Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
3 articles on this Page
[No title]
Wyiiedydd Newydd, aros ar y mur, Ac edrych allan am yr iawn a'rpur, Gwas'naetha grefydd,-seiiiia ar ein clyw Os gelyn feiddia gyffwrdd Ddinas Duw. RALFARD D. I
-LLYTHYR AGORED At y Parch.…
LLYTHYR AGORED At y Parch. A.W. Davies, Caplan Fy Annwyl Frawd, Rhoddaf salute o barch i chwi, a chan eich bod yn y Dwyrain godd- .efwch i mi eich cyfarch yn iaith yr Arab a dweyd-Salaam! Ie, tang nefedd i chwi, Padre Yng nghan- ol rl u y magnelau, a ffrwydriad y pelennau pylor, boed i dangnefedd Duw warchod eich calon a'ch cadw'n dawel a diogel yn nirgelfa ,ei babell. Er eich bod yn gwasan- aethu mewn byddin ac yn wr o dan awdurdodfilwrol, gwn mai cennad hedd ydych ac mai i wasanaethu Tywysog tangnefedd yr aethoch :al!an i faes y frwydr. Diolchaf fod ,dynion o'ch bath chwi yn cynrych- ioli efengyl y cymod yng nghanol ,gelyniaeth anghymodlawn ac yn gofalu na chuddir y groes yn llwyr an fagnelau rhyfel. Yr ydym ni yng Nghymiu yn gwerthfawrogi'n favvr y llythyrau gwir ddiddorol a ysgrifennwch mor \gyson i'r Gwyliedydd Newydd. Rwy'n sicr fy mod yn mynegi teimlad cannoedd wrth ddweyd y darllenmr hwynt gydag eiddgar- weh a bias. Trysorir hwynt nid yn unig gan eich cyfeillion person- ol ond hefyd gan gyfeillion a pher- .thynasau y bechgyn annwyl sydd o dan eich gofal. Mae calon pob tad a mam yn cynhesu tuag atoch, oblegid gwyddant eich bod nid yn unig yn Gaplan i'w bechgyn ond yn gyfaill iddynt, yn gyfaill i ym- 1 ddiried ynddo bob amser. Yr oedd yn llawen iawn gennyf "glywed am yr anrhydedd a osod- wyd arnoch oherwydd eich dewr- der, a dymunaf eich llongyfarch .O'lll calon ar ennill ohonoch y Groes Filwrol. Nid oes neb sydd yn eich adnabod yn ameu eich jparodrwydd i wynebu unrhyw ber- ygl i gyflawni dyleilswydd, ac nid oedd neb ohonom yn rhyfeddu pan glywsom am eich gwrhydri yn myned trwy'r tan i ymgeleddu'r .clwyfedigion a'u cludo i ddiogel- wch, oblegici gwyddem yn dda am eichysbryd mawrfrydig a hunan- ymwadol. Nid gennych chwi, wrth gwrs, y cawsom yr hanes. 0 ran dim oedd yn eieh I-lythyrau, ni fuasai neb yn gwybod am y gorch- est a wnaethoch nac am yr anrhyd. edd a gawsoch. Fel gwir arwr gwnaethoch wrhydri heb ei gy- hoeddi. Y mae Wesleaid, Cymru yn teimlo'n falch ohonoch. Credaf fod ynoch ddigon o wroldeb i haeddu'r V.C.: ond yr wyf yn bur sicr mai nid er mwyn ennill an- rhydedd y cyflawnwch un weithred o wroniaeth. Fy mhryder ydyw i'ch ysbryd anturiaethus eich cario yn rhy bell i gyfeiriad perygl. Hawdd iawn gan un fel y chwi ydyw anghofio nid yn unig hawl- iau personol ond hawliau teulu aidd ym mhreseno'ldeb angen, ac aberthu'r dyfodol er mwyn y pres ennoL Maddeuwch i mi am aw ,grymu hyn, ond meddwl yr wyf am eich annwyliaid ym Mrynmyfyr. ,Er eu mwyn hwy, ie, er mwyn Wesleaeth Gymreig, da chwi, cym- erwch ofal ohonoch eich hun. Diedorol iawn i mi ydyw sylwi fel y mae eich profiad newydd-yn datblygu eich dawn i ddisgrifio. Disgwyliaf eieh g'weld yn fuan yn blodeuo'n fardd. Wrth ddarllen eich b- avvddegau darluniadol, bron na chiywaf ddwndwr dwin y mag- nfilau ac y gwelaf y cawodydd o gregin eirias yn disgyn o'm deutu I Yr ydych yn ein cynorthwyo i syl weddoli'r olygfa frawychus sydd j eer eich bron chwi yn barhaus. A dyiai hyi-i ennyn ein cydymdeimlad a chymell ein gweddiau ar eich rhan. Da iawn gennyf sylwi, hefyd, nad yw ofnadwyaeth y rhyfel wedi Iladd eich- hiwmor. Yr oedd eich disgrifiad o droion digrif y brodor ion bach yn eich llythyr diweddaf (Medi 19cg) yn ddoniol dros ben. Plant yw plant ymhob gwlad, a diolch fod eu donioldeb yn parhau er gwaethaf gofidiau'r rhyfel. Bobl annwyl! mor ddigalon fuas- ai'r byd heddyw heb y plant. Oni bai amdanynt hwy, ofnaf y collai llawer ohonom y gallu i chwerthin. Casglaf oddiwrth eich llythyr diweddaf eich bod yn aros yn yr un gymdogaeth er wedi gadael y ffosydd troellog y soniwch am dan- ynt. Yr ydych ar dir a welodd lawer brwydr boeth er dyddiau yr hen Philistiaid. Yn amser Sam son, mae'n debyg, y cododd Gaza i amlygrwydd fel un o brif ddinas oedd y Philistiaid. Manner y flordd rhwng Gasa a Wadi'r Aifft y cyfar- fu ner th Assyria a nerth yr Aifft yn eu hornest gyntaf yn nyddiau Es- aiah'r proffwyd. Ymhen pedair canrif wedyn, bu Alexander Fawr a'i fyddin yn ymosod ar Gasa, ac er i'r ddinas wrthsefyll y gwarchae am fisoedd, syrthiodd o flaen rhuthr y Groegiaid. Yn yr ymdrech hon cafodd Alexander ei hun ei glwyfo yn ei ysgwydd. Dioddefodd y ddinas ami i ymosodiad yn ystod rhyfeloedd y Macabeaid, ac yn ddi weddarach yn ystod rhyfeloedd y Groes, hyd nes o'r diwedd y cymer- wyd hi gan Saladin yn y ddeuddeg- fed ganrif ar ol Crist. Byth ar ol hynny y mae wedi aros ym medd- iant y Twrc. Ond, dysgu pader i bersori ydyw nodi y pethau hyn. Gresyn na chodai rhyw Samson eto i ymaliyd yn nrysau pyrth y ddinas a'u cario ymaith,—ie, a'r Tyrciaid hefyd—i'w bwrw ymaith am byth o'r wlad. Mae yn hen bryd symud y gweilch gwaedlyd a gormesol o Ganaan. Bendith i'r byd fyddai eu hel allan-" bag and baggage," chwedl Gladstone gynt—o Eurob ac o Asia Leiaf. Fel y dywedwch yn un o'ch llythyrau Bydd dar- ostyngiad y Twrc yn drugaredd i filoedd ar filoedd yn y gwledydd o Gamlas y Sues i'r Dardanelles. Teyrnasu trwy raib, gwaed a thrais y mae ers oesoedd." Mae ei greu- londerau ofnadwy tuag at yr Ar- meniaid yn galw am ddial, a goreu po gyntaf y llwyddir i gael y Haw uchaf ar y gelyn ihilain hwn. Credaf. fel chwithau, "y caiff yr efengyl well siawns ar ol hyn, ac y bydd maes rhagorol i genhadon wedi ei fwrw allan o'r wlad. Pwy wyr nad un o ganlyniadau'r rhyfel fydd agor y drws i'r Iuddewon ddychwelyd yn ol i'w hen wlad, ac yna ar ol eu hir ddallineb yr agorir eu llygaid i adnabod yr Iesu'n Waredwr ac felly holl Israel a fydd gadwedig Yr ydym yn meddwl llawer am danoch ac nid ydym yn peidio a gweddio drosoch, a thros y brodyr annwyl eraill sydd yn gwasanaeth- u'r efengyl yn y Fyddin. Erbyn hyn y mae yr un nifer o Gaplaniaid Wesleaidd Cymreig ag a ddewis- odd Crist o apostolion. Y mae deuddeg allan o tua chwech ugain yn gyfartaledd go dda, onid yw ? Y mae gennych chwi a'ch cyd- gaplaniaid gyfleusterau godidog i wneuthur daioni. Cewch y bech- gyn mewn cyflwr meddwl hawdd i srgraffu arno, a diau mai eich profiad ydyw eu bod yn ymateb yn barod i'r apeliadau goreu. Clyw- ais heddyw ddiweddaf, ar ol un o'n Caplaniaid, na theimlodd erioed ei fod yn gallu cjfiawni cymaint o wasanaeth dros Iesu Grist ag yn awr. Llaw enydd i mi oedd cly wed ei dystiolaeth i fywyd da y milwyr sydd danel ofal. Fel llawer un arall y mae yntau wedi darganfod fod llawer mwy o wir ddaioni ymhlith y swyddogion a'r milwyr J eraill nag a ddychmygodd erioed. Dywed mai yn y fyddin y cyfarfu l a'r cymeriadau goreu a welodd eto. j Gwn fod ochr arall i'r ddalen, ond j da ydyw clywed tystiolaeth mor bendant am vr ochr oreu. 0 ran hynny, ni ddylid rhyfeddu fod cyn ifer o ddynion da yn y fyddin a'r llynges heddyw, oblegid magwyd ilawer ohonynt mewn cartreh Cristionogol, a than ddylanwad yr Eglwys. Hyderaf fod bechgyn Cymru yn byw yn deilwng o'u traddodiadau mewn gwledydd estronoL Teflir llawer o fagwyd yn dda i ganol temtasiynau newydd, a gof- idus yw meddwl fod ami un a safai yn ddigryn o fiaen magnel yn syrthio o flaen hudoliaeth. Gwydd och chwi yn well na mi am eu hanawsterau, ond gwn i mai cysur mawr i'w caredigion gartref ydyw gartref ydyw gwybod fod cenhadon Duw wrth law i helpio'r bechgyn i orchfygu'r drwg ac i arwain eu meddwl at Geidwad cryf. Mor bwysig ydyw eich gwaith ac mor fendigedig Yr ydym ni yng Nghymru yn cael hau yr had da o Sul i Sul mewn tawelwch, Hyd yma nid oes bomb o'r awyi nac o'r mor wedi disgyn ar Gymru—yr unig wladyn yr ynysoedd Prydeinig sydd wedi ei chadw rhag ymosodiad o'r fath. Ond, yn y tiwelwch y mae perygl inni galedu. A dweyd y gwir, braidd yn galed ydyw'r tiry llafur- iwn arno. Byddaf yn ofni weith- iau fod y tir yn caledu hyd yn oed dan draed yr heuwr, a bod ein cyn- efindra d'r efengyl yn ein hanghy mwyso i'w gwerthfawrogi'n briod- ol. Nid mewn tawelwch yr heu- wch chwi a'ch brodyr ar faes y frwydr, ond credaf, er hynny, fod gennych dir da i dderbyn yr had. Nid tir caled mohono, beth bynnag. Na, y mae wedi ei gloddio a'i doni gan y gynnau a'i fwydo gan waed, ac felly yn dir parod i dderbyn yr had da, a gellir disgwyl iddo ddwyn ffrwyth lawer yn y man Yn nydd y cynhaeaf mawr bydd eich ysgubau chwi yn dryma^h lawer na'n hysgub ni-y stay at homes. Wedi hau mewn cymaint dagrau, Cewch fecti mewn gorfoledd mawr. Hiraethwn weld y dydd y daw'r rhyfel ofnadwy hwn i ben—y dydd y cyhoeddir heddwch ac y daw plant y gaethglud adref. O hyn fydd yn hyfryd Ond, pan ddaw heddwch, hyderwn y bydd yft heddwch diogel. Ni fynnwn hedd- wch gau, ac edrychwn yn ddrwg- idybus ar y cynhygion a ddaw o'r Almaen heibior Vatican. Dywed- odd Dr. John Clifford y dydd o'r blaen, dydd pen blwydd ei un a phedwar ugain oed,—a gwyddoch nad gwr rhyfelgar yw efe,—"Ffaith darawiadol yw fod hyd yn oed fy ngohebwyr pasiffistaidd yn dal nad oes dim i'w wneud yn awr ond mynd ymlaen gyda'r rhyfel. Dwy ffyned'd, ie, un flynedd yn ol, yr oedd eu hagwedd yn bur wahanol, ond teimlant v.heddyw na cheir heddwch parhaus ond yn unig trwy fuddugoliaeth arfau'r Cyngrheir- iaid," Gwyr yr hen wron gystal a neb beth yw barn y bobl-a barn y passiffistiaid yn arbennig-ac yng ngoleu ei ddatganiad gallwch weld beth yw y teimlad yma. Ceisiwn gadw'r tan i gynneu ar allorau ein heglwysi yn gystal ag ar ein haelwydydd erbyn y daw'r bechgyn adr-ef. Gwyddom er ein galar na ddaw-llawer ohonynt byth yn ol. Y maent wedi derbyn croeso gwell nag y gallwn ni ei roddi- yng ngwlad y tragwyddol hedd. Ond, buan y delo'r dydd y cawn groesawu'r gweddill, a cjjwithau'r Caplaniairt gyda hwynt. Beth bynnag fydd gennym ni i'w roi' i chwi, credaf y bydd gennych chwi lawer mwy i'w roddi i ni. Mae arnom angen gwaed newydd a gwres ynddo. Glynwn yn ormodol wrth hen' ffurfiau cerddwn yn gaeth o hyd yn yr hen rigolau. Yn ein sefydliadau crefyddol a gwlad ol, arhoswn yn rhy fodlon, o dan ormes hen syniadau, hen aiferion, a hen ddynion cyndyn. Pan I d-dowch chwi yn ol—chwi'j cap- ianiaid a'r milwyr—o'r'bedydd tan, wedi gweled a theirnlo'r pethau mawr, disgwyliwn weld yr hen bethau bach a beichus yn myned heibio—yn llosgi'n llwch yng ngwres eich brwdfrydedd. Dis- gwyliwn wrthych i'n rhyddhau oddiwrth orthrwm y gorffennol, a gorthrwm y manion a lesteiria ein cynnydd, ac i'n harwain trwy borth rhyddid at y sylweddau tragwydd- ol. Brysiwch yn ol, fy mrawd, ac yn y cyfamser boed i Dduw eich cadw dan gysgod ei adenydd Yr Eiddoch yn bur, Gyda chofion serchog, I 8W. O. EVANS.
LLITH Y CAPLAN ARTHUR W. DAVIES.…
LLITH Y CAPLAN ARTHUR W. DAVIES. F'annwyl Gwynfryn- Hydref 8fed. .LIith bach eto, gall fod o gysur i'r rhai sydd a chanddynt anwyl- iaid allan yma. 'Rym mewn gwersyllfa fawr, rhwng bryniau o dywod, ag yn byw yn y tywod, yn myned drwy gwrs eto o ddisgybl- aeth, rhyfel, rhyfel, parotoi i ryfel yw hi. Ac yma yr wyf wedi dod ar draws lluoedd lawer o fechgyn y Gogledd a'r De, rhai o bob cwr, o dir John O'Groats," i "Land's End," ac, yn wir, mae dyn yn dod i gyffyrddiad a gwyr o holl ororau gwlad fawr Prydain, yr Ymerod- raeth, ag Iwrop hefyd. Cwrddais rhai brodorion du a x ddaethant drosy moroedd, rhyfedd o ran eu diwylliant, yn hyddysg mewn Meintoneg, Eneideg a Diw- inyddiaeth. Ond at drigolion bro ddymunol a thawel hen wlad fach, fwyn Cymru, y cyfeiriaf yn awr. Yn un peth, nid ydynt yn ail i neb yn eu glewder a'u gwrordeb, er nad yw yspryd ymladdgar Cymry y dyddiau gynt wedi eu meddiannu, canys plant head ydynt, a phlant y gcln a'r oedfa. Hoffant bregeth, yn wir, maent wedi enwogi eu hunain yn y wlad hon fel cantorion, a'u lleisiau soniarus, a'u corau meib- ion, alu canu cynulleidfaol, er fod gennyf rhai medrus mewn canu caneuon digrif, ond rhagorent yn hyn mewn lleisiau ac ynghanu yn glir eiriau eu can. Ond eu hanes cyffredin yw canu unawdau, neu ddeuawdau sylweddol a gwir gerddorol, er y gwyr pawb fod yr hen Gymro yn llawn o'r digrif a'r ysmala, ac mae ambell gan fel hyn yn ysgafnhau baich y rhyfel, yn creu adloniant a chwerthin. Mae eu chwaeth yn aros yr un, tynn pregeth a" chanu cynulleidfaol gymaint o dyrfa bron a dim gymer Ie yma. Deuant yn wirfoddol heb wys swyddogol o'r gad. Cefais ddwy oedfa Gymreig nos Sul, un gyda'r Brigade y perthynaf iddi, a'r Hall gyda Y.M.C A yn rhandir Caplan Williams, o Aber- ystwyth. Byddwn yri newid, a ef i Y.M.C.A. Kahn Yunis, a minnau i Y.M.C.A cyfagos i Deer El Belah. Oedfa Gymreig hollol oedd y cyn- taf ar fryncyn o dywod ynghanol swn cerddi y chwareufa, ond yr oedd eneiniad a belldi th, y bechgyn yn eistedd yn scwat ar y ddaear, a llusern bach i roi goleuni i'r preg- eth wr i weled ei wers a'i destun. Yr ail oedfa, gan y myn hifer o Saeson ddod iddi, yng Nghymraeg a Saesneg, ac una y dyrfa yn rhyf- edd, piga y Sais ambell don Gym- reig i fyny yn hynod, fel y cenir ambell un yn bur gyffredinol. Mae'r pregethwr yn gorfod troi ei dafod yn ol ag ymlaen i'r ddwy iaith, ond mae graen a bendith. Cawn wasanaeth y berdoneg, ac mae Ilwyfan; eistedd rhai o'r bechgyn ar ddwy fainc ar y llwyfan fel blaeaoriaid. Yn wir, y mae'n amheuthun cael dweyd gair wrth- ynt, gwrandawant mor astud, a hawdd gweled, yn feddylgar a llawn o gydymdeimlad.