gael eu derbyn yn gyffredinol ac ewyllysgar. Am i addc) iad teuluaidd, ac addysg ac athrawiaeth yr Arglwydd gael y lie blaenaf ar yr aelwydydd. Am i'r ieuaingc/gael eu cadw yn ddi- frychealyd oddiwrth y byd yn y pethau a ddarllenant, yn eu dyfyrion, a,u cwm- ni. Am fendith ar bob athraw ac athraw- es- Am i Ofn yr Arglwydd fod yn ddech- reuad doethineb yn mhob sefydliad addysgol. Rhannau i'w Dayllen-Salm cxxvii. 2 Cor. i. 4 1 Cor. xv. 54—57 Matt. xviii. 1—6; Diar. i. 7; ix. 10-12. Sadwrn, Ionawr, 12 fed, 1918 Cenadaethau Cartrefol ac Iuddewig. Erfyniadau- Am i anghenion pob dosbarth mewn cymdeithas i gael cyd ymdeimlad mwyaf ystyriol yr Eglwys. Am i gydymdeimlad Cristionogol, gonestrwydd masnachol, a chydnawsedd rhwng cytlogwyr a chyflogedig, ddwyn dfnion i barchu en gilydd. Am i had Abraham fyned i mewn i gyflawnder Duw yn lesu Grist. Rhannau i'w Dayllen-Matt. xxii. 1-10; Diar. xxii. 1-2; Iago ii. 1-9; Mal. ii. 10; 2 Cor. iii. 12-18.
[No title]
Dywed Mr Clynes mai y swm o rawn ddefnyddir yn awr ym Mhryd- ain Fawr at wneud cwrw ydyw 31,700 tunnell yn y mis. Y swm cyfeibyniol ddefnyddir yn yr Iwer- ddon ydyw 5,300 tunnell y mis. Mae Cymdeithas y Dallawyr wedi cymeradwyo i'r darllawyr i gefnogi fod holl dai trwyddedol i gau am werthu alcohol ar Sul, lon- awr 6, y diwrnod osodir gan y Bjrenin i wfeddio dros ein gwlad.
COLOFN Y LLENOR. ,,1:,
COLOFN Y LLENOR. 1: Mae amryw wyr cyfrifol wedi bod yn annog Bodfan /Vmwyi i orffen Geiriadur Cymreig Sllvan Evans, neu ddwyn allan un cyfiawn cyffelyb, ac fel y canlyn yr ysgrif- enna Bodfan ar y pwfic "Gallwn a gwawn pe cawn hamdden a chymorth a chefnog- aeth. Am agwedd fasnachol yr anturiaeth ni raid son yn awr, gan na byddai'r gwaith yn barod am fiynyddoedd, hyd yn oed pe dech- reuid ef rhag blaen, Yr angen mawr presennol yw angen darllen- wyr, a'r rhai hynny yn ddarllen- wyr ufudd ac ewyllysgar. Ni raid iddynt fod yn rhai dysgedig, o angenrheidrwyad, ond rhaid iddynt fod yn rhai deallus a manwl. Dyma'r cymorth a garwn i ei gael. Dewised y darllenydd ryw lyfr Cymraeg at ei ffansi, agoreuoll os bydd yn llyfr da, safonol. Yna jceisied bentwr o bapur scrap yn gyfleus wrth law, a chofied na wiw ysgrifennu ar ddwy ochr y ddalen, nac ysgrifennu ar draws ysgrifen arall am brisyn y byd. Pan darawer ef g-an air neu ym adrodd, ysgrifen- ned ef i lawr, heb ofalu dim a yw gennyf yn y geiriadur presennol ai nid yw, a gadawed ddigon o le rhwng pob cofnodiad i mi eu gwa- hanu Ysgrifenned y gair yn y lie cyntaf fel y barna ef y dylid ei ysgrifennu, ond ysgrifenned ef yny dyfyniad fel y rnae ar ly ddalen argraffedig. Rhodded yr ystyr pan fyddo hynny o gymorth, ond gofal- ed roddi digon o damaid o ddyfyniad i ddyn deimlo ei rym ar yrolwggyntaf. Yna noded y llyfr a'r ddalen yn ofalus ac eglur. Os oes mwy nag un argraffiad ohono, noded yr Argraffiad hefyd. Tebyg i hyn yr ymddengys y cofnodiad fynychaf: YMDDA TGU DDIAD sef gorfodi ymddadguddiad pechod. Y Drych a'r Ffynon,' 57. Dichon fod digon a allent gyflawni'r gwasanaeth hwn, ond eu cyfarwyddo. Yn anffodus, barn llawer o bobl yw mai'r cymorth sydd arnaf ei angen yw cymorth i fathu geiriau newyddion a'u rhoi ar y farchnad neu i hel a thrysori geiriau (lafar gwlad. Gwasanaeth gwerthfawr yw'r olaf, ond ei gyf- lawnigafi wr cyfarwydd a gofalus. Diau y bydd lie yn y Geiriadur Mawr' i lawero eiriau felly, ond os anfonirhwynti mi, dymunwn gael yr awdurdod drostynt hwy a'u hystyron, a'r ardaloedd lie y defn- yddir hwynt. Carwn hefytl gael eu hystyron yn Gymraeg a Saesneg, rhag i mi yn amryfus wneuthur un cam a hwy. Coher nad wyf yn ymrwymo i ddwyn y geiriadur allan, ond ni bydd y darllenydd na minnau ddim gwaeth o gyflawni'r gwasanaeth hwn. Pe byddai gennyf das o eiriau felly wedi eu casglu, byddai gennyf flynyddoedd o waith i'w trin a dichon y byddai yn rhaid i mi ysgrif^nnu'r gwaith amryw weith- iau cyn ei anfon i'w argratfu. Cam a llyfr ac a'r argraffydd yw ei anfon i'r wasg yn amrwd."
[No title]
Dyma hyd yma ganlyniad pleid- leisio A wstralia ar Orfodaeth 0 blaid 500,069 Yn erbyn. 600,018 Mwyafrif yn erbyn 99,947 Ar gais y Llywodraeth y mae Syr F. E. Smith wedi gadael am Canada i gymeryd rhan yno mewn trafodaeth ar ryw faterioncyfreith- iol. Y mae'n debyg y cymer symud- iad eithafol gyda chael dynion i'r fyddin ar ol areithiau diweddaf y Prif Weinidog. Dywedir y bwr- iedir cymeryd pawb cydrhwng 19 a 24 mlwydd oed o bob gwaith hyd yn nod cyfarparwyr, ac i dynu yr ded i fyned i'r ffrynt i lawr i 18.
YN Y FRWYDR. I
(Parhad o tudalen 2). asu. Taened angel gwyn Duw gys god ei aden dros fan eu bedd. Am y wlad, gwlad ryfedd yw mae'r olwg ami fel rhai manDau gwvlition, creigiog, garw yng Nghymru: mynydd a bryniau a'r neutydd a'r ceunentydd fyth yn ymweu drwyddynt. Mae eu lluniad yn rhyfedd odiaeth, rhed y bryn- iau a'r mynyddoedd yn rhyfedd j'w gH ydd. Mae gorwelion ar orwelion rhwng eu hystlysau, ac ar eu gwaelodion y naitll fryn yn gorchuddio darn o'r llali, feI wrth deithio yr ym yn gorfod ym- droelli o gwr i gwr. Un peth eto, mewn un cwr y tram- wyasom drwyddo, o la o'r enw Shilial, lie mae adfeilion hen Eglwys Gristion- ogol, pridd sycb, llychlyd, geir am filltiroedd, prin y gellir cael carreg yn unman ond yma y mae cerrig ymhob man, rhai mynyddoedd a haen o faen rhwng y garreg galch a'r Hall, heb fod y naill na'r llali- Mae hi hefyd yn hynod am ei hen bydewau, neu ffynnonau dwfr. Er nad oes eymaint dwfr ynddynt, y maent yn ddwt'n iawn, a gwaith maen da o wen ithfaen caled, a rhaid eu bod yn hen iawn, oblegid mae y rhaff o rawn coediog wedi torri i mewn ambell i fodfedd i'r maen ucbaf o fur y ffyn- non, ac ymhellaoh mae y meini caled lIe safai y brodorion i dynnu y dwir o'r ffynnon wedi eu llyfnhau a'u caboli fel marmor.gan y traed noethlwm fu o oes i oes yn sefyll arnynt i dynnu i fyny y llestri dwfr 11awn o'r ffynnon. Y mae rhai o'r ffynnonau luniwyd yn bynod o gywrain eu gwaith, bron yn berffaith grwn, a'r meini wedi eu sgwario yn dda. Y mae un hen ffynnon ddofn yma a'r gwaith maen isaf yn arwach. y cerrig heb eu Hunio mor ysgwar a threfnus, a'r gwaith maen am y podair liatb uchaf o feini wedi eu sgwario yn dda ac o ddeunydd gwaban- ol. Un goeden fach welais yn y cwr yma i gyd. Ond y mae bob llecyn o dir y gellir ei drin wedi bod o dan aradr goed fach ysgafn y Bedouin. Wrtb reswm, henafol ac amrwd iawn ydyw yn ei ddull o amaethu geifr a defaid geidw yn bennaf, ychydig ychain welais. Ceir yma ac acw gistiau yd yn y ddaear, tebyg yn eu ffurf i botel wedi torri y gwddf yn y bpn. Claddant eu hyd er ei ddiogetu rhag lladron, fe deb ygwn, ac am y ceidw yn well yng nghrombil y ddaear. Yn y cwr yma y mae llu o ogofeydd rhyfedd, He trig llwytbi o frodorion. Mae'r nenfwd yn ddu gan barddu Trigent hwy a'r anifeiliaid ynddynt, canys y mae cafnau bwyd o gerrig o'u mewn, a'r.taif ar waelod yr ogof yn brawf o hyn. Hyd y gwelaf Did yw Bedouin y cwr yma mor urddasol a thywysogaidd yr olwg a'r rhai welais yn El Arish, Sheiks Zawaid, a Kahn Zunis. Maent yn eiddilach, heb fod mor gorffol syth a chadarn, ac yn llawer tlotach yr olwg arnynt. Rhaid terfynu, mae'r bogiau i gyd mewn iechyd da ac yn hynod o galon- nog, ond a hiraeth am gartref llond eu henaid. Maent wedi mynd drwy beth- au mawr, profiadau erchyll, ond wedi on dal fel dynion. Y mae gennyrn i ddiolch ynghanol llawer o galedi fod y darpar- fadau am luniaeth a dwfr mor dda, ac mae y gofal am y. clwyfedigwedi bod yn hynod. I Cofion serchog, I r A. W. DAVIES, C.F., Att. 1/5 Welsh Regt. 159 Infantry Brigade, 53 Division, E.E.F