Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
9 articles on this Page
I ABERCYNON
ABERCYNON Nos Sul, Rhagfyr yr 2il, yn Carmel, derbyniwyd dau-ar- hugain o bobl ieuanc i gyflawn undeb a'r eglwys. Yr oedd yr olygfa yn un hynod o darawiadol a'r wasanaeth oil yn effeithiol iawn. Gwas- anaethwyd gan y Parch. R. H. Pritchard a chafwyd ganddo bregeth i'r amgylch- iad ar y geiriau, Pa fodd y glanha Ilanc ei lwybr ? &c. Am fai misosdd cyn cael eu derbyn yr oedd y bobl ieuanc wedi cael eu cyfarfod yn wythnos- ol gan y Gweinidog a Mr T. 0. Williams er eu parotoi Ers rhai wythnosau y mae Y sgolSul. dan nawdd Carmel wedi ei bagor yn Ysgol y Cyoghor, Aber Taff. Mae hyn wedi ei wneud er cyileusdra y teuluoedd a'r plant Wesleaidd sydd yn byw yn Glancynon. Rhifa yr ysgolorion o ddeg- ar-hugain i ddeugain. Gofelir am dani ar y dechreu yma gan Mr John Owen (blaenor), a Mr D. Wesley Evans yn ysgrifennydd. Mae'r Gymdeitbas ym mynd ymlaen er dechreu Hydref, a nifer o bapurau buddiol a gallucg wedi eu darllea ynddi erbyn hyn. Ceir y manylion gan y Goh. pan ga hamdden. GOH.
CYBWELI.
CYBWELI. Rhagfyr laf a'r 2il cynhaliodd Wesle- aid Bethesda eu cyfarfodydd blynyddol yn y boreu yn eu capel eu hunain, yn y prydnawn yn Capel Sul, ac yn yr hwyr yn Siloam (B.). Y gweinidog fu yn gwasanaethu yn yr oil o'r cyfarfodydd, a chafwyd gweinidogaeth gref odylan- wadol. I GOH.
MOSTYN.
MOSTYN. Gyda gofid dwys a chalon hiraethus yr ydym yn gorfod ysgrifennu hanes marwolaeth ein hanwyl frawd y diwedd- ar Mr Isaac 1YI Jones, a hynny o dan yr amgylchiadau mwyaf poenus. Ymun- odd a'r Royal Engineers ychydig wedi i'r rhyfel ddechreu- Bu yn y wlad yma hyd ychydig fisoedd yn ol, yna aeth i Ffrainc. Wythnos nsu ddwy yn ol daeth llythyr i'w rieni, gan un o'i. gyf- eillion, yn dweyd fod Isaac a dau gyfaill iddo yn cysgu mewn dug-out' tu ol i'r 'line, pan y disgynodd 'shell,' yn cynnwy-s 'gas' yo agos atynt. Yn y boreu cafwyd hwy yn eyslu o dan effaith y gas cymerwyd hwynt i'r ysbyty, ond mewn ychydig ddyddiau-bu farw ein cyfaill, a chladdwyd ef boreu Sul, Tachwedd 24ain. Yr oedd yn an a hoffid ac a anwylid gan bawb. Meddaugym eriad cryf a gloyw, a chalon yn llawn caredigrwydd a haelioni, ac yn wastad yn ei rodiad a'i ymarweddiad. Nodwedd- id ef ag annibyniaeth barn; mynnai resymau clir cyn y derbyniai unrhyw farn ar gwestiynau crefydd neu gym- deithasol, a phan ddadleuai byddai bob amser yn deg ac yn rhesymol. Darllenai lawer o lyfrau da a maethlawn, ac yr oedd yn ddirwestwr cadarn a hynny ar dir moesoldeb a chrefydd. Bu yn gefn- ogwr cryf dros yr Ysgol Sabbothol a phob sefydliad da, a chyfranogai yn belaeth at bob symudiad da, a hynny yn ddistaw. Gadawodd gartref ryw un mlynedd ar ddeg yn ol ac ymsefydlodd yn Manchester, lie y bu o fawr werth i'r achos yn Gore Street. Ni ddyvsedaf ddim am daco yn ei gysylltiad a Gore Street, oblegid gadawn hyn yn llaw y Parch. John Felix sydd wedi addaw rhoi cofiant iddo yn y Mynegydd nesaf. Y mae yn resyn o beth fod dynion disglair a gobeithiol fel ein cyfaill yn myned yn aberth i gynddaredd dynion digrefydd y gwledydd, ar allor gau y Duw Moloch. Gydymdeimlwn yn fawr gyda'r toulu yn eu profedigaeth lem, Duw fyddo yn nerth iddynt yn y dydd blin, ac a gadwo y ddau fab arall sydd yn y fyddin, un yn Ffrainc a'r Hall yn yr Aifft. Bu gwasanaeth coffaol ar ol ein hannwyl frawd nos Sul Rhagfyr 16eg, pregethwyd gan y Parch. Wm. Owea. Wele ddifyniad o lythyr a dderbyniais oddiwrth y Parch John Felix:—" Gyda gofid trwm y derbyniais y newydd prudd am farwolaeth y brawd annwyl Isaac M. Jones Bacbgen rhagorol oedd Isaac -un o'r rhai goreu yn eglwys Gore Street. Nid oodd ei ffyddlonach yn y He, na neb yn barotach i gynorthwyo'r Achos. Hyd yn oed o'i gyflog bach yn y fyddin anfonai ei gyfraniad yn rheol- aidd i'w flaenor, Gwn y bydd yma alar mawr ar ei ol." W. R. I
CAERNARFON I
CAERNARFON I Marwolaeth Cadben R. P. Morris, M.C.-Gofidus gennym gofnodi marwol- aeth bachgen ieuanc mor addawol a'r uchod, yr hwn oedd yn bedwerydd fab i Mr a Mrs H. Q. Morris, Cibyn Hall, Caernarfon. Mae y teulu wedi bod yn Wesleaid selog ers cenedlaethau, ac yr oedd ein gwrthrych yn aelod ac yn cymeryd rhan gyhoeddus yn Eglwys Ebenezer, Caernarfon. Yr oedd yn aelod o Glass y Parch. D. Jones, ac hofyd yn athraw yn yr Ysgol Sul. I Twrnai oedd ei alwedigaeth gyda Mr l M. E. Nee, Caernarfon, ac yr oedd wedi pasio trwyei hall arholiadau oddigerth yr olaf pan ymuaodd a'r fyddin yn 1914. Cododd o'r rhengau yn fuan, a gwnaed ef yn 2nd Lieut yn y R.G A. Bu yn Ffrainc er yn gynar yn 1915 a gwelodd lawcr o ymladd ofnadwy. Gwnaeth yntau ei ran, ac am achub bywyd y Major Nugent cafodd y Military Cross. Penodwydef y chydig amser wedi hynny yn Cadben, ac yr oedd wedi ei gymer- ad wyo i gael bar at y Military Cross pan ddaeth y newydd trit ei fod wedi ei ladd. Yr oedd y milwyr odditano yn ei gyfrif yn ffrind iddynt, ac yr oedd yn garedig dros ben wrthynt. Cafodd y rhieni trallodus lawer o lythyrau oddiwrth lu o gyfeillion a swyddogion yn datgan eu colled a'u cyd- ymdeimlad gyda hwynt yn eu profedig- I aeth. Mae Wesleaeth wedi colli bach- I gen ieuanc addawol, oedd yn hoff o'i Enwad ac 01 Dduw. Teimlwn fod y rhyfel yma, yn gwneud bylchau ofnadwy yn r&angau ein dynion mwyaf defnyddiol, a'n gwsclcu ydyw am i Dduw ddod a'i byd yn ol i'w syowyr- au yn fuan, fel y caffo Tanguefedd deyrnasu trwy yr holl ddaear. t CYFAILL.
I ABERDYFI.
I ABERDYFI. Bore Sadwrn, Rhagfyr laf, bu farw Evan Morgan, Crydd, yn 73 mlwydd oed. Yr oedd yn gymeriad hynod iawn ar lawer yDtyr, ac ystyrrid ef yn ddibet- rus yn ddyn duwiol iawn. Tylawd a thawel fu ei fywyd ar hyd ei oes, ond cafodd gynhebrwng tywysogaidd. Cyn-, haliwyd gwasanaeth cyboeddus yn ein capel, a'r cynhebrwng oddiyno i'r Ceme- tery i feibion yn unig. Hawdd gweld oddiwrth y gynulieidfa ddaeth ynghyd mor barchus ydoedd. Yr oedd yn Wes- lead seiog, a chymerai ran gyhoeddus yn y cyfarfodydd gweddi, ac nid oedd ei ffyddlonach i'r Ysgol Sul. Pan ddywedai air yn y seiat, dywedai ef mewn modd nad allai neb arall ei efelychu, gan mor wreiddiol ydoedd yn ei ffordd. Enciliedig iawn ydoedd ei fywyd, ni fu yn ei awydd erioed am fod ar y blaen, ond yr oedd a'i holl fywyd yn y gwaith allai wneud. Cymerodd ofal o gadw y drws yn nhy Dduw am flynyddoedd, a thystiai ein gweinidog yn ei bregetb angladdol iddo bore Sul y gwnai hynny mewn modd a ystyriai mor ysbrydoledig a dyfod ymlaen at orsedd Duw. Yr oedd y rhan yma o wasanaethu ei Arglwydd yn cael ei gyflawni ganddo gyda gwylder a pharch- edig ofn. Yr oedd yn edmygydd mawr o Wein- idogion ein henwad, a gwyr llawer un fu ar y Gylchdaith yma ac yn cartrefu yma am ei ffyddlondeb iddynt, yn y modd yr, ai i'w cyfarfod pan ar daith, ac i fod yn gwmni iddynt mewn Ueoedd anial ac unig. Ei brif wron ydoedd y diweddar Barch. John Evans, Eglwys Bach, ac ni allech fod yn ei gwmni ychydig fun udau na soniai am dano wrth ei hoff enw John," ac nid oedd angen gofyn pwy a feddyliau wrth yr enw hwnnw, a llawer tro y cafwyd math o seiat yn ei weithdy pan y dochreuai son am John," a gall- ai nodi ei destunau a rhannau helaeth o'i bregethau fel pe bai ond newydd eu clywed yn caei eu traddodi. Yr oedd yn gymeriad hynod ar gyfrif y diniweidrwydd naturiol berthynai iddo. Nid oedd yn ei allu i fod yn athraw yn yr Ysgol Sul, ond tra y gailodd nid oedd ei ffyddlonach iddi. Gallai ddarllen ei Feibl yn dda, ac yr oedd yn esboniwr gwych yn ei Glass, ac yn Armin i'r earn. Cafodd ein beglwys golled fawr yn ei farwolaeth oherwydd yr oedd bob amser yn ffyddlon ymhob moddion. Cerid ef gan bawb yn ddiwahaniaeth ac nid oedd elyn iddo yn y lie. Ni chlywyd ef erioed yn dyweyd gair bach am neb. Bu yn gystuddiol am wythnosau ond oi ddaeth gair grwgnachlyd o'i enau yn ystod ei saldra. Cafodd yn rhagluniaetb- ol ofal tyner am dano gan Mrs Harries, a'i nhith-Mrs 0. Lloyd (Corris), lie y lletyai y deuddeg mlynedd diweddaf o'i oes, ac yn hyn gwelid Haw Duw yn Ilmlwg yn gofalu am yr hwn a ymddir iedo ynddo. Yr oedd ei ffydd yn fawr a meddai ar brofiad aecldfed iawn. Nid oedd arno ofn marw o gwbl a daliodd ei ymwybyddiaeth i'r munudai olaf, a chawn ei syniad am y nefoedd yn y cwestiwn ofynodd i'w Iletyes y dyddiau olaf, sef, Pa beth fyddai ei waith yn y Nefoedd. Gweinyddwyd yn ei angladd gan V/einidogion y Gylchdaith, y Parchn.,T. Gwilym Roberts, Towyn a W. Phillip Roberts, Aberdyfi. Dywedwyd geiriau pwrpasol gan Mr Rowlands, D.H., a'i flaenor, Mr D. Jones, ya y wasanaeth gyhoeddus, a theimlad pawb wrth ei fedd ydoedd ein bod yn claddu un y diwrnod hwnnw y gellid yn onest ddyweyd, Ba was da a ffyddlawn, &e. a'r hyn wnae I i bawb deicolo felly yw, mai wrth eu "iwyblnau yr adnabyddwch hwynt."
I i.RHEWLiI::..-.4;
I RHEWL I Y SuI diweddaf cynhaliwyd Cyfarfod Y sgol yn Rhewl. Daeth cynrychiol- I aeth o Llangollen, Glyndyfrdwy a Phen- tredwr er gerwined yr hin. Llywydd yr Undeb yw Mr David Morris, Rhewl, I ben feistr ar y gwaith. Yn y bore darllenwyd papur gan Mr J. W D:cjB.o^son' Pentredwr, ?Sais wedi dysgu Oymraeg rhelea'? 0 dd? ?c yn dod yn frawd gwerthfawr iawu i ? Y? V gylch daith- Y testun ydoedd, bwyo yr Ysgol Su1." Siaradwyd sr y papur :;au Miss Sarah Pugh Jones, B A, yr Is- lywyddes, ac eraill. Yn y prydnawn yr oedd y Parchn Rhys Jones a Berwyn Roberts gyda ni. Adroddwyd penned i ddechreu gan Mr E. H. Jones, Tyntwll, ac arweiniwyd mewn gweddi gan Mr John Turner, Glyndyfrdwy. Holwyd y dosbarth ieuengaf mewn pedair peunod o'r Hyfforddydd gan Mr David Morris, ac ni chlywsom erioed well ateb. Gresynem fod marwolaeth Mrs Aon Morris wedi lluddias yr athrawes Miss Roberts i fod yn bresennol. Ar ol adrodd, canodd y dos barth. Garol felus. Wedi canu emyn, cafwyd adroddiad o'r Deg Gorchymyn ¡;an ddwy chwaer, sef Misses Gwla iys, a Nellie Griffith, Acerddu, tyn rhagorol iawn. Holwyd dosbarthlBecjamin Jenkins gan y Parch Rhys Jones yn y bennod ar Etholedig- aeth, allan o'r Arweinydd, ac yn dilyn holwyd dosbarth y chwiorydd gan y Parch Berwyn Roberts yn y bennod ar "Frenhiniaeth Crist" o'r Holwyddorydd. Gwnaeth y dosbarthiadau yn gampus, a chanmolid ymdrech a llafur yr athraw- on. Wedi cael gair gan y Parch Rhys Jones, terfynwyd. Yn yr hwyr cafwyd anerchiad gan y Parch Berwyn Roberts, oedd yn yr ardal oherwybd marwei chwaer hynaf. Un o blant Rhewl ydyw ef, er i'r teulu adael yr ardal ers blynydda,u. Teimlwn yn falch o fod wedi magu Ysgcifennydd Talaith Wesleaidd, a phrogethwr ac es- boniwr o fri. Wedyn holwyd y dosb arth hynaf gan Mr E. D. Jones, Arfryn, Llangollen, Arholwr y Gylchdaith. Yn Phil. iii, yr oedd y maes, a chafwyd atebion boddhaoi iawn. Treuliwyd diwrnod adeiladol a buddiol.
ILLANGOLLEN.I
LLANGOLLEN. Penderfynodd y cyfeillion yn y lie am eleni i beidio apelio at y cyhoedd am unrhyw help i dalu ein cyfrau o'r Loan, ond penodwyd dwy chwaer ieuanc i gasglu oddiar yr aelodau a chyfeillion yr achos. Ymgymerodd Miss Sara Pugh Jones, B.A., a Miss Katie Watkin a'r gwaith, a buont yn llwyddianus igasglu dros £ 30. Teimlir yn ddiolchgar iawn iddynt am eu dygnwch, ac i'r cyfeillion am eu haelioni. Yn yr ysbyty yn Leicester y mae Mr Sam Pugh Roberts, mab Mr a Mrs M. H. Roberts. Ni fu yn hir allan yn Ffrainc na ddioddefodd oddiwrth trench feet," a dygwyd ef drosodd i Loegr. Dealiwn ei fod yn gwella'n raddol, ond y cymer amser hir iddo ddod yn iawn. Bu Cyngor y dref yn poeni dipyn arnom fel Trustees yn ddiweddar, gan hawli i ni dalu iddynt am Right of Light a, r I ochr y SaiithSeld i'r capel. Gwrthwyn- ebwyd yn bendant ar y tir fod hen Iwybr yn rhedeg yn gyfochrog a'r capel flyn- yddau'n ol. Ymddangbosodd y Parch Rhys Jones a Mr. M. H Roberts o flaen pwyllgor o'r Cyngor, a'r canlvniad yw iddyut gydnabod ein hawl i'r goleu a thynuu'n ol eu cais am dal. Miss Katie Watkin a Miss Jessie Foulkes, Pengwern, sydd yn cynorth- wyo'r Parch Rhys Jones gyda'r Band of Hope eleni. Y mae Mr John Simon Davies, mab I Mr Seth Davies, wedi ei benodi ar Staff y Post Office yn Ffrainc. Yn y rheng- ooth fel private y bu John Simon ers misoedd, a gwelodd ysgarmesoedd enbyd, ond daeth yn ddihangol hyd yn hyn. Hyderwn y cedwir ef a'r bechgyn eraili yn ddiogel nes dod yn ol atom. I '? I ? I Nos Sul diweddaf torrwyd y gwasan- aeth yn fyr yng ngwahanol gapelau'r J dref, a chyd-gynhullwyd i addoldy'r Bedyddwyr, Castie St., am 7.15, i gyn- le St., am 7.15, i ?,, Y n-. nal cyfarfod coffa am Pantycelyn. Llanwyd y capel. Llywyddwyd gan y Veteran, y Parch D. R. Owen, gweinidog newydd Castle St. Arweiniwyd y canu gan Pencerdd Williams, a chanwyd amryw o emynau'r per ganiedydd yn effeithiol iawn. Siaradodd y Llywydd gan roi amiinelliad.o fywyd yr emynydd, a gaiwodd ar y Prif fardd Cadvan i annerch ar ei nodweddion. Cawsom anerchiad goeth ac aruchel. Gwnaed casgliadfat Drysorfa'r Ysbyty. Diwedd* I w''? ? 4 ?? y Parch Rhys Jones. r1TT I- W YLA ,f?ta y Pare h Rhys Jones. I Gog.
I CAERSAiM TON PEMTRE
I CAERSAiM TON PEMTRE Cynhaliwyd Cyfarfod Cenhadol yr eglwys ucbod, nos Fercher, Tachwedd 2lain. Llywyddwyd gan y Parch. D. C. Jones, Penygraig. Darllenodd y Llywydd gyfrif y flwyddyn ddiweddaf, a da oedd gennym glywed fod yna gyn- nydd wedi bod yma, ac hefyd yn y Gylchdaith. Yna cawsom araith gref gan y Parch. E. D. Thomas, Treorci, a theimlem fod y tan Cenhadol oedd yn llosgi ynddo ef yn cael gafael yn y gwrandawyr. Diolchwyd i'r ddau frawd —Mri William Owen, a Teddy Morgan, am wneud eu gwaith mor dda yn ystod y flwyddyn, ac mae'n dda gennym fod y ddau wedi eu dewis i gasglu am y cfryd- edd flwyddyn. CYMBO.
I .GLYNDYFRDWY
(Parhad o tudalen 2). tlniog, a Oapten Percy Lloyd Humphreys, a Mr Henry Evans befyd a fu farw o afiechyd blin a ddaeth arno ar faes y gwaed. Yn Lerpwl yr oedd William Hughes yn gweithio panymun- odd, a chydtt'r Lancashire Fusileers yr oedd. Ychydig amser yn ol derbyniodd y Parch Rbys Jones lytbyr oddi wrtbo, ac yn hwnnw dywedai ei fod yn diolch i Dduw am ei gadw'n ddiogel, a'ifod yn gweddio bob oyfle a gai. Ganmolai'r caplan oedd ganddynt, a mawr y m wyn had a gai yn y gwasanaeth-pan geid un. Ymawyddai am heddwch buan, ac am rhyddid i'r byd trwy gymorth Duw. Gobeitbiai gael dod yn ol yn ddiogel i gapel bach Glyndyfrdwy, a llawenychai ddeall fod y cyfeillion yno yn gweddio drosto mewn gwlad estronol. Ychydig a feddyliem mai dyaa un o'r llythyrau diweddaf a geid oddiwrtho, and fell y y bu Anfonodu y caplan i ddweyd i'n brawd fynd i ymosod ar y gelyn, ond ni ddaeth yn ol. Cydyrndeimlir yn ddwys a'i fam weddw ac a'i chwiorydd. Y mae Miss Maggie Hughes yn aelod selog a gweithgar o'r Eglwys yn Llangollen. Nawdd y nef a fo drostynt-