Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

GAIR 0 MESOPOTAMIA.

t? 1-? . ? 1I L',LGAIR 0 GANAAN.-

News
Cite
Share

t? 1- 1 I L',L GAIR 0 GANAAN. Annwyl Mr G^yafryn Jones. Er pan ysgrifenais ddiweddaf, gwel weh ein bod wedi newid dwy wlad, cyfnewidiad er gwell ar y cyfan mi gredaf, er nad oes yma ddim o ramant pryd- ferbh gwlad Macedonia. Cawsom fordaith arall bythgofiadwy. Gwyddoch mai peth annymunol iawn yw mordeithio y dyddiau hyn. Lie bynag yr el dyn, a beth bynag fo yn ei wneud, rhaid iddo fod a'r 'lifebelt' yn hongian wrth ei wddf bob eiliad, nos a dydd. Bu'r tonnau hpfyd yn ddigon angbaredig wrthym. Ond er y peryglon a'r petfcau annynmool i gyd, daethum i Alexandria yn ddiogel. Gresyn i ni orfod gadael y ddinas enwog heb weld nemor dim ohoni. Cawsom gerbydres i'n eludo-ryw gant a banner o filltiroedd nes cael ein hunain mewn anialwch o dywod trwchus diddiwedd. Ychydig a welsom ar ein taith gan bod hi'n nos, heblaw ambell orsaf oedd yn ein hatgofio am Amwythig, Manceinion a'u cyffelyb. Wedi myned i'r anialwch, buom yn ffodus i gael aros ryw bytbefnos yn agos i bentref go fawr, oedd wedi ei ddos barthu yn Europeidd a Brodorol." Dyddgrol oedd sylwi ar y gwahaniaeth rhwng y ddau fath ar fywyd, tra ar yr un pryd goddiweddid dyn a phrudd-der dwys pan yn sylweddoli mai dwy radd ar wareiddiad oedd o'n blaen, y nail! yn ucbel ei breintiau, a'r Hall yn dlawd mewn caethiwed. Gwyddoch mai Mafaometaniaeth yw'r grefydd fwyaf ei'dylanwad yn yr Aifft, ac os gwir y dywediad mai dyn eymarol anllythren- nog eedd Mahomet, nid rhyfel mai isel yw safon eu wareiddiad. Caethwas yw y ferch yma eto. Gadewir hi heb neb deimio dyddordeb ynddi,—yn ddi-ddysg, ac yn amI yn ddigartref. Nid oes gan y bobl hyn syniad am werth Cartref, Peth dieithr iddynt yw aelwyd,—a chailad yn allu llywodraethol arni. Bodoli a wnant ac nid byw. Mor ddiolchgar a ddylem fod am ddatguddiad o Dduw, ac am hyfforddiant forcuol ym mbethau pwysicaf bywyd. Angbofiwn yn rhy fynych mai ffrwyth crefydd yw gwareiddiad, ac mai mwyaf dwyfol fo ein crefydd, perffeithiaf mewn canlyniad fydd ein gwareiddiad. Drwy ddynicn sanctaidd Duw y cawsom bethau mawr I yn y gorffennol, a thrwy ddynion o gyffelyb gymeriad y cawn bethau mwy rhagorol yn y dyfodol. Dibvnna ein cyfoeth moesol ac ysbrydol ar ein cymundeb gwastadol a Duw. Ond cael y gwahanol deyrnasoedd i sylweddoli hyn, buan y gall pob un ohonynt ddweud o galon, Efe yw ein tangnefedd ni." Wedi treulio pythefnos esmwyth a hapus yn y gwersyll hwn, teithiasom gannoedd o filltiroedd drachefn, nes dod o fewn terfynau gwlad Canaan, mae arwyddion y byddwn cyn bo hir allan o'r tywod sydd yn poeni gymaint arnom. Mae bryniau yr hen wlad sydd a'i hanes-mar annwyl gennym yn codi ryw awydd angerddol ynom am fyned- iad i mewn i Jerusalem a mannau eraill lie y bu ein Ceidwad eu gynt yn rhodio gan ddysgu a gwneuthur daioni. Br&int fawr fydd cael troedio y tir cysegredig y bu Efe unwaith yn ei droedio. Bydded i'n braint fod yn foddion i'n gwneud yn debycach i Grist yn ein hymarweddiad. Golwg rhamantus sydd i'r Waddy y soniwyd eymaint am dam gan y Caplan A. W. Davies, sydd mor uchel ei glod ymysg y milwyr dan ei ofal. Gwelais amryw obonynt yn barod, a'r un yw eu tystiolaeth. Disgwyliaf ei weled cyn bo hir. Ar Water Duty yr wyf er's tro, ac i'r Waddy (gwely hen afon rbyw dro) y byddaf yn myned i dynu dwfr. Clyws och ddigon am ei flas gan Mr Davies, ond da ei gael er mor ferwaidd yw. Buom yn ffodus i gael ambell noson ddyddorol gyda'r Y.M.C.A. tra ar ein taith, yn ogystal ag amryw o gyfarfod- ydd crefyddol. Diolch i Dduw am Ei wjeddoedd breision er mewn anial fyd. Mor felus yw y owrdd gweddi ar ddi wedd y dyd.d, medru myned allan o'r crasdir bydol i mewni borfeydd gwelltog ein Duw, gerllaw Ei ddyfroedd tawel. Rhaid terfynu gam -obeithio eich bod yn mwynbau yr iecbyd goreu fel teulu. Yr eiddoch yn gywir, WM. GEO. JONES. I

YN Y FRWYDR. I