Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

COLOFN YR EFRYDYDD ] i BEIBLAIDD.

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

COLOFN YR EFRYDYDD ] i BEIBLAIDD. (Gan y Parch. D. MEURIG JONES), j HANES CYNTEFIG Y CREUI GAN J. Genesis ii, 4—25. 1. Teuluoedd y nef a'r ddaear. Dyma genedlaethau y nefoedd a'r ddaear yn y dydd y gwnaeth yr Arglwydd Dduw (Jehovah) y. ddaear a'r nefoedd. Sylwer (1) ar y tebygolrwydd Thwrig hanes y creu gan J. yn y bennod hon, ac eiddo P. yn y bennod flaenorol. Aflun- iaidd a gwag yw'r ddaear ar ddechreu y ddau adroddiad, ac nid oes yn y naill na'r llall syniadau aml-dduwiaidd, fel ag y sydd yn yr adroddiadau Babilonaidd. (2). Y gwahaniaeth eto. Y mae ad- roddiad J. yn fwy cyfyng a lleol: Gardd Eden, ei phreswylwyr, a'i hafonydd yw ei gylchfyd ef yn bennaf. Y mae P. yn fwy ymer- odrol yn ei hanes cymer i mewn y nef, a'r ddaear, a'r mor, a'u pres- wylwyr. Gwelir hyn yn yr enwau roddant ar yr Hollalluog. Enw rydd syniad cyffredinol geif gan P., sef Duw. Heb Elohim Arabaeg, Allah. Ei ystyr yw, y cryf, y cyn taf, y tragwyddol, y Duw byw. Enw rydd syniad neilltuol am Dduw geir gan J., sef Arglwydd Dduw Heb., Jehovah-enw personol Duw Israel, fel mae lesu yn enw per- sonol y Mab. Ei ystyr yw, yr Hwn sydd yn achosi bod yr achos cyn- taf, neu yr Hwn sydd. Yr Hunan- hanfodol, a'r Tragwyddol "Ydwyf yr Hwn ydwyf." "Ydwyf" a'm hanfonodd, ebai Moses. Ex iii. 14. Pryd arall gelwir ef Yr Hwn sy'n achosi disgyn," h.y., Rhoddwr Yn chwythu gwlaw. Job 37. 6. Yn chwythu yn yr ystorm, yn anadlu bywyd i ddyn, ac yn peri deffroad i egnion anian. Yr Arglwydd Dduw'' y geilw J. ef. Y Jehovah a greodd, wnaeth ddaear a nefoedd, a phop- eth ar y syddynddynt. 2. Teulu Eden-Adda. Yr Ar- glwydd Dduw a luniasai y dyn o lwch y ddaear, ac a anadlasai yn ei ffroenau ef anadl einioes, a'r dyn a aeth yn enaid byw Adda (daear goch), o'r gair Heb. Adamah- daear, y tardd enw dyn; y mae ei enw fel ei gorff, wedi ei ffurfio o'r ddaear, o'r hon y daith, yr bon a lafuriai, acy tynnai gynhaliaeth o honi, ac i fynwes hon y dychwel wrth farw. Nid rhyfedd fod dyn yn glynu mor dyn wrth ei fam- "anadi eiaioes." Mae anadlu yn arwydd sicr o fywyd, diffydd byw yd pan gyll yr anadl. Daeth y corff marw yn ddyn byw, yn en» aid byw pan yr anadlodd Duw yn ei ffroenau, daeth yr anadl Ddwyfol yn egwyddor o fywyd ynddo. Y mae dyn felly yn gyfrannog o fywyd Duw, anadl Duw roddodd fod i'w fywyd, ac anadl Duw sy:n ei gynnal. Ni cheir yr athrawiaeth o' gynfodolaeth eneidiau yn yr .H.D. Cyfeiria'r anadl einioes" yma, fel y delw" yn i. 27, at gynheddfau moesol a meddyliol, at natur ysbrydol, at bersonoliaeth foesol dyn, nid at y corff. 3. Gardd Eden, cavtref y teulu. Hefyd yr Arglwydd Dduw a blannodd ardd yn Eden, ac a osod- odd yno y dyn a luniasai, a gwnaeth i bob pren dymunol i'r goiwg, a daionus, yn twyd, ac i bren y bywyd, ac i bren gwybod aeth da a drwg, dyfu allan o'r ddaear." Ystyr yr enw Eden yw hyfrydwch, neu paradwys. Enw ar wlad ydyw, a rhandir b'r wlad wedi ei gau i mewn, ei blannu, a'i drin yw Gardd Eden. Yr oedcfc saflfe Eden i'r dwyrain o'r lie y trigai yr ysgrifennydd, sef o Wiad Canaan rhaid ei bod felly yng nghyffiniau Mesopotamia a dyffryn yr Euphrates. Pren y bywyd," nid ffrwyth y pren, ond ufudd-dod i Dduw wnai dyn yn anfarwol. Felly hefyd gyda phren gwybod- aeth da a drwg." Mae'r gwahar- ddiad yn gosod ar ddyn y cyfrifol- deb o ddewis rhwng da a drwg. ) Nid rhodd i'w derbyn yw dadblyg- iad moesol cymeriad, ond cynnydd hunanlywodraeth, ac ufudd-dod i ddeddf Duw. 4. Afonydd Eden. Ac afon a aeth allan o Eden i ddyfrhau yr aidd, ac oddi yno hi a rannwyd, ac a aeth yn bedwar pen." Myn Sayce mai Culfor Persia yw'r afon, ac mai petlair afon arllwysai iddo yw'r pedwar pen, neu mai ynys yn aber rhyw afon oedd Gardd Eden, lie yr ymrannai yr afon yn bedair cainc. Ymddengys mai syniad awdur J. oedd fod pedair afonfawr y byd oedd adnabyddus iddo, yn tarddu yng ngwlad Eden, sef Pison —afon gwlad yr aur a'r perlau. Gibon, yr hon sy'n amgylchu holl wlad Ethiopia neu Cush. Y Nile mae'n debyg oedd hon. Gweld afonydd mawr yn rhedeg i mewn i'r byd bach oedd adnabyddus iddo ef wnai'r awdur, a ffrwyth ei ddychymyg i fesur oedd ei syniad am darddiad a theithu ycyfryw. Y ddwy arall, ond odid, oedd y Tig- ris a'r Euphrates, sydd mor adnab- yddus heddyw. 5. Prawf Adela. "0 bren gwyb odaeth da a drwg, na fwyta ohono, oblegid yn y dydd y bwytei di o hono, gan farw y byddi farw." Marw ym mha ystyr? Ymddeng- ys fod y dyn cyntaf dan yr un deddfau anianyddol agyr ydym ni heddyw. Hefyd, bu Adda byw hyd henaint, ni bu farw o farwolaeth y dydd y bwytaodd o'r pren gwa- harddedig. Mwy tebyg felly mai marwolaeth ysbrydol; ymddieithr- iad dyn oddiwrth Dduw. Bywyd ysbrydol yw-yr ysbryd mabol yn deffro mewn dyn at Dduw, y plen- tyn yn adnabod, cydnabod, ac yn cymdeithasu a'i Dad. Y cyferbyn- iol yw marw. 6. Adda ynrhoi enwau ar yr an ifeiliaid. "Yr Arglwydd Dduw a ddywedodd, Nid da bod y dyn ei hunan a luniodd o'r ddaear holl fwystfilod y maes, ac a'u dygodd at Adda i weled pa enw a roddai efe iddynt." Mae dyn o ran ei gorff, fel yr anifail, o'r ddaear. Dyna hwyrach sylfon eu cyfeillgarwch; 7. Efa-gwraig. A'r Arglwydd Dduw a adeiladodd yr asen a gym- erodd efe o'r dyn, yn wraig. Ac Adda a ddywedodd, Hon sydd weithian, asgwrn o'm hesgyrn, a chnawd o'm cnawd, hon a elwir gwraig, oblegid o wr y cymerwyd hi. Oherwydd hyn yr ymedy gwr a'i dad a'i fam.Adda a alwodd enw ei wraig Efa-bywyd, oblegid hioeddmam pob dyn byw." Ar- ferai'r gwr gynt fynd i fyw at deu. lu't wraig Jacob a Moses, er engraifft,-hyn olygir fe daichon wrth ymadael a thad a mam. Mae'r adnodau feyn yn llawn o ddyn weddiant (anthropomorphism) o Dduw. 8. Y Sabatk a phriodas. Terfyna p. hanes y creu gyda sefydliad y Sabath—sefydliad ddttg i gof dyn yn wythnosol ei bert&|gp a Duw, acsydd hefyd yn gysjMp- o'r or- ffwystra sydd eto'n ol i w Dduw. Terfyna J. hanes y crea iLrli. wy nodi tarddiad a sefydliad priodas, ystad anrhydeddus sefydlwyd gan Dduw yn amser diniweidrwydd dyn, ac yn arwydd o'r undeb dirgelaidd sydd rhwag Crist a'i Eglwys.

[No title]

Advertising