Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

Advertising

-NODIADAU WYTHNOSOL. I -I

[No title]

[No title]

[No title]

News
Cite
Share

Cenhawdwri Nadollg y Pab. Fel arfer anfonodd y Cardinal 'Vanutelli-Pennaeth y Coleg Sanctaidd—gyfarchiad at y Pap. Yn ei atebiad dywedai ei Uchelder y gofidiai yn chwerw am fod yr Wyl Sanctaidd, am y pedwerydd tro, yn cael ei chuddio, a'i thrallodi gan ryfel. Yr oedd yn drallodus iawn ganddo fod ei ymdrechion ymhlaid heddwch wedi bod mor ddiffrwyth. Yr oedd y Prif Allu- oedd, meddai, wedi cyhoeddi yr amodau ar bwys y rhai y byddent yn barod i ymgynadleddu rhois om iddynt ein sylw manylaf heb yr un am can ond sicrhau y peth y rnae pob calon yn dyheu aLI1 ei weled, eto nid oedd rhai Galluoedd yn cymeryri arnynt eu bod wedi clyw ed ein geiriau; a thaflodd eraill arnynt amheuaeth a difriaeth; eto dywed y gallai ymgysuro fod yr awgrymiadau a anfonodd, fel y gronyn gwenith y sonia y Meistr Dwyfol am dano,—" Onid syrth y gronyn gwenith i'r ddaear a marw, hwnnw a erys yn unig, ond os bydd efe rnarw efe a ddug ffrwyth lawer." Gwyddai hefyd iddo wneud yn iawn, ac yr oedd yn rhaid iddo barhau, trwy'r byd/ ei genhadaefh ymhlaid yr heddwch y gwyddai oedd mor agos at galon yr Arglwydd lesu Grist. Dyived- Nid oes yr un rhwystr na pher- ygl all fy nghadw rhag cyflawni fy nyledswydd o osod alian hawliau ac egwyddorion Tywysog Tang- nefedd. ni pheidia y gyflafan hon nes y dychwel dynion at Dduw, gan ymbil yn daer gydag ef mewn dwys weddiau Carem brysuro y dychweliad hwn at Dduw, ie, pan y dychwel dynion a chymdeithas yn glau at Dduw, ac y gwel pob cnawd iachawdwnaeth yr Arglwydd, ac y cyhoeddir i'r tlawd a'r trallodus newyddion da o heddwch a thangnefedd."