Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

Advertising

-NODIADAU WYTHNOSOL. I -I

[No title]

News
Cite
Share

Amodau Heddwch y GweithWyr. Cyfeiriasom yn ein rhifyn di- weddaf at Telerau Heddwch a dynwyd allan gan Bwyllgorau Gweithiol Unedig Cyngrheiriau Llafur, a Plaid Llafur. Dydd Gwener diweddaf mabwysiad- wyd y rhaglen gan y Gynhad. iedd fawr a gynhaliwyd yn y Cen- tral Hall, Westminster. Yr oedd yn y oyrihadiedd 800 o delegates, y rhai a gynrychiolent ddwy filiwn a hanner o weithwyr y wlad. Yr oedd unfrydedd y bleidlais yn nod- edig. Gellirsymio y cynhygion i fyny yn y modd yma :— 1. Fed yn bwysig sicrhau heddwch cyn gynted ag y gellir, a'r heddwch hwnnw yn seiliedig ar ddwy ystyriaeth—heddwch gwerinol, a heddwch diogel. 2. Fod pob adrefniad tirol i gael ei wneud, nid i unrhyw bwrpas goresgynol nac ymher odrol, nac i unrhyw bwrpas mil wrol, ond er mwyncynnyddgwir wareiddiad a heddwch y byd. 3. Nad yw y polisi i-nasnacho", ar ol y rhy fel i fod yn un o orth. rwm ar neb, nac yn ymdrech i gau aHan Germani o fasnach y byd. Yr oedd araith Mr Henderson ar ( y materion hyn, meddir, yn odidog; 0 nertrol ac argyhoeddiadol. Teimlid, gan mor unol oedd y Gynhadledd, fod dirfawr newid wedi bod ar dymer Llafur er mis Awst, pryd y methwyd a dod i gyd-ddeall ynglyn a Chynhadledd Stockholm. Y tro yma nid oedd gwrthwynebiad gwerth son am dano. Cynpleidleisio darllenwyd llyth- yr oddiwrth y Prif Weinidog, yn yr hwn y dywedai nad oedd amcan- ion Prydain ynglyn a'r rhyfel wedi newid dim er y dechreu. Tybiai rhai v buasai y llythyr hwn yn ddigon i gadw y Gynhadledd rhag pleidleisio tros rhaglen fanwl a de- ffiniol y Pwyllgorau, ond siomwyd hwy yn ddirfawr Dengys y bleid lais fod y gweithwyr bellach yn hawlio datganiad amgen nag un ystradebol, penagored, all olygu, neu beidio golygu, unpeth a phop-j eth. Yr oedd y bleidlais ymhlaidl rhaglen y Pwyllgorau, i bob amcan a phwrpas, yn unfrydol. Ar ol y pleidleisio anfonwyd cen. awdwri at Ysgrifennydd Cynhadl edd Stockholm, ac at Gadeirydd*V Soviet, Senedd y Milwyr a'r Gweith- wyr yn Petrograd. Heblaw datgan ystyr y bleidlais, cyfleid hefyd wrthwynebiad Plaid Llafur i Heddwch Annibynnol." Hefyd, ar ol y bleidlais, bu cyn rychiolaeth o'r Gynhadledd gyda'r Pi if Weinidog yn ei hysbysu am benderfyniad y Gynhadledd. Yr oedd yr ymdriniaeth yn gyfrinach ol; ond dyweditfod y PrirWein idog yn dra chymedrol, ac yn dangos awydd am ddeall meddwl y Gynhadledd. Ynglyn ag Alsace- Lorraine dywedai y ddirprwyaeth y bodlonai y Sosialiaid Ffrengig osod y mater i bleidlais y bob! yn y ddwy dalaith, ac nad oedd Cyng- or Cyffredinol Llafur Ffrainc, y dydd o'r blaen, wedi son dim am danynt. Atebiad Mr Lloyd George i hyn oedd, "fod yn rhaid parchu ewyllys Llywodraeth Ffrainc yn hytrach nag ewyllys unrhyw adran o'r bobL" Heb os, nac onibai, y mae dyf- arniad y Gynhadledd yn ategiad gwych iawn i lythyr Arglwydd Lansdowne, a rhwng popeth y bydd yn rhaid i'r Cyngrheiriaid wneud rhywbeth gwell na siarad yn benagored ac amwys ynghylch yr amcanion y mynent eu sylwedd oli. Os nad oes yn y cynllnniau bethau gwyrgam, paham nad ellir eu cyhoeddi ? Y mae'r gwrthnys igrwydd yn creu amheuaeth. :—nrfT n, ng-i| —————

[No title]

[No title]