Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
Advertising
15 Y Gwyileclydcf Newydd." AT EIN DOSBARTHWYR. Pob archebiori a thaliadau am y Gwyl- iedydd Newydd i'w danfon i'r Rheolwr, awyliedydd Newydd," Flint Mountain, Flint, Anfonir un copi am dri mis trwy y Llyth yrdy 1/2 dau gopi am 3/7 tri copi am 4/6; pedwar, pump, a chwech yn ol 1/5 y dwsin. Disgwylir tal ar derfyn pob chwarter. Heb hyn y mae yn amhosibl bron i ni gario ymlaen. AT EIN GOHEBWYR. Anfoner pob Gohebiaeth, gydag enw priodol yr anfonydd, i'r Golygydd wedi eu cyfeirio— V (tolygydd, "Qwyliedydd Newydd Flint Mountain, Flint, Diolchwn os rhydd ein Gohebwyr sylw i'r awgrymiadau hyn :— Carem i bob gohebiaeth fod mewn llaw eibyn boreu Iau. Ysgrifener ar un wyneb i'r ddalen bob am- ser. Os na fyddis yn rhoi ond Stamp Dimau ar yr amien gadawer hi yn agored, ac ysgtifenner Press News ar ei chong!. LLYFR NEWYDD. "Emynwyr Cymru" GAN Y PARCH. EVAN ISAAC. Cynnwys y llyfr-Ysgrifau Hanes yddol a Beirniadol ar holl Brif Emynwyr Cymru, o Edwwnd Prys hyd Ehedydd lal, ac ar ei derfyn ceir Llyfr yddiaeth yr Emynwyr. Barn Llenorion YR ARCHDDERWYDD DYFED. Fel un sydd yn teimlo cryn ddidaiordeb yn emynwyr ac emynau Cymria, darUenais eich ysgrifau gyda boddhad mawr. Cred- af y bydd y llyfr yn fendith i'r genedi." PARCH T. J. PRITCHARD (GLAN DYFI). Yn ddios, y peth goreu yn yr iaith ar y pwnc a chredaf y bydd yn waith safonol. Cosiiodd lafur enfawr. Y mae cywirdeb yr awdur fel hanesydd, ei farn deg fel beirniad, a'i arddull fyw a graenus fel lienor, yn gosod ei gen'edl tan rwymau i'w gefnogi." Y PRIFARDD J. J. WILLIAMS. Gal:af yn ddibetrus gymeradwyo'r llyfr hwn. Chwiliodd yr awdur yn fanw! am y ffeithiau, traethodd ei farn yn groyw, a gwisgodd y cyfan mewn iaith gref a glAn, Bydd bai mawr yn rhywle os na phrynir y llyfr wrth y miloedd." Y PARCH THOMAS HUGHES. Golygydd yr Eurgrawn. Ceir yma ffrwyth. ymchwil fanwl i hanes ein hen emynwyr, wedi ei gyfleu mewn modd diddcrol iawn. Cloriennir eu cynhyrchion a llaw beirniad annibynnof a chratf, sydd ar yr un pryd yn lienor awen- gar. Y mae graen lenyddol rhagojol ar y gyfrol o glawr i glawr." Y PRIFARDD GWILI. "Darllenais eich ysgrifau gyda bias mawr. Aethoch i drafferth anarferol, a dywedasoch y gwir piaen,heb ofni wyneb gwr. Credaf y bydd y llyfr o werth i'r rhai a ddaw ar eich of, fel engraifft o wrthod byw ac adeiladu ar draddodiad heb sail iddo. Dylai y llyfr werthu yn gyflyrn a hir." TECWYN. Credaf y bydd y llyfr hwn yn gynysg- aeth wirioneddol i'n iJenyd'ciaeth. Dengys yr ysgrifau ol mecldwl galluog, medr llenyddol, barn aeddfed, a gwybodaeth I drylwyr o'r pw/ic. Os caiff y gwaith hwn y gefnogaeth a haedda, prynnir ef wrth y miloedd." Cyhoeddir cyn gynted sg y ceir; nifer digonol o Danysgrifwyr. PRIS 3/6. Yr Archebion i'w hanfon i'r Awdur, Treharris, Glam. y
KODIADAU WYTHNOSOL. I
KODIADAU WYTHNOSOL. I Nadolig y Owaed. Dyma pedwerydd Nadolig a gwaed, gwaed ymhobman. "Gog- oniant yn y goruchaf i Dduw," medd yr angylion, ac ar y ddaear tangnefedd, i ddynion ewyllys da. Yn lie gogoneddu Duw ei wadu a welwn; yn lie tangnefedd," cythrwn na bu ar y ddaear "cyn Crist" na 'chwedyn ddim chwerw- ach ac yn lie ewyllys da Hid a llabyddio sydd ymhob man. Ie, y gwir a ysgrifenwyd, Nadolig du ydyw hwn i filiynnau o deuluoedd, nid yn umg ym Mhrydain, ond yn Ewrop y mae eu hanwyliaid wedi cwympo ar faes y gyflafan, wedi trengu yn eu gwaed, ac ni welir eu hwynebau byth mwyach, a'r unig beth a saif yw'r atgo brudd am y ffarwel olaf cyn ymadael ar ol Y: ?"last leave." Y mae ugeiniau ol fechgyri Cymru wedi cael eu last 1 leave" oddiwrth ohdiau a chreu-I londerau'r rhyfel er y Nadolig di- weddaf, ac y mae lie i ofni yr aiff cannoedd eto cyn y gwawria hedd- wch, ac y ffynna tangnefedd, ac ewyllys da. O'r hyn lleiaf, dynal oedd cynnwys areithiau diweddar- af ein harweinwyr gwleidyddol, ac y mae'r parotoadau anferth yn awgrymu'n gryf y pery'r rhyfel am Nadolig arall. Dywedodd Syr Auckland Geddes hynny'n ddi- weddar, ac ni chawsom awgrynr y terfynai yng nghynt yn araith ddi weddaf y Prif Weinidog. Nid oes ond i ni, meddai rhywun, ddarparu ar gyfer y gwaethaf, a cheisio sugno cysur o leoedd anhebyg, a dychmygu gwawr gobaith o lenad ellir ei gael. Oes, y mae gweil peth na hyn, troi at Dduw a gofyn iddo ef eistedd ar y llifeiriant. Ofer troi at wladweinwyr, y mae y llu mawr ohonynt hwy ymhobt gwlad yn orffwyllog, ac lieb ewyll. ys na gallu i gyfrif bywydau y bobl yn ddirn ond pawns i'w symud yn ol a blaen ar wydd bwyll gwaed- lyd ystrywiau ymherodrol. Anogir ni i arfer yr wythnos weddi" ddechreu'r flwyddyn i weddio am lwydtl ar arfau lladd; yn hytrach na hynny, ymostyngwn ger bron Duw, cyfaddefvvn ein pechodau, a gweddiwn arno am iddo vn ei ffordd aruchel ei hun orfodi bren- hinoedd a llywiawdwyr y ddaear i edrych ar ddynion yn rhywbeth amgenach nag ymborth i'r cledd a'r t'agnel; a thywys ei Egiwys i hawMo diarfogiad. Pan syrth rhai o'r bechgyn hoff, enfyn y swyddfeydd rhyfel a'r militariaid. ymhob gwlad, lythyr- au ystradebol at eu rhieni i'w cys- uro, gan ddywedyd fod eu hanwyi- ¡., iaid wedi marw dros eu gwiad Wel, gweddiwn am i farwolaeth y bechgyn fod tros rywbeth uwch a gwell na gwlad,tros y byd, tros ddyn, a thros Iesu Grist; gweddi wn am. i fawredd y difrod hwn ddyfnhau argyhoeddiad y byd yn I erbyn rhyfel— pob rhyfel; a phrys- uro dydd y proffwydvvyd am dam, er agos cyn cof, pryd na ddys-gent ryfel mwy." Codwn ein golwg ar y drwg, a gweddiwn ar Dduw am iddo gryfhau ein penderfyniad i wella pethau. Arnom ni y dibyn na'r dyfodol a gallwn wncuthur ohonno, dan fendith Duw, yr hyn a fynnom iddo fod. Allan o'r dinistr hwn fe ellir codi eto y Jerusalem newydd y soniodd William Blake am dani, a'i chodi nid yn "nhirj hyfryd Lloegr," ond ar y ddaeari fawr i gyd. t ————— t?
[No title]
Dr. Clifford a Deddfwriaeth Ddir- westol. Cyferfu Pwyllgor Gweithiol Brawdoliaeth Genedlaethol, yn Stockport, y dydd o'r blaen. Y; llywydd oedd yr hen Dr. Clinord. Siaradai y Dr. yn gryf ymhlaidi Gwaharddiad. Pasiwyd pender fyniad cryf gan y Pwyllgor, yr h wn a ddatganai mai yr un ddeddfwr-i iaeth dderbyniol, yn niffyg gwa- harddiad, fyddai rhoi i bob ardal,! yn ol y cynllun Ysgotig, hawl i ymdrin a thrwyddedau yn ol fel y gwel mwyafrif y trigoiion yn oreu." Y mae'n amlwg felly fod mudiad' mawr y Brotherhood, fel agos pob corff crefyddol arall, yn erbyn Pryniant. Y mae y Dr. hybarch wedi ysgrifennu llythyr arwyddoc-1 aol iawn i'r Daily Chronicle," yn yr hwn y geilw sylw at y gorchym- yn sydd wedi ei anfon allan yn Canada, nad oes, ar ol Tach. 30, un math na swm o rawn i gael ei ddefnyddio yn y Drefedigaeth i ddarllaw gwirf. Y mae gwaredig- aeth Canada yn awr yn gyflawn. Yr oedd bron yn sych o'r blaen, ymae yn gwbl felly yn awr. Y mae Canada wedi cyhoeddi rhyfel nid yn unig ar y Galluoedd Canol- og. ond ar bopeth sydd yn eu cyn orthwyo. Y mae yr America hefyd wedi gwneud yr un peth, Gofynna y Dr., Paham nad all Prydain wneud yr un peth ? Y mae ein Prif Weinidog, meddai, wedi cy- hoeddi fod Cymru a'r Ysgotland yn aeddfed am waharddiad, ond fod Lloegr ar ol. Ni chredaf hynny, ebai'r Doctor yn hytrach, pe ihoddid cyfle iddi i draethu ei meddwl, byddai y mwyafrif yn Lloegr hefyd yn llethol drosto. Peidier a gwastraffu bara y plant, am yr hwn y llefant, ar wneud bir. Gweddied ein gwladweinwyr am wroldeb yr America a Chanada, ac yn lie ymfodloni ar "siarad" am gynhildeb, bydded lddynt gymeryd yr un cam a wna fwy i'w sicrhau na dim arall. Wel, dyna eiriau plaen, diamwys. —■ ■ ■■ ■
[No title]
Diod a'r Anorffwystra Llafurol. Yn y wasg, a lleoedd eraill, y mae noddwyr v Fasnach Feddwol wedi gwneud eu goreu glas i ber swadio v cyhoedd mai achos mawr yr anorffwystra llafurol sydd wedi bod mor amlwg er ciechreu y rhyfel ydyw prinder diod gref, a'r cyfieus- terau prinach i'w hyfed, Awgrym wyd peth felly, hyd yn oed gan y Llywodraeth, fpan y penododd ddirprwyaeth ffechan i chwilio y mater. Yn wyneb hyn dylai pleid wyr sobrwydd bwysleisio y ffaith nad yw Adroddiad y Ddirprwyaeth yn dangos fod ymhiith y gweith wyr unrhyw wrthwynebiad cyff- redinol, nag yn wir unrhyw wrth- wynebiad pwysig i'r cyfyngiadau. Ni ddywedir, er engraifft, fod llei- hau yr oriau wedi peri anfodlon- rwyrld mewn unrhyw rhan o'r wlad ac mewn adran yn unig- West Midlands, y dywedir fod y gwyn yn chwerw ynghylch y pris iau a phrinder birj A rhaid cofio fod Cymdeithas y Darllawyr, a'r Tafarnwyr yn y West Midlands yn rhai nodedig o fyw a gweithgar. Prif achosion yr anorffwystra, yn ol yr Adroddiad, ydyw nid pwnc y ddiod, ond pethau eraill-pris uch- el y bwyd cyfyngiadau ar ryddid personol llymder rhai o ddarpar- iadau Deddfau y Cyfarpar; di- swyddiad Rheolau yr Undebau Llafur; diffyg ymddiriedaeth yn addewidion y Llywodraeth yng- hylch eu hadferiad oediad ynglyn a setlo anealltwriaethau; anheg- wch ynglyn a gweinyddiad v Deddfau Milwrol Gorfodol. Gwel- wn fod Mr Barnes, yr Aelod Llafur, ac un o r War Cabinet, wedi bod yn dadansoddi yr Adroddiad, a dyma ydyw ei farn bendant yntau. DIFYNIADAU O'R ADRODDIADAU. Nid anfuddiol fydd difynnu tyst- ioliaethau rhai o'r Dirprwywyr:- 1" Dirprwywyr Ysgotig- Ei bod yn ffaith nodedig.— gwerth sylwi arni,—na bu yn holl gwrs yr ymchwiliad yr un gwyn o unrhyw ardal fod y cyf- yngiadau ar ddarpar, gwerthu, ac yfed diod, wedi peri anorff- wystra llafurol. Ni bu cyfeiriad at y mater o gwbl. Yn Adroddiad yr Adran Dde-Or- llewinol dywedir- Nid yw y cyfyngiadau ar oriau gwerthu diod wedi achosi un- rhyw anorffwystra. Mewn rhai ardaloedd yr oedd ychydig o gwyn, nid llawer, oblegid prin- der bir a'r pris uchel a ofynnid am dano. K DirpYTvywyv Cymreig a ddywed- ant— Yr oedd y cwynion ynghylch y cyfyngiadau ar werthu diod, &c., yn rhyfeddol o brin. Dirprwywyr Swyddi York a'i- East 111 idlands Nid ydynt hwy yn cyfeirio at y mater o gwbl Dirpwywyr Adran y Gogledd. ddtvyrain- Y maent hwy o'r farn nad yw y cyfyngiadau, a siarad yn gyff redinol, wedi esgor ar unrhyw anorffwystra llafurol, Dirprwywyr Llundain- 0 dan y penawd Minor Com plaints,' dywed Dirprwywyr v Brifddmas Cydnabyddir yn gyffredin fod y cyfyngiadau ar werthu diod, a'r codiad yn ei bris, wedi creu caledu, anfodd. lonrwydd, a chwerwder ymhiith y gweithwyr a arferent yfed bir gyda'u prif brydiau b Nyd. Eto, yr achos pennaf o'r anfoddlon- rwydd ydyw pris y bwydydd. Dirprwywyr y Gogledd orllewin. Cyfrifir fod yr adran hon yn ffafriol i'r fasnach, eto yn hon nid yw y Dirprwywyr yn mynd ym- hellach na dyweyd Tra vr ystyri wn fod y cyfyngiadau yn amloblogaidd,-yn cael edrvch arnynt fel ymyriadau a rhyddid pob dosbarth, cyfrifwn fod hyn nid yn achosi yr anorffwystra ond yn vchwanegu ato." Yn wyneb y ffeithiau hyn y mae yn anodd iawn esbonio datganiad- åu y Pnf Weinidog, ac eraill, mai gweithwyr y wlad sydd yn sefyll cydrhyngom a chael gwaharddiad dros dymor y rhyfel, a thymor dat odiad y.fyddin. Mae'r cyhuddiad yn anfri gwarthus ar fwyafrif gweithwyr Prydain. Budr-elwrhai o gyfoethogion Prydain ac nid gwanc ei gweithwyr sy'n cyfrif na ddymchwelid Bachus. Yr oedd y (Parhad ar tudalen 4).