Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
6 articles on this Page
Advertising
Y GYMANFA WESLEAIDD, Aberdyfi, Meirion, MEBEFiN 3 hyd Bed, 1917. Trefn yr Odfeuon a'r Cyfarfod- ydd Cyhoeddus:— Y Sul: Gwasanaethir Eglwysi'r Gylch- daith gan Bregethwyr Dieithr. r Nos tun, am 7.30, yn Bethel (W.): CYFARFOD CYHOEDDUS I gyflwyno'r Llywydd New- ydd—y Parch. Evan Isaac, a'i urddo i'w swydd. Tra- ddodir Anerchiad ganddo. Nos Fawrth, am 7, yn y Taber- nacl (M.C): CYFARFOD CYHOEDDUS Dan lywyddiaeth Llywydd y Gynhadledd. Disgwylir i annerch y cyfar- fod y Parchn. R. Waddy Moss, D.D. (Cyn Lywydd y Gynhadledd); F.L.Wise- man, B.A.; Trevor H. Davies; George Allan, B.A. John Hornabrook; a GIPSY1 SMITH. Y Mercher-DYDD MAWR YR WYL-Mehefin y 6: Am 9.30 y bore yn y TabernacS (M.C.) Gwasanaeth i Ordeinio Pedwar o Weinidogion Ieu- ainc dan arwemiad Lly- wyddiony Gynhadledd a'r Gymanfa. Traddodir y Siars iddynt gan y Cyn-Lywydd, y Parch. John Felix. Am 2 o'r gloch yn y Tabernacl (M.C.) Parch. G. Madoc Roberts, Bangor; Parch. T. Isfryn Hughes, Lerpwl. Odfa'r Hwyr yn y Tabernacl Parch. D. Tecwyn Evans, B.A., Birkenhead Parch. W. O. Evans, Porth- madog. Odfa Seisriig yng NgHapel y Pres- byteriaid am 7 o'r gloch: Parch. Trevor H. Davies, Llundain. Gwneir Casgliad yn yr holl Odfeuon a'r Cyfarfodydd. At -ein Gohebwyr. CYFEIRXER POB GOHEBIAETH- Y Oolygydd, aw.,Yliedydd Newydd," Y aelli, 1. Coed-y-Fllnt, I" t- iI I Flint, Qogledd Cymru
.Y -Rhyfel o Ddydd i Ddydd.
Y Rhyfel o Ddydd i Ddydd. Dydd LInn, Mai 28. Yn ol yr adroddiad au i law heddyw ynghylch y llongau awyr a ymwelosant a rhannu o ddwyrain Lloegr ddiwedd yr wythnos ceir fod golygfeydd arswydus i'w gweled yn y rhanbarthau v disgyn- wyd ffrwydrbeleni. Dinystriwyd ad- eidladau eang, a lladdwyd teuluoedd cyfain, tra yr oedd gwaedd y rhai a anafwyd yn dorealonnus i'w cblywed. Tybir i amryw bersonau gael eu lladd mewn canlyniad i ymgasglu yn yr heolydd pan roed hysbysrwydd fod yr awyrennau yn yr awyr. Dywed adroddiad o Berlin i'r awyr- ennau ddisgyn ffrwydrbelenni yn Dover a Folkestone, ac fod yr ymgyrch wedi bod yn llwyddiannus Deugys yr adroddiad o Ffrainc, fod ein byddinoedd wedi gwneud cynnydd peUach yng nghymdogaeth Fontaine-les-, Croisilles. Parheir i dderbyn newyddion da o'r Eidal, a cbeir fod yr Italiaid wedi sicrbau rhagor o safleoedd oddi ar y gelyn yn ystod diwedd yr wythnoa. Cymerwyd dros 4,300 o garcharorion yn rhagor ganddynt. Yn ystod y pythefnos diweddaf y mae yr Italiaid wedi cymeryd o ddeutu 24,000 ogarcharorion. Dvdd Mawrth. Bu cryn lawer o danbelennu ar y ddwy ochr i'r afon Scarpe, ac yn rhan- barth Ypres. Bu amryw o frwydrau awyrennol, yn y rhai y cafodd deaddeg o awyrennau Germanaidd eu dinystrio, a deg eraill eu gyrru allan o reolaeth. Y mae tair o'r awyrennaa Prydeinig ar goll. Dinistriwyd naw o awyrennau Ger- manaidd gan y Ffrangcod, a gwnaed cryn ddifrod i saith eraill. Y mae yr Italiaid wedi gwneud cyn- nydd pellach ar y Carso. Yn rhanbarth Gorizia gwnaed ymosodiad ffyrnig gan yr Awstriaid, ond gorchrechwyd hwy. Cymerwyd 156 o garcharorion gan yr Italiaid. Dywedir fod yr Awstriaid wedi gorch- ymyn i'r trigelion ffoi o Trieste. i Hysbysir mai Folkestone oedd y dref ddioddefodd fwyaf oddiwrth y rhuthr awyrennol dydd Gwener. Y mae y marwolaetbau yeo yn awr yn rhifo 66. Y mae Llywodraeth yr America jvedi darparu ar gyfer byddin o ddwy ftliwn, ac ar gyfer benthycioa i'r Cydbleidiau, y rhai sydd eisees wedi derbyn 10,000, OOOp. Y mae byddin o beirianwyr wedi ei gorchymyn drosodd i Ffrainc, a deng mil o feddygoD, a lllaws o nyrses i Loegr a Ffrainc. Yn fuan bydd yna gan' mil o filwyr Americanaidd ar y ffrynt gorllewicol. Y mae y fyddin reolaidd wedi ei chryfhau, a'r llynges wedi ei dyblu. Gwneir trefniadau er adeiladu 3,500 o awyrennau rhyfel, a hyfforddi chwe' mil o awyrenwyr y flwyddyn bon. Dydd Mercher Y mae tanbelennu cyson yn parhau ar y ffrynt Prydeiuig a'r ffrynt Pryd- einig. Y mae y Germaniaid wedi eu gorthrecbu mown nifer o fan-ymosod iadau. Mewn ymosodiadau awyrennol din- ystriwyd dwy awyren Germanaidd, a a chollwyd pump gan y Prydeiniaid. Dinistriwyd saith o awyrenau German- aidd gan y Ffrancod. Dvdd Sadwrn diweddaf cafodd yr ysbyty long Dover Castle' oei suddo gan y Germaniaid. Collodd chwech o'r criw eu bywydau, ond llwyddwyd i waredu yr bollglwyfedigion oedd ar ei bwrdd. Cafodd y wiblong Hilary ei suddo ym Mor y Gogledd, a lladdwyd pedwar o'r dynion yn y ffrwydriad. Y mae Mr Arthur Henderson, A.S., wedi myned i Rwsia ar genhadaeth bwysig dros y Llywodraeth. Dydd lau Ni fu dim neilltuol yn y gweithrediad- au ar y ffrynt orllewinol dyddiau diw eddaf, ag eithrio yn Champagne. Ceisiodd rhai o'r Germaniaid gyrraedd y gwarch-ffosydd Ffrengig ym Mont Blond, ond curwyd hwy. Cymerwyd llawer o garcharorion, gwn-beiriant, ac amryw bethau ereill oddiarnynt. Y mae'r ffigyrau swyddogol ynglyn ag ymgyrch y badau-tanforawl a'r mines yn erbyn y llongau masnachol Prydeinig yji dangos lleihad mawr. Yn ystod yr wythnos yn diweddu Mai 27. suddwyd deunaw o longau dros un cant ar bymtheg o dunelli, un o longau llai, a dau gwch pysgota. Gwnaed ym- osodiad aflwyddiannus ar ddwy ar bym tbeg o longau. Gwehr adroddiad llawn mewncolofn arall. Y mae'r Awstriaid wedi gwneud ym- osodiadau peltech, ond i ddim pwrpas, ar y safleoedd Italaidd ar Hill 652, i'r dwyrain o Gorizia. Rhwng Jamiano a'r glannau y mae'r Italiaid wedi eangu eu gweithrediadau drwy feddiannu i'r gorllewin o Medezza. Yng aghwrs gwrth-ymosodiadau Aws- triaidd yn erbyn y safleoedd yn Vodice, un o'r dolenau mwyaf pwysig yn y mynyddoedd i'r gogledd o Gorizia, y mae amryw frigadau perthynol i'r gelyn wedi cael eu dinistrio. Yn ol y goheb- yddion rhyfel caed o leiaf 20,000 o gyrff yr Awstriaid yn y Vodice. Dydd Gwener. Tawel ydyw petbau ar y ffrynt Bryd- einig. Bu peth ymladd i'r deheu o Scarpe, ac i'r de-ddwyrain o Arras. Ar y ffrynt Ffrengig curwyd yn ol ymosodiad chwerw o eiddo y German- iaid yng nghymdogaeth Champagne. Yn ei anerchiad i'r Senedd ddoe dywedodd Ymberawdwr Awstria eu bod yn ymladd, nid am dir na dim o'r cyf- ryw, ond am eu diogelwch dyfodol. Dywedodd hefyd y rhoddid i'r bobl ar ol y rhyfel ran helaethach yn llywod raethiad y wlad.
-YNYSHIR. I
YNYSHIR. I Cynhaliwyd cyfarfodydd pregetbu yn y lie uchod Sal a Llungwyn. Pregeth- wyd gan y Parchn W. J. Arter, Llanelli, a Thomas Rowlands, Pontypridd. Cafwyd wyth o bregethau o'r fath oreu. Yr oedd y dylanwad yn cynhyddu fel yr oedd y cyfarfod yn myned ymlaen. Tybod fod angen mynd ymhell i chwilio am bregethwyr yr adeg drudfawr hon gan fod gennym bregethwyr mor ragor- ol yn ein hymyl. Capel llawn bcb oedfa, ac yn orlawn nos Sal Tybed na bydd ffrwyth mewn bywyd sanctaidd ar ol y fath gyfarfod. Is, GOH.
CLYWEDION CYLCHDAITH DOLGELLAU.…
CLYWEDION CYLCHDAITH DOLGELLAU AC ABEKMAW. Clywed fod plant y gwahanol Ysgol- ion Sal y Gylchdaith wedi llafurio yn rhagorol gyda'r Safonau. L Clywed mai Ysgolion lleiaf y Gylob. daith sydd wedi ennill y prif wobrwyon. Clywed mai yn yr awyr agored yr arholwyd plant ein Hysgol Sul. Clywed fod yr Arholwyr wedi cael croesaw caredig ymhob man, a phe buasent wedi derbyn yr holl wahodd- iadau ai fuasent wedi darfod bwyta eto. Lie mae Arglwydd Devonport gyda chynildeb ? Clywed mai siomedigaeth i lawer ydyw nad oes Cymanfa eleni, ond gob- eitbiwn y bydd y rbyfel ofnadwy ar ben yn faan, ac y ceir Cymanfa y flwyddyn nesaf mor lewyrchus a'r un gafwyd erioed. Clywed fod Mr O. Llewelyn Williams a Mr D. R. Meredith yn deall eu gwaith yn ardderchog, ac yn deal! sut i dynnu y goreu o bob plentyn yn yr arholiad. Clywed fod rhai o'r plant wedi dringo i safle uchel iawn, bron wedi cael marciau llawn. Clywed fod plant bron yr holl Ysgol- ion ar ol mewn siliebu; cofied yr atbrawon am hyn at y flwyddyn nesaf. Clywed fod yr hyn a ddywedwyd yn Ffestiniog gyda golwg ar y Maes Llafur yn sicr o wneud drwg mawr i amryw o athrawon, gan eu hannog i beidio llafurio gyda Dosbarth yr Ail a'r Trydydd. UN YN GWRANDO
I ! LLANDUDNO.
LLANDUDNO. Mae cyfatfod pregethu blynyddol Caersalem, ac Ebenezer wedi eu cynnal e'eni eto ar y dyddiau gosodedig, y cyntaf ar nos Fawrth a dydd Mercher, pryd y gwasanaethwyd gan y Parchn. Hugh Hughes a R. Garrett Roberts, Llanfairfechan, a'r ilall ar y Sabboth pryd y pregethwyd gan y Parch David Jones, Caernarfon. Y pregethwyr dieithr yn ystod y chwarter oeddynt Mr W. O. Jones, Bangor, Dr. Hugh Tones, a Mr Harold Roberts o'r Brif Ysgol ym Maugor. Talodd amryw gyfeillion Wesleaidd t ymweliad a'n tref aros Wyliau y Sal- gwyn, ac yn eu plith Mr Marsden Davies, a Mr D. H. Davies, o Ddinbych, Dr. Davies, o Lerpwl, Mr Edward Jones a'i briod, o Blaenau Ffestiniog. Buoot oil yn addoli gyda ni yn Ebenezer, a llawen oeddym oherwydd hynay. Aeth nifer Iliosog o'r ysgolorion ao eraill perthynol i Ysgol Sui Ebenezer a Chaersalem gyda'r Electric Tram i'r Hen Golwyn i'r Gymanfa Ganu gynhal- iwyd yno ynddiweddar. Dygwydtraul y cludiad, a r lluniaeth yn y cyfamser rhwng y ddau gyfarfod yn Colwyn, gan drysorfeydd y naill Ysgol a' rllall. Ym- ddengys fod pawb-wedi mwynhau eu hunain yn rhagorol. Yr oedd Mr O. R. Thomas, o Dregarth, a'i gyfaill, yn bresennol yng nghladded- igaeth y diweddar frawd John Morris. GOH.
[No title]
Y mae y Parch R. J. Camphell, gynt o'r City Temple, Llundain, i wasanaethu fel rheithor eglwys St. Deinio), Criccieth, yn ystod mis Gorffennaf.