Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
6 articles on this Page
TRINITY ROAD, BOOTLE.
TRINITY ROAD, BOOTLE. Colled fawr i ni fel eglwys, ond colled fwy i'w biiod a'i rieni, oedd cwymp Mr John Roberts ar faes y frwydr* Un o'r bechgyn mwyaf rhadlon a siriol ydoedd ef. Mab i Mr a Mrs Thomas Isaac Roberts, Cedar Street. Ganwyd a magwyd ef yn y dref hon, a chadwodd ei Gymraeg, a meithrinodd hoffter mawr at bopeth Cymreig. Perth ynai iddo rhyw swyn oedd yn ei wneud yn hynod boblogaidd ym mhob cylch. Pan yn llanc yn y Post Office dewiswyd ef gan ei gyfoedion i dderbyn ihodd o Lyfrau gan Arglwydd Faer Lerpwl yn 1900. Rhoddid y cyfrolau i'r bach- gen mwyaf poblogaidd vmhlith y Post Office Messengers ac yn ol pleldlais y bechgyn, John Roberts oedd yn haeddu y rhodd. T rwy astudiaeth, dyfalbarhad a diwyd rwydd, enillodd safle yn y Post Office, a thystia amryw o'i gyd- weithwyr mewn llythyrau at ei weddw, ucheled ei barch ydoedd yp eu golwg, ar gyfrif ei gymeriad gian a i ysbryd hynaws a hawdd gar. Ymunodd a'r fyddin yn gynnar ar doriad y rhyfel, a buan yr enill odd ymddir.edaeth a phaich ei swyddogion, yn ogystal a'i gyd iVwyr. Clwyfwyd ef ddwywaith, a bu drosodd yn y wlad hon am gyfnod, ond anfonwyd ef allan drachefn, a syrthiodd ar faes y gvvaed, Hydref 30. Trist iawn oedd yr hysbysrwydd i gyJch eang o gyfeillion. Cynhaliwyd gwasanaeth goffa yn Trinity Road, nos Sul, Tachwedd 2, a phregethwyd ar yr achlysur gan y gweinidog (y Parch R, W. Jones). Daeth cynulleidfa fawr ynghyd. ac egJur ydoedd fed galar dwys ar ei ol. Canada y cor, Dyddiau dyn sydd fei giaswent- yn, a chwareuodd Miss Nellie Davies y "Dead March'' ar yr organ. Hawdd oedd siarad am dano, oblegid meddai gymeriad cryf a chymesur. Dyn siiiol, hawddgar, hynaws, a thirion oedd John Roberts. Cristion gloyw, ac ym meddu parch mawr i bopeth da a sanctaidd. Cydymdeimiir a'r weddw — merch Mr Jub Jones, Cromwell House, ac a'i rieni—Mr a Mrs Isaac Roberts, ac a'r teu'u oil. Hysbys i | bawb sy'n gwybod am eglwys Trinity Road fod y teuluoedd hyn vmhlith ein prif ffyddloniaid. Chwrth gennym feddwl am yr eglwys heb Mr John Roberts. ABC. I
CWM. I
CWM. I Tachwedd 23ain, pan bron cyr- raedd ei 70 mlwydd oed, wedi misoedd o gystudd caled, bu farw y brawd annwyl Edward McDon- ald. Brodor o Gwaenysgor ydoedd. t Ymunodd a'r Eglwys Wesleaidd yma, a bu yn hynod ymroddol a ffyddlon. Nodweddid ef gan led- neisrwydd yspryd, purdeb, unplyg- rwydd, a darbodaeth gellir dweyd iddo wneud y goreu o'r ddawn roddwyd iddo. Cyn ei ymuniad a'r eglys yr oedd fel hwnnw gynt, ddim yn nepell o deyrnas Dduw." Dygwyd ei gorff i dy ei fab- Penywaen, Gwaenysgor, a chladd wyd ef ym mynwent y Llan, pryd nawn ddydd Mawrth, Tachwedd 27, pryd y daeth, er gerwined yr hin, dyrfa liosog ynghyd. Gwas- anaethwyd yn y ty gan y Parch W. G. Williams, Llanasa, yn yr Eglwys ag wrth y bedd gan y Parch J. P. Hughes, Rheithior. Bu yn briod ddwywaith, gadaw- odd ar ei ol, y weddw (diblant), pump o feibion, a phedair o ferch- ed. Dymuna y teulu ddiolch am yr arwyddion helaeth o gydymdeim- lad ddangoswyd tuag atynt yn eu profedigaeth. Huna'n dawel, gyfaill annwyl, 0 dan gwrlid daear werdd, Eist o fyd y wylo chwerw Fry, i fro tragwyddol gerdd Wylo 'rydym 'rol dy golli, Nid yn anobeithiol drist, Codi gei ryw foreu eto- Boreu dydd ein Hiesu Grist, J. R.
LLANELLI. j
LLANELLI. j Gyda gofid dwys yr hysbyswn fod Mr Thomas Rees James, blaen- or, a Mrs James, Stradey Road, wedi derbyn y newydd trist fod eu mab hynaf, Mr Wilfrid James, wedi ei ladd ar faes y frwydr yn Ffrainc ar y 25ain o Tachwedd. Yr oedd Wilfrid yn 2nd Lieutenant. Mae ein cydymdeimlad fel eglwys yn fawr iawn a hwy yn eu trallod. Bu Wilfrid yn organydd yn eglwys Jerusalem am flvnyddau. Bwriad- ai fynd yn ysgolfeistr, ac yr oedd wedi myud ddwy flynedd yn ol i Goleg Aberystwyth ar gyfer hynny, ac wrth weled y myfyrwyi" eraill yn ymuno a'r fyddin ymunodd yntau, a dyma'r canlyniad. Dyma'r trydydd bachgen o egl WJ s Jerusalem sydd wedi eu lladd yn Ffrainc, sef George Protheroe, James James, a Wilfrid James. Yr oedd y ddau olaf yn gefnderwyr— y cyntaf yn 20ain oed, a'r olaf yn 21ain, a'r tri wedi eu magu a'u meithrin i fyny yn yr eglwys hon, ac yn aelodau ffyddlon ers blyn yddau. Bydd lie gwag iawn ar eu hoi. Gwyn fyd na chaem heddwch. AELOD.
Advertising
LLANBEDR-PONT-STEPHAN. Genetiigaeih. Rhagfyr 8fed,.1917, priod y Parch. I J. Wesley Morgan, ar ferch.   ?A,b)A:J, >2J1:);9ik¡<j¡)\Y¡::bJ'A:-<IJ.hlÎ;JÏ¡1 ::t$'fi;hJ'i\i2!:A;'i$A '] i&1:»;<¡)i¡¡£j;;f11 ;?   ?"  M JL L L i ?i? ?i FJ? ?? i  )J;- ii m ,t<r,\I;;U.1q'2"U.O"L" "'I'¡\\t" IIV ,¡¿:t: =:?"'1;i<j' I. '¡)J | iiiiiiiiiiiiiiiaiiiiisii i \109:'j\09.O, »;¿"o!{.Óo!or.1109.('09.u.<,W'1q,l'q.\(Jm\r "YR EURGRAWNS9 AM 1917.. Pris 4 Ceiniog y mis. Dan olygiaeth y Parch Thos. Hughes. "Y WINLLAN" AM 1917. Pris Ceiniog y mis. Dan olygiaeth y Parch D. Gwyn- fryn Jones. "Y DYDDIADUR AM 1917. Pocket Book 1/7 yr un. Dyddiadur Llian 7c yr un. Dan olygiaeth y Parch W. R. Roberts. Archeber ar unwaith. Y Maes Llafur. YN AWR YN BAROD. Esboniad y Parch. T. Isfryn j Hughes ar Epistolau Paul at y PHILIPIAID, a PHILEMON. Pris DAU SWLLT. Pan yr ymuna Dosbarth neu yr Ysgol yn gyffredinol i archebul dwsin, ac anfon blaendal, rhoddir hwy yn ol 1/6 yr un. j Gwyrthiau yr Arglwydd lesu Grist, Gan y Parch. J Maelor Hughes. Pris: PEDAIR CEINIOG. Os archebir dwsin o'r uchod, gyda blaendal, rhoddir hwy am 4/ Gofyniadau y Maes Llafur Yn cynnwys y Safonau a threfn yr Arholiadau. Pris: CEINIOG. Rhoddir 100 am 5/ a 50 am 3/-1 ond anfon toil gyda'r archeb. Anfoner yr Archebion a'r Taliadau i'r BOOKROOM, BANGOR. -I.#I'# DETHOLIAD 0 EMYNAU. YM AWR YN BAROD. Cynwysa dros 200 0 Emynau Detholedig, ac adranau ar gyfer y Cynhauaf, yr Ysgol Sul, Bedydd Plant, Dirwest, ac ychydig Emynau Saesneg. CASGLIAD DIGURO. Pris, Pedair Ceiniog, mewn Ilian ys- twyth. Trwy y Post, 5 ceiniog. Dwsin arn 4/ post free. Haner cant am 15/ carriage paid. Cant am 30/ carriage paid. Testamentau i'r Milwyr. > Testament mewn llian Khaki, Ceiniog yr un, post free am ddwy geiniog. Dwsin am 1/6. Testament bach hardd, gilt edges, mewn llian Khaki prydferth. Aiff i beced y wasgod. Prisiau, 9c. yr un 10c. post free. Dwsin am 9/6. Gwna y rhai hyn anrheg ddymunol i'r Milwyr Cymreig. 1 Rheolau y Trefn- yddion Wesleyaidd Argraffiad Newydd, yn llyfryn destlus, o'r Rheolau ddylai fod yn llaw pob aelod Wesleyaidd. Mae'r Rheolau hyd Gynhadledd 1913 oil yn yr argraffiad hwn. | Pris, Ceiniog a dimai y copi; 100 | am 6/6; 50 am 3/3 post free. ——————————————-—-————————?_? t i L. Cases at Rwymo. [ _==: Ceir Cases llian hardd at rwymo | Hanes Wesleyaeth Gymreig am swllt, post free. Cases llian destlus at rwymo Yr Eurgrawn am 10 ceiniog Y Winllan am 8 ceiniog. ;Ji1'Jí);¡IAm \I 1!fJ);¡);)/IJ¡)j¡)}I ""lt ? Ceir y cyfan drwy ein ?osb?rth??? LfeoL gp YR OLL "YN FOST FREE. Ii ? Anfonwch am awn C?T?LOGUE NEWYDD. ? I Pob Archebion a Tiaaliadau i'w hanfon i:- I t; Parch. 0. MADOG ROBERTSj | arc. II B k ad .Ji,<: Bookroom, Bangor, 1 ■ 1, u r, V&;vrll.1'! "i-J'¡¡:¡:W"" ;¡;«" ,q;¡;j,<'<,¡ 5_Jl 'i t,1)1f¡) )Akj)!¡ÀÁ :1)S'!âí):¡)/L "j&k è Agraffwyd dros y Cyhoeddwyr "gan L. Davies,:ISwyddfa'r "Gwyliedydd New- ydd," Blaenau Ffestiniog.
1-1:J LLWYNGWm,
1-1 J LLWYNGWm, Dydd Mawrth, R'aag. I L;, clud wyd gweddillion marwol y cla w a e r, Winifred Lloyd, priod Mr W. Llovd, Glandwr, i dy ei hir gartref, a hi eto ond 47 mlwydd oed. Yr oedd yn ddiwrnod heulog, braf, tawel addas iawn yn ddydd angladd cymeriad fel yr eiddo hi. Daeth tyrfa fawr ynghyd i dalu'r gymwynasoiaf iddi, acyn ddiameu o barch i'w chymeriad. Gwraig dawel, ddiabsen, a meddylgar -y,doedd. Gwyddai hefyd i bwy'r ymddiriedodd. Yr oedd iddi air da iawn fel athrawes yn yr Ysgol Sul. Bu farw dydd Sadwrn, Rhag. 8fed, arol cystudd blin a hirfaith. Ni chlywodd neb hi'n cwyno, a dalicdd n siriol hyd y diwedd. Diau i'r ffaith fod ei haimwyl fab, John Thomas, wedi mynd trosodd i Ffrainc brysuro'r diwedd. Yr oedd ef iddi fel canwyll ei llygad. Cafodd bob cymorth yn ystod ei gwaeledd allsai'i phriod a'i merch a chwiorydd caredig yr Eglwys a'r ardal estyn iddi. Mae bellach u wchla wangen pob cymorth dynol Cysgoded vr Arglwyddf dros ei phriod a'ilphlant a nerthed hwy i ymgynnal dan y brofedigaeth. Gwasanaethwyd wrth y ty gan y Parchn T. Gwilyrn Roberts a W. R. Roberts, ac yn yr eglwys a'r fynwent gan y Ficer. GOR. I
DOLGELLAU.I
DOLGELLAU. I Drwg iawn oedd gennym glywed am farwolaeth Pte. Arthur Rob- erts yn India wedi cael y Malarial Fever. Un o blant Ebenezer oedd ef, mab i'r diweddar Mr John Isaac Roberts, a brawd i'r brodyr ffydd Ion, Mri W Morris Roberts, Rufus R6berts, Hughie Roberts-tri o frodyr sydd yn hynod ffyddlon a gweithgar yma, ac mae ein cydym- deimlad yn ddwfn a'r holl deulu ar golli brawd annwyl mewn estronol wlad. Yr oedd yntau, fel llawer on bechgyn, wedi gorfod ymuno a'r fyddin, ac wedi cael ei ddanfon i'r India. Heddwch i'w lwch hyd ganiad yr udgorn diweddaf. CYMRO. ]