Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
3 articles on this Page
GAIR 0 MESOPOTAMIA.
GAIR 0 MESOPOTAMIA. F'annwyl Mr Gwynfryn Jones, Bydd yn Nadolig mae'n sicr erbyn y cyraedda hwn. Gadewch i mi ddymuno Nadolig goreu mae'n bosibl i chwi a darllenwyr y G.N. Anodd iawn sylweddoli fod y Gwyliau mor agos yma. gan fod yr hin mor boeth. Addawyd liawer iawn o bethau imi erioed pan fydcl- ai y Nadolig yn yr Haf; eleni byddaf yn disgwyl cyflawniad o'r holl addewidion hyn. Ni raid i mi ddweyd 'rwy'n siwr mai gwell fyddai gennyf Nadolig yng Nghymru. Rwy'n amgau Garden Nadol- ig Gymreig i chwi a argraffwyd yn Ninas Basra, Mesopotamia. Dyma'r Cymraeg cyntaf o'r wasg yn y lie hwn toes dim dwywaith. Argraffwyd y ihai hyn yn Swyddfa Argraffu y Llywodraeth. Cymro yw y Goruchwyliwr-Lieut. Parry o Glynceiriog. Tra yn son am hyn —Cymry yw mwyafrif y rhai ddeil y swyddi uchaf o gwmpas y rhan yma o'r byd. Mae y Cymro, ar waethaf ei elyn, y Sais, yn cael ei ddyrchafu a rhaid iddo fydd gwir deilyngu y dyrchafiad neu bydd rhyw gorach o Sais trwy wire pulling yn y swydd. Dal i ennill tir y mae'r Eglwys Gymreig yn No. 2. B B.D. Daw y Cymry iddi o bob cyfeiriad, rhai ar draed, eraill a1 ddeurodur, eraill mewn Gharies, a'r lleill drachefn mewn modur. Gwledd yw eu gweled yn mwynhau odfa Gymreig. Bydd hwyl ar y canu, hwyl ryfedd. 01 weithiau, dyblir a threblir y gan., Pan fydd yr odfa ar ben welsoch chi erioed fel y bydd Cymry yr un ardal yn casglu at eu gilydd a, dyna siarad wedyn am helyntion y cyfnod cyn y Rhyfel. Byddwn yn coflhau farw ein Gwaredwr bob yn ail nos lau yma, a chredaf fod y bechgyn heddyw yn deall ystyr Aberth Crist yn well na chyn y Rhyfel. Deil yr Ysgol Sul yn ei rhif a'i bias. Ceir yrddi awryw ddoniau a thafod-leferydd amryw ardaloedd yng Nghymru Y bennod gyntaf yn Philipiaid yw ein maes. Clywais sibrwd fod yna Gymro twymgalon o ochr y Ferswy yn anfon ychydig Feiblau a Thesta mentau yma. Bendith ar ei ben. Bydd Beibl yn gaffaeliad garw i'i bechgyn gan fod cymaint son am y wlad hon yn yr Hen Destament. Synwn i ddim na fydd maes astud iaeth yr Ysgol Sul yn cael ei newid pan gyrhaeddant. Aeth ami i Gymro trwy y Depot yna yn ddiweddar. Rhai wedi dod yn syth o "Blighty" ag eraill o'r India. Ofnaf na fydd ond ychydig iawn o'm cyd genedi yma erbyn y Nadolig, ac nid oes obaith i mi gael eu dilyn i fyny'r "Line." Deallaf fod y Parchn Egwys Jones a John Hughes ym Mombay, ac yn ol pob golwg yno byddant hyd nes yr a un ohonom ni sydd yma i lawr gan afiechyd neu giwyf. Yr un yw hanes dau gaplan Wesleaidd Seis- nig yn ogystal. Gresyn hyn yn wir gan fod yn y fan lie y trigaf ddigon o waith i dri Caplan Ymneilltuol fan leiaf. Dal i ddod i mewn mae ein carcharorion rhyfel. Golwgddigal- on iawn sydd amynt. Fel y dywed y boys, golwg Fed up." A phwy sydd heb deimio felly? Credaf fod ar ein gwlad gymaint o angen Esaiah y Prophwyd. ag oedd ar yr hen genedi gynt. Pa bryd tybed y dychwelwn at yr Arglwydd a byw ? Ni chawn oruchafiaeth na I diwedd ar y rhyfel yn herwydd inni geisio amddiffyn Belgium tra I y sarnwn egwydoorion mawr Cref- ydd Crist o dan ein traed. Nis gwelaf fod gennym fwy o sail i gredu fod Duw o'n plaid mwy nag o blaid yr Ellmyn. Gall y gelyn fed wedi cyflawni pechodau mwy ond atolwg pechod yw pechod ym mhawb a phob amser. Mae Hedd- wch yn cael ei ohirio am nad oes yma droïat Dduw. Gwyn fyd y dydd pan y bydd pob swyddog yn y fyddin mor barod i arwain ei filwyr mewn gweddi ag ydyw ar hyn o bryd 1 ymladd. Nadolig digon tywyll fydd hwn i lawer aelwyd yn y byd yma. Mor agos yw'r bedd i'r crud cyn i swn I y siglo fynd o glustiau y fam mae Duw Rhyfel wedi dwyn ei mhab oddiarni. Ond er tywylled y nos daw ambell un i gyffyrddiad a Christ. Bydd gan ambell i aelwyd, gartref yna, achos diolch fod eu rhai annwyl wedi dod i'r goleuni. Mae y dynion sydd heddyw yn y Fyddin yn meddwl, ag yn meddwl yn ddwfn iawn. Maentwynebyn wyneb a phroblemau bywyd heb len. Gartref yn y cyfnod cyn y I rhyfel 'roedd rhywbeth yn cuddioy problemau o hyd ond heddyw maen't yn noeth. Daw Crist a'r angen am dano yn i,ea li ties." Ac 0 fraint oruchel yw gweled eneidiau yn dod i ryddid gogon. eddus plant Duw. Mae y mis diweddaf wedi bod yn nodedig. Nid oedd yr un odfa bron yn myned heibio heb i rywrai roddi eu hun- ain i Grist. Peidiwch a meddwl ei bod yn Ddiwygiad yma Ysy- waeth cablu yr Enw mwyaf mawr" glywir yn ami. Mae yma rai o'r Saeson yma, ag ambell i Gymro gwaetha'r modd, yn defn= yddio iaith sydd ddigon a gwneud i wallt pen dyn godi. Ond diolch i Dduw, mae yma ambell un yn troi o gyfeiliorni ei ffyrdd i was- anaethu Crist. Wel, hyderwn yn fawr y cawn droi yn ol i'n cartrehfiyn gynnar yn ;y flwyddyn newydd. j;Dyna'r man gwyn yr edrychwngato ar hyn o bryd. Prysured y dydd pan wel y byd ei ffoledd ac y gorseddir Crist. Eich cywir frawd. W. G. HUGHES, No. 2, B B.D., Makina. Mesopotamia Ex. Force. [Diolch lawer am y Cerdyn Nadol- ig, cadwaf ef fel Souvener.—GOL.]
t? 1-? . ? 1I L',LGAIR 0 GANAAN.-
t? 1- 1 I L',L GAIR 0 GANAAN. Annwyl Mr G^yafryn Jones. Er pan ysgrifenais ddiweddaf, gwel weh ein bod wedi newid dwy wlad, cyfnewidiad er gwell ar y cyfan mi gredaf, er nad oes yma ddim o ramant pryd- ferbh gwlad Macedonia. Cawsom fordaith arall bythgofiadwy. Gwyddoch mai peth annymunol iawn yw mordeithio y dyddiau hyn. Lie bynag yr el dyn, a beth bynag fo yn ei wneud, rhaid iddo fod a'r 'lifebelt' yn hongian wrth ei wddf bob eiliad, nos a dydd. Bu'r tonnau hpfyd yn ddigon angbaredig wrthym. Ond er y peryglon a'r petfcau annynmool i gyd, daethum i Alexandria yn ddiogel. Gresyn i ni orfod gadael y ddinas enwog heb weld nemor dim ohoni. Cawsom gerbydres i'n eludo-ryw gant a banner o filltiroedd nes cael ein hunain mewn anialwch o dywod trwchus diddiwedd. Ychydig a welsom ar ein taith gan bod hi'n nos, heblaw ambell orsaf oedd yn ein hatgofio am Amwythig, Manceinion a'u cyffelyb. Wedi myned i'r anialwch, buom yn ffodus i gael aros ryw bytbefnos yn agos i bentref go fawr, oedd wedi ei ddos barthu yn Europeidd a Brodorol." Dyddgrol oedd sylwi ar y gwahaniaeth rhwng y ddau fath ar fywyd, tra ar yr un pryd goddiweddid dyn a phrudd-der dwys pan yn sylweddoli mai dwy radd ar wareiddiad oedd o'n blaen, y nail! yn ucbel ei breintiau, a'r Hall yn dlawd mewn caethiwed. Gwyddoch mai Mafaometaniaeth yw'r grefydd fwyaf ei'dylanwad yn yr Aifft, ac os gwir y dywediad mai dyn eymarol anllythren- nog eedd Mahomet, nid rhyfel mai isel yw safon eu wareiddiad. Caethwas yw y ferch yma eto. Gadewir hi heb neb deimio dyddordeb ynddi,—yn ddi-ddysg, ac yn amI yn ddigartref. Nid oes gan y bobl hyn syniad am werth Cartref, Peth dieithr iddynt yw aelwyd,—a chailad yn allu llywodraethol arni. Bodoli a wnant ac nid byw. Mor ddiolchgar a ddylem fod am ddatguddiad o Dduw, ac am hyfforddiant forcuol ym mbethau pwysicaf bywyd. Angbofiwn yn rhy fynych mai ffrwyth crefydd yw gwareiddiad, ac mai mwyaf dwyfol fo ein crefydd, perffeithiaf mewn canlyniad fydd ein gwareiddiad. Drwy ddynicn sanctaidd Duw y cawsom bethau mawr I yn y gorffennol, a thrwy ddynion o gyffelyb gymeriad y cawn bethau mwy rhagorol yn y dyfodol. Dibvnna ein cyfoeth moesol ac ysbrydol ar ein cymundeb gwastadol a Duw. Ond cael y gwahanol deyrnasoedd i sylweddoli hyn, buan y gall pob un ohonynt ddweud o galon, Efe yw ein tangnefedd ni." Wedi treulio pythefnos esmwyth a hapus yn y gwersyll hwn, teithiasom gannoedd o filltiroedd drachefn, nes dod o fewn terfynau gwlad Canaan, mae arwyddion y byddwn cyn bo hir allan o'r tywod sydd yn poeni gymaint arnom. Mae bryniau yr hen wlad sydd a'i hanes-mar annwyl gennym yn codi ryw awydd angerddol ynom am fyned- iad i mewn i Jerusalem a mannau eraill lie y bu ein Ceidwad eu gynt yn rhodio gan ddysgu a gwneuthur daioni. Br&int fawr fydd cael troedio y tir cysegredig y bu Efe unwaith yn ei droedio. Bydded i'n braint fod yn foddion i'n gwneud yn debycach i Grist yn ein hymarweddiad. Golwg rhamantus sydd i'r Waddy y soniwyd eymaint am dam gan y Caplan A. W. Davies, sydd mor uchel ei glod ymysg y milwyr dan ei ofal. Gwelais amryw obonynt yn barod, a'r un yw eu tystiolaeth. Disgwyliaf ei weled cyn bo hir. Ar Water Duty yr wyf er's tro, ac i'r Waddy (gwely hen afon rbyw dro) y byddaf yn myned i dynu dwfr. Clyws och ddigon am ei flas gan Mr Davies, ond da ei gael er mor ferwaidd yw. Buom yn ffodus i gael ambell noson ddyddorol gyda'r Y.M.C.A. tra ar ein taith, yn ogystal ag amryw o gyfarfod- ydd crefyddol. Diolch i Dduw am Ei wjeddoedd breision er mewn anial fyd. Mor felus yw y owrdd gweddi ar ddi wedd y dyd.d, medru myned allan o'r crasdir bydol i mewni borfeydd gwelltog ein Duw, gerllaw Ei ddyfroedd tawel. Rhaid terfynu gam -obeithio eich bod yn mwynbau yr iecbyd goreu fel teulu. Yr eiddoch yn gywir, WM. GEO. JONES. I
YN Y FRWYDR. I
YN Y FRWYDR. I (Gan y Caplan A. W. DAVIES). I Annwyl Gwynfryn,— Ysgrifennais fy llith diweddaf a ni yn y frwydr, a ni yn eistedd ar hen fryniau man, llwm, mewn hen gilfach fawr an- fertb, yn disgwyl am y gorchymyn i symud.' Fel yr awgrymais, mae i gvfeiriad Gaza, Deu tua canol y llin rhwng Gaza a Beersheba y credem yr oedd ein gwaith; ond yn sydyn daeth gorchymyn i symud am Beersheba. Ymdeithiasom dros ddwy filltir ar bymtheg, ar draws tir priddlyd, llych- lyd, a bron yr un garreg cymaint a chledr Haw gwr ynddo, a'r llwch yn codi yn gymylau nes yr oeddym fel melinwr blawd, ond yn llwyd ac nid gwyn yr olwg arnom. A'r fath symud yw, y gynnau mawr a man, yn un rhes y camelod a'u clud, y ceffylau a'r asynod, a liain ar lain hir o wahacol gatrodau ac adrannau o filwyr. 'Roedd Beer- sheba wedi cwympo, a'r gelyn wedi ymwasgar ac ymneilltuo i gadarnfeydd y mynyddoedd yn y cylch i gyfeiriad Hebron. Cyrbaeddasom Beersheba tua cbwarter wedi naw boreu dydd Gwener. Yn wir 'roedd fy ngywreiniwydd yn fawr i weld yr hen le cysegredig mewn hanes deuai Abraham a'i lu, Dafydd, a Brenhines Beersbeba i feddwl dyn. Lie byehan yw yng ngesail y myn- yddoedd, ychydig o gabannau llaid, rhai adeiladau newydd o wenithfaen—un yn orsaf i rheilffordd o Beersheba i Jeru- salem.ac Alleppo; ac ysbyty a nifer o Dyrciaid anafwyd yn y frwydr wedi eu gadael ar ol i ni. Hoedd un gerbydres fach wedi ei adael ar ol gan y gelyn nad allasant ei symud ymaith oherwydd ein bod wedi llwyddo i ddryliio y rheilffordd yn uwch i fyny. Y mae Mosque Mah ometanaidd ynghanol y dref, a saif ar wastatir cyfyng, liwm, mewn gwlad Iwm yr olwg arni, ond a'r hen bydew yn aros o hyd, canys man y dyfroedd y gelwir hi. Yma ac acw ifntai bach o Bedouin yn eu carpiau, a'u deaddell fach o ddefaid a geifr yn canlyn eu bugail fel yn y dyddiaa gynt, ychydig o asynod, a'r dynion yn eu marchog, y merched o dan eu llwythi yn cerdded, a rhai ohonynt a babanod gyda hwy, eraill a phlant tua blwydd a dwyflwydd oed yn eistedd yn fforchog ar eu hys- gwyddau, ond y babanod mewn math o wrthban yn faich ar eu cefn. Synnwn wel'd y Bedouins mor hun- anfeddianol yngbanol y cyffro a thwrf tarannau y magnelau o bobtu. Ychydig olion, mewn cydmariaeth, welem o drigolion nac anifeiliaid, yr oedd- oeddynt wedi ffoi; deuai mintai bach i mewn o gilfachau du y mynyddoedd, oeddynt wedi osgoi llygaid y Twrc, a chawsant eu parchu. Daeth gorchymyn oddiwrth ein hawdurdodau nad oeddem i ymyryd o gwbl a hwy na'a hauifeiliaid, er yr oedd hyn yn demtasiwn go fawr i rai oedd wedi byw ar ddwfr a'r caceani caled am ddyddiau. Modd bynnag, parchwyd y gorchymyn yn rhyfedd, ag ystyried caledi yr ymgyrch. Gadael Beersheba a theithio i gyfeir- iad Hebron-cerdded peth ar y ffordd o Beersbeba i Hebron. Yna Ilechu eto mewn hen gilfachau i aros ein cyfle a'n gorchymyn. Y Sadwrn, symud i dir newydd y gelyn. Yr oeddynt wedi dewis man hynod o fanteisiol i ymladd, cadwen o fynyddoedd uehel, a'u ceu- nentydd, ac o'r gadwen torrai ambell i fynydd allan yn ysgwydd braf amddi- ffynol iddynt, ac yna fan esgeiriau neu ysgwyddau ar draws yma yr oedderi gynnau peiriannol ar y copaau ar fan ysgwyddau, a'u saethwyr cyflym, sicr, ac o'r tu ol i'w magnelau. Erbyn hyn 'roeddem yn ei ganol, nid oes gan neb heb fod ynddo ddyehymyg beth yw eu rhuad a'u chwiban, y miloedd a'r filoedd o fwledi yn dod fel cenlli, a'u suad chwim yn llym chwyrnellu drwy'r awyr: a ffrochwyllt swn rhwygiad yr awyr gan y cregin mawr, rhai yn ffrwydro yn yr awyr, gan ymfalu yn gannoedd o ddarnau, a chan ffrwydriad y pylor yn dod fal mellten o gyflym am ein pennau, eraill yn ffrwydro pan yn disgyn i'r ddaear, gan gloddio ei dyllau mawr, a hyrddio y pridd a'r cerrig i bob cyfeiriad i wasgaru dinistr a difrod. Mewn un man yr oedd y suad fel cor" wynt yn rhuthro drwy geunant, a dyma ni eto ynghanol cyflafan erchyll angau, y meirwon yma ac acw wedi syrthio yn ddewr yn y frwydr—ugeiniau o dan eu clwyfau—gorsafau y meddyg yn llawn. Gellir meddwl ei bod yn ofnadwy, dis- gynnoddtua hanner cant o 'shrapnel' y gelyn mewn byr amser mewn iieeyn lie yr oeddwn. Ein gwaith arbennig ni fel adran Gymreig oedd dal y gelyn yn ei fan cryfaf yng nghadarnfeydd y myn- yddoedd a'r ceunentydd rhag torri i mewn ar ochr chwith y rhai oeddynt yn gweithio o'i ddeuta ar y ddo i'w warchae, a gwnaethom hynny, a chawsom bellebr arbennig yn ein canmol am y gwaith. Peidiwch am camgymeryd, a chalon dolurus ag euaid poenus, 'roeddwn yn y rhyfel hon eto, ond gan nas gellid yn awr ei ocheiyd, ilawen oeddwn fod ein bechgyn glaw-r ad, rannau Cymreig—mor ddewr a llwydd* iannus mewn argyfwng mor ol'nadvvy- Tua dydd Mercher ffocld y gelyn am ei einioes, nid heb golledion trwrn, ae nid neb lawer o anrhefn, canys syrth- iodd i'n dwylaw lawer o garcharorion ac ysbail rhyfel, ac mae'r fro ar hyn o bryd yn dawel. Wedi'f frwydr, ac yn wir yn y frwydr, daeth i'm rhan y gwaith prudd boenus o gladdu y cedyrn o gwympasent. Gorchwyl poenus dros ben yw hwn, ond buom ffodus i gael gafael ar yr oil, a rboi ciaddedigaekk barchus iddynt yn naear cylch Beer- sheba ar waelod ei dyffrynoedd, ac yug nyhvsgod ei bryniau a'i mynyddoedd ban. Syrthiodd eto lawer i faehgen gloyw ei dalent, melus ei gâa, a glan ei gytn0r" iad buont ddewr, diys("og, a cli. c!roí-yn- .■ 01 ynghanol tan difaol, a gweddiaf am j i'w haberth mawr droi yn fendith DuW i'r ceuhedloedd, mewn dwyn cyfiawnder, cariad, a heddwch i deyrn- (Parhad ar tudalen 3).