Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

HODIADAU WYTHNOSOL.

News
Cite
Share

HODIADAU WYTHNOSOL. Geiriau Plaen Aelod Seneddol. Wrth annerch cynhulliad o'r Methodistiaid Wesleaidd Unedig yn y Waen yr wythnos ddiweddaf dywedodd Mr. E. T. John, A.S., yr Aelod dros Ddwyrain Dinbych, mai dyletswydd cyntaf yr eglwysi heddyw oedd penderfynu problem mawry diodydd meddwol. Amlwg ydoedd na chaniatau barn gy- hoeddus Cymru gwrs mor groes i'w greddf foesol ag a fyddai pryniant y fasnach gan y Wladwriaeth. Dylai Cymru fynnu cael yr hawl i setlo'r mater yma drosti ei hun- gan roi iddo Fesur Trwyddedu tebyg i eiddo'r Alban. Dyledswydd nesaf yr Eglwys a fyddai trefnu fel na chaffai neb o drigolion y wI ad mwyachddioddef angen. Gwaith yr Eglwys-o blob enwad-yn hyn o beth fyddai gwneud i fyny unrhyw ddiffyg yn nhrefniant y Wladwriaeth. Dylai'r Eglwys wneud ei hun yn fath o Ragluniaeth ddaearol i bawb a fyddent mewn caledi. Nid oedd dim a leddfai fwy na hynny ar y telmladail chwerw a greir yn y dyfodol agos gan beichiau gor. drymion a ddont yn fuan i bwyso ar y wlad. Rhaid a fydd i'r Eglwys osod mwy o bwys ar hanfodion mawr y ffydd, gan eu dysgu gyda symledd, uniongyrchedd, a llydan- rwydd teimlad na arferasid ei weled ym mywyd crefyddol Pryd- ain. Yr oedd bechgyn Cymru wedi myned trwy brofiadau rhyfedd a dieithr ymhob agwedd ar feddwl dynol, profiad personol, ac am- gylchedd. Nid oedd dim a apeliai yn gryfach at y meddwl lleyg na gweled yr holl eglwysi Protestan- aidd yng Nghymru yn cyduno yn frawdol er hyrwyddo budd tymor- 01 ac ysprydol y bobl. Gallent lawenhau yn y cam a gymerwyd i'r cyfeiriad hwnnw yn y cydgyfnewidiad o annerch braw- dol a gymerodd le yn ddiweddar rhwng Methodistiaid Calhnaidd y De a'i- Gynhadledd Eglwysig a gynhaliwyd yng Nghaerdydd. Llawenhaent hefyd yn llwyddiant amlwg y Gynhadleddhonno ac yn yr addewid fod yr Eglwys Esgob- aethol yng Nghymru yn wynebu ar gyfnod o wasanaeth ac effeithiol- rwydd mwy yng ngwaith ysbrydol yr Eglwys. Dyledswydd Fwvaf yr Eglwys. Ond yn ei dyb ef dyledswydd fwyaf yrEgl wys ymhob man oedd cynnal breichiau y Pab yn ei ym- drechion i sicrhau heddwch buah a phaihdol ar y ddaear—a'r heddwch hwnnw yn selliedig ar ddiarfogiad cyffredinoi, diddymu gorfodaetn filwroi, a sefydlu cyfundrefn effeith- iol o gyflafareddiad rhyngwladwr iaethol dros yr holl fyd. Yr oedd Awstria wedi rhoi derbyniad cyn nes iawn i'r cyfryw bolisi yr oedd Germani wedi profiesu cydsyniad, a Von Kuhlman, yr Ysgrifennydd Tramor, wedi dweyd nad oedd ond yn unig cwestuvn AIsass Lorrain yn rhwystr ar fiordd heddwch. Nid oedd gan yr Eglwys felly sail dig onol dros gefnogi ymlacid parhaol. Nid oedd gan wladweinwyr ych waith esgus gwell na'u bod yn drwgdybio'uinondeb diplomyddol y naili > Hall. Pe gel lid cydweled y naill ? I Izill. znl ar bopeth arall (heblaw cwestiwn Alsass Lorrain) ar sail diarfogiad cyflawn pob gwlad, cydnabod hawliau cyfartal pob cenedl bach a mawr, a rhoi heibio bob ffurf ar ryfel fasnachol, gan sefydlu teyrn aslad, cyflafareddiad drwy'r byd, gellid setlo cwestiwn Alsass Lor- rain drwy wneud y ddwy dalaeth yn amhleidgar, yn wleidyddol a masnachol. ————— <» » «

[No title]

Safle Gweinidogion Wesleaidd…