Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

Y Rhyfel o Ddydd i Ddydd.

News
Cite
Share

Y Rhyfel o Ddydd i Ddydd. Dydd Liu*, Hydrcf 22 Adroddir fod pedair or Zeppel- ins fuont yn ymosod ar Lundain a mannau eraill ddiweddyrwythnos wedi eu dwyn i lawr gan yr awyr. enwyr Ffrengig fore Sadwrn. Yr oedd nifer y rhai a anafw yd ac a laddwyd yn Llundain yn rhifo 60. Adroddir fod dwy o longau rhyfel Prydain oedd yn hebrwng 12 o longau masnachol Scandinavia wedi eu suddo, dydd Mercher di- weddaf, yn y Mor Gogleddol gan y Germaniaid. Suddwyd naw o'r llongan masnachol, a diangodd 3 Dihangodd y llongau Germanaidd yn ddianaf. Bu yr awyrenwyr Prydeing yn ymosod ddiwedd yr wythnos ar amryw wersylloedd mil wrol Ger- manaidd. • Dydd Mawrth. Nid -yw y Germanl'l:aid wedi colli Nid yw y Germani aid wedi colli dim amser cyn gwneud y defnydd goreu o Ynys Moon. Ar ol tanbel- ennu y safleoedd Rwsiaidd, anfon asant filwyr tros y culfor i Benrhyn Werder, yn Esthonia. Y maent hefyd wedi llwyddo i feddiannu rhan orllewinol y Penrhyn. Adroddir hefyd eu bod yn dafifon llongau yn llwythog 0 filwyr a cheffylau i Fau Matzol, wyth milt- tir i'r gogledd o Benrhyn Werder. Honna y Germaniaid eu bod wedi dal 12,000 o'r Rwsiaid yn garcharorion yn Ynys Dago, a'u bod hefyd wedi meddiannu nifer fawr o ynnau ac o ddarpariadau rhyfel. Bu trafodaeth yn Nhy y Cyffredin, ar yr ymosodiad awyrol a fu ddi- wedd yr wy thnos ar ddinas Llun- dain. Gwrthododd Mr Bonar Law ddatguddio pa fesurau a gymerwyd i ymosod ar y Zeppelins ac i'w troi'n ol. Wrth siarad yn Llundain ddoe, dywedai Mr Lloyd George fod am- ser bellach o'n tu, ac yn arbennig felly yng ngoleu'r ffaith fod ymos odiadau y Submarines yn troi'n fethiant. a bod yr America yn par- atoi mor effeithiol. Nid oedd ein colled trwy y Submarines y mis di weddaf lond y drydedd ran o'r hyn ydoedd yn Ebrill diweddaf tra ar y llaw arall yr oedd y Germaniaid wedi colli cymaint ddwywaith o'i llongau tanforol ag a gqllwyd gan. ddynt y llynedd. Yr ym yn awr, meddai, ar drothwy y gynhadledd bw37sicaf a gynhaliwyd hyd yma cydrhwng y Galluoedd Cyngrheir iol—bydd y gynhadledd yn un boliticaidd a milwrol, a bydd y penderfyniadau y deuir iddynt yn effeithioar gwrsy rhyfel, ac i fesur mawr yn penderfynu beth fydd ei diwedd hi. Mae pethau wedi bod yn derfysg. lyd iawn yn Itali. Oblegid prinder bwyd, ac anfoddlonrwydd politic- aidd, bu terfysg yn nhref Turin. Parhaodd y terfysg am rai dydd- iau, a bu yr awdurdodau yn ymos- qd ar y bobl a gynnau peiriannot ac a llongau awyr. Dywedir fod nifer fawr iawn o'r bobl wedi eu clwyfo a'u lladd. Mae Senedd y wlad yn gcdw y Llywodraeth i gyfrif am y pethau hyn, ac ni wyddis beth tydd y canlyniad, a geir llywodraeth newydd, a'i peid- io. Dywedodd Mr Baker, Ysgrifen- nydd Rhyfel yr Unol Daleithiau, nad yw'n debyg y rhydd y Cyng rheiriaid i fyny ymladd dros dymor y gaeaf yn Flanders, ond yr eir yrnlaen. Dywedodd fod daipar- iadau effeithiol wedi eu trefnu i wneud y byddinoedd yn annibyn- nol ar y tywydd. Dydd Mercher Y mae'r Llywodraeth Ffrengig, trwy ei Phrif Weinidog—Painleve, wedi cynnyg ei hymddiswyddiad, ond gwrthyd y Llywydd ef. Cyp- lysir y cynnyg o ymddiswyddiad gyda ryw gynnyg o drafodaeth ar heddwch a yrwyd, meddir, gan Germani i Ffrainc trwy ryw ber- son Ffrengig cyfrifol. Cyfeiriodd M. Ribot at hyn ar y 12fed o Hyd- ref. Dywedai y sîbrydid y gallai Ffrainc, os mynnai, gael Alsace-, Lorraine. Galwai M. Ribot y cynnyg, a'r son am dano, yn ddich- ell. Yn awr cyhoeddir fod M. Briand, y cyn Brif Weinidog, wedi datgan mai iddo ef y gwnaeth Germani y cynnyg, a hynny trwy y Tywysog Buelow. Yr oedd Ger mani yn cynnyg annibyniaeth i Belgium, yn cynnyg Alsace Lor- raine i Ffrainc, a Trieste i Itali. Gofynnai am fath ar iawn am hyn a pheth o hynny ar draul Rwsia. Gwaith M. Ribot yn galw y peth- au hyn yn ddichell sydd wrth wraidd yr annealltwriaeth. Adroddir am ymosodiad chwerw o eiddo y Ffrancod ar lanau yr Aisne. Yr oedd yr ymosodiad yn cyrraedd o Chemin-des-dames am dair milltir a hanner ar ffordd o Soissons i Loan, Dywedir i'r Ffrancod gymeryd 20 o ynnau a. thair mil o garcharorion. Y mae y Ffrancod yn awr yn Chavingnon uwchlaw gwastadedd Loan. Dydd lau Ynglyn a'r annealltwriaeth yn Ffrainc, cyhoeddir heddyw fod Mv Ribot, y Gweinidog Tramor, wedi ymddiswyddo. a bod M Barthon wedi ei apwyntio yn ei Ie. Y mae y Germaniaid wedi ym- uno a'r Awstriaid i ymosod ar yr Italiaid at ffindir Julian. Yn ol yr adroddiadau Germanaidd y mae yr Italiaid wedi colli miloedd o ddyn- ion ynghyd ag amryw o'r prif safleoedd a enillwyd ganddynt. Y mae y Ffrancod yn cadarnhau eu gafael ar yr Aisne, a dywedir fod y carcharorion a gymerasant yn rhifo,.erbyn hyn, 8,000. Adroddir fod y GermaniSid yng ngorff dau ddiwrnod wedi gwneud saith o wrthymosodiadau ar y safleoedd Prydeimg yn Flanders, ond yr oil yn aflwyddiannus. Yr oedd nifer y llongau a goll- wyd yr wythnos ddiweddaf yn fwy nag unrhyw wythnos er Medi 2. Collwyd 25, ac yr oedd 17 yn llongau tros 1,600 o dunelli. Dydd Gwener. Cydnebydd yr Italiaid fod y Ger- maniaid wedi tori trwy eu rhengau blaenaf, ac wedi meddiannu am ryw o'u safleoedd ar yr Isonzo uchaf. Dywed y Germaniaid fod nifer y carcharorion yn 11;000. Y mae y Ffrancod wedi gwthio ymhellach ymlaen yn ne orllewin Loan, ac wedi gyrru y Germaniaid yn ol tros yr Ailette gan gymeryd 2,000 o garcharorion. Bu awyrenwyr Prydeinig yn ym osod ar reilffyrdd a ffactrioedd Germanaldd yn Saarbrucken. Y mae y Germaniaid wedi cilio yn ol tua 15 milltir yn rhanbarth Riga gan ddinistrio y ffyrdd a'r pontydd wrth encilio.

Advertising