Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

9 articles on this Page

Y Rhyfel o Ddydd i Ddydd.I

News
Cite
Share

Y Rhyfel o Ddydd i Ddydd. I Dydd Llun, Rhagfyr 17 Y mae brwydro ffyrnig rhwng y Brenta a'r Piave, a cheir fod yr Italiaid wedi gorfod cilio yn ol ychydig. Dydd Sadwrn cafodd cytundeb ei wneud rhwng Rwsia a Germani o blaid cad oediad hyd lonawi 14eg. Un o'r cytundebau ydyw, nad oes byddinoedd i gael eu symud o Rwsia iT ffrynt Gorllew- inol yn ystod y cad-oediad—oddi 1 gerth y rhai sydd eisioes wedi dech- reu cael eu symud. Dydd Mawrth. Ymosodwyd ar nifer o'n llongau ym Mor y Gogledd. Yr oedd y llongau ar eu taith o Ysgotland i Norway, ddydd Mercher diweddaf, a chynhwysai'r fintai long ager Brydeinig a phump o longau perth. ynol i wledydd amhleidiol, yn cael eu hamddiffyn gan ddwy destroyer a phedair trawler arfog, ac ymos odwyd arnynt ganibedwar bad-tan ■ forawl. Suddwyd un o'r destroyers Prydeinig, a niweidiwyd y llall. Suddwyd yr holl longau ereill. Nid oedd y llongau a anfonwyd allan gan y Llynghesydd Beatty i amddiffyn llongau mewn pryd i rwystro'r dinystr. v Achubwyd dros 150. Cyfahrif tunelli'r llongau hyn oedd 8,000. Yn gynarach ar y dydd suddodd dwy o'r destroyers Germanaidd, ddwy o longau gwledydd amhleid- iol a thrawler Brydeinig, gan ni- weidio trawler arall, ar y glannau ddwyreiniol. Lladdwyd wyth o ddynion ar y llongau pysgota, Y mae Berlin yn lied gynhyrfus oherwydd adroddiad fod Germani yn bwriadu gwneud yn hysbys ei thelerau heddwch cyffredinol mewn Nodyn Cyfrinachol .i Lyw- odraethau'r Cyngreiriaid. Dydd Mercher Gwnaed ymosodiad ar Lundain nos Fawrth, oddeutu chwarter wedi chwech gan nifer o awyren nau Germanaidd. Gwnaed ymgais arall gan y Ger- maniaid i feddiannu rhai safleoedd mynyddig oddi ar yr Italiaid rhwng y Brenta a'r Piave. Gwnaed yr ymosodiad o ddau gyf- eiriad, ond bu yn aflwyddiannus. Rhoed cynorthwy sylweddol i'r Italiaid gan y gynau Ffrengig. Y mae sylwedd y cad-oediad rhwng Rwsia a Germani wedi ei gyhoeddi. Cytuna y pleidiau i beidio ad. gynnull eu byddinoedd ar gyfer ymosodiad caniateir i'r byddinoedd ymgyfathrachu a'u gilydd yn ystod y dydd mewn lie oedd neillduol; caniateir trafnid aeth nwyddau rhyngddynt. Y mae y galluoedd llyngesol ac awyrennol hefyd, wedi cytuno i atal gweith- redion. Dydd Iau Yn y mynyddoedd rhwng y Brenta a'r Piave, llwyddodd y gelyn, i ennill ychydig dir ar y chwith. Yn eu hadroddiad hawlia'r Awstriaid eu bod wedi stormio mynydd Asalone a'r safleoedd cys ylitio), ac wedi cymeryd 2,000 o garcharorion. Dywed Arglwydd French fod 16 i 20 o longau awyr Germanaidd yn yr ymosodiad ar Lundain nos Fawrth gan ddod yn chwe mentai. Ni chyrhaeddodd ond tua phump ohonynt yn ddigon agos i bombio Llundain. Disgynnodd un peiriant, ar ol cael ei tharo i'r mor gerllaw Kent, a chymerwyd dau allan o griw o dri yn garcharorion. Dywedir fod peiriant arall wedi disgyn i'r Sianel. Y colledigion yw 10 o bersonnau wedi cael eu lladd yn Llundain, a 70 wedi eu niweidio, ynghyda phump o'r tu allan. Y mae cyfiegrau'r ge yn wedi gwneud ymosodiadau ffyrnig ar y safleoedd Prydeinig yn ymyl Ploegsteert Wood, i'r gagledd o Armentieres, a Polygon Wood, i'r dwyrain o Ypres. Y mae M. Tretsky wedi rhoddi gwadd i Brydain i'r gynhadledd heddwch cydrhwng Rwsia a Ger mani. Y mae'r Kaiser a Hinden- burg wedi cael trafodaeth gyda Von Kuhlmann parthed yr ymgais. Y mae 14 o longau Prydain uwchlaw 1,600 o dunelli wedi eu suddo yn ystod yr wythnos. Sudd- wyd un o'r llongau mwyaf yn ystod yr wythnos oedd yn diweddu Hydref 21ain. Dydd Gwener. Parha milwyr Von Below i ym- osod yn chwyrn ar fynyddnu Itali, gyda'r bwriad, mae'n debyg, o dorri trwodd i'r gwastadeddau cyn i dywydd gerwinach roi atalfa ar y gweithrediadau, Torrodd eu hym- osodiadau diweddar i lawr yn llwyr, gyda cholledion trymion. Hawlia'r Awstriaid eu bod wedi cymeryd dros 8,000 o'r Italiaid yn garcharorion er Rhagfyr lleg. Dydd Sadwrn Nid oes newyddion o ddyddordeb neilltuol i'w adrodd o Ffrainc. Adroddir heddyw fod yr Italiaid ar ffrynt Asolene wedi ennill yn ol ran helaeth o'r tir a feddianwyd gan y gelyn yn ystod ddydd Mercher, Adroddiad answyddogol o Pet- rograd a ddywed fod Germani wedi gwrthod y telerau heddwch gyflwynwyd gan Ddirprwywyr Rwsia.

MOSTYN -

GWYNFRYN, COEDPOETH

I COLWYN. I

I CONNAH'S QUAY, I

! BWRDD Y GOL. ,I

[No title]

Advertising

IiYr Eglwys a'r "Entertainments'…