Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
5 articles on this Page
Advertising
APELIADAU WESLEAIDD, k. MAEN COFFA I'R DIWEDDAR BARCH. J. W. DAV1ES. JC S c Cydnabyddwyd .37 9 3 Dr. Arthur Joues, Moun- tainAsh 0 10 6 £ 37219 9 Anfoner pob rhodd i D. M. Griffith, Bathafarn House, Ruthin. TRYSORFA'R GWYLIEDYDD NEWYDD." Derbyniais y llythyr, y swm, a'r rhestr sy'n canlyn o Gylchdaith Ban- gor:- II Bronallt, Caellepa, Bangor, 27th October, 1917. Dear Mr Gwynfryn Jones, Enclosed please find £2 15s., amount which I collected in Bangor Circuit, as follows. Horeb- s. d. Parch O. Madoc Roberts 3 0 11 J. W. Jones 2 6 Mr Thos Roberts, Leicester hso 2 6 Mrs Capt. Hughes, Isgoed 2 6 Mr H. T. Jones, Grocer 2 0 Mr R. J. Parry, Caellepa 1 0 Mr H. Hughes, Ebenezer place 1 0 Mr J. Elias Jones, U.,C.N.W. 1 0 Mr George Owen, Caellepa 0 6 16 0 St. Paul's- Parch E. Berwyn Roberts 1 0 Mr W. R. Jones, Kyftin Stores 3 0 Mr W. Glan-la-b iones 2 6 Mr W. Hughes, Normal Villa. 1 0 Mr E. W. Roberts, Cadnant 1 0 Mr David Jones. Minafon 1 0 Mr Tom Williams (Rhiwlas). 1 0 "4. Mr R Chambers (E )■ 2 6 R. Conway Williams, Bronallt 2 6 15 6 Glanadda- Mr Samuel Greenly 2 0 Mr Thomas Roberts 1 0 Mr Maurice Roberts 0 6 3 6 Hirael- Miss J. E. Roberts, Ambrose st 2 6 Mr Wm. Jones, Friar's Avenue 2 6 Capt. Williams, do. 1 0 Mr T. Owen, Sadler 1 0 7 0 Aber— Mr Hugh Roberts, Crossing 1 0 Mr H Owen, Post Office 1 0 Mr H. Hughes 1 0 Mr W. T. Rowlands 1 0 Mr P. G. Roberes 1 0 Mr Richard Morris 1 0 Mr Wm, Thomas, Tanrallt 1 0 Mr David Thomas 0 6 7 6 Llanfairfechan— Parch R. Garrett Roberts 1 0 Pinmaenmawr- Parch G. J. Owen 1 6 Mr Thomas Hughes 1 0 Mr John Davies 0 6 Mr E. Williams 0 6 Mr Isaac Roberts 0 6 Mr David Jones. 0 6 4 6 Cyfanswm £ 2 15 0 I do hope you can afford space for list in the Gwyliedydd." Wishing you all success in your efforts of love to keep our old friend alive, and, by the way, I have not missed a single issue since it was first published. Also I worked on it under the late editors—T. R. Marsden and Llwydwyn, of blessed memory. With best regard to you. Yours sincerely, R. CONWAY WILLIAMS." Hefyd, heblaw yr ucbod, derbyniasorn trwy law Mr Edward Jones, gynt o Gaer a Bethesda, y swm o lOr., oddi wrth y milwyr sy'n addoli yng Nghen- hadaeth Gymreig y Milwyr yn Gibral tar. Derbyniascm hefyd 2/6 oddiwrth Mrs Evans, Caecowlyd, Pont'Robert, a 2/- oddiwrth Mr Griffith Jones, Capel Gar mon. Yr oeddym mewn pryder mawr yng- ihylch y G.N. yr wytbnos hon, gan fod pris y papur wedi codi eto, y mae yn awr yn chwe'cheiniog y pwys, ac yn anodd ei gael am y pris hwnnw. Yr oeddym ar roi fyny yr ysbryd, ond y mae y llythyrau caredig byn wedi ein calonogi i ddal ati am dipyn eto, gan obeithio y tyr y wawr yn y m an. Yng- hyloh y rbodd o Gibraltar, daeth hon a leithdra i'n llygad, a theimlwn ynglyn a hi fel y teimlodd Dafydd ynghylch "y dwfr o Ffynnon Jerusalem," ei bod yn rhy sanctaidd i ddim ond i'w thyw- allt yn aberth i'r Arglwyda.
[No title]
Credwn mai -arwydd dda ar gyfer y dyfodol i'r Llywodraeth, yr wyth- nos o'r blaen, gael ei gorchfygu. Fel y gwyddys daethant a Mesur i'r Ty yn awdurdodi y Llywodraeth i chwilio am Olew yn y wlad hon, ac o gwrs i'w weithio os ceir ef.' Myn rhai fod Petroleum yn naear Prydain. Trefnai y Mesur i dalu Royalties i berchenogion y tiroedd lie ceid yr olew, golygai hynny ffortiwn fawr i'r dynion hynny he, iddynt wneud dim i'w hennill. Bu bygwth gwrthwynebiad i'r adran, a daeth pethau i'r pwynt pryd y cafwyd y Llywodraeth mewn llei- afrif o naw.. Daiawn. Onid ydyw camwri y gorffennol ynglyn a phwnc y Roy- alties yn hen ddigon heb i ni ychwanegu yr un gronyn ato. < — j
...BWRDD Y GOL.--I: ? I- -1.-…
BWRDD Y GOL. I ? I- -1.- I' Allan o ddittyg gofod.Gibraltar; Ashton-in-Makerfield Manchester Abergynolwyn Llanrhaeadr-ym- Mochant; Penyffordd, Ffynongrosw; Nodion o Gylchdaith Abergele Aber- dyfi Birmingham Cylchdaith Llan- rwst Merthyr Yale-
LLOFFION BIRWE3TOL,
LLOFFION BIRWE3TOL, Ysgrifenna Parch R. Moreton Roberts fel y canlyn am y Sul Dir- westol Goddefer i ni alw sylw eglwysi yr Ail Dalaith at y Sul uchod. Tachwedd ileg. Gwasgwyd yng Nghyfarfod Cyllidol Eglwysbach ar i achos sobrwydd yn unol a a phenderfyniad y Gynhadledd gael sylw arbennig yn holl gapeli 0 yn holl gapeli y Dalaith y Sul hwn. Galwyd sylw at y Saboth hefyd yng Nghymanfa Ddirwestol Gwyn- edd gynhaliwyd yn yr Wyddgrug. Er fod y Sul Dirwestol bellach yn hen sefydliad, eto, ofnir nad ydyw achos sobrwydd mewn ami i eg- lwys yn cael y sylw a ddylai ar y Sul hwn. Disgwylir i bob preg- ethwr y Sul hwn lefaru yn ddi- floesgni yn erbya drygedd anghym- edroldeb i ddangos i'r gwrandaw- yr fanteision llwyrymwrthodiad. Argymhellir hefyd ar i anerchiad- au dirwestol gael eu traddodi ymhob Ysgol Sul. Gofaler hefyd fod cyfleustra yn cael ei roddi i rai ardystio o'r newydd. Disgwylir i bob eglwys yn y Dalaith wneud casgliad y Sul hwn i Drysorfa Ddirwesrol y Dalaith. Gofidus oedd deall yn y Cyfarfod Cyllidol oddiwrth adroddiad y Trysofydd fod gryn nifer o eglwysi, a rhai cylchdeithiau yn y Dalaith nad ydynt yn cyfrannu i'r Drysorfa hon. Apeliwn yn daer at bob eglwys am gasgliad eleni. Anfon- er pob eglwys y casgliad yn ddioed i'r Trysorydd Cylchdeithiol fel y gall yntau anfon cyfanswm pob cylchdaith i Mr John Williasas, Rock House, Caernarfon, Trysor- ydd y Dalaith. Yr oedd Cymanfa Ddirwestol y De a gynhali wyd yn Nhrewilliam a Penygraig yr wythnos o'r blaen yn llwyddiant perffaith. Tlws iawn, ac addawol iawn oedd gor- ymdaith y plant. Yny Gynhad- ledd pasiwyd penderfyniadau cryf. ion ar faterion pwysig, sef di- ddymiad y grocers' licence, ynghyd a'r flagon trade. Ond prif fater y cyfarfod oedd pryniad y fasnach gan y Llywodraeth. Cymerwyd golwg eang ary mater, a chafwyd ymdriniaeth fuddiol iawn. Pen- derfynwyd gydag unfrydedd hollol i wrthwynebu yr ymgais i genedl- aetholi y fasnach hyd eithaf ein gallu, ar air a gweithred. Yr oedd Mr Sydney Robinson, yr Aelod Seneddol dros Frycheiniog, yu siarad y dydd o'r blaen yn Caerdydd. Dywedai Mr Robin- son, yng Nghynhadledd Llandrin- dod, yn gwneud hynny dros y v Blaid Gymreig fel y cyfryw. Dy- wedai fod Cymru yn galw am Ddewisiad Leol heb Bryniant. Pan osododd Mr Lloyd George y dreth ychwanegol ar gwrw yn nechreu y rhyfel, gosodwyd papur- au yn y tafarndai ac arnynt" Bydd pob glasiad a yfwych yn help 1 ennill y rhyfel." Os prynir y fas- nach, yr hyn fyddai'n briodol i'w osod 1 fyny, ebai Mr Robinson, fyddai Bydd pob glasiad a yfwch .yn help dalu'r trethi," | Dywed gohebydd y London Daily Express fod tros 2,000 o daf- arndai wedi eu cau o fewn ychyd- ig ddyddiau yn Nhalaith New York. Dylanwad y Ddeddf Drwy- ddedol newydd a barodd eu cau. Y mae y ddeddf hon yn darpar nad oes mwy nag un dafarn neu sal- oon i fod ar gyfer pob 500 o bobl ymhob rhanbarth He ybo y boblog- aeth yn llai na 55,000 o bersonau. Dywed hefyd fod y rhenti uehel, pris uchel trwyddedau uchel, gwaith y dirwestwyr, y gwahardd- iad ar ddarllaw a phris uchel y ddiod yn ei gwneud bron yn am- hosibl i dafarnwr fyw.
LLITH Y CAPLAN ARTHUR W. DAVIES.…
Y i-n-ae i G y rri. Y mae i Gymru awyrgylch gref yddol hyr.od yma. Deallaf yr ysgrifenúir lla wer garti-ef, am gref- ydd a dinasyddiaeth y dyfodol, anodd dadrys y cwestiwn hwn, na gwybod yn glir lie y byddwn, mae y cymysgu mawr gymer le rhwng gwahanol genhedloedd a'u gilydd yn rhwym o beri cyfnewidiad, ac yn sicr o fod o ledu ac eangu eu meddyliau, dygant yn ol i gymoedd culion ein gwlad, ag i drefi bach a phentrefi cudd rhwng mynyddoedd ysgrythrog ein gwlad, wastatir ilydanobrofiad. Hwyrach y bydd traddodiad a nerth arferiad a swyn enwad yn ei hadfer yn ol i fywyd enwadol y gorffennol. Ond yn bendifaddeu 'rym yn dod i adnab- od ein hunain yn well yma yn ein rhagoriaethau. Yn wir, nid oes son am enwad yma, cwrdd holl fechgyn enwadau Cymru fel un eglwys fawr yn gytun, a chyfarfyddwn yn un ym mheth.au mawr canolog ein Hef- engyl. Tair rhaniad mawr sydd yma,—yr Eglwys Babyddol, Eg- lwys Loegr, ac Eglwys Rhydd. Mae yma hefyd Iddewiaeth mewn nn adran, anifer go dda, a chynhal- iant ein gwasanaeth mor agos ag y gallent at arfer Israel yn y dydd- iau gynt. Ceidw yr Hindwiaid wasanaeth hefyd o'i brodorion du, llathraidd, glan a bonheddig, ond a nodais yw y tri rhaniad mawr, a cheidw y rhai hyn at eu terfynnau a'u nodweddion eu hunain. Beth am y dyfodol, anodd dweyd. Pan ddaw y bechgyn gartref, mae llu ohonynt allent ddeall a darllen Seisneg, yr hyn ni fedrant cyn y rhyfel, fel y bydd cylch eu darllen a'u cydnabyddiaethyneangach, a'u profiad felly i'r dyfodol yn wahan ol. Yn wir, mae llu o bethau yn dylanwadu arnynt y dyddiau hyn, fe gwrdd y Dwyrain a'r De, er gwaethaf dywediad Kipling. Mae rhywbeth yn y natur ddynol ym mhob gwlad yn gyffredin i ddyn er y gwahaniaethau, ac fel plant i'r un Tad. Yn ddiameu un colled yw yr Ysgol Sul, a moddiannau gras eraill yr Eglwys. Ceir ambell i ddosbarth Beiblaidd, ond nid lluosog, o ddiffyg cyfleustra a cholli Beiblau, yn y gwahanol ym- gyrchoedd. Gwna y Y.M.C.A. was- anaeth mawr yn ei moddiannau defosiynol. Ac mae yma le i ofni y bydd anghen ymdrech i osod ambell i arferiad i lawr, a fabwys- iadwyd yn y gyfathrach a chenhed loedd eraill. Ond credaf, o edrych ar y safle, fod y dyfodol yn obeith iol, yn llawn cyfleustra bendigedig. Nid wyf yn bryderus o gwbl am ddyfodol ein gwlad o farnu y pos- iblrwydd sydd yn y bechgyn ar faes y frwvdr, a gwyddis fod y dyfodol Cymry heddyw ar faes y frwydr ymhob ystyr, arweiniwyr bywyd crefyddol a chymdeithasol y wlad,—tadau a gwyr y dyfodol. Credaf hefyd y bydd yn rhaid i ni newid llawer i allu cael y deunydd goreu ohonynt, y rhaid i ni fwrw ymaith lawer o bethau y gellir eu hebgor, yn enwedig y ffurfiau ys- trydebol o berthynai i ni o gario y Efengyl yn ei baen. Credaf y gwnai "Cymdeithas i Wyr Ieuainc" ym mhob pentrefa thref wasanaeth mawr i'r dyfodyl, ond bod yn llydan, iach a diofn. Fel y mae Undeb yr Eglwysi Rhyddion yn ein mysg heddyw erthyl yw, mae ei nod yn iachus, ond ni weithiodd ei ffordd eto i fywyd y genedl, a hynny oherwydd yr elfen enwadol ar bob Haw, cyfarfydda bob un yno fel ag i amddiffyn a diogelu ei derfynnau ei hun, fel y cyll yn yspryd ei hunoliaeth, organydd- iaeth yw heb un enaid mawr, byw, o'i mewn i'w huno. Deallaf fod ymdrech mawr i ganoli ar addysg fydol dyfodol Cymru, a chri am Lywodraeth Gartrefol er datblygu ein haddysg ar hyd ein llinellau cenedlaethol, a da hyn oblegid mae hanes ym. gyrch Cymru yn y gorffennol yn dweyd mae ar hyd y llinellau yma y gall rhagori a bod yn genedl ddysgedig a diwylliedig er bendith iddi ei hun a chenhedloedd eraill. Beth am grcfydd Cymru? Lie safwn yn hyn ? Beth am y dull o gyfrannu addysg grefyddol i'r dyfodol. Rhaid wrth drefnu, rhaid wrth gynllun, ond nid peiriannol a di-enaid, is-wasanaethgar y dylai addysg grefyddol fod i gynhyrchu cymeriad. Un peth a'm tarawodd yn sydyn yma yw hyn, a fydd syniad y bech- gyn ddim yr un am Ganaan y Beibl, ac am Jersalem, ag yd- oedd yn yr hyn gaffont o'u Beibl ac addysg yr Ysgol Sul. Delfryd ydoedd iddynt hwy, trigai yn eu dychymyg syniad am y wlad fel man prydferth, ffrwythlon, teg. Mae eu syniadau wedi eu chwyl- droi. Gofynant beunydd lie mae'r wlad oedd yn llifo o laeth a mel." Tir crasboeth, anial-lwch, welir hyd yn hyn. Er, gall fod yn bur gynhyrchiol, ond nid felly y mae, gwlad blaen yw hi a blinder- us. V mae dysgeidiaeth mebyd eu hoes am y wlad wedi ei chwyl- droi, mae swyn yn y wlad iddynt fel y wlad y magwyd, lie y bu yr lesu yn athrawiaethu, a lie y bu farw." Ond mae ein profiad o ddaearyddiaeth y wlad yn gwrth- ddweyd yr hyn a ddysgwyd iddynt. Ag at hyn gofynnir cwestiynau am y plauau, a'u gwyrthiau oeddynt o boenedigaeth yn union oddiwrth Dduw, oblegid mae'r plaau yn aros, ag fe'i cynhyrchir gan natur ac ansawdd, gwelais fy hun filiyn nau o lyfaint, ac mae hanes am danynt yn heigio a chropian i bob peth a phobman. Mae pethau o'r natur yma yma yn chwyldroi llawer o'u syniadau am hanesiaeth y Beibl, fel, ymysg pethau eraill, rhaid i ni newid ein llwyfan, a newid rhai o'n syniadau yn ein modd o gyfrannu addysg Feiblaidd i'r dyfodol. Rhaid i ni wrth ras a doethineb, a rhodded Duw i ni ei, arweiniad, fel y bydd crefydd Cymru yn bur- ach, gloywach ag yn fwy trwyadl nag erioed pan ddel y bechgyn gartref.