Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
6 articles on this Page
Advertising
At ein Gohebwyr. CYFEIRIER FOB GOHEBIAETH— i Y Oolygydd, H OwyJJedydd Newydd Y aelii, Coed-y-Flint, Flint, Oogledd Cymru
BWRDD Y GOL. I
BWRDD Y GOL. Allan o ddiffyg gofod. --Gibraltar; Llythyr o Palestiaa; Aberdyfi; Eg lwysbach, Pontypridd; Llanfairtal- baearn Glynceiriog. » Rby Hwyr y tro yma.—Tylorstown Emyn Glan Geirionydd. I
NODIADAO WYTHNOSOL. I
NODIADAO WYTHNOSOL. I Cost y Rhyfel. Cyhoeddwyd adroddiad y Pwyll- gor a fu'n gwneud ymchwiliad i dreuliau ariannol y wlad. Yn ol cyfrif y Pwyllgor, os pery,r rhyfel hyd fis Medi, 1918, bydd y ddyled ya chwe' chan' miliwn o bunnau. Barn y Pwyllgor ydyw fod llawer o wastraff yn y fyddin ac mewn cylchoedd ereill, ac nid ymddengys fod yr awdurdodau milwrol yn cyfrif cost unrhyw gynllun. Nid ymddengys ychvvaith fod unrhyw awdurdod canolog yn bod i or uwchreoli'r gwario ac i ofalu ei fod yn cael ei gadw o fewn terfynau rhesymol. » Am ymgyrch y Gwasanaeth Cen edlaethol, dywedir fod wedi costio 223,720p. i fyny i ddechreu Awstdiweddaf. Gwariwyd 5,200p. ar ddodrefn yn unig, ond ni chedwid cyfrif o'r hyn a wariwyd ar bapur ysgrifenna, &c. Gwariwyd 107,804p ar gyhoeddusrwydd'' h y., ar hvs byslenni, hfsbysiadau, a phethau o'r fatb, a dywed y Pwyllgor fod yn amheus a oedd y Trysorlys yn medru rheoli dirn ar wario yr adran hon. Ychwanegir nad oedd y can- lyniadau yn cyfiawnhau y draul. Yr ymgyich yma o eiddo y Lly wodraeth ydyw y farce bennaf y gallai business Government fod yn gyfrifol am dani. Fel y dywedwyd bydd y Ddyled Wladol yn 6,000 miliwn o bunnau yn niwedd Mawrth nesaf. Maehyn yn 650p. ar gyfer pob teulu o bump, ac yn 01 5p. y cant yn golygu 32p. 10s y flwyddyn o drethiant er cyfarfod y Hog yn unig.! Mae'r ffigyrrau o'r bron yn anamgyffredadwy, ond nid llai gwir er hynny. Yma ceisir cyfarfod y day led mewn rhan drwy drethiant. Yn Ffrainc ni amcemr ond talu y Hog, ond nid yw yr amserymhell pan na ellir, hyd yn oed yma godi digon o dollau biyn yddol i otalu y Hog yn unig. Yn hwyr neu hwyrach rhaid i ni wyn ebu y safle a phenderfynu pwy sydd i dalu y ddyled-y rhai sydd yn cynyrchu cyfoeth, ynte y rhai sydd yn ei feddiannu.
[No title]
Trafodaeth ar Heddwch. Yn Nhy y Cyffredin nos Fawlth diweddaf, bu trafodaeth ar Hedd wch. Cododd y drafodaeth ar gynhygiad Mr Lee Smith, yr aelod dros Northampton,—gwr oedd un waith ymblaid y rhyfel, gymaint yn ei blaid fel yr aeth allan i'r ■. v' ffrynt, ond sydd erbyn hyn ymhlaid. agor trafodaeth ar heddwch. Dy- wed Mr Lee Smith fod nodwedd y rhyfel wedi newid yn gyfangwbl fel canlyniad cyfres o gytundebau, rhai cyhoeddus a rhai cyfrinachol, oedd wedi ymwrthio i mewn. Yr oedd- y rhyfel hon i gael ei dilyn gan ryfel drefnidiol, amcan yr hon oedd tagu masnach yr Ymherodr-1 aethau Canolog. Dywedai Gweini- dogion eu bod yn dymuno sefydlu Cyngrhair y Cenedloedd. Sut y gallent sefydlu Cyngrhair o'r fath, II a phartneriaeth Ewropiaidd wir- ioneddol ar sylfaen o foycotio a, rhyfel drefnidiol ? Yr oeddym ym myned i mewn i gytundebau new- ¡ ydd parhaus. Bedwar mis yn ol deallasant fod cytundeb wedi ei wneud drwy'r hwn, os y byddai'r Cyngrheiriaid yn fuddugoliaethus, yr oedd Germani rid yn unig i golli Alsace Lorrain, ond rhannau helaeth o diriogaethau ar lan or llewinol y Rhine. Pan ddywedodd Mr Balfour nad oedd- yr un cytun- deb yn bod, cyfeiriodd Mr Lee Smith ef at ddatganiad M. Ribot, yn y ^enedd Ffrengig, Gorffennaf 31 Am ba beth yr ym yn ymladd ? Beth sydd a wnelo'r cytundebau cyfrinachol hyn a hawliau cenedl- oedd bychairi, neu unrhyw un o'r pethau ag y daethom allan iryfela drostynt?" Cefnogwyd Mr Lees Smith gan Mr Lambert, yr aelod Rhyddfrydol i dfes Grickdale. Dywedodd Mr Lambert, ni cheisiwn heddwch er unrhyw bris. Rhaid adfer Bel- gium, rhaid rhyddhau tiriogaethau gogleddol Ffrainc; ond ofnai ein bod yn awr yn ymladd dros fater- ion ymherodrol, ac mewn trefn, ymysg pethau eraill, i adferu Al- sace Lorraine i Ffrainc. Ni ddylid I, gwneud Alsace Lorraine a chwest iynau eraill yn gwestiynau rhag- brawfol i heddwch dylid eu traf- od a'u dadleu a'u penderfynu mewn cynhadledd heddwch. J1 Siaradwyd gan Mr Ramsay Me Donald, dywedodd y dylai y Lly- wodiaeth ddeffinio amcanion y rhyfel, a dweyd yn glir wrth y wlad ac wrth Ewrop beth oedd eu syniad am yr amodau yr oeddynt yn barod i gael trafodaeth arnynt Os mai ein hunig amdan oedd myned ymlaen nes curb y gelyn ar I ei liniau, yna nid rhyfel oedd hynny ond dinistr. Rhaid, wrth gwrs, I rhyddhau Belgium. Siaradodd Mr Asquith a Mr Bal- four yn erbyn y cynhygiad. Gof- ynnodd Mr Balfour a oedd yr hedd- ychwyr—fel yr oedd Mr Ramsay McDonald wedi awgrymu yn dymuno rhoddi heddwch heibio hyd nes y byddai "holl Ewrop wedi cael eidemoerateiddio." N Id 1 all dim uno Germani yn fwy yn j erbyn ei gelynion presennol na'r j svniad fod y gelynion hynny yn bwriadu gwthio ami, yn erbyn ei hewyliys, unrhyw ffurf o lywodr- aeth a edmygid gan elynion Ger- mani. Rhoddodd Mr Balfour her I i Germani nodi, ei thelerau, a gwadodd fod cwestiwn Alsace Lorraine" ar ei ben ei hun, yn flaenaf, ac yn anghysylltiol ag am canion y rhyfel." Aeth ymlaen a ¡ dywedodd ein bod yn ymladd am hynyma yn unig. Yr ydym yn ymladd," meddai, mewn trefn yn y lie cyntaf i ryddhau Ewrvp oddi wrth y dychryn parhaol oddiwrth y parti milwrol yn Germani, Yn I rhannol am y rheswm yna ac yn 8 rhannol ar ei deilyngdod ei hun yr ydym yn dymuno gweled map Ewrop yn cael ei drefnu yn y fath fodd fel y bydd gwahanol drigolion Ewrop yn hyw, o dan y ffurf o ly- wodraeth a ddymunant, a'r hon a dybiant a gyd-wedda a'u datblyg iad hanesyddol a'u golygiadau di- wylliedig, a'u angenrheidiau." Cynhygiodd Mr Bonar Law y cloadur ar y cynnvg, a chaed 282 o bleidleisiau o'i blaid, a 33 yn er- byn.
LLANEURGAIN.
LLANEURGAIN. Yr ym yma ers blynyddoedd maith yn cynnal cyngherdd gwych bob blwyddyn i helpu. cyllid yr eglwyg. Cynhaliwyd ef eleni nos Wener, Tach. 2. Yr oedd y cynhulliad yn lliosog- Hond y cape] fel arfer, a'r canu o radd uchel a buddiol iawn. Y llywydd oedd un o'n pobl ni ein hunain-Mr Edward Jones, o Lambeth House, gynt o Spel- low Lane, Lerpwl. Y mae Mr Jones yn werthfawr i ni tuhwnt i ddim a allwn ei draethu. Gwnaeth lywydd penigamp.
Advertising
Eglwysi Rbyddiop Gogledd CylVrLi. CYLCH-LYTHYR. Enfyn Pwyllgor Gweithiol Cyngrhair Eglwysi Rhyddion Gogledd Cymru y Cylch-lythyr isod at Ysgrifennydd pob Cynghor lleol trwy chwe' sir y Gogledd, gan daer erfyn iddynt ei gyflwyno i sylw y Cyng- horau, a danfon gair cynted y gellir i'r Ysgrifennydd Cyffredipol—y Parch D Gwynfryn Jones, Y Gelli, Flint Mountain, Flint, dd, •- teimlad y Cynghorau ynghylch y gwahanol bwyntiau. 1. Y Cyn-Ysgrifennydd-y Parch. Dr. Oliver, Treffynnon.v- 0 gychwyn y Cyngrhair hyd y llynedd, cyfnod o 20 mlynedcl, bu y Parch. Dr. Oliver yn Ysgrifennydd diwyd a ffyddlon, a theimla y Pwyllgor Gweithiol mai peth prydferth fuasai cyflwyno iddo, yn y Cyfarfod Blynyddol nesaf yn Rhosllanerchrugog, anrheg fechan yn arwydd o'n parch. Teimlir mai doeth fyddai rhoi cyfle i bob Cynghor i fwrw ei hatling i'r drysorfa. Gall pob Cynghor wneud hyn trwy gyfrannu rhodd o drysorfa y Cynghor, neu benodi dau frawd i ofyn ewyllys da y rhai fo'n teimlo yn gynnes at y mudiad. II. Pantycelyn. Os nad oes rywbeth eisoes wediei wneud yn y ewahanol ardal- c oedd, anoga y Pwyllgor fod y Cynghorau yn trefnu cyfarfodydd i ddathlu dau can' mlwydd ein Hemynydd mawr. Bernid mai peth priodol fuasai trefnu ynihob cylch wasanaeth undebol, ar ryw Sul cyn diwedd y flwyddyn, i ganu emynau y Berganiedydd, ac i goffhau ein pobl mor fawr ydyw ein dyled iddo. Teimla y Pwyllgor y byddai yn llawen, hwyrach, gan lawer o'n cyfeillion eglwysig yn y gwahanol ardaloedd gyduno a ni yn y dathliad. III. Teimla y Pwyllgor mai buddiol iawn fuasai i bob Cynghor drefnu Ymgyrch Undebol yn nechreu y flwyddyn newydd. Awgrymir y priodoldeb o gadw golwg ar y pethau canlynol (1). Wythnos o Gyfarfodydd Gweddi Undebol. (2). Cyfres o Bregethau Diwygiadol. (3). Cyfarfodydd arbennig i bobl ieuainc ynglyn a phurdeb. Teimlid- pe gellid cael cyfarfodydd ar wahan, i'r ddau ryw, a chael personau cymwys i siarad a hwyry gellid gwneudllawer iawn o les. "Awgrymwyd yn ogystal mai buddiol fa'i cael cyfarfod- ydd arbennig o famau i alw eu sylw at yr anghen o wasgu y pwysigrwydd o fyw yn bur at feddyliau eu plant. (4). Yn wyneb y dirywiad ynglyn a'r Ysgol Sul teimla y Pwyllgor y gallai daioni mawr ddeilliaw pe gellid cynnal cynhadleddau undebol o athrawon y gwahanol Ysgolion Sul ymhob cylcfi i ymholi ymha le tybed y mae'r bai, a beth ellir wneud i wella'r drwg; ac yn-un o wythnosau cyntaf y flwyddyn newydd, teimlid mai nid anfuddiol fvddai cael cyfarfod cvhoeddus i ddadleu Ijawliau yr Ysgol Sul. (5), Anoga'r Pwyllgor hefyd fod lie amlwg yn cael ei roi yng nghyf. arfodydd dechreu'r flwyddyn i agwedd foesol a chrefyddol y pwnc dirwestol: y mae agwedd foesol y pv. nc yn fynych yn cael ei chuddio gan yr agweddau masnachol a gwleidyddol. (6) Cyllid y Cyngrhair. Mae cyllid y Cyngrhair yn isel, a'r hyn a delir yn flynyddol gan y Cynghcr., u yn rhy fach 1 gyfarfod a'r treuliau ni ellir gwneud y Cyngrhair yn allu a dylanwad heb gymorth ariannol gwell. Apelia y Pwyllgor ar i'r Cynghorau Lleol ddvblu eu fee i Gyngrhair y Gogledd. Yn bresenrsol telir -,o g le d d, Yn bresennol telir 10/- y flwyddyn i'r Cyngrhair Cenediaethol, a 5/- i Gyngrhair y Gogledd. Ap'elia y Pwyligor at y Cynghorau am i'r fee i Gynghor y Gogledd fod yr un L'i- ice i'r Cynghor Cenediaethol. Fy annwyl Syr, teimlwn yn ddiolchgar os gellwch osod yr aw- grymiadau hyn o flaen eich Cynghor cynted y bydd modd, ac hefyd os danfonwch air i'r Ysgrifennydd beth fydd barn eich Cynghor am dan- ynt. Os gallwn fod o ryw wasanaeth i chwi ynglyn a rhai neu yr oil o'r trefniadau a grybwyllir, bydd yn dda iawn gennym glywed oddi- wrthych. Yr Eiddoch, < H. CERNYW WILLIAMS, D.D., Corwen, Llywydd; D. GWYNFRYN JONES, Fflint, Ysgrifennydd